Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
CYFRES Y CEINION.-Swllt yr un. Cyhoeddedig yn Swyddfa'r Cymro.' 14. -11 Christmasia," gan DAVID OWEN (Brut us, "Bywgraffiad campus o'r enwog CHRISTMAS EVANS an ysgrifenydd doniol a'i hadwaenai yn dda." 15.-J. Ceiriog Hughes: Ei Fywyd, ei Athry- lith, a'i Waith. (Gyda Darlun cywir ohono, ao o Benybry a, Dyffryn Ceiriog, lie ganwyd ef). Gan y ^JTRBRYE. 16.—Yr Oriau Olaf: gan JOHN CEIRIOG HUGHES, sef Caneuon, Rhiangerddi, &c., na chy- hoeddwyd oCr b.aen, ac wedi eu cymeryd o law- ysgrifau y Bardd Y DDAU LYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 2s. 6ch. 1 8.—Llythyrau Goronwy Owen. Wedi eu manwl gydmaru a. choplau mewn ysgrif, yn nghyda rhai llythyrau nad oeddynt mewn casgliadau blaen. orol, ac ychydig eraill wedi eu cymeryd o ysgrif lyfrau. Yn y wasg. CWMNI YSWIRIOL BYWYD A DAMWAIN Y SCOTTISH TEMPERANCE. Y CWMNI CYNTAF A OSTYNGODD Y TALIADAU BLYNYDDOL I DDIRWESTWYR. YSWIREBAU POBLOGAIDD 0 BOB MATH. PRIF NODWEDDION Y CWMNI 1. YSWIREBAU POBLOGAIDD o bob math, yn cyfarfod ag angenion presenol yr amseroedd, am DALIADAU ISEL. Engraipht :-Y Taliad Blyn- yddol Cyffredin dros yr holl fywyd, dan yr oedran 30, am l,000p, ydyw 24p. 8s. 3c. Yn y SCOTTISH TEMPERANCE galHLlwyrymwrthodwr gael dros 1,300p am yr un taliad, ac elw gohiriedig heblaw h>2nyCanghen i LWYRYMWRTHODWYR, am Daliadau llai, heblaw Elw (Bonus) Cyfnodol—yn sicrhau iddynt felly Bonus deublyg. 3. YSWIREBAU CYFUNOL ac ARBENIG, yn cyfuno buddiannau Bywyd a Damwain Yswi riant mewn un Yswireb, am daliadau isel iawn. CANGHEN DAMWAIN.—10 y cant yn ol i LWYBYMWRTHODWYR. Prospectus i'w gael ar ymofyniad. AGENTS YN EISIAU. Resident Secretary, W. GRIFFITH, 36, Dale Street, Liverpool.
Nodion o Fon ac Arfon.
Nodion o Fon ac Arfon. Nos Lim. COR MERCHED Y DE. Nos Sadwrn, bu y cor enwog a enillodd y wobr yn Eisteddfod Fawr y Byd yn Chicago y flwyddyn ddiweddaf, o dan arweiniad Madame Novello Davies, yn gwasanaethu yn y Pafilion, Caernarfon, am yr ail waith. Cawsant gynulleidfa ardderchog i wrandaw arnynt, fel y tro cynt. Bu y cor swyn- ol hwn hefyd, yn ystod yr wythnos, yn swyno trigolion Mon-yn Llangefni nos Iau, a Chaergybi nos Wener. Cawsant dderbyniad calonog yn y ddau le. BE' SY'N TYNU'R BOBL? Cynelir bob nos Sabboth o'r bron, yn Nghaer- narfon,^ gyfarfodydd dirwestol yn y gwahanol gapelau ar eu tro. Fel rheol, ychydig, mewn cydmariaeth i boblogaeth y dref, sydd yn myn- ychu y cyfarfodydd hyn, a gwneir y gynulleidfa i fynu, nid gan ddynion fydd yn arfer potio," ond dirwestwyr selog. Ond