Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

CWRS Y BYD.

|Dyffryn Clwyd

-:0:-Ffestiniog a'r Amgylchoedd.

[No title]

Cyfrifiad Cymru.

News
Cite
Share

Cyfrifiad Cymru. YR AELODAU CYMREIG A'R COIRESTRYDD CYFFREDINOL. YN Nhy'r Cyffredin, nos Lun, Mr Lloyd George a alwodd sylw at adroddiad diweddaf y Cofrestrydd Cyffredinol o'r Cyfrifiad yn eiberthynas a Chymru. Allan o boblogaeth 0 filiwn a haner, dangosai'r adroddiad fod 508,000 yn siarad Cymraeg. Darfu i'r Cofrestrydd Cyffrediuoi wneud y sylw fod v cyfarwyddyd yn amIwg ddigon, ond er hyny yr oedd eyflawnder o dystiolaethau wedi eu derbyn yn y Swyddfa fod y cyfryw gyfarwyddyd ¡ wedi ei mddeall neu ei esgeuluso gan nifer luos" g o Gymry allent siarad dwy iaith ac fod y gair Cymraeg wedi ei ddychwelyd yn ami ar y tir mai dyna yr iaith fwyaf arfe ol a dewisol ganddynt. D.tliai ef (Mr George) nad oedd un dangosiad o gwbl or" oyflaw nder o dystiolaethau hyn. Dy- wedai'r Cofrestrydd. Cyiiredinol hefyd nas geliid dibynu ar y dychweliadau (teturns) hyn fod cryn anmheuaeth yn nglyn a'u cywirdeb, ac nas geSlid rhoddi unrhyw bwys arnynt gyda golwg ar yr iaith a siaredid. Meddyliai hyn, un ai nad oedd y bobl yn deall y dychweliadau a'r cyfarwyddiadau a roddid gyda hwy, neu fod y 900,000 wedi gweith- redu yn dwyliodrus wrth wneud y dychweliadau hyny o berthynas i'r iaith. a siaredid yn feuuyddiol ganddynt Yr oedd hyn yn ensyniad difrifol yn erbyn cyfangorph o bobl; ac yr oedd yn cael ei II wneud ar draul y Llywodraeth a dalai am gy- hoeddi yr adroddiad. Dywedwyd fod rhai penau teuluocdd wedi dychwelyd eu plant fel yn siarad yr iaith Gymraeg, er nad oeddynt ond dwy flwydd oe 1 ac oherwydd fod dau ashos felly wedi eu darganfod, daeth y Cofrestr. dd Cyffredinol i'r pen- derfyniad fod yr holl ddychweliadau yn ffug, Yr oedd wedi gwneud y prawf mewn ardaloedd lie siaredid Cymraeg; ond ymddengys na wnaeth brawfion cyffelyb mewn rhanau o'r wlad lie y siaredid Saesneg amlaf. Fel mater 0 ffaith, ateb- odd y Cofrestrydd Cyffredinol ei sylwadau ei bun yn gyflawn, oblegyd dywedodd fod plant dwy flwydd oed-baba,nod-wedi eu cau allan o'r dy- chweliadiu lie y cymerid iaith i mewn eto i gyd, gwnaeth y sylw cryf y cwynai ef (Mr George) o'i b'egyd. Mater pwysig i'r aelodau Cymreig oedd hyn, oblegyd yr oeddynt er's blynyddau yn gwasgu ar Seneddau mewn awdurdod yr angenrheidrwydd o benodi swyddogion yn galla siarad Cymraeg i'r Dywysogaeth, y rhai allent wrandaw cwynion y bobl yn eu hiaith eu hunain. Ond ar ol adroddiad y Cofrestrydd Cyffredinol, yr oedd y cyfrifon a ddychwelwyd yn gwbl anfuddiol o berthynas i nifer y rhai a siaradent Gymraeg. Gwelid oddi- wrthynt fod 500,000 o bobl na ddeallent air o Saes- neg. Brawychai y clerigwyr wrth weled fod hyn yn dylanwadu ar safle eu Heglwys. Danfonid cylehlythyrau gan yr Esgobion a gwasaniethai y clerigwyr fel math o gudd-swyddogion i edrych sut y llenwid tafien y cyfrifiad mewn ardaloedd lie y siaredid Cymraeg, a darganfyddwyd un neu ddau o achosion anmheus. Danfonodd yr esgobion hysbys- rwydd i'r Cof: est ydd Cyffredinol, a chorphorodd y swyddeg