Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. WEL, mae Gwyl y Banc eto i'w gyfrif yn mhlith y pethau fu, a'i holl rialtwch wedi ymgolli yn nwndwr y byd. Ba yn fendith i rai, ac yn felldith i eraill derbyniodd rhai iechyd a llaw- enydd i'w calon, ac eraill logell wâg a phen dolurus. Gan fod Eisteddfod yn Ngborwen, daeth yn fy mhen i fyned yno ar fy ngheffyl haiarn, ac er mwyn cywrtinrwydd aethum yno y diwrnod cynt. Un amcan genyf oedd cael bod yno mewn pryd erbyn yr Orsedd bore Llun. Ar y ffordd deuais ar draws cwmpeini "Cymru Fydd Gwrecsam, a da oedd genyf weled yn en plith un o'r merched oedd yn canu mor swynol gyda'r cor y llynedd, end sydd erbyn hyn wedi ymadael o'r Dyffryn. Wn i ddim a oedd y cor wedi anfon special invitation iddi ddod i lawr ai peidio. Modd bynag, llawen oedd genyf weled ei gwyneb siriol. Yn fore Llun, i'r Orsedd a, fi mewn pryd i weled Rhuddfryn yn chwifio'r cledd. Maent yn chware Gorsedd ar hyd a lied y wlad yma. Mwynheais yr Eisteddfod yn rhagorol. Yr oedd yn dda odiaeth, ac yn anrhydedd i Gor wen. Cyflawnodd Tom Price ei waith yn es- mwyth a boddhaol i bawb, ac yr oedd Llifon mewn hwyl iawn. Yr oedd yn dda gan fy nghalon weled tipyn o falchder cor Croesoswallt yn cael ei dynu i lawr gan bobl Dolgellau. Ond pa le yr oedd Gwrecsam ? A dyna'r corau meibion sut y darfu i gorau Rhos a'r Cefn adael i bobl Lerpwl eu rhagflaenu a myn'd &'r wobr adref ? Yr oeddwn yn synu nad oedd cor y Rbos yno. Ydych chwi ddim wedi tori'ch calonau, tybed, ar ol Eisteddfod Caernarfon ? Am got y Cefn, nid ant hwy byth i unlle, os na fyddant wedi clywed cor Mills yn nghyntaf, ac yn sicr o'r wobr cyn cychwyn. Iechyd i'm calon oedd gweled y Mri Thomas Darlington ac Owen M. Edwards, a'ti clywed yn traddodi anerchiadau mor wladgarol, a hyny yn Gymraeg. Cymered Eisteddfodwyr esiampl oddiwrth Mr Darlington y mae yn taflu cywil- ydd i wyneb llawer ohonynt. Nid arosais i'r cyngherdd, ond aethum am wibdaith ar draws y wlad tua'r mynyddoedd, ac yn mrig yr hwyr cefais fy hun yn Llanarmon- yn lal. Clywais fod yno gyngherdd, ac erbyn myned i mewn, pwy oedd yno ond y parti oedd- wn wedi gyfarfod ar y ffordd y diwrnod cynt. Y r oedd Gwenfron, Emily, Tom a Defi mewn trim ragorol, a daethant allan fel pi-ofessionals. Wn i ddim 1 W j oedd y cadeirydd, ond deallais wrth ei anerchiad mai y rheswm ei fod ef yn y gadair ydoedd, ei fod yn arfer byw yno ryw dro, a'i fod yn gwybod enwau ffermydd yr ardal. Wedi hyny, trodd at lenyddiaeth, a cheisiodd adrodd darnau o farddoniaeth, ond cynghorwn ef i ddysgu y darnau erbyn y tro nesaf, achos chwithig o beth ydyw gweled boneddwr yn annghofio darnau o'i araith. Liawenydd oedd genyf weled Garmonydd ar y Ilwyfan, ac yn edrych mor siriol. Aeth bron yn dywyll cyn diwedd y cyngherdd, o'r