Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Y CYMRAEC YN Y SENEDD.

News
Cite
Share

Y CYMRAEC YN Y SENEDD. Nos Lun, treuliwyd awr fuddiol yn Nhy y Cyffredin gan adran o'r Aelodau Cymreig gyda'r gorchwyl o dynu y Cofrestrydd Cyff- redinol ar draws y drybedd, oblegyd y dull carbwl, a defnyddio gair tyner, y trefnodd efe Gyfrifiad y Bobl yn Nghymru. Byddai yn ormod disgwyl y par y rhostiaw a gaf- odd boneddwr mor anffaeledig a swyddog mor ffroenuchel ond ychydig leshad iddo. Fel y dywedwyd yn y ddadl nos Lun, penderfynodd y Senedd roddi colofn yn mhapyrau Cyfrifiad Cymru yn dweyd pa iaith a leferid ac yr oedd papyrau hefyd yn Nghymraeg i gael eu rhanu. Anmherffaith iawn y cyflawnwyd y gor- chymyn olaf gan y Cofrestrydd Cyffredinol a'i weision yn Llundain mor anmherffaith fel y cawsent rybudd byr i ymadael pe buasent wedi ymddwyn mor anufudd neu fongleraidd yn ngwasanaeth unrhyw feistr ond y Llywodraeth. Gyru rhyw dusw bychan o ddwsin neu ddau ar gyfer ardal- oedd poblogaidd cwbl Gymreig Y bobl mewn canoedd o dai yn methu deall y cwestiynau, a hyny yn naturiol yn arwain i atebion annghywir. Yna swyddogion lordaidd Llundain yn troi yn w9r ystwrdi gan gyhuddo'r Cymry o anudoniaeth, ac yn ddigon haerllug i awgrymu hyny yn y Llyfr Glas a gyhoeddwyd ar draul y wlad- wriaeth. Amcan Mr. Lloyd George yn ei gynyg- iad ydoedd cael gan y Llywodraeth gyhoeddi attodiad i'r Llyfr Glas hwn, yn galw yn ol yr ensyniadau bryntion sydd ynddo ar gymeriad y genedl a bygythiai, yn niffyg derbyn addewid i'r perwyl, y rhanai y Ty. Yn lied gyndyn, ond yn bur foneddigaidd, addawodd Mr. Shaw Lefevre, Llywydd Bwrdd Masnach, ddigon mewn ffordd o ymchwiliad, i foddloni'r Aelodau Cymreig, a gohiriwyd yr achos. Yn ei araith, gofyna'r Aelod tros Fwr- deisdrefi Arfon os oedd Mr Lefevre am gyfiawnhau y casgliadau oedd yn y Llyfr Glas, wedi eu hawgrymu gan Esgob Llan- elwy a phleidwyr polic icaidd eraill ? Nid oedd y casgliadau yn seiliedig ar un math o dystiolaeth.. Ac ebe Mr Frank Edwards, gwneid defnydd o'r adroddiad i bropio yr Eglwys Sefydledig ifynu ac awgrymodd Mr Herbert Lewis eiriau i'r un perwyl. A ddichon rhywun sydd wedi gwylio y sym- udiadau wadu y cyhuddiad ? Y casgliad an- wrthwynebol oddiwrth hyn, ac ymddygiad- au eraill yr Eglwyswyr milwriaethus, ydyw mai'r estroniaidSeisnig sy'n bvw j, nNghym- ru, a'r trueiniaid Cymreig hyny sydd wedi colli neu yn gwadu eu hiaith, a gynwysant nerth yr Eglwys yn Nghymru. Nid ydynt byth yn colli cyfle i roi ergyd i nod- weddion cenedlaethol y bobl, a'u casbeth penaf ydyw'r iaith Gymraeg. Dyma'r polisi a ddilynwyd gan awdurdodau yr Eglwys er's oesoedd, a pha ryfedd fod yr Eglwys Sefydledig yn wanach a thruenus- ach ei gwedd yn Nghymru nag yn un rhan o Ynys Prydain ? Pe na wnaethai y ddadl nos Lun ddim ond cystwyo a bygwth atal cyflog gweinidog anufudd i orchymyn ei feistriad, a thynu ychydig o'r gorchudd sydd ar lygaid y Saeson parth yr ystrywiau a ddefnyddir i'n hatal i gael ein hiawnderau, buasai wedi ateb dyben da. Ond gwnaeth un gymwynas fechan arall Dadguddiodd ddadleuydd pybyr newydd yn ein herbyn, neb llai na'r barwnig Gwyddelig" Syr F. y n Powell, yr A S. tros Wigars. Nid oes yn Nhy'r Cyffredin aelod a wrthodwyd mewn cynifer o etholiadau. Amddiffyn clerigwyr ac esgobion Cymru rhag enllib Mr Lloyd George ydoedd ei amcan, a derbyniwyd ei sylwadau gan yr hyn a eilw un papyr Seisnig yn Welsh laughter." Yr hyn a gynhyrfodd fwyaf ar beirianau chwerthin y Cymry oedd yn gwrando ydoedd yr ym- adroddion a ganlyn o eiddo'r barwnig As regarded the Bishop of St. Asaph, speaking as a friend of his, he declared there was no gentleman in Wales who was a more thorough Welshman, or wets more ardently in touch with Wales than he was. Byddai yn hawdd gwneud pregeth o dri chwarter awr ar eiriau yr hen farwnig ffyddiog, gan drin y testyn yn ol yr hen ddull Yn iaf, yn nacaol ac yn 2il (os bydd amser ac amgylchiadau yn caniatau), yn gadarnhaol. Ond yn ddigelhvair, bendith fo ar ben y ddadl nos Lun, nid yn unig am amddiffyn hawliau Cymru rhag gormes haerllug swyddogaeth Llundain, ond hefyd am ddat- guddio'r ffaith fod Syr F. Powell, y mynych orchfygedig A.S. dros Wigan dywyll, yn ein herbyn.

-0---CREFYDD LLYCAD Y CEINIOC.

[No title]