hwnw yn ei adroddiad—yr hwn ymdden- gys yi-i awr yn y Llyfr Glas (Blue Book)- dystiol- nebhAU anmheus a gasglwyd gan nifer o glerigwyr at amcanion gwieidyddol. Paham na ddoed a'r t; stioiaethau yn mlaen fel y gallai Ty'r Cyffredin wneud ymchwiiiad iddynt medda'r Ty fwy o gymhwysder i hyny na'r Cofrestrydd Cyffrediuoi. Yr oedd yn eglur oddiwrth don gyffredinol yr ad- roddiad fod y Cofrestrydd wedi cymeryd gwedd gyfeiliornus ar y cwestiwn. Pan wrthwynebwyd ei syniadau, aetb yn hynod gyffrous, ie'n ffyrnig ac yn lie gwneud ymchwiliad diduedd i'r mater acth yn ochelgar i brofi fod y Cymry oil yn gel [ wyddwyr. Mewn rhai ardaloedd lie siaredid Cym raeg, nid oedd cyflenwad digonol o'r tafleni Cym- raeg. Gallai roddi enwau y lleoedd hyny i'r Cofrestrydd. Mewn un man, lie nad oedd ond rhyw haner dwsin yn siarad Saesneg, ni ddanfon- wyd ond rhyw dair neu bedair taflen w'edi eu har- graphu yn Gymraeg, ac eto wele'r Cofrestrydd yn cyhuddo'r Cymru o dori llythyren ei gyfarwydd- iadau. Yr oedd ganddo ei hun i'w feio am y syniad gwirion oedd yn ei ben nad oedd ond ychydig ardaloedd lie y siaradai'r bobl eu hiaith eu hunain, ac wrth weithredu ar y syniad hwnw yr oedd wedi danfon nifer annigonol o'r tafleni Cym- raeg a phan ddarganfyddodd nad oedd y bobl yn deall y tafleni Saesneg, wele ef yn cyhoeddi Llyfr Glas yn cynwys adroddiad na ddeallent y cyfar- wyddiadau Cymraeg, neu eu bod yn dweyd cel- wyddau. A oedd yn barod i gyfiawnhau y casgliad a wneid o adroddiad y Llyfr Glas, yr hwn oedd wedi ei sylfaenu ar awgrymiadau Esgob Llanelwy a phleidwyr gwleidyddol eraill? Nid oedd sail o gwbl i'r cyfryw gasgliad cyfeiliornus Gwariwyd cryn amser a llafur ar gwestiynau fel,a oedd mwy o fenywod nac o wrywod yn y Deyrnas Gyfunol; ond ni ddygid adroddiad o gwbl ar leihad y bobl- cgaeth mewn ardaloedd amaethyddol; ar orchwyl- ion y bobl mewn gwahanol ranau o'r wlad; ar y cwestiwn o or-boblogi a chwestiynau eraill o bwysigrwydd bywydol pan ddeuid i ymdrin mater- ion cymdeithasol yn dal perthynas a Lloegr a Chymru. Ymddengys fod y boneddwr wedi eis- tedd ac ysgrifenu rhywbeth mewn brys ag oedd yn abl i'w grynhoi; ond nid oedd wedi rhoddi iddynt ddim o natur ffeithiau, wedi eu casglu yn ofalus, ag oedd o bwysigrwydd eu cael. Mater arall a ddy- munai adolygu ydoedd hyn—Yr oedd y Cyfrifiad Ysgotaidd a Gwyddelig ar wahan, ond nid oedd y cyfrifiad Cymreig felly. Tybiai mewn achos o'r fath y dylai y Dywysogaeth gael dychweliad ar wahan, mewn iaith yn ogystal a materion eraill. Mr Shaw Lefevre a ddywedai nad oedd yr aelod anrhydeddus i'w gyfiawnhau wrth ddweyd fod y Cofrestrydd Cyffredinol yn cyhuddo y Cymry o ddweyd celwyddau neu o wneud dychweliadau twyllodrus. Yr hyn a gasglai ef oddiwrth yr ad- roddiad oedd fod y Cofrestrydd Cyffredinol yn gweled fod nifer o Gymry, gan faint eu brwdfryd- edd, wedi camddeall iaith y dychweliad, ac yn tu- eddu braidd i luosogi nifer y personaa a siaradent Gymraeg. Mr Lloyd George: Beth feddylia hyny ond gwneud dychweliad twyllodrus ? Mr Shaw Lefevre a atebodd nad oedd yn meddwl ei fod yn dyfod i hyny. Yr oedd o'r farn