Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Gwreiohion
Gwreiohion IT Y MAE y neb a luniodd y ddeddf i warafun i anifeiliaid y dyn tlawd bori glaswellt ymyl y ffordd yn haeddu cael ei grogi, hyny yw, fe grog- wyd Ilawer am gyflawni llai o bechod fil o weith- iau," ebe un doethawr ac yn sicr, oni ddywedodd efe galon y gwir ? IT Rheol 8 yn scheme yr Ysgol Ramadegol Rhuthin, basiwyd yn ddeddf ar y 25ain o Mehefin, ydyw Religious opinions, or attendance or non- attendance at any particular form of religious wor- ship, shall not in any way affect the qualification of any person for being a Governor under this scheme." Pa achos am ddim plaenach? H Ond byth o hyny hyd yn awr, y mae yr Eg- lwyswyr yn cadw allan yr Ymneillduwyr oddiar y Bwrdd Llywodraethol, a'r wjrthnos ddiweddaf, pan etholwyd y cyn-faer, yr hwn sydd yn Ymneilldu- wr, i lanw sedd wag, fe'i gwrthwynebwyd gan y ser Eglwysig, "am nad oedd yn Eglwyswr!" Trecb yr Eglwys na'r ddeddf If- Y mae yn storm ddychrynllyd o'r herwydd a'r dydd o'r blaen daeth yr Esgob a'i Dean (gynt) i chwilio i'r mater ac y mae yr Ymneillduwyr yn troi pob careg i fynu eu hiawnderau. Mae'n debyg y daw cyfiawnder a barn i fuddugoliaeth yn y diwedd. Y mae yn too late i neb feddwl allu tra- arglwyddiaethu ar freintiau cyhoeddus, yn siwr hefyd. IT Nid yn unig, fel yr eglurodd Mi Acland yn y Senedd parthed i lythyr yr Esgob yn y Times: Y mae yr ysgol hon yn cmenwadol," ond y mae, yn ol cylchlythyrau y Llywodraethwyr, yn gyfryw "nad ydyw yr efrydwyr yn ddarostyngedig i un- rhyw tests crefyddol." A mwy na hyny, y mae y ddeddf ei hun, fel yr awgrymwyd, yn darpar fod ffarfiad y Bwrdd Llywodraethol i fod yn anemvadol hefyd, yr hyn a wad y Warden a'r Esgob Yn anflfortunua iawn, gwnaeth Acland i'r Esgob lyncu ei eiriau ei hun trwy ymddiheuro. Peth hyll, onide, i Esgob ? IT Rhyfedd fel y mae amgylchiadau yn dyfod a phobol yn gyfeillion Ychydig amser yn ol, yr oedd yr Esgob yn ceisio symud Warden Rhuthin i blwyf arall, a'r Warden a drechodd ac yn awr, am fod y Warden, fel cadeirydd Llywodr- aethwyr yr Ysgol Ramadegol, yn cyd-ymdrechu i anwybyddu yr Ymneillduwyr mewn cysylltiad a'r ysgol hon, cawn yr Esgob yn deyd yn Nghynadledd CymdeithasAU yr Esgobaeth y dydd o'r blaen, "that the Warden of Ruthin had done good work on the Education Committee of the Church H Yn ol y ffrwgwd diweddaf rhwng yr Esgob a Mr Lumley, ymddengys yn debyg fel pe buasai llywodraethwyr yr ysgol wedi bod yn chwareu y ffon ddwybig i geisio cael cyfraniadau at adeiladu yr ysgoldy newydd, trwy argraphu rhai cylch- lythyrau i ofyn am danysgrifiadau at yr ysgol fel ysgol Eglwysig, ac eraill (i ddal yr Ymneillduwyr) fel ysgol anenwadol Llwyddodd y cynllun yn rhagorol; ond wed'yn rhaid i'r naill neu y llall o'r cyfranwyr, neu yr oil, fod yn gyfeiliornus. 