hyn leiaf, yr oeddwn i yn methu darllen y rhaglen'; ond efallii mai ar fy llygaid i 'r oedd y bai. Felly aethum allan, a chyfeiriais ben y ceffyl tua Phenycae, He cyrhaeddais yn mherfeddion y nos yn lluddedig, a chyn pen ychydig funydau yr oeddwn yn gorwedd yn esmwyth yn ngwlad hud a lledrith. Treuliwyd yr wyl gyda rhwysg yn ngwahanol gyrau y Dyffryn yma, er fod mwyafrif o'r bobl wedi myned i Gorweu, Rhyl a Lerpwl neu rhyw le arall. Yn Gwersyllt, trodd clwb Craig yr Oes- oedd" allan yn orwych. Ymgynullodd Band of Hopes Caergwrle, Cefnybedd, New Inn, Summer- hill a Moss yn Summerhill mewn arddangosfa ragorol. Bu Bedyddwyr Penycae yma yn eistedd uwchben "cwpaned o de" ar y gwelltglas, a Bed- yddwyr y Cefn yr un modd. Yn Mharc Wynnstay yr oedd yr atdynfa fwyaf He y cynelid y ffair flodau." Dywedir ei bo i wedi troi allan yn fwy llwyddianus nag erioed o'r blaen, a'r holl gynyrchion o radd uchel. Wrth edrych dros restr o'r gwobrwyedig yn un o'r papurau lleol, synwyd fi wrth we'ed fod yr "Esgob wedi enill amryw wobrwyon. Yr oeddwn braidd yn anmheu os oedd yr hwn a'i cyfrifai yn ddaros- tyngiad siarad a Mr Lumley wedi anfon cynyrch ei ardd i lawr yma,ond erbyn holi,cefais mai "Esgob y Rhos oedd yr enillydd. Cvnaliwyd arddangosfa floleu hefyd yn Rossett ddydd frvVfcll-SF' £ n hynod lwyddianus. Mae y Gwirfoddolw^T wedi dychwelyd o'u hwythnos wersyllta, ac yr oeai g°l^g ^aec^§ chrynllyd arnynt erbyn cyrhaedd aaf&i. „ Dywe- ant eu bod wedi mwynhau eu hunain yn rbagorol, ond fod y wersyllfa mewn lie hynod annymunol. Gwell fuasai ganddynt wersylla yn Ngogledd Cymru yn rhywle. Yr wyf wedi disgwyl Ilawer am raglen Eisteddfod y Gwyr Ieuainc, Gwrecsam. Dywedwyd wrthyf er's tro bellach, fod y testynau, beirniaid a'r can- torion wedi eu dewis. Beth ydyw'r oediad ? Hai ati, fechgyn SAMWEL JONES.
-0--Y Pab a'r Beisiol.!
-0-- Y Pab a'r Beisiol. MAE y Pab, yn ei raslonrwydd, wedi rhoddi cania- tad i'w offeiriaid arfer y beisicl i ymweled a'u plwyfolion. Yn y cylchlythyr a anfonodd, dywed: Yr ydym yn rhoddi y drwydded hon yn fwy ewyllysgar, oblegyd mai dyfeisydd cyntaf y peiriant cyflym ydoedd yr Abad Pranton, yr hwn, yn 1845, arferai y cyfryw beiriant i fyned i'w ymweliadau gweinidogaethol." Ychydig a wyr marchogwyr y beisicl am yr Abad Pranton a'i hawliau, ond y mae yn ffaith anwadadwy fod peirianau cyffelyb i'r beisicl, yn cael eu gwneud, ac mewn arferiad gan bersonau dinod, yn mhel! cyn iddynt ddod i arferiad cyffredinol. Diau y bydd caniatad y Pab yn llawer o gymhorth i'w marchogaeth. -0- Yn Llys Bettwsycoed, ddydd Sadwrn, gerbron y Mil. Wynne Finch ac eraill, cyhuddwyd Alfred Thomas a Wm. Edwards, hen droseddwyr, o bysg- 11 ota yn annghyfreithlon am eogiaid. Dirwywyd hwy i 5p yr un, neu ddau fis o garchar.
Nodion o Fon ac Arfon.
