Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
--0-CWRS Y BYD.
--0- CWRS Y BYD. Gwyrthiau Treffynon. }>E ond er mwyn y ddynoliaeth gystuddiedig, byddai yn hyfrydwch gan bawb allu credu hyd ¥tl nod haner yr hyn a ddywedir am yr adfer- ladau rhyfeddol a gymerant le y dyddiau hyn yn Ffynon Gwenfrewy. Nid oedd Llyn Beth- er's talm, ond baban megys o'i gydmaru a ffynon Treffynon. Y mae hen glefydon cyndyn ac ystyfnig, a fu'n poeni'r dyoddefydd am flyn- yddau, a phob argoel na chai y truan byth ym- 1:1 ^ared a hwynt, wedi syrthio i ddwfr oer y %non hon, a'r claf wedi dychwelyd adref raor Slone ac mor llawen a phe buasai lwdn iwrch. Dyry rhai o'r newyddiaduron Pabaidd restr o'r toeddyginiaethau gwyrthiol a gyflawnwyd yma Yn ystod yr ychydig fisoedd diweddaf a rhaid cyfaddef fod yr hanes a roddir yn edrych yn ^igon tebyg i'r tystiolaechau a geir ar ol hvs- ^ysiad crachfeddyg Americauaidd. Nid wyf yn ttweyd mai twyll ac anwiredd ydyw'r tystiol- aethau hyn i gyd y ewestiwn yw ai tystio y rnaent i'r naturiol ynte y goruwchnaturiol ? pawb fodrhinweddau neillduol yn perthyn 1 ddwfr oer y ffynon ac onid i dderbyn lleshad Oddlwrtho yr a, cynifer o filoedd bob haf i Ffyn- °frau Llandrindod, Llanwrtyd a Threfriw ? Mae draddodiad mai yn wyrthiol y tarddodd rhai y ne blaenaf ai y cyutaf ond nid oes gan Y1' Un o'r tri lie nawddsant neu santes i "gym- ?ryd y cleifion i'r dwfr," megys ac eto y maent mor llesol a'u chwaer-fFynon sydd tan nith Beuno," chwedl y bardd. v Tarddiad y Ffynon. MAE'r hanes hwn wedi ei ddweyd lawer gwaith Or blaen ac, er byny, diau y bydd yn newydd ^naheuthyn i amryw o'n darllenwyr. Dyma *aslun ohono allan o Pennant's Tours in Wales. oedd yn byw yn y 7fed ganrif rian hardd a efosiynol, ac o deulu da, o'r enw Gwenfrewy yn 01 y Cymry, oud Wenefred yn ol y Saeson. Yr Wenlo, ei mam, yn chwaer i Feuno Sant. arweddu bywyd sanctaidd y mynach am l'al blynyddau yn Clynog Fawr, daeth Bouno i Odrych am ei chwaer ar fin y Ddyfrdwy, lie y pafodd ddernyn o dir gan ei frawd-yn-nghyfraith 1 adeilad- u arno grefydd-dy bychan ac wedi ^eiladu, cymerth ato ei nith brydferth Gwen- ,ewy. A digwyddodd i dywysog yn yr ardal, ? r enw Caradog, syrthio tros ei ben a'i glustiau |&riad a'r rhian hardd, ond ni fynai hith.au a wnelai ag ef, gan mai ei bwriad ydoedd ^yned yn ileian (nun). Ffodd rhagddo, a'r ,^yn a'i hymlidiodd, a chan ei goddiweddyd a ,ynodd ei gleddyf ac a dorodd yrnaith ei pken ef. Disgynodd barn Daw arno yn y fan, agorodd y ddaear ei safn gan ei lyncu ac ni wel- WY mwy ddim oddiwrtho. Pen Gwenfrewy a °Uodd i lawr y llechwedd i bant a elwid cyn |ny yn Sy elm ant ac yn y lie y safodd, tardd- y ftrwd gref o ddwfr pur sydd yn parhau i "Vydio yno hyd yr awrhon. Yr oedd Beuno ar pryd yn cynal offeren yn y crefydd-dy gerllaw; ynwyd ei sylw gan y swn, rhedodd i'r fan, JPiodd y pen oddiar lawr a dododd ef yn dacius °1 yn ei le ar y corph, a bu v santes fyw wedi "YIIY 15 mlynedd-yn Gwytherin y bu hi farw, o °hludwyd ei hesgyrn yn nyddiau'r brenin tsPhan o Gwvtherm i'r