neithiwr, yn nghapel Engedi, cynaliwyd cyfarfod neillduol ar ol y bre- geth. Yr oedd y gair wadi myed allan fod dwy o'r merched ieuain<Poe«ld yn perthyn i Gor y Merched yn myned i ganii yn y cyfarfod dirwest. Erbyn haner awr wedi wyth yr oedd y capel dan ei sang, i fynu ac i lawr. Pe buasai pob un wedi talu swllt am fyned i mewn, buasai haner can punt wedi cael ei godi at ryw achos da neu gilydd. Etholwyd yr Henadur John Davies (Gwyneddon) i'r gadair. Cododd yntau, ac edrychodd o'i amgylch yn dra synedig, wrth weled y fath gynulleidfa wedi dyfod i'r cyfarfod dirwest, ac meddai, Be sydd wedi dyfod a chwi yma heno ? Nid fel hyn y bydd hi yn nghyfarfodydd dirwestol nos Sab- both." Ond nid oedd neb yn gwybod yn well na Gwyneddon mai y merched ieuainc o'r De oedd wedi tynu y bobl, ac nid crefydd na dirwest. Wel, y cwestiwn ydyw hwn, Ai oni ellir gwneud y gwasanaeth crefyddol yn ein capeli yn fwy swyn- ol ? Pregethau llai hirion a llai sychion. Mwy o ganu, a llai o athrawiaethu. Mewn cynulleidfa o bum cant o bobl, nid oes cant ohonynt, fel rheol, yn deall fawr o ddim a draethir, a gofynwch i haner y cant hyny foreu Llun am dipyn o'r bregeth," dyden nhw yn cofio dim. Y mae eithr- iadau—oes, a diolch am hyny. CYNGHERDDAU SABBOTHOL. Fel y dywedais yn fy nodion wythnos i heddyw, un o bynciau Cyfarfod Misol Disgwylfa, ddydd Llun, oedd cyngherddau ar y Sabboth ond di- weddodd yr oil fel y mynydd mewn gwewyr, oblegid ni ddaeth allan ond "llygoden." DEGWM CIL DWRN. Dyna yr hen enw am gyflog pregethwr am ei waith Sabbothol, Mae enw mwy Methodistaidd a respectable arno yn awr, fel y dywedodd agorydd y pwnc, Gwyneddon. Cynygiai rhai fod pwnc yr ymdrafodaeth Cydnabyddiaeth Sabbothol," i gael ei daflu i bwyllgor o'r blaenoriaid; ond cynygiai arall fed y mater i gael ei roddi i ystyriaeth y frawdoliaeth, yn cael eu gwneud i fynu o'r 11 pre. gethwyr a'r blaenoriaid." Wel, yn awr, Mr Gol., a ydyw hyn yn deg? Fel rheol, edrychir ar bwyllgor o'r blaenoriaid mewn cymanfa lei Ty y Cyffredin i drin arian a phethau angenrheidiol, tra yr edrychir ar bwyllgor o'r pregethwyr fel Ty yr Arglwyddi, yn mha un y cymer y "Lord's spiritual gryn ddyddordeb, ac, fel rheol, hwynt- hwy, sef y "Lord's spiritual," fydd yn halpu i daflu allan fesurau a basir gan y Ty Isaf. Efallai y cawn glywed cyn hir iawn rywbeth eto yn nghylch y "Gydnabyddiaeth Sabbothol;" ond slow worlc ydyw peirianwaith y pwyllgorau. MR. LLOYD GEORGE. Fe ddywedir nad oes gronyn o sail i'r si fod Mr Lloyd George, yr aelod gweithgar dros fwrdeisdrefi Arfon, yn bwriadu troi ei gefn