Nodion o Fon ac Arfon. Nos Lun. CymRy AMERICA YN YR EISTEDDFOD. DYWED y Cambrian-misolyn a gyhoeddir yn Utica-fod nifer fawr o Gymry America wedi dyfod drosodd i Eisteddfod Caernarfon. Ym- ddengys na fu erioed gynifer o'n brodyr o'r Gor- llewin drosodd yr un amser. Bwriada amryw o Gymru hwylio yn lied fuan dros y Werydd, ac eu plith y cyfaill llengar Gwyneddon. Nid ydyw efe eto wedi penderfynu ar ba ranau o'r wlad i ymweled, ond y tebygolrwydd yw mai y Talaethau hyny lie mae mwyaf o'r hen genedl yn cyfaneddu. Bwriada aros yn America tua deufis. CLYWED YSTORM YN YR HAUL. Mae y rhai a glywsant Mr Preece, boneddwr sydd yn byw mewn palasdy ger tref Caernarfon, yn traddodi ei anerchiad yn nghyfarfod y Cymmro- dorion nos Lun yr Eisteddfod, yn sicrhau mai dyna un o'r pethau goreu a glywyd yn ystod yr wyth- nos. Llanwa Mr Prees y swydd o chief electrician y Llythyrdy yn y cwr yma o'r wlad. Y mae wedi gwneud trydaniaeth yn brif efrydiaeth ei fywyd. Y mae wedi darganfod ffordd i bellebru heb wifrau, ac nid ydyw yn annhebyg, medd ef, y gwelir y dydd pryd y gellir anfon cenadwri trwy'r sain bellebrydd i un o'r planedau, ac hefyd y gellir, trwy foddion y pellebyr, alluogi daearolion i glyw- ed ystorm o fellt a tharanau yn yr haul. Mae nhw yn son hefyd am gael relwe i ben y Wyddfa, a'r peth nesaf a glywn fydd fod yr hen ddyn a'r baich drain ar ei gefn wedi cael promotion, a'i wneud yn stationmaster y lleuad. CYDNABYDDIAETH SABBOTHOL. Dyna bwnc yr ymddiddan yn Nghyfarfod Misol Clwtybont heddyw, a Gwyneddon oedd i agor y mater. Rhaid oedd cael gwr o ddylanwad, ac un eofn a dewr, i ymgymeryd a mater mor ticklish. Y mae yn sicr fod llawer iawn i'w ddweyd arno, oblegyd y mae yn bwnc ag sydd yn peri cryn bryder i lawer o ddiaconiaid y cyfundeb. Dyddor- ol fydd gwel'd beth fydd gan Mr Davies i'w ddweyd arno, a pha gynllun a gynygia i gyfarfod Ilawer o anhawsderau sydd yn nglyn a'r ffordd bresenol o dalu degwm y cil dwrn." ARAITH YR ARCHDDIACON HOWELL. Fel hyn y dywed y Carnarvon Church Monthly am araith yr Hybarch Lawdden yn Eisteddfod Caernarfon Yr oedd araith yr Archddiacon Howell yn hyawdl a nodweddiadol, ac, fel yn Ngwrecsam, bu raid i'r gynulleidfa gael arddangos eu teimladau trwy dori allan i ganu emyn. Gwell genym beidio traethu ein syniad am y priodoldeb o gynhyrfu teimladau crefyddol ar achlysuron o'r fath, ond yr oedd Mabon yn adnabod y gynulleidfa ddydd Mercher pan ddywedodd, Nid oes genym ddim neillduol i'w wneud, a beth fyddai i ni ganu emyn ?' Y cwestiwn yw hwn,—a oes genym ni hawl i ganu emynau i'r diben o ddyddori ein hun- ain neu eraill ?" 0 ran fy hunan, Mr Gol., bydd- wn yn barod iawn i ateb cwestiwn golygydd parchus y Church Monthly trwy ddweyd Oes "yn bendifaddeu. Ni woa canu Bydd myrdd o ryf- eddodau ddrwg i unrhyw gynulleidfa o bobl, ac fe ddichon wneud llawer o les. EGLWYS LLANBEBLIG. Y mae yr eglwys hynafol hon wedi bod am fis- oedd o dan adgyweiriadau mawr, a disgwylir y gellir cynal gwasanaeth Sabbothol ddechreu y mis nesaf. Y mae nifer o ffenestri lliwiedig ysplenydd wedi eu rhoddi o'r newydd, ac y mae gweithwyr Mri Halinshaw & Son, Birmingham, wrthi yn brysur yn adeiladu organ sydd i gostio rhai can- oedd o bunau. Dywedir nad ydyw Peblig a Beuno -y rhai yr edrychir arnynt fel nawdd seintiau