Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

RHYD I WYLFA A'l BOBL OD.

News
Cite
Share

RHYD I WYLFA A'l BOBL OD. [Gan YR HEN WYLIWR.] PENNOD XXI. -BOB ROB A SIMON WYNNE. PERTHYNA i braidd bob pentref gymeriadau nas gellir eu hystyried o fawr ddefnydd, er liyny ydynt yn dra dyddorol. Nid ymddangosant yn gwnewi fawr fwy na 41 gwerth eu halen er hyuy, maent yn cael pardwn gan gymdeithas, ac maent yn dra phoblogaidd gyda'r plant. Un o'r cyfryw oecid Bob Rob"—yr hwn a ad- waenid wrth y llvsenw hwn, er mai Robert Roberts oedd ei enw priodol. Yr oedd Bob R)b yn gyfuniad o nertb corph crol a diogi. Nid oedd ei ail am fwyta a chnoi tybaco, ac yr oedd felly yn bur ddrud i'w gadw. Yr oedd yn byw gyda'i dad a'i fam a'i frawd, mewn amaethdy gerllaw y pentref. Bycban oedd y tyddyn, a phrin y cadwai fnwch a cheffyl ond yr oedd tad a brawd Bob Rob, beblaw gofalu am y tyddyn, yn gryddion hefyd, ac ar bob dydd ffair a marchnad, ac amlach na hyny, elai un ohonynt gyda'r drol a'r cetryl i'r dref. Gyda'r eithriad o Bob, yr oedd ei deulu yn nodedig am eu diwydrwydd. Yr oedd yn ddyn o ymddangosiad digrif iawn. Pan yn sefyll yn syth, yr oedd yn dal, ond anaml y gwnai y fath betb. Cerddai yn ei gwmati," I gyda'i ddwylaw yn llogellau ei lodrau, a ffon fawr dan ei gesail. Yr oedd plygion tewion o gnawd ar ei war, a'i lygaid yn groesion. Pan weUi rywun yn ei gyfarfod ar y ffordd, sclfai mor bell oddiwrthynt ag y gallai, ac wedi idd- ynt ei basio, troai i edrych ar eu hoi hyd nes y byddent wedi myn'd o'i olwg. Yr oedd yeh- ydig gloffni arno. Pan siarad i, codai ei ys- gwydd chwith, a gwyrai ei glust i'w chyfarfod, a tharawai ei ffon yn y llawr, fel i selio yr hyn a ddywedai i fod yn wirionedd digyfnewid. Yr oedd ei safn yn tueddu i un ochr i'w wyneb, fel pe wedi ei tharo gan ergyd o'r parlys ac i'r neb fyddai yn digwydd sefyll o'i flaen byddai hyny yn fanteisiol, oblegyd mynych boeriadau Bob. Tuedd plant yw myn'd yn hyf ar gymer- iadau o'r fath, a byddai rhai felly gydag yntau. Byddai rhai yn ei luchio a thywyrch, eraill yn galw enwau gwawdlyd ar ei ol. Yn ngwyneb ymosodiadau felly, y cwbl a wnai fyddai sefyll i edrych ar ei erlidwyr, taranu bygythion yn eu herbyn, a gwylio am gyfleustra i gael un obonynt i'w grafangau. Nid oedd cof am dano yn rbedeg oddigerth unwaith, a'r tro hwnw yr oedd ganddo y cymhelliad cryfaf yn bosibl i wneud y goreu o'i draed, oblegid yr oedd tarw Plas y Fron yn ei erlid, a diangfa gyfyng gaf- odd rhag ei gyrn. Ni wnai byth redeg ar ol y bechgya direidus fyddent yn ei wawdio yr oedd yn rhy ddiog i hyny ond os cai un ohon. ynt i'w afaelion, ni fuasai waeth iddo mo'r llawer gael ei yru drwy beiriant dyrnu. Llwydd- odd rai troion i gael gafael ar ei elynion, ac nid annghofiasant tra buont byw y gwasgiadau a gawsant. Yr oedd o yn ffyrnig ofnadwy