Amwythig, lie y maent eto am a wyddis. y Tudur Aled a Gwenfrewy. Y y Gwladgarivr VI., 368, ceir cywydd o waith r bardd gorchestol Tudur Aled i Wenfrewy, yr hwil sydd yn dwyn 61 y gallu uwchraddol a nod- gywydd enwog yr un bardd i'r March." Cariadog, lawog o lid, Hyd ei theml daeth i'w hymlid Lladdodd Wen, lle'dd oedd unawr Llyn tawdd a'i Uyncawdd i'r llawr'; Gwae'r ynfyd, er g'wirionfun, O'i lladd hi collodd ei hun; Trwy'i rnwnwgl taro meinwen, 1: Treiglo'r arf trwy goler wen, Daaegan Tudur, yr hwn, gyda llaw, oedd yn ach ei hun, ac felly mewn liawn cydym- ^lilad a'r testyn y canai arno—y mae ganddo e-V^yw linellau tlysion yn y cywydd hwn, fel yn gywyddau eraill. Dyma fel desgrifia ol g^^holl Nod yr arf yn edau rudd." Cyf- at luaws o feddyginiaethau a wnaed yno kegy, Blin a tlirwm, heb law na throed, A ddaw adref ar ddeudroed; Bwrw dwyffon i'w hafon hi, Bwrw naid gar ei bron wedi. I'r byddar help a rydd hon, Mud a rydd ymadroddion. y goreu o'r cwbl ydyw hwn Doen yno y dyn annoeth j, Oddiyno y daw yn ddyn doeth. Ued.Weu^ fod y 0 Jan Aled, yn gredadyn fve ddiysgog yn effeithioldeb Ffynon Gwen- W £ kitf y tjbir weithiau, wrth ddarllen ei aw' f°d yn dangos _mwy o'i alluoedd Soh a'i ddawn darluniadol nag o'i fFydd ur a syml. Ðyw Ystyr arall i'r gair Gwenfrewy. eh", n gweilch gwargaled ac anhygoel nad yw'r ac ra .1 uehod ond hoeed o'i dechreu i'w diwedd, Y,w a, ystyr enw y ffynon ydyw (1), Crweit-ben- (fec> am gwyn, sef bendigedig—Givyniyd, hfre neu bre-prif, uchel, megys brenin, atfoll Moelf1-e-y brif ffynon (3), v)y—hylif; >rth i me§ys yn enwau amryw afonydd. Oddi- o'r yn dywed yr anhygoelion na fu erioed neb athrv]i7i ^wenfrewy ond mai gwaith rhyw Wl yst ?ynyrchiol yn mysg y mynachod ydyw'r
Afiechyd peryglus Ciwydfardd
Afiechyd peryglus Ciwydfardd PBYDNAWN ddydd Gweriet, daeth Ciwydfardd o Abergele gyda'r tren i Ddiubycb, er mwyn bod yn Laos bresenol yn nghyfarfod Cyfarwyddwyr Cymdeithas Adeiladu Gogledd Sir Ddinbych. Cyrhaeddodd Ddinbyjh gyda'r gerbydres yn sionc a hoyw, aeth i dy ei fab, Mr D. Griffith, i gael cwpanaid o < e, ac yna i'r cyfarfod a nodwyd. Ni chymerodd dim neillduol le arno, hyd nes oedd yn dyfod yn mraich Mr David Jones, coal merchant, un o'i gydgyfar- wyddwyr, ar hyd Lou Swan o'r cyfarfod, pan y cymerwyd ef yn sydyn gan fath o wasgfa drom, a buasai wedi syrthio i lawr onib.i i Mr Jones ac eraill oedd yn ymyl ei gynal. Cymerwyd ef i dy Miss Evans gerllaw; a danfonwyd yn ddioed am Dr. Griffith Roberts. Bernid ar y cyntaf mai wedi cael ergyd o'r parlys yr ydoedd, a chyhoeddai un papyr ddydd Sadwrn ei fod wedi cael pum' erg) d yn ystod awr o amser. Ond canfu y meddyg hyfedr na.d oedd yno barlys, er fod y selni disyfyd yn Ilawn perygl i un sydd yn tynu at ei 94 mlwydd oed. Bu yr hen fardd gwiwglod yn anymwybodol trwy y nos, ond ddydd Sadwrn dechreuodd ddod ato ei hun ac erbyn bore ddydd LIUD, pan alwodd ysgrifenydd y geiriau hyn i edrych am dano, galiodd ei adwaeu a siaradai yn ddioichgar am ofal pawb am dano, ac i'r meddyg am ofalu mor fedrus