Caernarfon-yn "seintiau gwirioneddol, am na dderbyniwyd hwynt i'r calendar Rhufeinig,—hyny ydyw, mae'n debyg, ni seintiwyd hwynt gan Bab o Rufain, ond gwnaed hwy yn seintiau gan lais y werin bobl. Ni chafodd Dewi chwaith ei ganon- eiddio hyd bum can mlynedd wedi ei farw. CASTELL CAERNARFON. Mae llawer o siarad wedi bod yn ddiweddar gyda golwg ar y traddodiad mai yn Nhwr yr Eryr y ganwyd Iorwerth yr Ail. Ond 'dydyw o yn gwneud dim mymryn o wahaniaeth i Iorwerth nag i'r Castell yn mha Ie y ganwyd eich dyn." Go- fynwyd i hogyn bach y dydd o'r blaen, "Pwy ad- eiladodd Gastell Caernarfon, machgen i ?" "Syr Llewelyn Turner," meddai yr hogyn, heb gymeryd munyd i ystyried y pwac. Yr an arholwr a ofyn- odd gwestiwn arall i'r un hogyn, "Pwy a anwyd yn Nghastell Caernarfon, machgen call i?" Dau o gwn bach yn perthyn i Sergeant Watkins" (ceidwad y Castell), atebai y Solomon bach. Teg ydyw dweyd mai nid mewn Ysgol Sul v gofynwyd ac yr atebwyd y cwestiynau uclod. YR ENW BUDDUG. Y mae lie i ofni fod awdurdodau Gorsedd Caer- narfon wedi rhoddi eu troed yndai trwy roddi yr enw Buddug i ^yWySOges Victoria, tra yr oedd boneddiges arall. sef mereh i'r diweddar lenor Gweirydd ap Rhys, wedi cael ei hurddo o dan yr enw hwnw yn Eisteddfod Dinbych yn y flwyddyn 1860. Beth sydd i'w wneyd yn ngwyneb y fath drychineb, wn i ddim. Tybed a fydd raid cynal "Court Martial Gorseddawl ar yr Hybarch Arch- dderwydd, a'i Secretary of State, Eifionydd, ac a raid dyfod a'r Dywysoges dirion i 'Steddfod Llan- elli i'w difreinio ? Y gyfraith, sef Cyfraith yr Orsadd," ar y pwnc ydyw un person, un enw," ac y mae Cyfraith yr Orsedd fel "Cyfraith y Med- iaid a'r Persiaid, yr hon ni newidir." Nid ydym yn gwybod ond am ddau fardd yn y byd yn gwisgo yr un ffugenw, sef Gwilym Eryri Cymru a Gwilym Eryri America. Buom yn ysgwyd llaw efo'r cyntaf o'r ddau y dydd o'r blaen, ond ni ddaeth i'm meddwl ar y pryd ofyn i'r cadeirfardd pa un o'r ddau oedd gan yr hawl cyntefig. Beth a ddaw o'r ffrwgwd BUDDUG-O1, wn i ddim. Mae pethau yn dechreu gwisgo agwedd ddifrifol iawn," tybed a fydd raid cael Royal Commission ? CASTELL Y PENRHYN A GLYNLLIFON. Del yr hysbysrwydd heddyw fod yr Aift-hydeddus Fred Wynne o Glynllifon yn myn'd i briodi yr An- rhydeddus Miss Pennant o Gastell y Penrhyn. Dyddorol ydyw gwel'd dau hen deulu o'r un sir fel hyn yn ymuno mewn glan briodas. Mae llawer yn cofio y ffrwgwd a fu rhwng y ddau hen arglwydd flynyddau yn ol pan fu farw Mr Picton Jones, Pwllheli, ac y penodwyd Mr Walter Jones, Cric- cieth, yn drysorydd y sir yn ei le. Galwodd Argl- wydd Newborough y peth yn jobbery, yr hyn a achosodd gryn gynhwrf yn mhlith yr ynadon sirol. Galwyd ar yr hen Lord i dynu ei eiriau yn ol, yr hyn ni wnai, ond ymddiswyddodd o gadair y chwarter sesiwn. yr hon swydd oedd wedi ei dal er's chwarter cmrif. Bu cryn oerfelgarwch rhwng y ddau arglwydd tra buont byw, a pharodd yr an- nghydfod i Arglwydd Newborough bleidio Mr Watkin Williams yn Ebrill, 1880, pan ddaeth allan yn erbyn yr Arglwydd Penrhyn presenol. Da ydyw gweled y ddau deulu wedi dyfod yn gyfeillion- eto. Cymer y briodas le yn mis Hydref nesaf, ac y mae yn ddianmheu y bydd rhialtwch mawr ar yr achly- sur yn Mangor a Chaernarfon, lie y mae y ddau deulu yn hynod o boblogaidd ar hyn o bryd. CYMRO GWYN.