7 Er enghraipht, dywed yr Esgob mewn araith, fod y Parch John Wynne o Landrillo wedi cyfranu l,000p tuag at adeiladu yr ysgoldy newydd ar y dealldwriaeth mai ysgol Eglwysig ydoedd i fod, canys cyn eu rhoddi iddo ddweyd. Do you think, under the proposed Welsh Education Scheme, they are going to touch Ruthin School ?" a rhaid i rywrai ei sicrhau yn nacaol cyn y cyfranais tra ar yr un pryd yr oedd deddf 1881 a'r cylchlythyrau yn ei gosod allan yn If Meddyliwch mewn difri' am y Deon diplomat- aidd yn cael ei drechu, yn galw am ei yswain i handlo ei wrthwynebydd, ac i'w roi ar ei gefn II Y mae religious pugilist allan o'r cwestiwn yn y grefydd Gristionogol," ebe Nathan, er ei bod yn derm poblogaidd yn ein dyddiau ni, a hyny mewn cylchoedd pur uchel." Rhyfedd fel y mae y byd yn cyfnewid-yn y byd, yn mhlith y dosbarth iselaf o gymdeithas, y byddid yn cael ymladdwyr er's talm, ond pan y maent hwy i raddau mawr wedi eu gwareiddio allan o'r arferiad gwrthun, fe'i ceir fynychaf yn awr yn mhlith gwahanol gyfun- drefnau crefyddol IT Dywedai Canon Williams, Llangefni, yn Nghonference Esgobaeth Bangor, ddyddlau, eiriau rhyfedd iawn "Os bydd i'r Dadgysylltwyr lwyddo yn eu hamcan, yn eu hymgyrch annuwiol, fe droid Ty Dduw, yn lie bod yn dy gweddi, yn ogof lladron A thamaid llednais arall ddyferodd dros ei wefusau graslawn ydoedd Yn lie eu bod yn rhobio Pedr i dalu Paul, yn ol yr hen air, eu bod yn rhobio i dalu i Pontius Pilat!" A allasai ysbryd Cristionogol gyfodi yn uwch, dywedwch ? IT Llwydaidd iawn ydoedd dywediad yr Esgob Lloyd yn yr un cyfarfod, "mai presenoldeb y person mewn llawer plwy' ddygodd y gweinidog Ymneillduol yeio ac os symudir y person ohono, ei fod yn credu yr enciliai y gweinidog Y mneillduol hefyd, a gadewid y plwy', ond odid, mewn sefyllfa o amddifadrwydd ysbrydol." Fu erioed wanach ym- resymu. Pwy erioed glywodd am siopwr yn cefnu ar ardal, am fod ei opposition wedi gwneud hyny ? Na, yn wir, y mae rhai dynion yn siarad yn wirion pan y trewch ar eu man gwan. CYFARWYDD.
-:0:-Colegau'r Bedyddwyr yn…
-:0:- Colegau'r Bedyddwyr yn Nghymru. YN Medi diweddaf, cymerwyd pleidlais cynrych- iolwyr Colegau Bedyddwyr Bangor a Haverford- west gyda golwg ar uno y sefydliadau hyn, ac hefyd ar leoli y Coleg unedig yn Aberyswyth. Anfonwyd papyr pleidleisio i bob tanysgrifiwr, y rhai a gyfrifwyd gan ysgrifenyddion y ddau Goleg, gyda'r canlyniad fod mwyafrif o 26, allan o 1,200 o hieidleiswyr, wedi eu rhoddi yn ffafr y coleg un- debol yn Mangor. Canlyniad hyn fyddai symud Coleg Haverfordwest i Fangor, ond gan nad oedd pwyllgor y Coleg hwnw yn boddloni i'r cwrs yna, penderfynasant beidio uno y ac yn nghyfarfod blyn- yddol y Coleg, gynaliwyd yn ddiweddar, penderfynasant bron yn unfrydol i symud y sef- ydliad i Aberystwyth. Gwneir parotoadau i'w agor yn y lie olaf yn yr hydref. o — Mae Mesur Pier newydd Bangor wedi myned trwy ei drydydd darlleniad yn Nhy'r Cyffredin. Anrhegwyd y Parch Hugh Jones a gwerth 20p o iyfrau a 16p mewn aur Mrs Jones ag amserydd gwerthfawr a Miss Jones â. chadwyn aur ddcud Wrth ymadael o Dinas, Pontypridd, i weinidog- aethu yn Mlaenywaun. Y mae Mr Jones yn frodor o Gaergybi, a bydd yn dda gan ei gyfeillion yn y Jfogledd ei longyfarch fel olynydd i Taliesin Jones, peth Jones ac Evan Jones yn hen eglwys Blaeny- waun.
