Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

----0-----Gymdeithasfa Methodistlaid…

News
Cite
Share

-0- Gymdeithasfa Methodistlaid Ctogfedd Cymru. ACORWVO gweithrediadau y Gymdeithasfa uchod yn Mhwllheli, ddydd Mercher diw eddaf, dan lyw- yddiaeth y Parch J. Roberts, Taihen. Daeth cyn- ulliadau lluosog o weinidogioa a lleygwyr yn nghyd. > Penodwyd y Parchn Francis Jones a T. Owen, a'r Mri T. Lewis, A.S., a J. R. Davies yn gyn- rychiolwyr i Gymanfa Ddirwestol Gogledd Cymru, yr hon gynelir y mis nesaf yn Llangefni. Dewiswyd y Drenewydd fel man cyfarfod y Gymdeithasfa nesaf, ac i'w chynal yno Tachwedd 14, 15, a 16. Ymdrafodwyd ar y rheolau newydd o berthynas i ymgeiswyr am y weinidogaeth a dewisiad blaen- oriaid, y rhai basiwyd yn Nghymanfa Gyffredinol Pontypridd. Etholwyd y Parchn J. Roberts, W. James, Manchester, a Mr Peter Roberts, Llanelwy, yn bwyllgor i wneud trefniadau gyda'r arholiad dan y rheolau newydd. I Bu adroddiad Pwyllgor Cynaliaeth y Weinidog- aeth dan sylw. Cyflwynwyd yr adroddiad yn Nghymdeithasfa Llanrwst, end gan i welliant gael ei gynyg, gohiriwyd y mater hyd yn awr. Yn pghwrs ymdriniaeth faith, siaradodd amryw wein- idogion ar y pwysigrwydd o sefydlu bugeiliaeth sefydlog yn nglyn a phob eglwys. Penderfynwyd mabwysiadu awgrymiadau'r pwyllgor, nid fel rheol- au caeth i'r eglwysi weithredu arnynt, ond fel aw. grymiadau i'w cario allan yn raddol. Agorwyd ymdriniaeth ar "Y deffroad cenedl- aethol yn ei berthynas a chrefydd ein gwlad," gan y Parch E. Davies, Trefriw, yr hwn gyfeiriodd at y cyfnewidiadau oedd yn cymeryd lie ynnghrefydd feddyliol Cymru, ac a gymhellodd bwysigrwydd dysgu'r ieuenctyd yn ngwirioneddau'r Efengyl. Forelau, cynaliodd y blaenoriaid gyfarfod yn ysgoldy Salem, pryd y llywyddai Mr Thomas I Lewis, A.S. Traddododd Mr W, Thomas, Bir- mingham, anerchia.d ar Yr angenrheidrwydd am feithi in vsbryd cenadol yn yr eglwysi." Ynnghyf- arfod y gweinidogion, dan ly wyddiaeth y Parch J. Roberts, traddododd y Proff. Hugh Williams, Bala, anerchiad ar Y Sacramentau." [Gweler yr araith hon mewn colofn arall.] L Yn nghyfarfod y prydnawn, croesawya y Parch R. Gray Evans a Mr H. J. Roberts, o'r Amerig, a chaed anerchiadau gan y ddau. Hysbysodd y Parch R. H. Morgan iddo gasglu a throsglwyddo i'r ariandy 9,000p at Gronfa Wadd- oliadol Coleg y Bala. Galwyd syiw at drefniadau Coleg Prifysgol Ban- gor gyda myfyrwyr yn myned i'w dyledswyddau oabbathol, a phenderfynwyd ysgrifenu at awdur- dodau y Coleg yn Mangor ac Aberystwyth. Cvtlwynwyd Miss Dass (India), Miss Kate Wil- liams, Pwllheli, a Dr. Oswald Williams, Caer, gan y Parch Josiah Thomas, fel rhai yn bwriadu myned i feusydd cenadcl yr India. Penderfynwyd ar y trydydd Llun yn Hydref i gadw cyfarfodydd diolchgarwch am y cynhauaf. Darllenodd y Parch Hugh Roberts adroddiad yr ysgolion gwrth-Babyddol yn sir Fflint, ac ystyr- iwyd ef yn foddhaol. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod cenadol, a phregeth wycl dranoeth i gynulliadau iluosog gan rai o brif weinidogion y Cyfundeb. o

Ein Cenedi yn Manceinion.

Fe Ddytifedir

Etifeddiaeth Gymreig heb Etifedd.

[No title]

Dau ddyn yn mygu yn Ffestiniog.

Cwaiigofdy Dinbych.

Cohiriad y Senedd.

Diddymiad Tf'r Arglwyddi.

o Barddoniaeth.

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.

Advertising

RHYD I WYLFA A'l BOBL OD.