--0--Y Mesur Wyth Awr yn y…
--0-- Y Mesur Wyth Awr yn y Senedd. YN Nhy'r Cyffredin, nos Lun, ffurfiwyd yn Bwyll- gor ar Fesur yr Wyth Awr, yr hwn oedd dan ofal Mr Roby. Cadeiriwyd gan Mr Mellor. Ar ol i Syr J. Pease wrthwynebu dygiad yn mlaen y mesur yn bresenol oherwydd fod y sesiwn bron terfynu, ac hefyd am mai nid Mesur y Llyw- odraeth ydoedd, cododd Syr W. Harcourt, a dywedodd fod y mesur dan sylw wedi myned drwy ei ail ddarlleniad gyda mwyafrif mawr, a dylai y rheswm yna fod yn ddigonol dros fyned yn mlaen gyda'r mesur yn bresenol. Yr oedd pawb a deimlai ddy- ddordeb ynddo wedi cael hysbysrwydd er's talm y dygid ef yn mlaen y noson hono, ac nis gellid cwyno felly ei fod yn anamserol. Byddai yn achos o siomiant a syndod i luaws mawr pe gwrthodai y Ty ymdrin a'r cwestiwn. 0 ganlyniad, nis gallai gydweled a chynygiad yr aelod anrhydeddus i'w I ohirio. Mr D. A. Thomas, A.S., a gondemniai agwedd y Llywodraeth fel yn ansefydlog, ac nad oeddynt wedi ymddwyn yn deg at eu cefnogwyr. Nid oedd ef am fod yn un o'r blaid i orfodi y Llywodraeth i dori ei haddewidion. Mr Rathbone a ddesgrifiai y mesur fel un hollol groes i draddodiadau y Senedd, oherwydd mai nid mesur y Llywodraeth ydoedd. Gofynid i Dy'r Cyffredin, yr hwn nad allai wneud ei waith ei hua yn briodol, i fyned i fewn i fanylion y mesur bron ar adeg terfyniad y Senedd-dymhor. Gydag adran gyntaf y mesur, yr hon a esyd allan y gelwir y mesur yn Fesur Oriau Gwaith y Mwnwyr, Mr D. A. Thomas a gynygiodd adael allan y gair I., gwaith," gan fod hyny yn gamenwad,- yn gy- maint mai o dan y mesur, ni w, i thiai y dynion wyth awr ond o chwe i chwe awr a haner. Derbyniwyd yr:adran gyntaf, gyda'r ail adran, yr hon sydd yn darparu na chaiff person mewn un- rhyw un dydd o 24 awr weithio dan y ddaear mewn unrhyw fwnglawdd am unrhyw gyfnod dros wyth awr o'r adeg y gadawa wyneb y tir i'r adeg y dy- chwela i'r wyneb, ond mewn achos o ddamwain." Derbyniwyd yr adran. Mr Wortley a gynygiodd fod parhad y mesur i'w gyfyngu i ddiwedd y flwyddyn 1899.-Cydsyniwyd a'r cynygiad. Mr D. A. Thomas a gynygiodd welliant nad oedd y mesur i'w fabwysiadu mewn unrhyw sir os nad oedd mwyafrif y gweithwyr gyflogid yn ei ffafr. Yn ffafr ei welliant, dyfynodd farn Mr Gladstone, oblegyd nodai y byddai y farn hono yn help i ben- derfyniad y pwyllgor. Mr Gladstone oedd tad y syniad o ddewisiad Ileol. Achosai y mesur yn ei ffurf bresenol ostyngiad amrywiol. Mewn rhai siroedd, ni byddai gostyngiad o gwbl, tra mewn eraill parai ostyngiad o leiaf o 20 i 25 y cant. Dan- gosai hyn y byddai i'r mesur ymddwyn yn annheg at wahanol ardaloedd. Nid oedd ef yn erbyn yr egwyddar o reolaeth Seneddol, ond gwrthwynebai y mesur yn ei ffurf bresenol. Yr oedd yn ffaith, nad ellid ei gwadu, y gweithid yn swydd Fife, Midlothian, Worcester, dwyrain Stafford, a dwy- rain swydd Yore yn awr wyth awr o fane