Cohebiaethau.
Cohebiaethau. At Olygydd y Cymro. NEWID CYFENWAU. Syp,-Fel un sydd wedi newid ei gyfenw a chyf- enw ei deulu, caniatewch i mi ofod fechan i draethu ychydig o fy meddwl ar y mater. Mae mwy na deugain mlynedd wedi myned heibio er pan gych- wynais i y syrnudiad am newid cyfenwau. Pe buasai ond ychydig wedi cydweithredu a. mi o'r dechreu, buasai erbyn hyn gryn svifer o enwau newyddion yn ein mysg ond, er ceisio yn bersonol a thrwy y wasg, methais gael gan neb ddilyn fy esiampl. Mae lluaws wedi newid ychydig ar eu henwau trwy ychwanegu enw newydd a'i roddi yn y canol, rhwng eu henw a'u cyfenw. Mae hyny yn gwella ychydig ar bla yr enwau, ond yn gadael y pla ei hun fel yr oedd. Nid enwau nwyddion, ond cyf- enwau newyddion, sydd arnom eisiau fel cenedl. Mabwysiedais i fy enw barddol yn gyfenw i mi a'm teulu, ac y mae'r enw mor gyfreithlon a'm henw cyntefig. Mae arfer gwlad yn meddu ar rym cyfraith. Mae yn arfer gwlad yn mysg y Cymroi i feirdd gymeryd enw newydd, ac y mae arfer y wlad yn gwneud yr enw a gymerir mor gyfreithiol a'r enw a roddwyd arno pan gofrestrwyd ef. Arfer gwlad yn mysg y Cymroi hefyd ydyw i orsedd y beirdd urddo beirdd ac eraill o dan enwau newyddion, ac y mae yr enwau mor gyfreithlon a phe buasent wedi eu cael trwy drwydded neu ddeddf seneddol. Urddwyd finau mewn Eisteddfod, ac enw barddol yr orsedd ydyw yr enw a gymerais yn gyfenw teuluol, ac y mae mor gyfreithlawn ag un enw yn y wlad. Gall pob bardd, ofydd a derwydd yn y wlad ar- fer eu ffugenwau mor gyfreithlon a phe buasent yn enwau bedydd iddynt. Pe gellid darbwyllo pawb sydd wedi eu hurddo mewn Eisteddfod i ddetnydd- io eu ffugenwau yn gyfenwau teuluol, gwneid chwyldroad bychan yn enwau y Cymroi ar un- waith. Y cwbl sydd yn eisiau i ddwyn y cyfnew- iad oddiamgylch ydyw cenedlgarwch a beiddgar- wch. Yr wyf yn ofni mai ofn Modryb Sian sydd yn atal ein cenedl rhag cymeryd cyfenwau new- yddion. Ond yn annibynol ar arfer gwlad a'r Eisteddfod, gall y neb a fyno newid ei gyfenw pan y myno heb gostio dimeu goch. Mae yn cael ei wneud agos yn feunyddiol. Mae llawer o bobl yn masnachu o dan enwau mabwysiedig. Ac o'r proffeswyr, chwareu- wyr, cantorion, &c., mae lluaws ohonynt yn cael eu hadnabod o dan enwau mabwysiedig. Nid oes dim yn eisiau ond cymeryd y cyfenw a gadael i bawb wybod mai wrth yr enw y dewiswch o hyn allan gael eich hadnabod. Mae newid cyfenwau yn bwnc Seisnig, yn gystal a phwnc Cymreig. Mae enwau Cymreig yn rhai da a gweddus, ond fod rhy ychydig ohonyDt. Ond y mae llawer o gyfenwau Seisnig yn anweddus iawn, a dylid gorfodi y rhai sy'n eu dwyn i'w newid