Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Politicaidd.

: o : Syr C. Osborne Morgan…

Yr Esgob yn Cwadu.

[No title]

Costau Addysg.

News
Cite
Share

Costau Addysg. YN Nhy'r Cyffre I in, nos Fawith, Mr Acland, wrth gyflwyno ei amcan gyfr;f 0 drdul addysg am y flwyddyo, a sylwai ei fod yn gofyn am chwe' miliwn a haner o bunau at amcanion addysg, yr hyn oedd yn gynydd mawr ar y flwyddyn ddiweddaf. Elai pedair miliwn o'r swm hwn at ysgolion dyddiol a nosawl dwy filiwn i'r ysgolion dyddiol fel rhoddion a rhenid yr haner miliwn gweddill rhwng costau gweinyddiad a'r colegau hyfforddiadol. Achosid rhan fawr o'r cynydd bwn gan yr addysg rydd a gyflwynwyd gan y Weinyddiaeth ddiweddaf. Gallai ddangos y cynydd yn well drwy ddweyd fod cynydd presenoldeb ar gyfartaledd yn 1890 oddeutu 35,000 o blant ynl891, 32,000 1892, 126,000 a 1893, 229,000, yr hyn a gyfrifai am yr amcan-bris ychwanegol a gyflwynwyd dde- chreu y flwyddyn hon. Yr oedd hyn ynddo ei hun yn dra boddhaol pan ystyrid fod presenol- deb pob 102 o'r plant yn cynyddu yn ogyst d a'r cyfartaledd presenoldeb. Gwnaed cynydd mawr hefyd gyda phresenoldeb yn yr ysgolion nos. OberthyiTsiweithrediadDeddf Addysg y I Rydd, yr oedd pedair m liwn a chwarter ar y cofrestrau fel ysgolheigion rhydd ac yr oedd 890,000 yn talu am eu haddvsg, o ba rai ni thalai haner miliwn fwy na cheiniog yn wyth- nosol. Teimlent oil yn falch fod y wlad yn symud yn mlaen gydag addysg ganolradd fel ag i ychwanegu at fanteision y plant. Ceid prawf amlwg o hyn yn ngweithrediad Deddf Addysg Ganolradd Cymru. Hyderai pan geid adrodd- iad y Ddirprwyaeth Frenbinol, y gellid gwneud rhywbetb ychwaneg, nid yn unig i blant ysgol- ion elfenol, ond hefyd i blant y dcsbarth cyff- redin isaf, pa rai yn ami oeddynt dan anfanteii- ion mawr. Bron yn mhob cylch o fywyd, caffai'r dyn neu'r ddynes wybodus fantais neillduol ar yr anwybodus. Yr oedd yn argy- hoeddedig fod un amcan mawr o'u blaen oil, a hyny oedd dadblygu galluoedd a chymeriadau y canoedd 0 filoedd o blant oedd dan eu gofal, a rhoddi iddynt y manteision goreu i ddod yn mlaen yn y byd. Mr Herbert Lewis a ddywedai fod Mr Acland yn teilyngu diolchgarwch pobl y wlad yn gyff- redinol am weithredu fel y gwnaeth gydag ysgolion pentrefol. Dylai pobpeth a'i duedd i wneud ysgolion gwledig yn fwy iachus aceffeith- iol dderbyn cymeradwyaetb y Ty. Gwas4ai arnynt hefyd i gyfranu rhodd i Gymru at gael Amgueddfa. Mr Acland a atebodcl mai y Trysorlys oedd i benderfynu pa un a geid amgneddfa genedlaethol i Gymru ai peidio. Yn anffortunus, nid oedd gan y Dywysogaeth brifddinas, ac felly anhawdd fyddai lleoli yr amgueddfa. Ond pe sefydlid un, gwnai ei oreu i'w chynorth wyo yr un modd ag y gwnaeth gydag Amgueddfa Edinburgh a Dublin. Yr oedd gan Gymru gystal hawl i fenthyciad a Lloegr, a chyfa.rfyddai gais felly yn y ffordd fwyaf rhesymol. Syr F. Powell a alwodd syhf at y gwahan- iaeth yn y rhoddion gyfrenid i'r colegau Saesneg a'r rhai Cymraeg. 15,000p oedd y rhodd at y 11 golegau Lioegr, a 12,000p at golega1! Cymru. Yn Lioegr yr oedd 11 o golegau, tra yn Nghym- ru nid oedd ond tri. Nid oedd rhif y myfyrwyr Cymreig yn ddigon i gyfreithloni gwario y fath swm. Mr Brynmor Jones a ddaliai nad oedd rheswm gwell dros y bleidlais bresenol na'r ffaith fod yn agos i 6,000 o ddynion ieuainc wedi derbyn addysg uwchraddol yn ystod y deng mlynedd er pan sefydlwyd dwy brifysgol yn Nghymru.

----0------Arwest Clan Ceirionydd.

[No title]

! Lleol.

Marchnadoedd.

--0--PWLPUDAU CYMREIG, Awst…

Advertising

Family Notices