i fane, fel na wnai y mesur yn yr ardaloedd hyn unrhyw wahaniaeth. Hawliai fod yn iawn i bob ardal benderfynu y cwestiwn ei hunan heb ymyriad y Senedd. Rhaid cofio hefyd fod y c&is am y mesur hwn yn dod o'r ardaloedd hyny oedd yn codi glo at wasanaeth teuluaidd a gweithfaol. Nid oedd gan yr ardaloedd hyn gydymgais fel yr oedd gan- ddynt hwy yn Neheudir Cymru, ac yr oedd gan hyn ddylanwad neillduol ar y dewisiad lleol, Dy- wedid, er i'r oriau gael eu lleihau, na leiheid y cyflenwad a chyda mwy o ymgais, y byddai y dynion yn alluog i godi cymaint o lo ag y maent yn awr gydag oriau mwy. Yr oedd ef ei hun wedi rhoi prawf ar y dydd o wyth awr o fane i fane gyda shifft dwbl, ac ar ol prawf o 13 mis, dymunai y dynion gael newid ir hen otiau yn ol gyda un shifft, i'r hyn y cytunodd. Yr oedd yn llawer mwy anhawdd i gyflenwi mesur penodol o lo mewn oriau neillduol yn Neheudir Cymru nag mewn un- rhyw le arall, oherwydd safle neillduol yr haen. Cymerai bedwar dyn yn sir Forganwg i godi cym- aint ag a wnai tri dyn yn sir Nottingham yn yr un amser. Gan fod pethau felly, yr oedd yn afres- ymol ac yn anymarferol i osod i lawr yr un oriau liaiur i bob ardal fel eu gilydd a chredai fod yn well gan fwnwyr Deheudir Cymru weithio oriau hwy a chadw safon y cyflog presenol. Mr Roby a ddywedai fod yr ymdrafodaeth ar ail ddarlleniad y mesur wedi cyfarfod a holl ddadl- euon y boneddwr anrhydeddus. Ni roddai dim fwy o foddhad iddo ef na derbyn gwelliant a fodd- lonai bob plaid yn y Ty. Nid oedd anmheuaeth nad oedd llawer o lo Deheudir Cymru yn cyflenwi masnach dramor, ond yr oedd glo i wledydd tramor yn dod o leoedd eraill hefyd. Nid oedd y mesur yn cynwys un eithriad o gwbl. Os deddfir wyth awr i un rhan o'r wlad yn unig, byddai iddynt gylymu dwylaw meistri a gweithwyr y rhan hwnw yn erbyn y rhanau eraill. Daliai fod yr aelod an- rhydeddus i raddau, efallai yn anfwriadol, wedi camarwain y Ty. Siaradai yn barhaus am Dde- heudir Cymru a sir Forganwg a rhoddodd rhai ffigyrau, ond nifer y mwnwyr tanddaearol yno yd- oedd 70,000. Maloa: 110,000 Mr D. A. Thomas: Mewn un lie y rhoddwyd prawf ar y mesur, yr oedd mwyafrif o bedwar i un yn ei erbyn, a thybiais y byddai yn debyg mewn manau eraill. Mabon oedd o'r farn y byddai mwnwyr Deheu- dir Cymru yn alluog i godi cymaint o lo o dan y drefn newydd ag o dan yr hen. Y ddadl gryfaf a allai ei gyfaill anrhydeddus ei dwyn yn mlaen yn ffafr ei welliant oedd fod cyfran o fwnwyr Deheu- dir Cymru o blaid dydd o wyth awr o fane i fane. Yr oedd y ddadl hon, fodd bynag, y tu allan i'r cwestiwn, ac nid oedd ei gyfaijl anrhydeddus yn alluog i ddwyn yn mlaen un arweinydd y gweith- wyr yn y Deheudir yn ffafr ei welliant. Wedi i amryw aelodau eraill siarad, gan mwyaf fel cynrychiolwyr Ilafur, cododd y Cadeirydd am haner nos, a gohiriwyd y gwelliant hyd nos k awrth.
Anathema Deon Bangor.