am gyfenwau addasach, er mwyn gweddeidd-dra a moesoldeb cyffredin. Mae llawer o Saeson yn teimlo hyny, ac yn dadleu dros y symudiad. Bu gohebu mewn newyddiaduron eleni ar y pwnc, a gwelais erthygl wedi ei chodi o un o'r cyfnodolion cyfreithiol ar y mater. Yn yr erthygl hono, sicr- heid y darllenydd y gellid newid cyfenw gan un- rhyw un heb dalu dimeu am hyny. Wrth gwrs, os bydd rhywun yn dewis talu am drwydded gall wneud hyn, ond nid oes trwydded yn angen- rheidiol. Yn awr, os oes rhyw Gymro neu Gymraes yn awyddus ac yn barod i newid eu henwau, gallant wneud hyny yn ddidraul, a gwnaent wasanaeth i'w cenedl trwy y cyfnewidiad. Yr unig beth y dyl- ent oialu am dano ydyw cael cyfenwau tlysion a soniarus—cyfenwau na fydd raid iddynt hwy na'u holafiaid gywilyddio o'u plegid, na byth ddeisyfu am eu newid. Mae cryn bwys yn hyn, oblegyd bydd newid cyfenw yr ail waith braidd ya an- mhosibl. Meddwl yr wyf y dylai ein beirdd a'n llenorion a'n gweinidogion roddi cychwyniad i'r symudiad ac ond iddynt wneud hyny, yr wyf yn hyderus y ceid lluaws o'n cydwladwyr i'w hefelychu yn fuan. —Yn wladgar, R. J. DERFKL. GOGAN IORWERTH TIR SIMWNT. SYR,- Wrth browla y nos o'r blaen, codais y Cymro oddiar will cyt yr ieir yn muarth Bryn- ffynon, ac wedi myn'd a fo i'r ffau i'w ddarllen i'r filges a'r cwn bach, er ein syndod mawr daethom ar draws" Penillion i'r Llwynog," gan Iorwerth Tir Simwnt, yr hyn sy'n athrod ar ein cenedl ni. Be wyr o am Iwynogod ? Ydio yn meddwl fod pawb run fath a fo'i hun, tybed ? A pheth arall, os ydi Gramadeg John Davies, Nantglyn, gefes i ar fuarth Plasbenet er's talm yn gywir, tydyw Ior- werth ddim yn canu wrth reole Dafydd ab Ed- mwnt, a pheidied byth eto a rhoi ei fys yn mrwes neb arall, onide mi ro i ei draed o yn ddigon sych- ion yn y ty mawr hwnw wrth Bont Huwcyn. Yn y Graig Lom mae ein ffau ni, Lie magwyd llwynogod braf diri, Ond bwgan rhain o oes i oes Ydi Iorwerth Tir Simwnt a'i lygad croes. Pe bai Simwnt Fychan, a'i awen glir, Yn dod yn ol i fyw i'w dir," Fe yrai Iorwerth mawr ei fai Yn fwgan adar penau'r tai. Y Cadnos ifine gaent drachefn Ganu haleliwia yn ei gefn, A bloeddio concwest ar farn drom Ddisgynodd ar Gadnos y Graig Lom. Mae llwynogod Samson'n fyw o hyd- A gofaled Iorwerth am ei yd Ac hefyd am ei ffowls a'i chwid, Os ydi o'n prisio ei hen frid. Ar ei hen sodle, am gan mor hyll, Fe ddown ryw noson wedi'r gwyll, I gynal cymanfa fawr mewn hedd A chyfarth carol ar ei fedd. Nantglyn. LLWYNOG RHIDILL. O.S. Os gwelwn ni fod Iorwerth yn athrodi y'n cenedl ni eto, fe'i gwysiwn ef o flaen ein brenin i sefyll ei brawf.-LL. R.