ar y bwrdeisdrefi yr etholiad nesaf. Efallai fod gwaith yr aelod an- rhydeddus yn cymeryd cwrs annibynol rai misoedd yn 01, wedi ymddieithrio rhai o'r hen wleidyddwyr, ond y mae y veterans hyny yn Rhyddfrydwyr rhy bybyr i gymeryd dim camrau a beryglai y sedd ac iddi fyned i ddwylaw y Toriaid. Ar hyn o bryd, nid oes ymgeisydd Toriaidd ar y maes, ond nid oes dim mor sicr na chaniata y Toriaid i Mr Lloyd George, na'r un Rhyddfrydwr arall, gael walk over. Os ydyw y sedd i gael ei chadw yn meddiant y Rhyddfrydwyr, fe goeliaf mai Mr Lloyd George vdyw y gwr i wneud hyny. Y mae ei lygaid yn agored bob amser ar bobpeth sydd yn llesiant i'r gynrychiolaech, ac mae yn barod i godi ei lef yn y Senedd yn erbyn dim annghyfiawnder, fel y gwelir oddiwrth ei waith yn siarad nos Sadwrn diweddaf, mewn perthynas i hawl pobl Criccieth i gyrchu tywod at wasanaeth adeiladu o draeth yr hen fwr- deisdref. MYN'D I'R MERICA. Sylwais yn fy nodion, wythnos i heddyw, fod y cyfaill Gwyneddon yn bwriadu ymweled a'r Amerig. Cychwyna o Lerpwl ddydd Sadwrn nesaf gyda'r agerlong ardderchog berthynol i'r Cunard Line, y Lucania. Ni raid dweyd wrth bobl Lerpwl, na Chymru chwaith, o ran hyny, mai chwaer-!ong i'r Gampania ydyw'r Lucania-y ddwy long fwyaf adeiladwyd at drafnidiaeth i'r Amerig, oddigerth yr hen Great Eastern, yr hon sydd wedi difianu oddiar wyneb y moroedd. Y Great Eastern oedd y peth cyntaf y clywsom son am dano erioed oedd yn "rhy fawr" i fod o was- anaeth masnachol-" rhy fach ydyw hi fel rheol efo pobpeth. Eiddunaf gyda Ilawer eraill God speed i'n cyfaill llengar o Gaernarfon, a chroesaw iado yn ngwlad fawr y Gorllewin. BUDDUG DYWYSOGES. Dyma'r enw, mae'n ymddangos, gyda pha un yr adnabyddir mewn cylchoedd eisteddfodol y Dywys- oges Victoria o hyn allan, ac nid Buddug" fel ei hurddwyd yn Nghaernarfon. A oes gan y Dywys- oges dirion hawl i wisgo yr enw newydd hwn (pe dae un tebygolrwydd iddi byth wneud hyny) heb fyned eto o dan ddwylaw yr Archdderwydd 1 Mae yn sicr y gall yr hen batriarch hynaws a boneddig- aidd wneud pob peth yn iawn trwy rhyw special dispensation na wyddom ni am dano. Pa fodd bynag, yr wyf yn mawr obeithio mai dyma y tro olaf i, ac yn wir, yn ddigon sicr, son byth am y peth. CYMRO GWYN.
[No title]
— o Yn Llandudno, fore Iau, cymerodd ffrwydriad le. Ymddengys fod dyn yn agwasanaeth y Dirprwy- wyr Trefol yn gwneud archwiliad ar bibellau nwy yn Buckingham House, 4, Glanymor Terrace, pan y goleuodd fatchen, yr hon a barodd i'r nwy ffrwydro, gan achosi cryn niwed i'r anedd, a Uosgi gwyneb y dyn yn ddifrifol.
