Hide Articles List

6 articles on this Page

Liang Cymreig wedi ei Cholli.…

: o : Bartidoniaeth,

ICynghor Sir Ddinbyoh.

Y Ganlyniaclau.

1_o Cohebiaethau.

News
Cite
Share

1_ o Cohebiaethau. At Olygydd y Cymro. CYMDEITHASAU LLENYDDOL LIVERPOOL A'R AMGYLCHOEDD. SYR,—Caniatewch i mi ychydig ofod i ddwyn gerbron eich darlienwyr un neu ddau o gwestiynau mewn cysylltiad a'r cymdeithasau uchod a'u gwaith yn ystod y gauaf dyfodol. Nid wyf yn gwybod pa nifer o'r cymdeithasau sydd i'w cael ar hyn o bryd yn Liverpool a'r am- gylchoedd y maent, mi wn, yn lluosog. Ond nid wyf wedi digwydd clywed am unrhyw gais i'w dwyn i undeb a'u gilydd. Gwn fod amryw ohon- ynt yn ymweled a'u gilydd yn achlysurol, ac yn cael cyfarfodydd gwerthfawr iawn ond ni chlyw- ais am unrhyw gam ymarferol pellach yn nghyf- eiriad undeb. Yr wyf wedi teimlo er's blynyddoedd y gallai fod yn fanteisiol mewn mwy nag un ystyr pe ffurfid math o Undeb o'r gwahanol Gymdeithasau yn mysg nob euwad crefvddob .L 1. Gallai iin Pwyllgor Cyffradinol dynu allan raglen ato bob tymhor, yr hon a wasanaethai i bob cymdeithas wrthi ei hun. Byddai hyn yn arbed- iad llawer o lafur; ac nid yw yn anmhosibl y gallai ddwyn i mewn welliant yn ansawdd y gwaith a gyflawnir. A byddai yr ystyriaebh fod aelodau pob cymdeithas yn cymeryd i fynu yr un materion yn debyg o greu dyddordeb ychwanegol ynddynt. 2. Gellid trefnu yn well gyda'r anerchia.dau agoriadol nag y gwneir yn awr. Gallai amryw gymdeithasau ddod yn nghyd i'r un lie i wrando yr un anerchiad; a phan na byddo hyny yn ymar- ferol, gellid trefnu i gael yr un anerchiad mewn gwahanoi leoedd ar wahanol adegau. 3. Gellid trefnu i ddwyn y cymdeithasau yn ys- tod y gauaf i gysylltiad agosach a'u gilydd trwy ymweliadau mwy cyson nag sydd yn bosibl dan y gyfundrefn bresenol. Yr wyf yn dwyn y mater i sylw yn awr am fod I y cymdeithasau ar hyn o bryd yn gwaajid eu paro- toadau at y tymhor dyfodol. Oni ellid cael cyn- rychiolwyr yr holl gymdeithasau yn nghyd i gyn- I adledd yn y Common Hall, neu rywle arall cyfleus, i drafod y cwestiynau canlvnol- 1. A fyddai flurfiad y fath Undeb yn fanteisiol? 2. Pa fodd y gellid ei llurfio, a pha orchwylion a vmddiriedid iddo ? Os ceid yr atebion i'r cwestiwn cyntaf yn gad- arnhaoi, gellid myned yn mlaen at y gorchwyl o'i ffurfio a dewis ei swyddogion a'i bwyllgor. Ac nid wyf yn anmheu na byddai y fath gam yn foddion i luosogi y cymdeithasau, ac i ddyrchafu y gwaith a wneir ganddynt. Mi hoffwn, wrth derfynu, wneud yn gwbl eglur mai nid am fy mod yn gweled bai ar y cymdeithas- au yr wyf yn taflu allan yr awgrymiadau presenol, ond yu hytrach am fy rnod yn credu y gellir eu gwneud yn offerynau i gynyrchu llawer mwy o ddaioni i leaenctyd Cymreig Liverpool hyd yn nod nag a gynyrchant yn awr. Yr eiddoch yn gywir, Bootle. GRIFFITH ELLIS. NEEPAWA, MANITOBA. S'yR,-Me genyf awydd anturio gyru ychydig o linellau i'ch newyddiadur gwladgarol, yr unig gyfrwng argraphedig Cymraeg trwy ba un yr ydym yn cael hanes ein cydgenedl gartref, a dyfodiad yr hwn a fyddwn yn disgwyl yn aiddgar, yn enwedig yr wythnosau hyn. Difyr ydyw gwylied symudiad- au yr hen wlad yn y cyfwng pwysig y mae'n myned trwyddo yn bresenol. Wrth ddarllen y Cymro yr wythnosau diweddaf, yr oedd hiraeth dwfn yn codi yn ein mynwesau na fuasem gartref, nid i weled y Tywysog yn cael ei urddo, ond yn hytrach i weled yr arwr barddonol yn cael ei gadeirio a chael cyfranogi o'r hen Wyl Genedlaethol. Wyr y Manitobiaid ddim mwy am Eisteddfod nag a wn inau am chwareu cricet. Mewn ystyr gyffredinol, mae y Manitobiaid yn mhell iawn ar y blaen (gyda champau difyr) i'r Cymry ond mewn Ilawer o bethau eraill yn mhell iawn ar ol yr oes. Mae golwg pur addawol ar y