0 .Cynrychiolaeth Bwrdeisdrefi…
0 Cynrychiolaeth Bwrdeisdrefi Trefaldwyn. Bu Pwyllgor Etholiadol y Bwrdeisdrefi uchod yn eistedd ddydd Mawrth, pan y daeth nifer dda o gynrychiolwyr yn nghyd. Gosodwyd enw Mr J. W. WillaBS, Dolforgan Hall, ger bron, a chredir y cydsynia i sefyll fel ymgeisydd y Blaid Rydd- frydol. Gan ei fod yn Rhyddfrydwr blaenllaw, yn Ymneillduwr, ac yn siaradydd cyhoeddus hyawdl, credir y bydd yn ymgeisydd cryf, ac yn debyg o arwain y Rhyddfrydwyr i fuddugoliaeth yn y bwr- deisdrefi uchod.
Yr Arohddiacon Thomas a Mr…
Yr Arohddiacon Thomas a Mr Hum-1 phreys Owen, A S. ¡ WRTH roddi hanes cyfarfod esgobaethol yn Llan- elwy, cofnoda y Rhyl Advertizer am Gorph. 28 i'r Archddiacon Thomas arfer y geiriau a ganlyn— TRA'N siarad ar ran Berriew, yr Archddiacon Thomas a ddywedai mai plwyf gwasgaredig ydoedd, a phrin y gwyddai sut y gallai'r ficer barhau os na cheid cynor- thwy pellach gan y Gymdeithas. Yr oedd pobl gyf- oethog yn trigianu yn yr ardal, ond yr oedd yn ddrwg ganddo nad oeddynt yn cynorthwyo y gwaith eg- lwysig yn y mesur lleiaf. Mr Humphreys-Owen, A.S., oedd y tir-feddianydd mwyaf yn y gymydog- aeth, ac yr oedd wedi tynu'n ol y tanysgrifiad a rodd- ai Mrs Owen yn fiaenorol i ystafell genadol Panty- ffridd, ar y tir nad oedd yn cytuno a daliadau gwleid- yddol y ficer (chwerthin). Ystyriai hyny yn gryn galedwch. Gwnaeth Mr Humphreys-Owen ymholiad gyda'r Archddiacon Thomas a oedd yr adroddiad yn gywir, a phasiodd y llythyrau cablynol rhyng- ddynt- Rheithordy Llandrinio, Croesoswallt, Gorph. 29. SYR,—Y mae crynodeb byr y gohebydd a anfonas- och i mi, a'r hwn wyf yn ddychwelyd yn awr, yn gosod y mater dipyn yn wahanol i'r hyn, mor bell ag wyf yn gofio, a ddigwyddodd, Tra'n siarad i gefnogi y cais o Berriew, darfu i mi wneud y sylw, er ei fod yn blwyf mawr a chyfoethog, fod pobl gyfoetbog yn byw ynddo na wnaent ddim i hyrwyddo gwaith eglwysig. A darfu i mi ychwanegu gydag achos Pantyffridd, fod un o'r tirfeddianwyr mwyaf wedi tynu'n ol y tanysgrifiad ag yr oedd y prif gynorthwywr arferol o'i roddi. Yna galwyd am yr enw, a rhoddais ef-yr eiddoch chwi—yn achos Mrs Owen. Gwnaed y sylw nad oeddych yn cytuno a golygiadau gwleidyddol eich ficer er dangos fod am- ryw ystyriaethau heblaw cyfoeth plwyf i'w hystyried a'i fod yn galedwch mawr i dynu yn ol y rhodd yn yr achos hwn a'i gyffelyb.—Yr eiddoch yn ffyddlawn, D. R. THOMAS. A. C. Humphreys-Owen, Ysw., A.S. Ty'r Cyffredin, Awst 1, 1894. SYR,—Nid yw eich llythyr am y 29ain mewn un- rhyw fodd yn lleihau nac yn esgusodi nodwedd gam- arweiniol eich sylwadau yn nghyfarfod Llanelwy. Ni thybia neb ddarlleno yr adroddiad na'ch llythyr chwi fy mod, am lawer o flynyddau ar ol marwolaeth y ddiweddar Mrs Owen, ac yn mhell ar ol i mi wybod fod ficer Berriew yn bleidiwr selog i'r blaid Doriaidd, wedi parhau y tanysgrifiad tan sylw tanysgrifiad, nid i ystafell genadol—oblegyd nid oes genym bagan- iaid yn Berriew-ond tuag at gyflog curad. Darfu i mi ei roddi i fynu oherwydd fod y ficer, yn ngwyneb gwrthdystiad a rhybudd parhaus yn mynu (1) rhoddi llenyddiaeth bleidiol ar eisteddleoedd eglwys y plwyf o flaen gwasanaeth dwyfol y Sabboth; (2) traddodi pregethau gwleidyddol a pher- sonol; ac yn (3), neillduo un o'r casgliadau at amcan- ion Cymdeithas Amddiffynol yr Eglwys—corphhollol wleidyddol. Danfonaf yr ohebiaeth hon i'r wasg, ac ydwyf, syr, eich ufudd was, A. C. HUMPHREYS-OWEN. Yr Hybarch Archddiacon Thomas.
