Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Eisteddfod Cadeiriol Corwen.

News
Cite
Share

Eisteddfod Cadeiriol Corwen. ERBYN hyn, mae Eisteddfod Gwyl y Banc, Cor- wen, yn sefydliad blynyddol, a'i llwyddiant yn cynysldu yn barbaus, fel y prawf cynulliad a gweithrediadau dydd Llun diweddaf. Er yn foreu, canfyddid arwyddion bywiogrwydd yn y dref dawel a phrydferth lion. Dechreuwyd y gweithrediadau am naw or gloch, trwy gynal Gorsedd ar Lawnt y Farchnadfa, o dan arwein- iad Rhuddfryn. Cymerwyd rhan ynddi gan Llifon, Yr Alltwen, Abon, Athron, Ieaan Wyn, a Diphwyson, a cbwareuwyd y delyu gan Telynor Meirion. Oddeuta deg o'r gloch, ffurfiwyd gorymdaith, yn cael ei blaenori gan Seindorf BreS Llan- uwchllyn, a chyrchwyd i'r babell eang mewn maes cyfagos i ddechreu y rban gystadleuol o'r gwaith. CYFARFOD Y BOREU. Llywyddwyd gan Mr. Thomas Darlington, MA, ac arweiniwyd gan y ffraethbert LlifoD-un o ar- weinyddion goreu Cymru yn sier. Gvvnaed y dy- farniadau a gaalyn Beirniadaeth yr arwisg i blentyn, gan Mrs C. H. Wynne, Rhug, a Mrs Lloyd. Y fuddugol oedd Miss Roberts, Birkenhead. Yn adran y ceifau, Mrs Evans, Nantydeiliau, Llanuwchllyn, a farnwyd oreu am gerfio Y Ddraig Goch," a Mr Robert T. Jones, Cerigydruidion, am y rhwyllwaith (fretwork). Beirniadaeth Dyfed a Machreth ar yr englyn "Y Mud." Allan 0 20 o ymijeiswyr, eiddo Gwilym Ceiriog, Llangollen, a farnwyd yn oreu. CAn gan Miss Jennie Roberts, R.A.M., Corwen, yn odidog. Cystadleuaeth pedwarawd, The sea hath its pearls." Ua parti ddaeth yn mlaen, sef Glyn- dyfrdwy, daa arweiniad Mr W Careilw Williams, ac a farnwyd yn deilwng o'r wobr. Toddaid, "Y Seneddwr," all An o 2), Gwilym Ceiriog, Llangollen. Cystadleuaeth unawd soprano. "Breuddwydion Ieuenctyd gwobr 10s 6c allan o luaws, Miss Cissie Pritchard, Cefn Mawr, a enillodd. Anerchiad y llywydd, yr hwn, er yn Sais o genedl, o draddododd anerchiad rhagorol yn Gym- raeg. Sylwodd ar amcanion ein sefydliad cenedl- aethol yn neillduol fel moddion diwylliant a chadwraeth yr iaith. Gadawer i'r Saesneg fod yn iaith masaach, ond cadwer y Gymraeg yn iaith yr aelwyd, yr eglwys, a'r Eisteddfod. Er fod i len- yddiaeth Cymru nodweddion na cheir hwy mewn llenyddiaeth gwledydd eraill, eto y mae lie i feith- rin cangheuau newyddiou a hyderai yn y dyfodol agos wsled y r.ofel a'r ddrama yn cael eu geni, ac yn cymeryd eu He yn ein llenyddiaeth. Neges fawr Cymru i genedloedd eraill ydyw dangos mai y llenyddiaeth oreu ydyw yr hwn sydd wedi ei sylfaenu ar egwyddorion Cristionogaeth a rhodd- odd deyrnged o barch i'r Ysgol Sul fel meithrinfa