Cwibnodion o Ddyffryn Maeior.I
Cwibnodion o Ddyffryn Maeior. WN ] ddim a oes diwygiad i gymeryd lie ai peidio I yn y Dyffryn yma, oblegyd maent yn cynal cyfar- fodydd pregethu yn mhob ardal. Dyna y Wesleys yn nghapel y Stryt Isa wedi cael dau ddiwrnod ati, y Parchn Gwynfryn Jones a Hugh Jones yn tra- ddodi yr Efengyl gyda grymusder. Dewi Ogwen drachefn yn nghapel Hill Street ddwy waith y Sabboth yn adrodd yr "Hen, hen banes" gyda rhyw swyn o newydd-deb anarferol. Tra yn y prydnawn bu y Parch R. Williams, gweinidog y lie, yn pregethu i'r plant. Disentars y Cefn hefy d a gawsant wledd gan y Parch Robert Roberts, y Rhos. Ac yn olaf, clywais fod y Wesleyans yn Ngwrecsam wedi cael dau ddiwrnod o bregethu. Gobeithio y deillia rhyw ddaioni o'r holl bregethu yma, achos y mae mawr angen am rhyw ddiwyg- iad. Y mae y bobl ifinc yn dechreu myn'd yn rhyfygus ofnadwy. A wn i yn mh'le byddant os na ddaw rhywbeth i ysgwyd tipyn arnynt. Yn y Ponciau bu'r Dipars yn cynal eu te parti prydnawn Llun, a dywedir iddynt gael cynulliad rhagorol, ac fod trwyth y ddeilen yn flasus dros ben, a'r deisen frith yn cael pass na welwyd mo'i fath erioed a'r blaen. Yr un prydnawn, bu Ysgol Sul Saesneg y Methodus yn mwynhau eu hunain yn Gresiord. Cawsant dywydd hynod ddymunol, a mwynhaodd pawb eu hunain yn ardderchog yn yr ardal dlos hono. Gwelais rai o bobl Gwrecsam yn troi tuag adref nos Wener o'r afon Ddyfrdwy, byth a hefyd, tan ganu nigger songs ac emynau Pantycelyn bob yn ail, a golwg llawen arnynt oil. Cymerodd digwyddiad rhyfedd le yma hefyd yr wythnos hon, sef dau enedigaeth yn nheulu y wasg —mab a merch, ac y mae y ddau wedi cael eu bedyddio eisoes. Enw y mab ydyw Maeior News, a'r ferch (?) The Rhos Herald. Nid ydynt wedi dysgu siarad yn groyw eto, ond mwmian tipyn o bob path. Wn i ddim pa un ai Cymraeg ynte Saesneg fydd eu hiaith, ond amser a ddengys. Llwyd iawn ydyw eu gwedd, a brysied y crwner adref, rhag ofn y digwydd rhywbeth a fo gwaeth. Mae rhai o bobl fawr Gwrecsam wedi dychwelyd o'r Cyfandir a golwg gampus arnynt. Rhaid eu bod wedi cael lie da yno. Welcome home, friends. Mae y ffarmwrs yma yn dechreu anesmwytho eto-y gwlaw wedi eu dal cyn iddynt ga d eu holl wair i ddiddosrwydd, ac y maent yn dechreu ofni, os na chawn heulwen yn fuan, mai pydru fydd ei ran. Brysied yr heulwen. SAMWEL JONES. GAIR AT "SAMWEL JONES." MR GOL. ,-Ofnwyf fod eich gohebydd doniol o Ddyffryn Maelor ar rai prydiau yn dych'mygu neu ddamcanu ei Wibnodion," yn hytrach na llefaru ffeithiau, megys tyst cywir, fel y gwedda i ohebydd wneud. Ambell waith y cawsom le i anmheu ei gywirdeb. Er enghraipht, dywed yr wythnos ddi- weddaf ei fod wedi cyrhaedd mewn pryd i'r Orsedd yn nglyn ag Eisteddfod Corwen "i weled Rhudd- fryn yn chwyfio'r cldd." Yr oeddwn inau yno mewn pryd i weled "Gwilym Alltwen" yn chwyfio'r cledd ae yn ei roddi yn y wain, ac nid Rhuddfryn, pob parch iddo. Yn mhellach, dywed iel hyn hefyd, "Ac am gor y Cefn, nid ant hwy byth i unlle os na fyddant wedi clywed cor Mills yn nghyntaf, ac yn sicr o'r wobr cyn cychwyn." Nis gwn pa un ai mewn cellwair neu ddifril" y gvrnaeth y sylw ucbod. Pa fodd bynag, nid gwirionedd mohono, ac nid yw bechgyn y Cefn yn hoffi ensyn- iadau o'r fath, ac y maent yn sicr o fod yn niweid. iol i gym'dogaeth dda rhwng y corau a'u gil- ydd. Nid oes ond ychydig wythnosau er pan y dywedai iddo fod yn gwrando c6r y Cefn yn per- fformio "Blodwen," a pha fodd y disgwyliai iddynt fyned mor fuan i gystadlu ar ddarnau hollol newydd iddynt. Ac nid yw y cor uchod wedi bod ond un- waith yn ymgiprys a "Chor Mills," chwedl yntau, a rhoddasant gurfa iddynt y tro hwnw, ac felly ofer yw dweyd nad ant hwy byth i unlle os na fydd- ant wedi clywed cor Mills, oherwydd mae gan- ddynt record cystal, os nad gwell, a hwythau. Hwyrach nas gwyr S.J. fod cor y Uefn yn bresenol yn gwneud buddiolach gwaith na rhedeg i bob cwr i gystadlu, sef dysgu Messiah (Handel) ond pan y digwydd yn fanteisiol yn awr a phryd arall i'r cor fyned i gystadlu, hawliant y rhyddid i fyned i'r man y mynont, fel yr a S.J. ar ei geffyl haiarn, heb gynghor neb. Pobpetn yn dda, Samwel Jones, ond cadw at ffeithiau. "Facts are stronger than fiction." JOHN SAMWEL. [Daeth gohebiaeth arall i law oddiwrth '1 Carwr Cyfiawnder," yn cynwys bron yr un peth a'r llythyr uchod, ac felly afraid fyddai ei chy- hoeddi.—GOL.]