--0---Cymhwysderau Arolygwyr…
--0- Cymhwysderau Arolygwyr Chwarelau. YN Nhy'r Cyffredin, nos Wener, Mr Bryn Roberts a ofynai i'r Ysgrifenydd Cartrefol a oedd yn ym- wybodol nad oedd y ddau arolygwr benodwyd yn ddiweddar ganddo yn meddu gwybodaeth ymarferol ond yn unig am ddull cloddio llech-chwareli Meir- ionydd, ac nad oeddynt yn meddu dim gwybodaeth ymarferol am y modd hollol wahanol o gloddio mewn arferiad yn sir Gaernarfon, sef y dull agored; ac a fyddai iddo benodi un arolygwr yn meddu gwybodaeth ymarferol o ddull agored y chwareli, fel y gallai chwarelwyr Arfon gael yr un amddi- ffyniad ag sydd yn awr yn cael ei roddi i chwarel- wyr Meirion. Mr Asquith Nid yw yr achos fel yr adroddwch yn adran gyntaf y cwestiwn. Mae Mr Williams- un o arolygwyr cloddfeydd metelaidd a chwareli a benodwyd yn ddiweddar-wedi gweithio yn chwar- eli Uchaf Oakeley, pa rai sydd. yn chwareli agored. Mae ganddo wybodaeth dda o chwareli agored sir Gaernarfon ac y mae wedi traddodi darlithiau ar ddaeareg droion i ehwarelwyr Llanberis a Dyffryn Nantlle. Y mae yn dwyn allan draithawd ar lech- chwarelaeth, er parotoi yr hwn, y dywed wrthyf, ei fod wedi ymweled ac astudio y moddau o weithio-yn agored a thanddaearol—chwareli Cymru, Cernyw a Ffrainc. Un o'r tueddiadtu cryfaf yn ffafr apwyntiad Mr Williams a gynwys:d mewn llythyr a dderbyniais oddiwrth Mr Pritchard, arolygwr Chwareli y Penrhyn (yr hwn ei hun a ddechreuodd ei fywyd fel chwarelwr). Yr wyf yn foddlawn fod y ddau arolygwr cynorthwyol yn gwbl gymhwys i arolygu y chwareli agored a than- ddaearol, ac nad oes tir digonol i ychwanegiad pellach at yr arolygiaeth yn ol awgrymiad fy nghyfaill anrhydeddus. Mr Bryn Roberts: A gafodd y boneddwr hwn un diwrnod o ymarferiad mewn chwareli agored, ac a yw y boneddwr gwir anrhydeddus yn ymwybodol fod nifer y rhai a weithient yn chwarelau agored sir Gaernarfon dros 8,000, tra nad oes ond 4,000 yn sir Feirionydd ? Mr Asquith Mae Mr Williams wedi cael amryw flynyddau o ymarferiad mewn gweithio yn y chwar- elau agored, yn ogystal a gwybodaeth ymarferol, Mr Bryn Roberts Yn mh'le ? Mr Asquith Yn Chwarelau Uchaf Oakeley.