gallu a chwaeth lenyddol uchel. Derbyniwyd ei sylwadau gyda chymeradwyaeth. Cystadleuaeth corau y plant, Dyrchafwn lawen gan (Tom Price) gwobr 6p. Daeth tri chor yn mlaen, sef Corwen, Acrfair, a Dinbych. Ar ol cystadleuaeth galed, bar"W„4<- reu, yr hwn oedd dan arweil:-cl Mr David Hughes. Beirniadaeth traithodau y merched, Y fancais o addysg uwchraddol i ferched Cymru gwobr lp Is: Miss Roberts (Eirianwen), Tynycefn, Cor- we i, yn oreu, gyda chymeradwyaeth uchel. Cystadleuaeth seindorf danau gwobr, 5p. Un ddaeth vn mlaen, sef Corwen, dan arweiniad Mr Bryan Warhurst, yr hwn a deilyngai y wobr ac uchel ganmoliaeth y beirniad. Cywydd, Pryder gwobr lp Is naw yn ym- geisio Brynfab, Pontypridd, yn fuddugol. Cystadleuaeth ragorol ar yr unawd bass, Cwm Llewelyn;" gwobr 10s 6c. Rhanwyd y wobr rhwng Mr Pryce Davies, Penmachno, a Mr Robert Edwards, Clocaenog, ger Rhuthyn. Beirniadaeth y prif draithawd, "Nodweddion gwerin Cymru gwobr 2p 2s tri ymgeisydd, a'r buddugol oedd y Parch W. W. Lloyd, Gwyddel wern. Y brif gystadleuaeth gorawl. Teimlid dyddor- deb neillduol yn hon. "Gweddi Gwraig y Meddwyn (Dr Parry) oedd y darn cystadleuol. a chynygid gwobr o 25p i'r cor goreu, a 5p i'r ail. Daeth tri chor yn mlaen, sef Dolgellau (Mr Robert Davies), Croesoswallt (Mr John Roberts), a Bwlch- gwyn, ger Gwrecsam (Mr Robert Jones). Dyfarn- wyd cor Dolgellau yn oreu, a Chroesoswallt yn ail. Er fod cynifer a 44 wedi ymgeisio ar gyfieithu emyn, ataliwyd y wobr o ddiffyg teilyngdcd. CYFARFOD Y PRYlJNAWN. Llywyddwyd gan y gwladgar Mr 0. M. Edwards. Cystadleuaeth unawd ar y berdoneg gwobr 10s 6c Mr John H. Owen, Llandrillo, yn oreu. Daearlen o sir ii eirionydd gwobr^ 10s 6c Mr Harold Jones, Dolgellau. Traithawd i rai dan 25 oed, Y modd sicraf i enill bywoliaeth anrhydeddus," gwobr, 10s 6c Mr Thos. Morris, Birkenhead. Cystadleuaeth unawd contralto, 11 lesti, Cyfaill f'enaid cu," gwobr, ICs 6c Miss Bessie Jones, Corwen. Mr 0. M. Edwards, yr hwn a gafodd dderbyniad brwdfrydig, a sylwodd fod tref Corwen yn hynod fanteisiol fel man cyfarfod. Yma y byddai bydd- inoedd Gwynedd yn dod at eu gilydd, yma yr oedd Giyndwr—y Cymro-mwyaf a welodd Cymru erioed -yn casglu ei laoedd ac yma hefyd yr oedd rhai o ddvifrynoedd prydferthaf Cymru yn cwrdd a'u gilydd. Yn wir, yr oedd prydferthwch y naill a'r llail ohonynt fel pe'n ymdoddi i'w gilydd yma. Hyderai y cai weled yn fuan gofgolofn i Glyndwr yn y dref. Cyfeiriodd at sefyllfa addysg hefyd a thra yn llawenhau oherwydd sefydliad y brifysgol ac ysgolion canolradd, gobeithiai y rhoid mwy o le i addysg gelfyddydol yn Nghymru