--0---Materion Cymreig yn…
--0- Materion Cymreig yn y Senedd. AltOLYGIAETH CHWARELAXJ. YN Nhy'r Cyffredin, nos Iau, Mr Bryn Roberts a ofynodd eto i'r Ysgrifenydd Cartrefol, ai hysbys iddo nad oedd Mr Williams—yr arolygydd cyn- orthwyol apwyntiwyd yn ddiweddar, a'r hwn y dywedid fu yn gweithio mewn chwarel agored— erioed wedi gweithio wrth y graig, ond yn unig ei fod, pan yn ddyn ieuanc, yn pigo darnau deflid heibio gan y chwarelwyr, gan eu holiti yn llechi, a'i fod er yr adeg hono wedi bod yn athraw ac yn ysgolfeistr; hefyd, yn gymaint a'i fod wedi apwyntio arolygydd cynorthwyol arall o Feirion- ydd, yn ychwanegol at Mr Williams, yr hwn oedd wedi cael profiad ymarferol o waith mewn chwareli a llech-gloddfeydd, a fyddai iddo ail ystyried ei ddewisiad ac apwyntio cynorthwydd arall yr un mor brofiadol mewn Ilech-chwareli agored ac a oedd yn wybyddus iddo nad oes ond 4,200 o weith- wyr yn chwareli llechi Meirionydd, o ba le y' daw y ddau arolygydd apwyntiedig, tra mae 8,000 o chwarelwyr yn gweithio yn llech-chwareli agored sir Gaernarfon ? Mr Asquith Mae yr hyn a ddywed fy nghyfaill anrhydeddus yn adran gyntaf ei gwestiwn, fod Mr Williams pan yn ddyn ieuanc wedi dechreu gweithio yn y chwarel, yn ffaith ond yn ddilynol i hyn, bu am amser yn gweithio yn y felin lechi. Ni bu yn gweithio fel creigiwr, ond derbyniai y llechi oedd yn drin o ran o'r chwarel a weithid yn agored, a thalai ymweliad a'r rhan hono bron yn ddyddiol. Ar ol gadael y chwarel, bu mewn cysylltiad & gwaith ysgol. Mae'r ffaith, fodd bynag, na weith- iodd Mr Williams fel creigiwr yn ymddangos i mi yn ddibwys, 'gan fod ganddo y fath wybodaeth eang am chwarelau yn eu holl ganghenau, pa un, fel y sylwais o'r blaen, sydd yn ei lawn gymhwyso i'r apwyntiad. Rhif y chwarelwyr weithient yn chware4i agored sir Gaernarfon ydyw 8,436. Rhif y rhai weithiant yn nghloddfeydd llechi Meirion- ydd ydyw 4,321, o ba rai y gweithia mwy na'u haner ar y banciau. Mae hefyd yn Meirionydd chwareli agored yn rhoddi gwaith i 300 neu 400 o ddynion a rhaid cofio hefyd fod yr oil o chwareli Meirionydd ar y cyntaf yn cael eu gweithio yn agored. Mae yr arolygwyr wedi eu hapwyntio, nid i un sir neillduol, ond i'r oil yn Ngogledd Cymru ac yr wyf yn credu nad oes neb mwy cymhwys i'r gwaith yn ei holl ganghenau na Mr Williams. Nis gallaf wneud unrhyw apwyntiad ychwanegol ar hyn o bryd. ACHOS LLYTHYRGLUDYDD 0 EGLWYSEG. Daeth Mr Herbert Roberts ag achos llythyrglud- ydd, o'r enw Edward Thomas, Eglwyseg, ger Llan- gollen, yn mlaen yr hwn a analluogwyd gan ddamwain i wneud ei ddyledswyddau; gan geisio cael gan y Trysorlys roddi blwydd-dal iddo.