pan ddigid ef, a gellid tybio wrth ei olwg mai felly byddai bob amser. Nid bechgyn yn unig gaf odd brofi gallu gwasgol ei freichiau preiffion, eithr bu llawer o ddynion cryfion yn teimlo eu gewynau mor ddinerth ag edeu wlk yn ei af- aelion ef, ac yn gofalu na fynent brofi ei gosp- edigaeth arnyat eilwaitb. Modd bynag, cafodd yntau ei orchfygu un tro gan ei drech. Un od iawn oedd hwnw hefyd. Simon Wynne oedd ei enw, ac ad- waenid ef wrth yr enw bwnw. Feallai mai y rheswm am hyny ydoedd fod yr enw priodol dipyn yn annghyffredin. Hen ddyn mawr, esgyrniog, a lysti oedd yntau gallai of wenu fel heulwen haf pan fyddai pobpeth yn hwylus, ond gallai ymffyrnigo a dial cystal a Bob Rob pan groesid ef. Yr oedd rhyw bertbynas cyf- oethog iddo yn talu am ei gadw ac felly nid oedd ganddo ef ddim neillduol i'w wneud amgen nag a ddymunai. Treuliai ei amser i ddatgudd- io ei ffolineb, druan Gwisgai het goryn hir bob amser, ac yr oedd yn drwsiadus. Ond fel yr elai blynyddoedd heibio, dechreuodd gerdded wrth ffyn baglau ond nid oedd arno fwy o wir angen y rbeiny nag oedd ar ieir dw'r eisiau gwlawleni. Profwyd hyny droion. Yn wa- hanol i Bob Rjb, byddai Simon Wynne yn methu dyoddef gwawd bechgyn direidus y pen- tref heb redeg ar eu hoi bu i rai gamddeall ei ff.n, a myn'd yn rhy agos ato a gwelwyd yn- tau yn rhedeg allan o'i faglau, gan eu gadael ar ei ol, ac yn dal ei wawdwyr, gan dalu iddynt gyda llog. Llawer gwaith y gwelwyd ef mewn cyfyngderau pan y teimlai mai cymeryd y traed heb ei ffyn oedd ddyogelaf iddo. Cred y bobl oedd fod yr ben frawd yn teimlo graddau o gywilydd i fod yn iach a chryf, ac heb wneud dim, ac yntau yn aros mewn ffermdy lie yr oedd rhyw orchwyl neu gilydd yn cynyg ei bun iddo yn barhaus ac yr oedd yntau yn cashau gwaith yn ei galon. Tybiodd y buasai y ddwy ffon fagl yn amddiffyn i'w ddiogi rhag bygythion gwaith, ac nas gallai unrhyw edliwiad godi ei ben yn ei erbyn nas gailasai baglau e i daro i lawr. Yr oedd yn Rhyd y Wylfa hen fardd awen- barod dros ben,ac fel yr oedd efe ac eraill yn lladd gwair mewn cae gerllaw y ffordd, gwelai yr hen Simon Wynne yn dod, o gam i gam, wrth ei faglau, pryd y rbuthrodd yr englyn canlynol o'i ben fel ysgyfarnog o wrych- A'i oglud ar ffyn baglau,-wele ffwl, A ffug yn ei gamrau; Simon Wynn sy' y' mwynha Oes segur uwchben seigiau. Aeth yr englyn trwy y pentref a'r wlad fel tan gwyllt, a bu Simon Wynne yn bytheirio bygyth- ion enbyd yn erbyn ei awdwr, ac yn chwilio am gyfleustra, i ad-dalu am englyn a phwysau ffon, ond ni chlywais iddo lwyddo. Heblaw y ffyn baglau, aeth Simon Wynne cyn hir i wisgo "cot oil fawr, hyd ei draed— a hyny hyd yn nod yn nyddiau mwyaf tesog yr haf ae yn rhwymyn perffeithrwydd am y gre- adigaeth o bethau digrif oedd ynddo, rhoddai denyn gwellt am ei ganol. Mynai ef mai rhag y crydcymalau yr oedd yn gwisgo felly. Chwer thinllyd i'r oithaf oedd yr olwg arno, yn symud. wrth y todfedd, trwy ganol y gwres, i fynu'r allt tua Rhyd y Wylfa, ac yn sefyll bob degllath i sychu ei chwys diferol. 