nad oedd yr adroddiad yn cyfiawnhau yr honiad fod y Cofrestrydd Cyffredinol yn cyhuddo y Cymry o fwriad gwirfoddol i wneud dychweliadau twyll- odrus. Syr F. Powell a dybiai nas gallai neb ddarllen adroddiad y cyfrifiad heb deimlo fod rhai o'r rhieni Cymreig braidd yn brophwydol gyda golwg ar yr iaith a siiradai y plant pan dyfont i fynu. Codai i gondemnio yn y modd cryfaf yr iaith arferodd Mr Lloyd George o berthynas i g'erigwyr neillduol yn Nghymru. Deallodd fod yr aelod anrhydeddus wedi cyhuddo y clerigwyr hyny o geisio camarwain I wyddogion, ac yn mhellach yn cyhuddo y Cof- restrydd Cyffrediuoi o gytneryd ei gamirwain gaa ohebiaeth gymerodd le rhyngddo ;5g esgobioa a chlerigwyr Cymru. Yr oedd hyn yn gyhuddiad difiifol i'w ddwyn yn erbyn clerigwyr neu weini- dogion unrhyw enwad. I gyhnddo clerigwyr Cymru -ac yn neillduol y fath glerigwr ag Esgob Llan- elwy-o wneud yn fwriadol ddychweliad twyll- odrns-- Mr Lloyd George a wadodd iddo wneud y fath gyhuddiad. Syr F. Powell: Os yw y cyhuddiad yn cael ei dynu yn ol, nid oes genyf ragor i'w ddweyd ar y pwynt yna. Mr Lloyd George: Ni thynais yn ol y cyhudd- iad, oblegyd ni wnaethum UN, Syr F. Powell a ddywedai ei fod yn methu gwel'd sut y gal!ai unrhyw foneddwr yn byw yn Nghymru ac yn gwybod y ffeithiau, wneud sylwad. au i gamarwain y Swyddfa heb fod yn euog o ym. ddygiad a haeddai yr annghy,r;eradwyaeth mwyaf. Mr Lloyd George Ond nid ydynt yn gwybod y ffeithiau. Syr F. Powell a ddaliai y dylent wybod y ffeith- iau gan eu bod yn byw yn y lie a chyda dirmyg y gwrthodai y syniad y buasai'r clerigwyr yn ceisio cunarwain swyddog cyhoeddus. 0 berthynas i Esgob Llanelwy, gan siarad fel cyfaill iddo, dad- ganai nad oedd boneddwr yn Nghymru oedd yn burach Cymro, neu yn fwy gwir ei gydyrndeimkd gyda Chymru nag ef ac er ei fod yn gwahaniaethu llawer oddiwrth y boneddwyr anrhydeddus yn yr Wrthblaid yr oeid gymaint boneddwr a'r un ohonynt. Mr Frank Edwards a ofnai nas gallai gytuno a'r aelod gwir anrhydeddus (Mr Shaw-Lefevre) yn ei syniad nad oedd y Cofrestrydd Cyffredinol yn priodoli amcanion. Ymddangosai oddiwrth yr holl adroddiad fel pe byddai bwriad gwirfoddol i leihau rhif y rhai a siaradent Gymraeg yn Nghymru. Dadganodd fod rhieni, nid yn unig wedi dychwelyd eu hunain fel yn siarad Cymraeg, ond hefyd b!ant ychydig ddyddiau oed. Nid oedd yn meddwl fod hyny yn beth difrifol iawn i Gymro wneud. Yr oedd y Cofrestrydd yn camsynied yn fawr gyda golwg ar allu plant Cymreig i siarad Saesneg wedi iddynt ddysgu yr iaith hono yn yr ysgol. Rhaid cofio mai yn nghartref y plant yr oedd yr iaith Gymraeg—dyna iaith yr aelwyd. Ni siaradai plant Cymru ond un iaith-y Gymraeg-heblaw yr ychydig Saesneg ddysgasant yn yr ysgol. Gellid gwneud yr adroddiad i dda! i fynu hawliau y Sefydliad Eglwysig. Nid oedd yn meddwl fod y Cofrestrydd Cyffredinol yn gymhwys iawn i wneud y cyfryw adroddiad. Unai yntau gyda'i gyfaill anrhydeddus i brotestio yn erbyn yr adroddiad a gobeithiai na chaniateid i'r adroddiad sefyll fel casgliad o ffeithiau, ond y gwneid rhywbeth i'w wella a gosod allan y ffeithiau gwirioueddol. Mr