am ei gorph, ac i Dduw am dosturio wrth ei enaid. Pan ddigwyddodd y llesmair, danfonwyd pell- ebrau yn ddioed at ei blant, ac aeth Mrs. Chambers o Abergele, a Mrs. Da vies o Ever ton Terrace, Ler- pwl, i weini ar eu tad yn uniongyrohol, a than eu gofal hwy a pherthynasau a chyfeillion eraill, yn nghyda medr meddygol, disgwylir erbyn hyn yr adferir yr Archdderwydd hygar am rbyw dymhor eto. Fel y gwyddis brodor o Ddiabych ydyw Clwydfardd ac o fewn tua chan' llath i'r fan y gorwedd yn awr yu glaf y ganwyd ef cyn fod y ganrif yn llawn blwydd oed. Yr oedd genym baragraph yn y Oymro diweddaf yn dweyd ei fod wedi ei daro i lawr y diwrnod cynt gan gerbyd gyferbyn a'i gartref yn Abergele ac er na dderbyniodd nemawr niwed, dichon i'r hyrddiad gynyrchu yr hyn a gymerodd le yn Nin bych nos Wener.
-0-Dyffryn Clwyd.
-0- Dyffryn Clwyd. Sonir am gau Capel y Berth i fynu. Saif hwn yn y canol rhwng plwyti Llanbedr a Llangyn- hafal, ac y mae pentref lied boblogaidd yn ei ymyl, lie y mae eglwys gan y Wesleyaid er's liawer blwyddyn. Bydd cau y capel eglwysig, yr hwn a gynaliwyd er ei sefydliad ugain mlynedd yn ol gan y boneddwr hynaws Mr. Lloyd y Berth, yn chwanegiad at rif y Wesley- aid yn Hirwyn. Trigo mewn Ogof.- Yn Llys Sirol Rhuthin, ddydd Llun, cyhuddid John Rowlands o gardota yn Cyfronydd, Llanbedr. Ymddengys i'r Hedd- geidwad Turner dderbyn hysbysrwydd nawn 11 y Sul fod y carcharor yn ymddwyn yn rhyfedd ac "ynchware ei gapars" wrth ffermdy gerliaw =1 a phan aeth i chwilio am dano, gorfu iddo redeg oddeutu haner milldir er cael gafael arno. Trigai yr hen gono mewn ogofeydd yn y myn- yddoedd cylchynol, gan ddod i lawr i'r ffermydd a'r pentrefi i chwilio am ymborth. Fodd bynag, caiff newid ei letty yn awr, gan iddo gael ei ddedfrydu i fis o garcbar gyda ilafur caled. CYNALIWVK cyfarfod chwarteroJ Cynghor Tref Dinbych ddydd Mawrth, Mr. Howel Gee (y Maer) yn llywyddu. Bu amryw faterian pwysig gerbron, a chaed ymdrafodaeth gynhyrfus ar rai obonvnt-vn neillduol ar achos Ysgol Howell a chanwylldy Mr. Boaz Jones. Am y cyntaf, dywedid nad oedd ond Eglwyswyr ar gorph llywodraethol yr ysgol, ac y dylid cael cynrych- iolaeth decach o Ymneillduwyr, ond ar ol cryn siarad ni lwyddwyd i gael yr un Ymneillduwr ar y corph hwiiw. Galwodd y Swyddog Meddygol sylw at gyflwr afir chos rhan o'r dref, yn neillduol at ganwyildy Mr Boaz Jones. Amddiffynodd y perchenog ei huo, a chafwyd lie bywiog mewn caniymad. Penderfynwyd, fodd bynag, gorfodi pawb i atal y budreddi ar eu tir.—HLysbyswyd fod eisiau 800p. yn ychwanegol at orphen y Smithfield, a phenderfynwyd gofyn am eu ben- thyg gan Fwrdd y Llywodraeth Leol, Llys yr Ynadon.— Gerbron y Maer (Mr Howel Gee), Mri E T. Jones, T. J. Williams, R. C. B. Clough, John Davies, a Robert Owen, cyhuddid David Foulkes, llafurwr, Graig, gan Fwrdd Gwar- cheidwaid Llanelwy, o wrthod talu at gynaliaeth ei dad, yr hwn oedd yn 77 oed, ac yn derbyn 4s yr wythnos gan y plwy'. taysbyswyd nad oedd y mab yn eael ond 8s a'i fwyd o gyflog yn wythnosol. Gorchymynodd y Fainc ef i dalu Is yr wythnos at gynal ei dad.