[No title]
Io.-Diliau Barddas: sef, Cyfansoddiadau barddonol BARDD NANTGLYN (Robert Davies). 9 a ii.-Pigion Englynion Fy Ngwlad, yn cynwys 2,000 o Englynion goreu'r Iaith. Wedi eu casglu o waith Beirdd Hen a Diweddar, gan EIFIONYDD.-Y Gyfres 1 af a'r 2il. 12.-Rheinallt ab Gruffydd. Rhamant Hanes- yddol. I4-—"Christmasia," gan DAVID OWEN (Brut us "Bywgraffiad campus o'r enwogCHRISTMAS EVANS, an ysgrifenydd doniol a'i hadwaenai yn dda." 15.- J. Ceiriog Hughes: Ei Fywyd, ei Athry- lith, a'i Waith. (Gyda Darlun cywir oliono, ac o Benybrya. Dyffryn Ceiriog, lie ganwyd ef). Gan y ^^JFRBRYF. I<5-—YR Oriau Olaf: gan JOHN CEIRIOG HUGHES, sef Caneuon, Rhiangerddi, &c., na chy- hoeddwyd o'r blaen, ac wedi eu cymeryd o law- ysgrifau y Bardd Y DDAU LYFR UCHOD wedi eu rhwymo yn nghyd mewn Llian. Pris 2s. 6ch. i 8.—Llythyrau Goronwy Owen. Wedi eu manwl gydmaru a chopïau mewn ysgrif, yn nghyda rhai llythyrau nad oeddynt mewn casgliadau blaen- orol, ac ychydig eraill wedi eu cymeryd o ysgrif lyfrau. Yn y wasg.
! GALARGAN I'R IAR.
GALARGAN I'R IAR. Beth yw y newydd trwm a geir Yn syfrdanu byd yr Ieir ? Gan wasgar dychryn yma a thraw A galar dwys a chymysg fraw ? Pob iar a cheiliog, bach a mawr, Yn llusgo'u hesgyll hyd y llawr, Ni cheir un iar wna ddodwy \yy Na cheiliog gan i'n deffro mwy A gwympodd rhywun oedd a chlod A'i henw megys iar o nod ? Do, do Brenhines fawr yr ieir Ar lawr yn farw gelain geir. Mynegi ei rhinweddau wnawn Pe buaswn i yn meddu dawn, Boed ysbryd ceiliog genyf fi I adrodd ei daioni hi. Fe'j ganwyd hi yn Lloegr bell 0 wy nas gwelwyd 'rioed ei well, A cha'dd ei magu ar bob awr Mewn pryder gyda gofal mawr, Y tad a'r fam yn fwyd i'r ferch Roen't bryfed genwair gyda cherch, Gweiniasant iddi—barchus bar— Nes tyfodd ifaintioll iar. 'Rol iddi dyfu i lawn faint I feddu o bob hawl a braint, Ymfudo wnaeth i Gymru deg, Lie gwnaeth ei nyth mewn ardal chweg. Bu yno'n ddiwyd gyda'i gwaith Yn dodwy bob chwe' dydd o'r saith Ei henw da yn hir goffheir Yn mysg enwogion byd yr ieir, A diau sonir mwy na mwy Mewn hiraeth am ei blasus wy Ow Ow ni cheir ar ddaear lawr Un iar wna ddodwy IVY mor fawr. Mae dweyd bu farw imi'n boen, Rwy'n methu dyoddef yn fy nghroen, Do do bu farw, Och drwy drais Bu'n aberth i greulondeb Sais, Dros ddibyn craig chwyrndaflodd hi Nes oedd hi'n yfflon, am wn i. Mae ieir yr ardal ag un lief Yn gwaeddi am ei grogi ef, Mae galar cymysg gyda dig I'w glywed heddyw o bob pig, Pob iar a cheiliog-perchen plu- Sy'n son am gael eu lliwio'n ddu. WILLIAM PARRI. Bodfor, Bethesda fawr yn Arllechwedd.