nag a wnaed yn y gorphenol. Cyfieithu i'r Gymraeg ddernyn o waith Shake- spere, gwobr, 10s 6c; Ofydd Afon," yr hwnnic1 atebodd i'w enw. Cystadleuaeth corau meibion, CvdgFn y perer- inion (Dr Parry), gwobr, 8p 8s. Tri chor ddaeth yn mlaen, sef Glyn Ceiriog (Mr Hugh Jooes) Walton Park, Lerpwl (Mr If. W. Jones) a Ffes- tiniog (Mr D. Morris). Cystadleuaeth ragorol, ond Walton Park yn oreu. Unawd tenor, "Y gloch," gwobr, 10s 60; 13 o vmgeiswyr, a Mr J, O. Roberts, Croesoswallt, yn Beirniadaeth y gan ddesgrifiadol, Streic lS'OS." gampwr arnynt. I Gwobr, lp. Is." Pedwar ymgeisydd; goreu, Mr. Owain Caerwyn Roberts, Swyddfa'r Cymro, Lerpwl. Detholiad ar y delyn gan Telynor Meirion. Cadeirio y bardd oedd y gwaith nesaf. Cynygid gwobr o 5p. a chadair dderw am yr awdl oreu ar "Eiddigedd." Darllenwyd y feirniadaeth gan y Parch Machreth Rees. Pump o ymgeiswyr, a phan alwyd ar y buddugwr, caed mai y Parch. Thomas Davies (Bethel), Caerdydd, ydoedd a chadeiriwyd ef yn ol y ddefod arferol, dan arolygiaeth Rhudd- fryn a'r Alltwen. Anerchwyd ef hefyd gan Gwilym Ceiriog, Athron, Dewi Ffraid, Ceinydd, Peter Lhyd, Tom Owea, a Caerwyn Roberts, a chaed can y eadeiriad gan Mr William Evans. Cyfansoddi darn o gerddoriaeth ar eiriau o waith Talhaiarn. Enillwyd y wobr o lp. Is. gan Mr John Lloyd, Dolgellau. Cystadleuaeth deuawd "Arwyr Cymru Fydd." Gwobr, 12s. 6c., yr hon a enillwyd gan y Mri Llewelyn Davies a Morris Williams, T^awsfynydd. Duchangerdd, "Seisnigeiddiwch Eisteddfodol." Gwobr, 10s. 6ch. Mr. Caerwyn Roberts, Lerpwl, yn fuddugol. Ail gystadleuaeth gorawl, Yr awel fwyn, gwobr, lOp. Cor Llan Ffestiniog (Mr Evan Wil- liams), a Chor Corwen (Mr D. Lloyd Evans) yn ymgeisio, ac ar ol cystadleuaeth galed, Corwen aeth a'r wobr. Y Cyngherdd. Yn yr bwyr,cynaliwyd cyngherdd mawreddog, dan lywyddiaeth Mr E. O. V. Lloyd, Rhagatt, pryd y eymerwyd rhan gan Miss Jennie Roberts, R.A. Mr Wm. Evans, Mr Wilfrid Jones, Sein- dorf Danau Corwen (dan arweiniad Mr Warhurst); yn nghyda'r corau buddugol. Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Mr Bryan Warhurst a Mr John Roberts, Dolgellau, ac ar y delyn gan Tel- ynor Meirion. Dygodd hyn yr Eisteddfod fwyaf llwyddianus a gynaliwyd erioed yn Nghorwen i derfyniad. Caed cynulliadau lluosog, cystadleuon rhagorol, a phawb mewn hwyl eisteddfodol; a diau fod yr ysgrifenyddion llafurus, Mr Hugh Morris, ieu., a Mr Jordan, yn teilyngu rhan fawr o'r clod am lwyddiant yr wyl eleni.

: o : Nodion o Fon ac Arlon.

O : Cwibnodion o Ddyffryn…

..-;0:-Gohebiaethau.

-0-Gymcfsithas Amaethydtioi…

INodiadau Cerddorol.