—Grosvenor Roberts, St,ryd Henllan, a gyhuddid an yr Heddgeidwad Williams o feddu naw o wningod pan chwiliwyd ef ar ffordd Nant- alyn. Mewn atebiad, dywedodd y cyhuddedig, ''Wei, do, fe'm daliodd yn deg, ni chefais erioed fy nal yn well." Dirwywyd ef i lp a 10s o gostau, neu 14 diwrnod o garchar. Marwolaeth sydyn.—Yn Rhuthyn, ddydd Llun, cynaliodd Dr. Caithness drengholiad ar gorph Mrs Anne Evans, gweddw yn byw yn 6 Railway Ter- race, Rhuthin. Dychwelwyd rheithfarn o 1 arw- olaeth oddiwrth achosion naturiol. Gvnqhrair y Briallu. -Cynaliodd boneddigesau yr urdd ferchetaidd eu gwyl flynyddol ddydd Mawrth, yn Mharc Wigfair. Caed ymrysonfeydd rhedeg, neidio a rasus mulod, a rhoed "elo clap ar y prweithrediadau drwy ynifflamyohiadau hedegog °gan y Mil. Howard (ymgeisydd Toriaidd sir Fflint), a Mr Pennant.
[No title]
o Brydnawn dydd Gwener, cynalodd yr is-grwner dros Orllewinbarth Dinbych (Dr J. C. Davies) drengholiad yn Nghefnybedd ar gorph William Thomas, cariwr, yr hwn a drigai yn Cross Street, Gwersyllt. Wrth groesi pont y reilffordd, ddydd Mercher, dychrynwyd y ceffyl gan dren oedd yn agoshau, a thaflwyd Thomas l r ffordd, Ciudwyd ef i'w sartref, ac anfonwyd am feddyg, eithr bu farw'r diwrnod canlynol gan niweidiau i'w ben. Dodwyd rheithfarn o 14Farwolaeth ddam- weiniol." Mewn nodachfa yn Llandudno, yr wythnos ddi- weddaf at Eglwys Llanrhos, derbyniwyd y swm o 1,650p. Cynaliodd Dirprwyaeth y Tir ei heisteddiad yn Llangollen ddydd Mawrth. Ceir yr adrodd- iad yn ein nesaf.
------I Y Sacramentau.
I Y Sacramentau. I TROCHI NEU DAENELLU ? YN Nghymdeithasfa Pwllheli, ddydd Tau, achos- odel anerchiad y Parch itugh Williams, M.A., Bala, ar Y Sacramentau," gryn syndod a pheth siarad. Wele grynhodeb ohono :— YN ngwawrddydd a boreuddydd ein cyfundeb, nid oes dim yn fwy amlwg na'r He raawr ac uchel oedd yn cae! ei roddi i'r sacramentau. Mae hanes y minteioedd a gyrchent i Langeitho a'r Bala a manau eraill erbyn Sul y Cymun yn dystiolaeth eglur o hyn. Pan awn trwy hanes y drafodaeth faith a pbryTderus a fu cyn penderfynu ar yr or- deiniad cyntaf, teimlwn fod cerddediad ein tadau y pryd hyny yn neillduol o dywysogaidd ac anrhyd- eddus. 0 dan y cyfan, yr oedd awyddfryd dyrch- afedig am fwynhau breintiau bedydd a chymun mewn gweddeidd-dra a threfn a'cliyffredinolrwydd. Hwn oedd y gallu a bat odd ordeinio yn 1811 Mae yn wir fod y cam pwysig hwn v jngolygu syniadau arbenig am natur eglwys ac am ord3iniad, y fath ag a barai nad ystyrid cymundeb a'r eglwys es-*ob- aethoi trwy urddiad esg JJOI yn angenrheidiol, eto i,,id y syniadar, yna a d(tvg,,d(i y neillduad i fod. r oedd ar y M- t.hodistiaid awydd cael bedyddio eu plant awyddent hefyd am fwynhau Swper yr Argtwydd. Ffrwyth y teimlad hwn mewn am- gyichiadau neillduol a wnaeth y flvvyddyn, 1811 yn un i'w chofio gydag edmygedd a pharch. Wrth ddefnyddio y gair sacrament, hysbys ddigon yw ein bod yn defnyddio gair nad yw i'w gael o fcwn yr Ysgrythyr Lan. Rhaid i ni'ofyn felly a yw y meddwl