Hide Articles List

12 articles on this Page

Politicaidd.

: o : Syr C. Osborne Morgan…

News
Cite
Share

o Syr C. Osborne Morgan a'! Etholwyr. Nos Fawrth, rm Syr G. 0 Morgan, A.S., yn anerch ei etholwyr yn Rhosllanerchrugog. Yn nghwrs ei araith, sylwodd ar y ddadl yn nghylch reiltfordd y Rhos yn mhwyllgor Ty'r Cyffredin, a datganai ei foddhad fod Mesur y Great Western wedi ei daflu allan gan y pwyllgor hwnw. Tra parhai ef i gyn- rychiod y rhan hono o'r wlad, byddai iddo sefyll i fynu dros hawiiau a dymuuiadau ei etholwyr. Ni phetrusodd erioed yn nghylch cefnogi Mesur yr Wyth Awr. Barnai fod wyth awr yn gymaint ag a allai uurhyw ddyn neu fachgen weithio tan y ddaear. Pleidleisiodd yn erbyn gweliiant Mr Thomas i adae! hyny at ddewisiad lieol, oherwydd fod arno eisiau y mesur, yr holl fesur, a dim end y mesur. Sicr oedd na cheid dydd o wyth awr o fane i fane os na byddai i'r mesur basio. Cyfeir- iodd at Gyllideb Syr W. Harcourt tel cyllideb y gvveithiwr, ac yr oedd wedi ei sylfacnu ar egwydd- or ysgrythyrol, sef y disgwylir llawer oddiwrth y sawl a dderbyniodd lawer. Mae'r ffordd i Ddad- gysylltiad a Dadwaddoliad wedi ei phalmantu. Dyna.'r mesur yr oedd pobl Cymru wedi gosod eu bryd arno. Addawodd Arglwydd Rosebery iddo y byddai y cyntaf neu yn un o'r ddau gyntaf i ddod gerbron y Sensdd y Sesiwn nesaf. Llawenychai am hyn, oblegid oinai os na fyddai y cyntaf, yr oedd yn bosibl na ddeuai gerbron o gwbl. Cynyddai barn gyhoeddus yn ffafr y mesur yn gyflym trwy'r deyrnas, a daeth hyn oddiamgylch i raddau trwy weithredoedd yr esgobion eu hunain ac uwchlaw pawb, drwy Esgob Llanelwy. Prif amcan yr Es- gob a'i gefnogwyr ar y llwyfan a thrwy y wasg oedd iselhau a dirmygu y Cymry, a llethu a darostwng eu bywyd cenedlaethoi. Wrth gyfeirio at Dy'r Arglwyddi, dywedai Syr George ei fod yn ami yn gofyn iddo, i hun am ba hyd y byddai i'r weriniaeth Brydeinig ymostwng i oddef i'w mesurau gael eu llurgnnio a'u dryllio gan lywodraethwyr hunanol ? Yr oedd yn ffafr ail ddeddfwriaeth, ond i'w chyf- aosoddiad fod yn briodol a buddiol. Ond nid oedd Ty'r Arglwyddi felly, oblegyd pan fyddai'r y I Rhyddfrydwyr mewn awdurdod, gwrthodai bob- peth. Nis gellid gwella Ty'r Arglwyddi—yr oedd yn rhy ddrwg i hyny nis gellid ei blygu chwaith, oblegyd yr oedd yn rhy ys- tyfnig. Nid oedd dim i'w wneud ond ei ddifodi, yr hyn ddeuai oddiamgylch yn fuar. Gall- ent ddibynu y byddai Ty'r Arglwyddi yn un o brif gwestiynau yr etholiad nesaf. Buasai yn dda gan- ddo allu eu hysbysu pa bryd y byddai'r etholiad. Galleut fod yn sicr y deuai fel lleidr yn y nos, ar adeg pan na byddent yn barod iddi, ac anogai hwy i gadw eu pylor yn sych. Er nad oedd yn weith- iwr, ceisiai hyd eithaf ei allu i roi ei hun yn sefyllfa y iLifurwyr, i sylweddoli eu teimladau, ac i gario allan eu dymuniadau. Yr oedd wedi eu cynrychioli am chwarter canrif, ac nid oedd yn meddwl eu bod am gefnu arno yn awr. Y wir gredo Rydd- frydol ydoedd rhoddi yn nwylaw p.b bachgen a geneth y moddion drwy ba un y galluogid hwy i ymladd brwydr bywyd, i roi i bob dyn a dynes gyflog teg i fyw," i ddarparu at hen ddyddiau pob un oedd wedi byw bywyd anrhydeddus ryw- beth gwell na gweithdy'r undeb a bedd y tlottyu, ac i ddwyn tipyn mwy o lewyrch a chysur i gar- trefi y bobl-d,yna gredo y Rhyddfrydwyr ag y danfonwyd ef a'i gyd-aelodau i'r Senedd i'w cario allan, a thrwy gymhorth Duw byddai iddynt wneud hyny. Siaradwyd yn mhellach gan Mr Herbert Roberts, A.S.

Yr Esgob yn Cwadu.

[No title]

Costau Addysg.

----0------Arwest Clan Ceirionydd.

[No title]

! Lleol.

Marchnadoedd.

--0--PWLPUDAU CYMREIG, Awst…

Advertising

Family Notices