gwenith eleni yn y parth yma, Ilawer gwell na'r llynedd disgwylir y bydd yn bwrw i lawr tuag 20 bwsiel yr erw ar gyfartaledd. Mae y cynhauaf yn gynarach eleni nag y bu er's blynyddau bydd llawer yn barod i'w dori yr wythnos nesaf. Pe buasech chwi yr ochr yna yn bwyta chwaneg o fara gwyn, gael i bris y gwenith godi tipyn, buasem yn gallu fforddio treulio yr hir a'r garw auaf nesaf yn weddol hapus, gyda thori coed a'u cario i'r stof ac eistedd o'i chylch i fwynhau gwres yr elfen dwymnol. Ter- fynaf fy nhruth gan obeithio mae yn uwch o hyd yr a hoff wlad fy ngenedigaeth. BACHGEN 0 FEIRION. Ty Helig, Awst 4, 1894. NEWID CYFENWAU. SYR,—" Tra mae'r haiarn yn boeth mae taro," medd yr hen ddywediad. Dichon, Mr Go]., y can- iatewch ofod fechan yn y Cymro i John "Jones ddweyd ei brofiad a'i farn ar hyn. Nid profiad newydd ei wneud wrth ddarllen gwaith eraill yn traethu ar y pwnc mohono. Oddeutu 1862, cof genyf ddarllen erthygl o waith yr hen ysgrifenydd enwog J.R. ar y testyn uchod, ond gan fy mod yn lied ieuane y pryd hyny, ychydig iawn wyf yn ei gofio o gynwys yr erthygl ond hon fu yn gych- wyniad i mi feddwl fod cyfenwau eraill yn bosibl heblaw y rhai cyffredin hyny oedd yn ein plith, megis Jones, Williams, Roberts, &c. Ond ar ol i mi groesi Clawdd Offa yr agorwyd fy llygaid ar fyd y cyfenwau, ac yr argyhoeddwyd fi yn llwyr o'r angen am eu newid. Nid eu newid am luaws o gyfenwau y Saeson, peidiwch a medd- wl, Mr Gol-gwarchod ni, nage Gwell genyf gael fy ngalw yn John Jones am byth, na chyf- newid am enw John Tinker neu Richard Maddick, a chant a mil o gyfenwau gwrthun eraill sydd gan- ddynt. Ond mae yn hen bryd i ni fel Cymry efel- ychu y Saeson mewn cael mwy o amrywiaeth cyfenwau a phe caem newid ein cyfenwau am rai gwir Gymreig, fe symudai yr annhrefn a'r annghyf- leustra presenol, yn nghyda'r enwau drwg a geir ar lawer yn ein gwlad, ac adnabyddid pob dyn yn syml wrth ei gyfenw wed'yn. Fel y mae yn awr, rhaid cael cymhorth enw trigle llawer Jones a Williams er gwybod pa Jones a feddylir ac yn fynych yn mhlith y chwarelwyr, ac mewn ardal- oedd poblogaidd, nid ydynt yn adnabod eu cyd- weithwyr wrth eu cyfenwau priodol, ond wrth lys- enwau diraddiol, y rhai sydd yn dilyn o dad i fab. Sylwa Cymro Gwyn" yn y Cymro am yr wythnos cyn y ddiweddaf, y buasai Cwrs y Byd wedi gwneud cymwynas fawr pe buasai wedi rhoddi rhyw amcan i ni, yr anwybodusion, faint gyst newid "surnam;" ac mae R. J. Derfel, yn y Cymro diweddaf, yn ein hysbysu nad yw yn costio dimeu goch, am fod arfer gwlad yn meddu ar rym cyfraith. Y mae ein hen gyfaill Derfel yn addef ar yr un pryd ei fod mewn yspaid o 40 mlynedd wedi methu cael gan neb ei gredu fod hyn yn bosibl, neu o'r hyn lleiaf ni ddarfu i neb ddilyn ei esiampl. Amlwg felly, os ydym am gael newid ein cyfenwau, fod yn rhaid i ni wrth gynllun newydd mwy cyffredinol er cario hyn allan yn effenhiol. A'r un sydd yn cynyg ei hun i feddwl John Jones ydyw, fod i'n cymdeithasau cenedlaethol a Chymru Fydd gymeryd y mater mewn Haw yn ddioed ar ddechreu tymhor y gauaf, a bod i bwyllgor pob cymdeithas apwyntio personau neillduol i drefnu ac i gyfarfod eu gilydd mewn rhyw fan canolog i dynu allan gynllun, y cyfryw gynllun i'w anfon i Syr G. O. Morgan, llywydd ein haelodau seneddol Cymreig, yr hwn a'i dygai o flaen ei gydaelodau fel y tynont allan fesur syml pwrpasol i'w gyflwyno i'r Senedd ddechreu y tymhor nesaf, a chredwyf y gellid ei basio yn bur rhwydd gan y Llywodraeth bresenol. Cai pawb ddewiso wed'yn newid ei gyf- enw "heb gostio dimeu gcch." Fe agorai pasio y mesur waith gwir genedlaethol i'n cymdeithasau i drefnu cario allan yn gyffredinol trwy yr holl wlad newidiad ein cyfenwau. JOHN J. CYNWYD.

[No title]