a roddwn iddo i'w gael yno, neu a yw yn gasgliad naturiol oddiwrth yr hyn sydd ysgrifened- ig yno er mwyn cyfuno i ffurf o athrawiaeti-i ystyr gwahanol ymadroddion yn y Testament Newydd. Mae y gair yn ymddangos yn hynod yn hyn, ei fod wed; cael ei ystyr o fewn yr Eglwys Gristionogol. Wedi ei fen thy ea oddiallan, rhoddir iddo fedciwl nad oedd yn b d o'r blaen, hyny yw, o ran ei brif feddwl. Nid oes arnom awydd am unrhyw enw ond bedydd, sef enw y Beibl, ar y naill ordinhad, nac un enw ond y cymun, neu Swper yr Arglwydd, ar y llail. Nid oes genym wrthwynebiad i ahv yr olaf yn eucharist, gan fod cydoeswyr yr apostolion a u dilynwyr wedi myned yn hoff ohono, ond pan sonir am sacrament yr allor, yr ydym yn tynu yn ol ac yn gwrthod yr enw yn bendant a hollol. Ond gan i'r Arglwydd lesu osod bedydd a chymun yn ei eglwys, a'u bod o ran ei osodiad ef yn ymddang- os o ystyr ac amcan arbenig cyffelyb i'w gilydd, a gwahat;ol i bob ordinhad arall, mantais yw cael enw cyffredin ar y ddwy. Wrth wneud hyny, rhoddwn i'r enw hwnw, sef sacrament, yr oil o'r ystyr ag sydd yn perthyn yn gyffredin i'r ddwy. Mae y gair ar y dechreu yn cael ei ddefnyddio am amryw ddefodau heblaw bedydd a Swper yr Ar- glwydd, er hyny, am danynt hwy yn benaf. Tueddir fi i feddwl mai enw ar fedydd ya unig ydoedd ar y cyntaf. Gellir ar seiliau teg gasglu, hefyd, fod un cam pedach na hyny yn ei hanes; enw ydoedd ar y gyTes a wneid adeg bedydd o ffydd yn Nghrist. Hwn ydoedd y "llw" i ddechreu nid yw milwr yn cymeryd llw ond unwaith, a hyny ar dclechreu ei wasanaeth milwrol. Felly, unwaith cyn ei fed- yddio trwy gyffes fel cyffes yr eunuch, yr oedd dyn ya dyfod yn filwr i Grist. Cydiodd yr ystyr hon yn y bedydd hefyd, eto, fel y daw athrawiaeth yr eglwys yn fwy clir, mae yn myned lawer o'r golwg, a phrm y cymhwvsir hi at Swper yr Arglwydd. Gair ydyw hwn ag y mae ei ystyr fwyaf cyffredin yn tyfu o fewn yr eglwys, ac oddiwrth yr athraw- iaeth syml a gredid yn yr eglwys. Efailai, hefyd, na fu un adeg ag yr oedd bedydd, ac yn neillduol Swper yr Arglwydd, yn llenwimwy o le yn mywyd yr eglwys nag oedd yn ystod y tair canrif cyntaf. Pan drown i'r Ysgrythyr, gwelwn fod bedydd ac enwaediad yn yr un frawddeg gan yr apostol. Yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw trwy ddiosg corph pechodau y cnawd yn enwaediad Crist, wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn (sef yn y bedydd) hefyd y'ch cydgyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw." Gan iddo alw y cyntaf yn arwydd ac insel cyfiawnder y ffydd, ni buasai anfoddlawn i'r ymadrodd sydd yn galw bedydd yn arwydd. Wedi son am Noah yn cael ei achub trwy ddwfr, ychwanega Pedr am ddwfr yr hwn fel cyffelybiaeth gyfatebol sydd yr awr hon yn eich achub chwi, sef bedydd." Mae cyffelybiaeth gyfatebol" yr un peth ag "arwydd." Mae dyfnder hynod liawer gair sydd yn son am fedydd yn ein tywys at y rhan arall, sef y peth sacramentaidd dirgel ac ysprydol sydd yn nglyn a'r arwydd weledig. Chwi oil ydych blant Duw trwy ffydd yn Nghrist