'Doedd dim da un amser rhwng Bob Rob a Simon Wynne, a phan gwrddent, nid peth dy- eithr oedd iddynt chwyrnu ar eu gilydd fel ewn. Elai'r ddau i'r un capel, ac eisteddent ar fainc y pechaduriaid." Nid anfynych y gwel- wyd hwy, fel dau blentyn, yn cilgwthio eu gil- ydd ar y fainc, ac yn cyffroi digofaint yr ben saint a eisteddent yn y set fawr, tra yn gyru y dosparth ysgafnaf o'r cynulliad i wenu. Buasai yn burion osgoi dweyd i ba addoldy yr elent, ond ofnaf y deallir y gyfrinach, oherwydd rhaid i mi ddweyd fod Twm y Chwipiwr wedi gwas- traffu llawer fflangell, yn gyhoeddus, ar y ddau wrthymgeisydd hyn am goron digrifwch a ffol- ineb Rhyd y Wylfa. Dywedodd lawer gwaith nad oedd en batbau yn addas i fod mewn add- oldy o gwbl a tbueddai llawer i'w gredu, hyd nes y codai Gruffydd Jenkins i draethu ei farn ar y mater. Medrai efe argyhoeddi pawb ond Twm fud gan y ddau ddigrifdJyn hawl i ddod i'r moddion. Byddai y ddau hen frawd yn dra hoff o gyrchu i'r dref gyfagos ar ddydd y farchnad, er na byddai ganddynt unrhyw neges neillduol yno. Ac un peth "od" yn eu hanes oedd hyn, byddent braidd bob amser yn gofalu myn'd i'r dref a dychwelyd gyda'u gilydd nid a'i un heb y llall ar un cyfrif ond er hyny, cerddent un bob ocbr i'r ffordd gan aweryla bron yn ddi- baid. Weithiau byddai y ddadl-noti, yn hytrach, y ffrae-yn myned mor boeth fel y croesai y naill at y llall,*ac y bytheirient yn ngwynebau eu gilydd, gan fygwth penderfynu eu materion a ffyn ond, fel rheol, nid a'i yn mhellach na bwgwth, a chymerai pob un ei ochr i'r ffordd, gan gerdded yn mlaen fel cynt a chweryla, neu, fel y digwyddai yn fynych ar ol cyrhaedd climax mewn ffrae, tarawid hwynt a, mudandod am ddarn helaeth o'r daith, ae ni chlywid ond swn traed a ffyn y ddau fel yn cario y ddadl yn mlaen pan fyddai Y galonjyn .Y rhy lawn i'r tafod lefaru Ond o'r diwedd cymerodd amryw ddigwydd- iadau le fel ag i chwerwi teimladau y naill at y llall hyd nes gwelwyd hwy yn ceisio penderfynu eu cweryl drwy ymladdfa difrifol. Un peth a arweiniodd i hyny fu hyn—Yr oedd hen lane o amaethwr yn byw dipyn i'r wlad o Rhyd y Rhyd y Wylfa, yr hwn a arferai fyn'd i'r dref mewn cerbyd bychan gyda digon o le ynddo i ddan. Hen lane direidus a chellweirus iawn ydoedd hwnw, a chymerai ddyddordeb annghy- ffredin yn Bob Rob a Simon Wynne. Rhyw dro, pan ar y ffordd adref, gofynodd i un o'r ddau a ddeuai gydag ef yn y cerbyd, ond gwrthododd gofynodd i'r llall, a gwrthododd yntau. Er eu holl gweryla, yr oedd rhyw ffydd- londeb rbyfedd i'w gilydd. Modd bynag, pen- derfynodd yr amaethwr y gwnai ei oreu i wa- hanu y ddau bererin cyn hir ond gwnaeth