-Mr A.. Morley a ofidiai nas gallai y Trysorlys weled ei ffordd yn glir i roddi blwydd-dal i'r llythyrgludydd, ond cyfranent y swm o 15p iddo o'r Drysorfa El- sen. COEDIO BRYNIAU CYMRU. Yn y Senedd, nos Sadwrn, awgrymodd Mr Lloyd George, fod ymchwiliad yn cael ei wneud i fuddiol- deb planu coed ar fryniau Cymru. Yr oedd y bryniau hyn unwaith wedi eu gorchuddio a chced, ond yr oeddynt wedi eu tori i lawr at amcanion y Wladwiiaeth. Gan fod y Llywodraeth wedi man- teisio trwy hyn, apeliai atynt roddi swm neillduol o'r cyllid at wneud planhigfeydd. Mr trank Edwards a ategai y cynygiad, gan gyfeirio at y ffaith fod coedwigoedd gwledydd tramor yn cael eu difa yn gyflym, ac nad oedd Lloegr-y wlad a mwyaf o alw am goed—yn gwneud dim at blanu rhai yn eu lie. Yr oedd hyn yn bwysig i Gymru, oblegyd cludid llwythi lawer o goed o Ffrainc i'r glofeydd. Mr J. H. Lewis a ddywedai fod y Dirprwywyr er 1851 wedi gwerthu eiddo Cymreig henafol i'r swm o 151,000y, ac nid oeddynt o'r cyfryw wedi gwario ond ychydig dros 41,000p, felly yr oeddynt mewn dyled o 110,000p i Gymru. Syr J. T. Hibbert a ddywedai fod y Dirprwywr oedd yn gyfrifol am eiddo yn Nghymru yn cydym- deimlo a. chwynion yr aelodau anrhydeddus. Bwr- iadai y boneddwr hwnw dalu ymweliad a Ohymru gyda'r amcan o sicrhau pa mor gyfaddas oedd y tir at blanu coed, ac a oedd gobaith rhesymol y buasai hyny yn talu. Ni thybiai fod gan y Dirprwywyr unrhyw ddymuniad i drosglwyddo tiroedd y Goron yn Nghymru, os na chaent gynygion da am yr eiddo. ADDYSG AMAETHYDJDOL YN NGHYMRU. Mr Frank Edwards a gwynai fod rhoddion y Llywodraeth at addysg amaethyddol yn Nghymru yn annigonol. Mr A. Gardner a ddadganai y buasai yn llawen- ydd ganddo pe yn ei allu i ychwanegu y rhoddion. Dymunai adgofio Mr Lloyd Gerge fod rhan o'r rhoddion at addysg gelfyddydol mewn llawer sir yn cael ei neillduo at addysg amaethyddol yn bres- enol. Nid oedd ganddo ond 8,000p y flwyddyn yn ei feddiaut at yr amcanion hyn.
----0-"----"ewyuiü;2 Oyniresg.