Iesu, eanys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd i Grist a wisgasoch Grist." "Oci wyddoch chwi am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu ein bedyddio ni i'w farwolaeth, cladd- wyd ni gan hyny gydag ef trwy fedydd i farwol- aeth." Yn y rhan olaf o eiriau Pedr, mae hyn eto yn amlwg-" nid bwrw ymaith fudreddi y cnawd -nid hyny yw y bedydd sydd yn eich achub-ond ymofyniad cydwybod dda tuagat Dduw." Gyda'r peth gweledig neu ynddo mae rhywbeth anweledig a'i natur yn ysprydol. Ymddengys i mi yn beryglus i brinhau ystyr ymadroddion y Testa- ment Newydd am fedydd mae yn son llawer mwy am hon nag am yr ordinhad arall: mae y cysylltiad yn fynych yn bwysig iawn, megys— Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad oil." Yn wyneb hyn, tueddir fi i gredu fod clau osodiad yn angenrheidiol er mwyn deall yr oil sydd yn Ngair Duw am fedydd:—(1) bedydd rhai yn credu, ae felly rhai mewn oed, yw bedydd eyf. lawn (2) trwy droehi neu gladdu mewn dwfr yr arferid bedyddio. Yr wyf yn gobeithio cy.eirio at y seiliau teg sydd i fedyddio plant ac i adfer taenellll yn lIe trochi er mwyn gweled cyflawnder ystyr geiriau y Testament Newydd, ac yn wyneb hanes yr eglwys rhaid cofio mai trochi oedd y rheol tra yr oedd taenellu yn ôddetiad ac yn arfer achly- surol. Mae genym ddau air Teyrnas Dduw neu deyrnas nefoedd ac ''Eglwys" Dduw; teg yw dweyd fod y deyrnas yn fwy na'r eglwys a bod yr eglwys yn bod er mwyn y deyrnas ysbrydol. Felly perthyn i'r eglwys y mae yr ordinhadau, nid i'r deyrnas. Yn y wedd hon, ymddengys i mi yn bwysig i gofio mai yn nglyn a bywyd yr eglwys y mae y geiriau hynod a ddefayddir yn y Testament Newydd am fedydd a Swper yr Arglwydd i'w deall. Pe na byddai ond dau ddyn yn wryw a benyw gallant fod yn wr a gwraig ac un cnawd heb briodas, ond gan fod pawb yn rhan o gymdeithas a gwladwriaeth mae y cariad sydd yn gwneud y ddau yn un, yn ymostwng i drefn osodedig trwy briodas ac arwydd weledig. Yn unol â. hyn ymddengys i mi mai yr ymadrodd sydd yn dangos ystyr syl- faenol bedydd yw bedyddio i." Cymerwn ddwy enghraipht. Pan fynai rhai yn Corinth ddweyd myfi yw eiddo Paul gofyna yr apostol Ai Paul a groeshoeliwyd drosoch ? ai i enw Paul y bedydd. iwyd chwi ?" Bedyddiwyd cenedl Israel i Moses I yn y cwmwl ac yn y mor o hyny allan eiddo Moses oeddynt i'w harwain a'u hyfforddi. Yr un ymadrodd a ddefnyddir gan lesu Grist," Gwnewch ddysgyblion o'r holl genedloedd gan eu bedyddio hwy i enw y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glan." "Bedyddio i Grist" yw gair yr apostol ac "i'w farwolaeth ef." Yn hyn y meddwl yw bedyddio i fod yn eiddo y Drindocl Sanctaidd, bedyddio i berthynas newydd a Duwyn holl gynwys ei hanfod. 