Anathema Deon Bangor. ANHAWDD i'r mwyaf pruddglwyfus beidio gwenti tra'n darllen haues gweithrediadau Cynadledd Unedig Cymdeithasau Esgobaeth Bangor, ac yn neillduol ymfflamychiadau y Deon Lewis. Pwoe un o'r cyfarfodydd ydoedd, Cysegredigrwydd y rhoddion a roddir i Dduw a chrefydd drwy yr Eglwys, y pechod o'u neillduoli at ameanion eraill a'r canlyniadau niweidiol sydd yn debyg o ddilyn hyny." Yr oedd y mater yn rhoddi cyfleusdra. rhagorol i amryw o'r gwyr sanctaidd ddangos eu mawr sel dros gadw'r degwm a'r gwaddoliadau, ac ni buont yn fyr o gyhoeddi anathema uwchben pob Dadgysylltwr a Dadwaddolwr o fewn y wlad. Ond diau mai yr araith fwyaf cynhyrfiol o'r oil ydoedd eiddo y Deon Lewis. Yn mysg pethau eraill, sylwodd, Gelwid y pechod o gyflwyno gwaddol- iadau yr Eglwys i ameanion eraill yn gyffredin yn gysegryspeiliad, yr hyn sydd yn gyfystyr mewn perthynas i'r Eglwys a. lladrad mewn perthynas ag eiddo. Yr oedd cysegr-yspeiliad yn sarhad ar Dduw Hollalluog, ac yn ymgais uniongyrchol i rwystro amcan Dwyfol mewn iachawdwriaeth dyn. Pwy bynag a all fod sydd a'u bryd ar wneud y camwedd hwn, poed hwy ychydig neu luosog, tlawd neu gyfoethug, yr oedd i'w ofni nad oedd eu proffes a'u sel dros grefydd yn dda ond i amlygu eu rhagrith ac i fwyhau eu heuogrwydd. Yr oedd Duw ei hun wedi cyhceddi meildith ar gysegr- yspeiliad." Er fod lluaws eraill wedi cyhoeddi melldithion, nid oedd yr un ohonynt mor llawn a eiddigedd sanctaidd a'r deon brwdfrydig. Yn nghanol y melldithion i gyd, offrymodd yr Esgob ei fendith ar y Cynghorau Plwyfol; ac efallai ei fod yn gallu gwneud hyny gyda mwy o ryddid yn ogymaint ag yr hysbysai'r gwrandawyr ei gredin- iaeth na cheid dadgysylltiad am lawer blwyddyn eto.
O Dyffryn Clwyd.
O Dyffryn Clwyd. Yn y rhifyn am Awst o'r cyhoeddiad a elwir Fire and Water, misolyn at wasanaeth tan-ddiffoddwyr, ceir darlun cywir a thlws o Capt Theodore Rouw, Rhuthin, yn nghyda hanes cryno o'i gysylltiadau a'r fintai y mae efe yn gapten arni. Er yn dwyn y cyfenw dyeithr o Rouw, Cymro o waed eoch cyfa ydyw'r capten, ac y mae tan-ddiffoddwyr Rhuthin tan ei ddysgyblaeth yn cael eu hystyried yr allu- oca. o'r holl frigadau Cymreig, Hi a enillodd y ewpan Gymreig yn yr Agriculture Hail, Llundain* y llynedd. Y mae Capt Rouw yn un o wyr blaen- llaw Rhuthin, ac yn aelod o Gynghor y Dref. YNADON NEWYDD I DREF DINBYCH. Y mae pum' boneddwr wedi eu dyrchafu i faine yr hedd- weh yn y fwrdeisdref hon, sef Syr Horatio Lloyd, barnwr y County Court, a Mr Mellard- Toriaid y ddau hyn. Hefyd y tri Rhyddfrydwr, Dr. David Lloyd, a Mr R. Owen (Methodistiaid) a Mr John Davies (Annibynwr). MARWOLAETH DR. TURNOUR, DINBYCH. Er's llawer blwyddyn bellach, yr oedd enw y meddyg medrus yn dra adnabyddus trwy Ddyffryn Clwyd a pharodd ei farwolaeth sydyn fore ddydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, syndod a gofid yn mysg ei luaws cyfeillion. Yr oedd y Dr. yn 75, oed, daliai i ymhyfrydu yn ei broffes, ac i arfer ei ddawn a'i fedrjimeddygol hyd y diwedd yn wir, tra yr oedd yn Nghlafdy Dinbych yn hwylio tori aelod ymaith er mwyn arbed bywyd truan claf, y daeth angau yn ddisyfyd at y meddyg galluog ei hun. Syrthiodd