Advertising
PAPAYANN1 STEAMSHIP COMPANY. LARGE AKO POWERFUL BRITISH STEAMER Sail regularly to he LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports, taking the following two routes alternately: (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling ofte on the return journey at several Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Sppln. (2) ALGJERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPRUS BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty well. ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiato fares for single and return tickets, and no extra charge living on board during 3hips' sHy at Ports. Tourists and pleasure-seekers t aking a trip by this Line w find it most enjoyable and interesting. For further partictt ars, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Liverpool LLINELL Y WHITE STAh. ROYAL MAIL STEAMERS. LERr vvX I NEW YORK via QUEENSTOWN. BOB DYDD MERCHER:— *MAJESTIC Awst 22 GERMANIC Awst 29 Yn y Steerage i New York, Boston, Philadelphia a Baltimore, zC2. Dilladiad gogyfer a'r Steerage yn had. Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeiihwyr A arwydda y ciudir yn yr Ail Gaban ar y fordaith Pris y cludiad ydyw L7 ac LS. Y mae y Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun a threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni cheir yth well cyfleusdra i fordeithwyr. Am fanylion, ymofyner a R. Owen, Ship & In urance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad, Caernarfon; neu a R. Roberts, Bethesda; Owen E. Parry, masnachydd llechi, c wyddelen; David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank, Caergybi; W. M. Jones, Church Street, Llangefni, R. G. Roberts, Rock Cottage, Creigiau Mawr, Tal- ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Aml vcb, W. O. Williams. Shoe Warehouse, Llanrwst, Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R. C. Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu ag ISMAY bIRIB & Co., 34, Leadenhall Street, Llundain, E.C., a Water Street, LerpwI. jiUfe: BEAVER LINE. LIVERPOOL TO CANADA AND UNITED STATES EVERY SATURDAY. FREE LAND TO SETTLERS OF 160 ACRES. The Canadian Government grant 160 Acres of Land free of cost in Manitoba, North West Provinces, or British Columbia. Saloon to Quebec or Montreal. £ 10 Os 2nd Cabin 11 97 Os Steerage to Quebec. 15 58 Passengers booked to all parts of Canada and United States at Low Rates. R W. ROBERTS, Manager, 21, Water Street, Liverpool. EXTRA SATURDAY AFTERNOON SAILINGS. REDUCED PRICE SEASON TICKETS. T IVERPOOL AND NORTH WALES t > S.S. CO., LTD. DAILY SAILINGS (Sundays excepted), By the Favourite Steamer ig ST. TUDNO." Leaves Liverpool.10 45 a.m. Leaves Bangor and „ Llandudno 1. 0p,m. Menai Bridge 4. 0 p.m. Beaumaris.. 2. 0 p.m. Beaiiniaris 4 30 p.m. Arrives Bangor and Llandudno 5.30 p.m. Menai Bridge 2 30 p.m. Arrives Liverpool.. 7.45 p.m. EXTRA SAILINGS. BONNIE PRINCESS Sails on Saturdays from Liverpool at 2 p.m., and early from Wales on Mondays—due Liverpool 10.15 a.m. 1st Class. 2nd Class. FARES Sing. Ret. Sing, Ret. Liverpool and Llandudno 4s 6d' 6s 6d 2s 6d 4s 03 Liverpool, Beaumaris, Bangor, and Menai Bridge. 5s 6d 8s Od 3s Cd 5s 04 FIRST SALOON SEASON TICKETS £2 Os Od Monthly Tickets, from any date Pl 10s Od Weekly (Mondays to Saturdays). ZO 15s Od REDUCED FARES FOR PARTIES OF 20 AND OVER. Messrs T. Cook & Son, Swan and Leach. Limited, or T. E. BARLOW, Secretary, 20 Water Street, Liverpool. EXTRA SATURDAY AFTERNOON SAILINGS CON- NECTING AT LLANDUDNO WITH THE ST. TUDNO