0 fewn hyn mae lie a galwad i ystyr geiriau eraill "fel y sancteiddiai efe hi a'r olchfa ddwfr trwy y gair." Pan osodir wrth oebr eu gilydd y geiriau sydd yn dweyd Cred yn yr Arglwydd lesu Grist a chadwedig fyddi," Chwychwi ydych blant Duw trwy ffydd yn Nghrist Iesu," yr ydym yn gyian- gwbl gyda phethau yabrydol. Ond wrth glywed Edifarhewch a bedyddier pob un ohonoch i fadd- euant pechodau," neu fod cyrdgladdu a chydgyfocli gyda Christ yn y bedydd gwelwn ochr arall sydd yn ein tywys i eangder cymhwys y gair achub neu gadw. Fel y mae yn cynwys byw i Dduw a marw i bechod, mewn bywyd duwiol o wasanaeth i'r Arglwydd lesu er mwyn ei deyrnas, i fod yn deulu Duw a chyd-ddinasyddion a'r saint, fe welodd yr Arglwydd yn dda i'r peth a wneir trwy gredu gael ei wneud yn yr ystyr hon trwy fedydd hefyd. Y dirgelweh hwn sydd fawr nid yw yn bod ond lie llefarir am Grist ac am yr eglwys. Yn hyn oil yr wyf o hyd yn meddwl am fedydd un sydd yn edifarhau ac yn credu. Nid wyf yn son am fed- ydd plant. Heb ffydd nid yw bedydd ddim ond trochiad neu daenelliad; gyda ffyrdd mae'n rhinwedd gosodiad yr Arglwydd, yn beth mawr ysbrydol. Yn y Canoloesoedd, credid yn ddiysgog fod cysegr- iad elfenau y cymun yn angenrheidiol i beri i'r Argiwydd Iesu fod yn bresenol yn y cymun. Def- nyddiwyd y geiriau hwn yw fy nghorph," "hwn yw fy ngwaed," ganddo Ef ar ol bendigo y bara a'r gwin, ac nis gwyddom pa fodd y gall adroddiad yn awr o'r un geiriau fod yn gysegria.d yn yr ystyr hon. Mae rhai sydd wedi gwrthod y traws syl- weddiad yn dal fod hyn mor angenrheidiol ag yw ffydd yn y derbynydd hwn yw y gwaith y rhaid fod wedi ei wneud, neu nis gall ffydd ysprydol dderbyn ei bendith ysprydol; nis gall gael sacra- ment i dderbyn gras ohoni. Gan ein bod yn gyff- redin yn cytuno i'r geiriau, sydd mor anwyl a ehysegredig genym, fod yn iaith ein haddoliad, credwn ein bod mewn rhyw ystyr yn neillduo v bara a'r gwin, eto ni fynem anturio dweyd fod hyny yn angenrheidiol cyn y gallo neb fod yn gyf- ranog o fwrdd yr Arglwydd a derbyn gras y sacra- ment yno. Mae yr Iesu yn bresenol, nid trwy gysegriad yr elfenau, ond, yn ol ei addewid ei Hun, mae wrth y bwrdd i bob calon a nesao mewn ffydd a chariad ato. Cwestiwn yr ymdrinwyd liawer arno er's canrifoedd lawer yw hwn a yw rhinwedd y sacrament yn llai neu yn fwy yn ol cymeriad y gweinydclwr, neu rhyw anrnherffeithrwydd y der- bynydd yn ei hatal ? Cydnabyddid gan y dynion goreu fod a wnelo duwioldeb y gweinyddwr ag effeithioldeb y sacrament, eto dysgid yn gyffredin nad yw offeiriad annuwiol yn peri atal rhinwedd y sacramentau, a hyny am fod arno fel offeiriacl y nod neu yr argraph a.nnileadwy a osodwyd arno yn ei ordeiniad. Yr ydym yn derbyn y gosodiad, er yn gwrthod yn benderfynol y rheswm a roddir trosto. Rhaid yw cofio bob amser fod Crist ei Hun yn bresenol yn y sacramentau ac ymdrechu gweinyddu a'r holl enaid ystyr ac amcan llawn yr ordinhadau. Y Llywydd a sylwodd nad oedd am ofyn iddynt gredu pobpeth a ddywedodd y Proffeswr yn ei an- ercbiad. Nid oedd yr Eglwys yn bod ar wahan i Ben yr Eglwys a phe torid y cysylltiad rhwng y sacramentau a Christ, byddent yn ffol bethau yn nwylaw y bobl. Am fedydd plant, pwy na wyddai nad oedd ffydd y rhieni yn dod a rhywbeth i'r plant? Parch. William Jones, Treforris, a ddywedodd fod yr anerchiad yn un gwerthfawr. Cytunai a sylsvadau y Proffeswr