mewn math o lewyg, ac er fod y pedwar meddyg arall gerllaw, sef y Drd. Hughes, Lloyd Roberts, Morris ac H. O. Hughes, ar y pryd, methwyd a gwneud dim i'w ddadebru o'r llewyg farwol y syrthiodd ef iddi. Deilliai y Dr. ymadawedig o hen deulu urddasol, oblegyd yr oedd yn wyr i larll Winterton (Edward Tumour). Treuliodd wanwyn ei oes yn Edinburgh, lie y dygwyd ef i fynu. Cafodd ei addysg feddygol yno, a gwelwyd ar unwaith ei fod yn meddu gallu- oedd disglaer. Ar ol myn'd trwy ei gwrs gydag anrhydedd ac enill y gradd o M.D., ei fwriad cyntaf oedd ymsefydlu yn Lerpwl, ond newidiodd ei feddwl, a gwnaeth Ddinbych yn drigfan arosol, gan ymsefydlu fel meddyg yno yn nechreu y flwyddyn 1844. Felly bu yno am dros haner can' mlynedd, ac enillodd iddo ei hun, drwy ei allu a'i gymeriad, safle anrhydeddus. Yn y flwyddyn 1861, etholwyd ef i'r Cynghor Trefol, ac yn 1862, llanwodd gydag urddas y swydd o Faer, a chym- aint oedd parch y trefwyr tuag ato fel yr ail ethol- wyd ef y flwyddyn ddilynol. Yn 1853, dyrchaf- wyd ef i fod yn ynad heddweh, a gwasanaethodd ar fainc y llysoedd sirol a bwrdeisiol. Efe oedd yr hynaf ar y fainc fwrdeisiol, ae yr oedd yr ysbryd uniawn a nodweddai ei holl weithredoedd yn dod i'r golwg yn neillduol yn nglyn a'i ddyledswyddau fel ynad. Llanwodd safleoedd pwysig hefyd gyda. Chyfrinfa y Seiri Rhyddion yn Ninbych. Daliai gysylltiad â bron bob sefydliad yn y dref, a bydd ei farwolaeth yn golled drom i lu ohonynt, oblegyd yr oedd yn noddwr a chyfranydd hael. Cymerodd ei angladd le nawn ddydd Gwener yn yr Eglwys Wen, a dodwyd ei gorph i orwedd wrth ochr ei briod. Er mai cynhebrwng preifat ydoedd, yr oedd llu o wahoddedigion yn bresenol. Gwasanaethwyd yn yr eglwys ac wrth y bedd gan Arglwydd Esgob Llanelwy a'r Parch J. Morgan, rheithor y plwyf. LLYS HENAFOL.-Dclydd Sadwrn, yn Neuadd 1 Cynghor, Dinbych, agorwyd llys dyddorol gyda'r amcan o gyhoeddi am etifedd ystad. YmddengyS fod un, Dr. Bage o Gaer, wedi marw, gan adael. eiddo yn Ninbych, Llannefydd, Bettwsycoed,, Abergele, &c., a chan nad ellir dod o hyd i etifedd- ion cymerid meddiant ohono gan y rhai ag yr oedd yr eiddo yn gyfreithiol ddychwelyd iddynt. Yn yr achos presenol, yr hawiwyr oeddynt Dirprwy* aeth y Coed a'r Fforestydd, cynrychiolwyr y Frell" hines fel Arglwyddes y Faenor, a'r rhan neillduol o'r eiddo y gwneid ymchwiliad iddo yn awr yd* oedd Amaethdy y Llwyn Isa, ger Llanrhaiadr, tenant yr hwn ydyw Mr Thomas Ellis.-Y Milwr- iad Hughes, Ystrad, fel goruchwyliwr Maenor Dinbych, a weinyddai fel barnwr Mr Gold Ed- wards fel ymddiriedolwr y tir-wystlwr, a Mr Owen fel beili. Agorwyd y Uys, ac aed drwy y gweith- rediadau gyda holl seremoniau y llys henafol. Gan na ddaeth yr un etifedd yn mlaen i hawlio yr eiddo, terfynwyd y llys, ond rhaid gwneud dau ymchwiliad cyffelyb eto eyn y geliir trosglwyddo yr eiddo i Arglwyddes y Faenor, Yr wythnos ddiweddaf, rhoddwyd i orphwys yn Mynwent Eglwyswen, clawr, neu case, yr hen lpr* rwymydd diwyd Mr Andrew James, yr hwn a yn gweithio hefo'r Mri Gee am agos i haner can mlynedd, ac a dderbyniai bensiwn o ddeg swllt y1^ yr wythnos gan y ffirm er pan aeth yn analluog J ddilyn ei waith tua naw mis yn ol.