Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Cwreiohion.

[No title]

Deddf y Tlodion.

o Clawdd Offa a'r Cyffiniau.

-:0:-Yr Ysgrifenydd Cartrefol…

--__-!:-o-.._._-.-Cofgolofn…

Advertising

Cynadledd Cymru Fydd.

News
Cite
Share

Cynadledd Cymru Fydd. CYNALIWYD cynadledd yn Nghastellnedd, ddydd Mercher, i ystyried y priodoldeb o sefydlu Cyng- hrair Cymru Fydd, Llywyddwyd gan Mr J. Wynford Phillips; ac yr oedd lluaws o wyr mwyaf dylanwadol y De yn bresenol.-Y Cadeirydd ar ol mynegu amcan y gynadledd, a ddywedodd fod mawr angen am gynghrair fel a gynygid. Yr oedd yn symudiad a gymerai i mewn yr oil o Gymru, gan gyfuno cenedlaetholwyr y De a'r Gogledd yn un cyfangorph. Gyda golwg ar dderbyn Eglwys- wyr a Cheidwadwyr i mewn i'r cynghrair, yr oedd yn sicr y croesawid hwy os gwnaent ymuno i gynor- thwyo a chario allan ddymuniadau y genedl. Yna cynygiodd y penderfyniad a ganlyn, yr hwn a eil- iwyd gan y Parch Towyn Jones, Aberamman, ao a gariwyd yn unfrydolFod y gynadledd hon yn calonog gefnogi y cynygiad i sefydlu Cynghrair Cenedlaethol Cymru Fydd, yr hon a gynwysa yr oil o Gymru, amcan yr hon fydd hyrwyddiant buddianau gwleidyddol, cymdeithasol, ac addysgol y Dywysogaeth." Mr Alfred Thomas, A.S., a gydsyniai fod angen am sefydliad cenedlaethol cyffelyb i'r cynllun a gynygid. Gwnaed gwaith mawr gan ddynion ieu- ainc. Yr oedd rhai dynion yn dal yn barhaus yn ieuanc, a da oedd ganddo weled rhai o'r cyfryw ger ei fron. Yr oedd eraill yn meddu brwdfrydedd leuenctyd, ac amcan y cynghrair oedd cynull y brwdfrydedd hwnw er hyrwyddo buddianau cenedl- aethol. Ystyriai y cyfarfod yn gychwyniad campus. Arferai Daniel O'Connell gyfarch ei wrandawyr gyda'r geiriau, "Fechgyn, dyma ddiwr- nod ardderchog i'r hen Werddon." Edrychai yntau yn mlaen am ddyddiau gogoneddus i Gymru —nid i'r Gogledd na'r Dehau-ond i Gymru. Wrth derfynu, yr oedd am ddweyd, os oedd unrhyw wlad fechan yn werth gweithio drosti, ie, os byddai angen, yn werth yrnladd drosti, y wlad hono yd- oedd Cymru. Siaradwyd yn mhellach gan Mr W. Llewelyn Williams, Mr R. Morris, Treorci; Mr Moses Walters, Miss Ka.te Jenkins, Llangadoc (ar ran y adledd^' & PryceJenkins' atherfynodd ygyn- -r.

Advertising