oddigerth gyda'r haner bedyddio." Nid oedd yr hen dadau Methodistaidd yn athrawiaethu yn fanwl ar y pen hwn. Y Parch G. Ellis, M.A., a dalodd deyrnged uchel i Mr Williams am ei anerchiad, ond gofidiai nad ymdriniodd yn hwy ar fedydd babanod. Caniatad ydoedd y bedydd hwnw ac nid trefn yr eglwys yn ol Mr Williams. Hoffai gael gwybod hefyd safle y golygiad yna yn wyneb barn eglwysi Cristionogol. Dylai eu safle, beth bynag, fod yn un onest. Proffeswr Williams a ddywedodd fod gorchymyn i fedyddio plant, a'i fod yn arferiad yn yr amser boreuaf. Mr Ellis a ychwanegai fod angen gwneud y mater yn fwy clir. Buasai yn dda ganddo gael gwybod perthynas y cwestiynau hyn a'r Cyfundeb yn awr. Sonid weithiau nas gellid ystyried gwein- yddiad Swper yr Arglwydd yn Apostolaidd os lleygwr fyddai yn gweinyddu ond yr oedd bedydd yn safadwy pwy bynag a'i gweinyddai. Gwyddai am efrydydcl Eglwysig yn credu fod baban yn cael ei ail eni pe bedyddid ef hyd yn nod ganddo ef (Mr Ellis). Daliai Calfin allan fod yn rhaid bedyddio plant. Buddio! fuasai i Mr Williams ymdrafod yn mhellach yn y cyfeiriad hwn. Ceid personau yn eu plith a ddysgent athrawiaethau ag oeddynt yn myned dan ein Protestaniaeth ni. Parch Robt. Williams, M.A., Llanllechid, a ofynai ai trochi yn unig a olygid, ac nid taenellu, wrth fedyddio ? Yn ol ei deimlad ef, gellid pasio penderfyniad eu bod yn ymuno a'r Bedyddwyr. Os nad oedd bedydd babanod yn bod hyd yr ail ganrif, nis gallai ddeall pethau, nac egluro safle y cyfun- deb. Disgwyliai glywed rhywun yn cynyg eu bod yn mynedd trosodd at y Bedyddwyr. Parch T. J. Whelden, B.A., a ddymunai ar i'r Proff. Williams gyhoeddi ei bapur yn gyflawn. Yr oedd dan orfod i fod yn fyr, ac felly yn anorphenoL Nid oedd Proff Williams wedi dweyd dim na ddysgid gan Charles. Gofynid i'r bobl ieuainc ddweyd eu profiad pan ddoent yn gyflawn aelodau, a dyna'r adeg y perifeithid eu bedydd hwynt. Nid oedd y plant yn derbyn bedydd cyfiawn hyd nes deuent yn aelodau cyflawn o'r eglwys. Hoffai M eled cyhoeddi y papyr. Parch T. Owen, Porthmadog, a betrusai vn nghylch cyhoeddi'r fath ddatganiad yn ngwyneb agwedd bresenol y wlad. Trwy daenelliad y bed- yddiwyd ef, a chredai mai dyua'c dull apostolaidd. Y Llywydd a ofynai a oedd modd cymeryd y mater o fedydd babanod i'w drafod rhyw dro eto ac wedi peth siarad, cyflwynwyd hyn i sylw pwyll- gor y trefniadau. -9: Mae Mabon a Mr D. A. Thomas yn ceisio cael
[No title]
gan yr Ysgrifenydd Cartrefol benodi ymchwiliad arall i achos y ddamwain yn Nghilfynydd. Bu Tywysog Affricanaidd yn traddodi anerchiad ac yn cymeryd rhan yn nghenadaeth y Parch John Evans (Eghvysbach) yn Mhontypridd, ddydd Sul.
--0-DEDDFWHIAETH Y TYMHOR.
hael hefyd, oblegyd cawsom io.ooop at Goleg Aberystwyth 400P yn flynyddol am ddwy flynedd at gadw cofrestrydd i Wneud trefn ar ein hen lawysgrifau a haner addewid os sefydlir amgueddfa gen- edlaethol y cynorthwyir ni. Fel, ac ystyried pobpeth, cafodd Cymru ran dda o sylw y Senedd y tymhor diweddaf; ac addewidion gwerthfawr at y tymhor nesaf.