0 "ewyuiü;2 Oyniresg. I Yn Llangefni, nos Iau, disgynodd Mr Youag, arolygydd y carthffosydd yn farw ar yr heol. Yn Yspytty Croeoswallt, ddydd Iau, bu farw gwas fferm, o'r enw John Davies, mewn canlyniad i syrthio o ben llwyth o wair. Sibrydir mai gwrthwynebydd Mr Ellis Jones- Griffith am gynrychiolaeth Mon yn yr etholiad nesaf fydd Mr Moreton Pritchard, Caergybi. Pleidleisiodd yr aelodau Cymreig oil yn erbyn y Llywodraeth ar welliant Mr Healy i leihau cyflogau swyddogion Ty'r Arglwyddi. Cyfranodd Mrs. Williams Jones-Parry, chwaer y diweddar Syr Love Jones-Parry, £ 100 at waddoli Ysbytty Sarah Nicol, Llandudno. Hysbysir yn un o newyddiaduron y Deheudir fod tair o'r merched a, wnaed yn weddwon trwy danehwa Cilfynydd wedi ail briodi yn barod. Yn Mhwyllgor y Senedd, nos Fercher, tynwyd Mesur yr Wyth Awr yn ol. Bwriedir ei gyflwyno eto yn ystod y Senedd-dymhor nesaf. Nos Fercher, Awst 15, cafodd Miss Simpson a Mr Ben Davies yr anrhydedd o ganu amryw gan- euon a deuawdiau o flaen ei Mawrhydi a'r Teulu Brenhinol yn Osborne. Nos Iau, talodd lleidr ymweliad i'r Llandudno Junction Hotel, gan gymeryd gwerth tua 50p o nwyddau oddiyno. Diau nad yw pobl Llandudno yn hoffi y math yna o ymwelwyr. Yn Rhosllanerchrugog, preswylia Mrs Mary North, yr hon sydd wedi cyrhaedd ei phedwaredd flwydd a chant er mis Mehefin diweddaf. Dychwelodd Mr Humphreys-Owen, 15 y cant yn ol o renti ei denantiaid ar ystad Glansevern a Mr Edward Davies, Plasdinam, 20 y cant i'w den- antiaid yntau. Peirianydd trydanol ydyw Mr. J. W. Williams yr ymgeisydd Rhyddfrydol dros Fwrdeisdrefi Mal- dwyn ac efe yn bresenol ydyw cadeirydd Bwrdd Masnachwyr Llundain. Dychwelwyd rheithfarn o Hunanladdiad tra mewn cyflwr o wallgofrwydd tymhorol," ar gorph Samuel Walton, swyddog gyda Gwirfoddolwyr Sir Amwythig, yn Llandudno, ddydd Iau. Yn North Stack, ger Caergybi, ddydd Mercher chwythwyd caban lie cedwid pylor yn grybibion a chafodd gynwr, yn ngwasanaeth y Trinity House, niweidiau difrifol., Mae achos y ffrwydriad yn an- hysbys. Mae Mr Willans, Dolforgan Hall, yr ymgeisydd dewisedig i ymladd bwrdeisdrefi Maldwyn, wrtbi yn brysur yn cynal cyfarfodydd, a disgwylir y bydd iddo adfeddianu y sedd i'r Rhyddfrydwyr yn yr etholiad nesaf. Y mae'r Parch G. Hartwell Jones, M.A., wedi ei osod ar bwyllgor sefydlog y British Association, ar gyfrif y Ilenorwaith a gyflawnodd yn nghyfar- fodydd diweddar y gymdeithas hono yn Rhyd- ychain. Ddydd Mercher, yn Nghapel Annibynol Wheeler Street, Birmingham, priodwyd Mr. William Wynne Evans, trengholydd sir Ddinbych, a mab Mr James Evans, Bron Cerris, Caernarfon, gyda Miss M. A. Thomas, merch Mr. Evan Thomas, Grosvenor House, Handsworth, Birmingham, a Tynyberth Hall, Corria.