Herbert Lewis, oddiar wybodaeth bersonol, a ddygodd dystiolaeth i'r anhawsderau i wneud dy- chweliadau adeg y cyfrifiad. Yr oedd ei gymyd- ogion mewn anhawsder, a daethant ato ef am gyn- orthwy i lanw y cyfrif-leni, gan ddweyd na ddeallent beth oedd y papyrau dda, ac na ranwyd papyrau Cymraeg iddynt. Gellid dweyd yr un peth am Gymru yn gyffredinol. Yr oedd vr aelod. au Cymreig yn hyderus o un peth, sef fod y Swyddfa dros ba un yr arolygii y Cofrestrydd Cyffredinol, wedi gwaeud camwri dybryd gyda threfniadau cyfrifiad 1891. I ddangos hyn, dy- wedai fod ardal gyda phoblogaeth o 10,000 yn siarad Cymraeg heb gael ond 200 o bapyrau Cym- raeg. Anmharchwyd pobl Cymru drwy adroddiad y Cofrestrydd Cyffredinol. Mr Humphreys Owen a gadarnhaodd yr hyn a ddywedwyd o berthynas i deimlad Cymru yn ludyn a'r adroddiad. ° Mr Lloyd George a ofidiai nas gallai y boneddwr anrhydeddus (Mr Shaw-Leferve) roddi atebiad mwy boddhaol i'r cwestiwn godwyd, oblegyd byddai yn angenrheidiol arno wasgu y mater yn mhellach eto. Dymunol i'r aelodau fyddai gwybod yn mha le y mae y eyflawnder o dystiolaethau" y cyfeiriwyd atynt gan y Cofrestrydd Cyffredinol, i'w cael; a chan na allai y boneddwr anrhyd((II; 3 roddi y wybodaeth, onid gwell fyddai sefydlu math o ym- chwiliad swyddfaol ? Mr Shaw-Leferve a gredai nas gellid disgwyl iddo gyfarwyddo ymchwiliad gan berson annibynol, ond gwnai ymchwiliad ei hun, a byddai yn barod i wneud adroddiad mewn amser dyfodol. Gwnai ymchwiliad arbenig, a chai yr aelod anrhydeddus wybod y canlyniad yn ddirgel neu gyhoedd. Ni ellid ystyried fod y Cofrestrydd Cyffredinol wedi dweyd fod y Cymry yn fwriadol wedi gwneud dy- chweliadau twyllodrus. Mr Herbert Lewis a ddywedai nas gallai yn bosibl dderbyn cynygiad yr aelod anrhydeddus fel yn ddigonol, oblegyd cai ei wybodaeth yn union o'r man y cafwyd y casgliad i wneud yr adroddiad annghyffredin y cwynid o' blegyd, Mr Humphreys-Owen a ddadganai ei anmhar- odrwydd i wrthwynebu y Llywodraeth ar ymraniad hyd yn nod fel protest cyffredin ond yr oedd yn rhaid iddo uno gyda'i gyfeillion anrhydeddus yn y cwrs hwnw os na wnai y boneddwr anrhydeddus addewid pellach o ymchwiliad ac adroddiad swydd- ogol yn rhydd oddiwrth ragfarn yr adroddiad fu dan sylw a'r colynau gynwysid ynddo. Mr George a ofynodd a fyddai y boneddwr an. rhydedddus yn barod i wneud mynegiad pa un a fwriadai y Cofrestrydd Cyffredinol ei ymosodiad ai peidio. Yr oedd y Cymry yn hollol barod i am. ddiffyn eu hunain yn ngwyneb y cyfryw ensyniad- au. Y pwynt pwysig oedd a ellid dibynu ar y dy- chweliad Seneddol. Os tynai y Cofrestrydd ei ensyniadau yn ol, ni wnai hyny unrhyw wahan- iaeth i'r cwestiwn arall. Yr oedd arnynt eisiau adroddiad ar ba un y gallai'r Senedd ddibynu- adroddiad ellid ddyfynu yn ngweithrediadau dy- fodol y Ty. Mr Shaw-Lefevre a ddywedai y byddai yn barod i roi mynegiad pellach ar gwrs yr adroddiad," ond nis gallai ddweyd a fyddai yn alluog i roi'r sicrwydd a ddymunid. Gwnai ei oreu i gael adroddiad, a hyderai y byddai yn foddhaol. Tynwyd y gwelliant yn ol drwy ganiatad, a chytunwyd a'r bleidlais.

[No title]