Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Liang Cymreig wedi ei Cholli.…

: o : Bartidoniaeth,

News
Cite
Share

o Bartidoniaeth, HEN DY IOAN MEUDW Y. HEN dy lIe ganwyd loan Meudwy; mae wedi myn'd allan o drefn yn fwy nag un fan; a gafwyd yma'n gyfan. TALIESIN 0 EIFION. PRE- WRTHO'I HUN AR BEN BRYN. DACW bren ar ben y banc, -gwyrdd, ddeiliog, Ar ddelw un ieuane; Yn edrych heddyw'n ddidranc, Wrtho'i hun, ar lun hen lane. C'oedpoeth. PENRHYN F ARDD. Y MUD. ANAFUS fab tangnefedd,—ac arwr Cywrain iaith y bysedd; Gwron hygar unigedd, Ac ar ei bwnc cywair bedd. GEINYDD. MEBYD. LIE sang y gwanwyn tyner Yn ysgafn yn y coed, Lie gwena'r mill a'r lili Yn swynol wrth ei droed Lie clywir sii yr awel Fel sibrwd angel cu, Yn cludo seiniau'r Gwynfyd Ah dyna randir Mebyd— Paradwys dyddiau fu. Mae glesni'r nen yn sanctaidd, A glan yw trem y wawr, Nid oes ond cymyl gwynion Ar fron y nef yn awr, Diiialog yw y boreu. Heb arno gysgod du, Ni faidd y pell Ddyfodol Roi'i droed ar lanerch ddwyfol, Wynfydol Mebyd cu. 0 sancteiddiolaf Febyd, Wyt dlws fel llwybrau'r nef [ Mae'r dymhestl ar dy ffiniau Yn dal ei hanadl gref; Arafa'r gwynt rhag plygu Dy flodau glan eu pryd, Sy'n gwenu ar yr heulwen Fel blodau sanctaidd Eden Ar fore cynta'r byd. 0 lanerch bollf wrth rodio Ar hyd dy Iwybrau cain, Fe gasglem fel o'th flodau r Heb deimlo min eu drain Ein bywyd oedd yn dawel Fel gwyneb hafaidd llyn, Ni ddeuai acen leddfol I dori'r hedd breuddwydiol A gylchai'n Mebyd gwyn. O'n cwmpas bu Llwaenydd Yn chwareu'i delyn fwyn, Yn ysgafn fel yr awel Wrth gyffwrdd tanau'r llwyn Yn swn y gerdd, ein Gobaith A hedai draw yn mhell, Gan lunio y Dyfodol Mor llawn o Wynfyd hudol A bro Paradwys Well. Y Gwanwyn lion ddiflanodd, Y boreu ddaeth i ben, Cysgodion Amser heddyw Sy'n duo'r hafaidd nen Nid oes ond Adgof dyner, 1 Fel heulwen yn y glyn, Neu seren wen y cyfnos, Yn dal o hyd i aros Am ddyddiau Mebyd gwyn. Lcrpwl. 0. CAERWYN ROBERTS. DEIGRYN HIRAETH. M- ol fy anwyl chwaer MARTHA, yr hon a fufarw Me- licfin 3, 1894, yn 26 mlwydd oed, ac a glciddivyd yn mynwent Llcmfihangel Glyn Myfyr, Mch. 6. BETH ydyw'r fath gyffro, a'r trwm ocheneidio, A chymaint yn wylo ar aelwyd fy nhad ? Ow ow fy chwaer Martha orphenodd ei gyrfa, Gan adael Ilu yma o'i hoi mewn pruddhad 'Roedd angau'n carlamu ei farch tua'r Hetty, Gan gywir anelu i'w chalon ei saeth, O'r bwthyn lle'i ganwyd ei henaid a gipiwyd, A'i chorph a gymhwyswyd i feddrod du, caeth. Pan oedd yn safn angau, sibrydai i'n clustiau, Yn wanaidd, ryw eiriau yn ymchwydd y don— 'Rwyf fi 'nawr fy hunan, ar ol fy hoff faban, Yn myn'd i'r nef wiwlan i ganu yn lion." Ar fin tragwvddolfyd, rhwng terfyn dau fywyd, Cyn myned i wynfyd tragwyddol i fyw, Pa eiriau mwy melus, mwy llawn o'r cysurus, All lithro dros wefus un Cristion i'n clyw ? Gan ddofn siomedigaeth, a llem brofedigaeth, i, Myn hallt ddeigryn hiraeth gael gwlyehu fy ngrudd; Fy meddwl crwydredig sy'n gwibio'n anniddig, A'm calon glwyfedig yn hynod o brudd Er dyfned y rhwygiad a roddwyd i'r teimlad, At Dad yr amddifad dyrchafwn ein llef: Gall ef droi y loesion i'r teuiu'n fendithion, A'u gwneud oil yn ffyddlon hoff blant iddo.Ef. Yr Alwen furmura wrth basio'u gorweddfa, A'r gwynt a chwibana rhwng cangau yr yw; Cyhoeddant yn eglur fod llu yn ddiystyr, Yn myned yn brysur o dir y rhai byw. 0 Dduw boed i ninau oil barchu dy ddeddfau, A dilyn dy Iwybrau cyn myned i'r glyn, A dwg ni i garu dy anwyl Fab Iesu, Fu farw i'n prynu ar Galfari fryn. ROBERT WILLIAMS, ei brawd. T y'nrhyd, Ceryg-y-druidion.

ICynghor Sir Ddinbyoh.

Y Ganlyniaclau.

1_o Cohebiaethau.

[No title]