Fe Ddywedir
Fe Ddywedir NA flinid yr hen Frythoniaid gan y ddanodd. Mai gwragedd Shetland ydyw y rhai goreu am wau yn y byd. e Y dewisir gan fyddin Ffrainc geffylau Gwyddelig i'w marchogion. Y dechreuwyd anfon llythyrau gyda'r reilffordd yn y flwyddyn 1838. Nad oes yn mhlwyf Christopher-Ie-Stock yn Llundain yr un preswylydd. Fod dros fil o barseli yn myned ar goll bob dydd ar reilffyrdd Prydeinig. Y dylid cymeryd gofal o'r galon, y gofala y pen am dano ei hun. Y gwerthid cwrw yn Lloegr yn y flwyddyn 1504 am 3c y galwyn. Fod pris oriawr aur gytfredin yn y flwyddyn 1759 yn gan gini a haner. Mai gan y ddinas y cyhoeddir y Cymro ynddi y mae y ddyled leol fwyaf o uarhyw dref yn Ewrop. Y dylanwadir ar ben gwraig gan ei chalon, ond y dylanwadir ar galon dyn gan ei ben. Nad oes ond un o bob pedwar o drigolion y Brif- ddinas yn enill dros Ip yn yr wythnos. Fod yn y wla.d hoa filiwn o ferched nad oes un. rhyw debygolrwydd y prlodant byth. Y dylai dyn, i fod yn berftaitb gymesur, bwyso 28 pwys am bob troedfedd o'i daldra. Mai rheol benig-imp yn y rhan fwyaf o amgylch- iadau ydyw i ddyn feddwl cyn siarad, ac yna— peidio siarad. Mai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i gael ymwared a chur pen ydyw rhoddi digon o waith i ewynau y coesan-cerdded yn galed am ychydig, er engraipht Fod gostyngeiddrwydd yn dra gwasanaethgar fel is-wisg, ond ei fod yn colli ei ddefnyddioldeb a'i werth pan y'i gwisgir fel cob uchaf. Fod mwy o grefydd mewn un dorth o fara i ddyn newynog nag mewn llon'd trol o lenyddiaeth grefyddol. Fod yn y wlad hon filiwu a chant o wragedd gweddwon, tra nad yw nifer y gwyr gweddwon ond haner hyny. Fod pedair o wragedd brenin diam-y mae cyf- anrif ei wragedd yn bum cant union—yn treulio eu dyddiau gyda'r gorchwyl pwysig o ofalu am es- gidiau ei Fawrhydi. Nad oes ond oedran un wraig o'r nifer fawr y sonir am danynt yn yr Hen Destament yn cael ei nodi, sef eiddo Sarah, gwraig Abraham. Fod dyn pan yn ieuanc yn meddwl gwneud trefn ar y byd, ond pan y daw yn hyn y teimla y gall fod yn foddlon os llwydda i wneud trefn arno ei hunan. Fod gwraig briod yn llythyr wedi cyrhaedd ei gyfeiriad fod geneth ieuanc yn llythyr heb arno yr un cyfeiriad fod hen ierch yn llythyr wedi ei annghouo a'i anfon i'r dead letter office. Y barnir fod gwerth dau can miliwu o bunoedd o aur yn y clai a'r gro sydd o fewn pumtheg troed- fedd i wyneb y tir ar ba un y saif dinas Philadel- phia. Nad yw y lleiaf o'r darnau aur mor boblogaidd ag yr arferai fod mewn casgliadau crefyddol; y cafwyd, wrth edrych trwy gasgliad a wnaed yn ddiweddar yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, Llun- dain, 564 o chwecheiniogau, tra nad oedd nifer y darnau tair ond 219. Mai yr ysmotyn iachaf yn y byd ydyw Aumone, pentref yn Ffrainc nad yw rhifedi ei drigolion ond deugain; fod wyth ar hugain ohonynt tros bedwar ugain o3d, a thri dros gaat; nad oes bedd. au yn y gladdfa lool, ac nad yw yr hynaf o'r trig- olion yn gallu cofio gweled claddedigaeth. R.
[No title]
Mae achos cyfreithiol yn dod yn mlaen ar fyrder yn erbyn rhai o feichiafon Eisteddfod Pontypridd sydd yn gwadu eu cyfrifoldeb i gyfarfod diffygion arianol y cyfryw. Yr hawlwyr ar ran pwyllger yr Eisteddfod ydynt y Barnwr Gwilym Williams, Mr David Leyshon, a Mr David E. Phillips. Bydd yr achos cyntaf yn erbyn Mr W. Jones Powell, Pont- ypridd, i hawlio y swm yr aethyn gyfrifol am dano. Gwrandewir yr achos yn Llys Sirol Caerdydd, oherwydd cysylltiad y Barnwr Gwilym Williams a. Llys Pontypridd a chynrychiolir yr hawlwyr gan y cyfreithwyr, Mri W. H. Morgan, Rhys, a Bruce, Pontypridd.