Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Cadeirydd Newydd Undeb Cynulleidfaol…

News
Cite
Share

Cadeirydd Newydd Undeb Cynulleidfaol Cymru. Y MAE':a Parch J. Bowen-Jones, B.A., cadeir- ydd yr Annibynwyr Cymreig am 1895, yn adna- Dyddus trwy Gymru fel pregethwr galluog, wrth yr enw "Jones y Plough." Ganwyd ef yn 1826, yn mhlwyf Llandyssul, yn ngolwg y fan lie ganwyd Christmas Evans. Tueddwyd ef yn ieuanc at y weinidogaetb, a phan yn 18 oed aeth i Goleg Aberhonddn a tbra yno, yn 1847, cymerodd ei radd o B.A. yn Mhrifysgol Llundain, ac yr oedd enwog Dc Dale o Birming- ham yn yr un rhestr. Mr Jones oedd y Cymro -cyntaf erioed a enillcidd yr anrhydedd hwn. Cafodd alwad i'r weinidogaeth gan eglwysi Her- toon a Thabor—eglwysi gwladaidd yn sir Gaer- fyrddin fel olynydd i'r pregethwr enwog Thomas Jones, Treforris wedi hyny. Gwedi saith mlynedd yn 1855, cymerodd ofal eglwys Annibynol Penybont, Morganwg, Yno yr oedd pan briododd Miss Owen, o Lerpwl, yr hon oedd yn ferch o'r gwr cyntaf i Mrs Thomas, priod y diweddar Ddr John Thomas o'r Taber- nacl. Yn Mhenybunt, agorodd ysgol ramadegol, yr hon a fu yn dra llwyddianus am y 13 mlynedd y bu Mr. Jones yn y dref. Yn 1868, symud- odd i gymeryd gofal Eglwy. Annibynol y Plough, Aberhonddu, lie y mae eto. Agorodd ysgol ramadegol yma eto, yn benaf i ddarparu gwyr ieuainc at fyned i golegau yr enwad. Y mae amryw o'i hen efrydwyr erbyn hyn yn wasgar- edig hyd Gymru, a rhai ohonynfc gyda'r pregeth- Wyr goreu a fedd yr Annibynwyr. Ni chyfynga Mr Jones ei wasanaeth i'w genedl aci'w wladnac i'r pwlpud, ond cymer ran flaenllaw mewn llawer symudiad daionus. Enill >dd hefyd am- ryw wobran pwysig yn yr E steddfod Genedl- aetiiol. Yn Eisteddfod Aberhonddu, 1889, -enillodd haner y wobr a roddid gan Ardalydd 13ute am gyfieithu Llyfr xvi. o Iliad Homer i'r Gymraeg. Cyhoeddodd gyfrol fechan alluog, yn cynwys barddoniaeth a thraethodau, tan yr enw Blodeuglwm; ac efe a olynodd y Parch. Wm. Nicholson fel golygydd y misolyn Genad Hedd Ei fab hynaf ydyw Mr Ivor Bowen, bargyfreith- 1Wr addawol ar Gylchdaith Deheudir Cymru. o

Cynygiad haelionus Mr Rathbone

O 1 ^ Diangfa Cyfyng.

---0-b Corsedd y Beirdd.

I Cymru Grefyddol

---:0:--Cofrestru Llawysgrifau…

--0---Brawdiysoedd y Cauaf.

[No title]

Advertising