lawer cais ofer cyn llwyddo. Pe buasai lie i'r ddau yn y cerbyd, feallai yr aethent iddo eithr ni fynent fod o olwg eu gilydd. Ond rhyw ddiwrnod marchnad yn y dref, cafodd yr am- aethwr crybwylledig awr wan ar Bob Rob, a llwyddodd i'w gael i'r rhwyd. I ddechreu, hudodd ef i westty, lie y rhoddodd iddo saig fras o ymborth ac ni fu Esau erioed yn barod i aberthu mwy nag ef am saig, gyda'r uniJ eithriad nad oedd yn barod i weitkio am dani. Pan yn y dref, byddai Simon a Bob yn cerdded neu sefyll un o bobtu'r heol, gan gadw yn ngolwg eu gilydd. Ond y tro hwnw, llithrodd Bob gyda'i gymwynaswr i'r gwestty yn ddiar- wybod i Simon, a phan nas gallai yr olaf weled ei gydymaith, tybiodd ei fod wedi cychwyn adref, a dechreuodd glirio ei ffordd a'i ffyn baglau, y rhai a gurai yn y ceryg, nes yr oedd eu swn yn diaspedain hyd yr heol ond er iddo gyflymu cymaint allai, nid oedd Bob yn ei olwg, ac er holi ni chai fod neb wedi ei weled. Beth bynag, fel yr oedd Simon haner y ffordd tuag adref, clywai swn cerbyd o'i ol, a chiliodd o'r neilldu. Fel yr oedd y cerbyd yn myned heibio iddo synwyd ef gan hisiad chwip yn ymgor- deddu am ei "got oil." Er nad oedd bosibl iddo dderbyn niwaid drwy y plygion oedd am dano, parodd yr ymyriad sydyn hwn âg ef iddo gyffroi yn aruthr, a gwaeddodd allan, gyda'r llais dwfn a chlir oedd ganddo, Holo holo yn gwneud gwawd o ddyn sal, ai e 1" Arafodd y cerbyd gydag i'r chwip ddisgyn ar Simon, a phan drodd i edrych, mawr oedd ei syndod o weled Bob Rob a'r chwip yn ei law Chwareu teg i Bob, yn ceisio tynu y chwip o law yr amaethwr yr oedd ef, am nad oedd yn hoffi gweled ei hen gydymaith yn cael ei gam- drin ond fe gredodd Simon Wynne fod ei ddyrchafiad i'r cerbyd wedi troi yn mhen Bob Rob, ac mai efe oedd wedi ei ddirmygu, ac ebai efe.- Holo, Bob Rob, y gwynab budur iti! Ai chdi sy'n myn'd i fy chwipio i, tybad ? Y climach diog, mi dala i iti am hyn eto, mi gei di wel'd, mi dyffeia i dy galon di Deallodd yr hen lane direidus oedd yn gyru Bob Rob y sefyllfa, ac yr oedd wrth fodd ei galon parodd i'r merlyn gerdded yn araf, a dechreuodd ymgomio a'r gwr traed, a chan aw- grymu mai Bob oedd wedi ei ddirmygu, dy- wedodd- Hidiwch mono fo, Simon Wynne, neiff o ddim eto ac mi ofala i y cewch chitha ddwad efo mi i ddreifio y tro nesaf, gael i mi wel'd pwy fydd y dreifar goreu. Oes clais ar eich cefn chi, Simon Wynne 1" Clais, wir I" ebai Simon Wynne, "mi fydd cleisia ar i gefn o pan ga i afal yno fo, mi geiff ° wel'd. Yr ydw i wedi diodda digon gyno fo a 1 fath ar hyd y blynyddoedd. Roedd arno f<? eisio rhwbath i'w gario, achos yr oedd o wedi myn'd yn rhy ddiog i gerddad er's talwm." Nid oedd Bob Rob yn teimlo yn agos i gom- fforddus erbyn byn, a digrif oedd ei weled ef Yfl ei gerbyd, a Simon Wynne yn nghanol ei got lawr, a'i ffyn baglau, yn lluchio ei hun yn