Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

- I : c): I - Eglwys Cymreig…

News
Cite
Share

I c): I Eglwys Cymreig Newydd yn Lerpwl. BRYDNAWN Iau, gosodwyd careg sylfaen yr Eglwys Gymraeg newydd yn Toxteth, Dair blynedd yn 01, agorwyd eglwys genadol yn Smithdown Lane, a'r gweinidog a benodwyd y pryd hwnw ydoedd y Parch 0. F. Williams, yr hwn, yn unol a'r trefn- ladau eglwysig angenrheidiol, a ddaliai gysylltiad a phlwyf St. Nathaniel, tan y Parch R. Hobson, near. Yn fuan, gwelwyd fod angen am eglwys arbenig ar gyfer y Cymry a drigai yn y gymydog- aeth. Dechreuodd Mr Williams gasglu at yr am- can, a llwyddodd i gael tir at a.deiladu gan y Gorphoraeth am y swm o 250p. Mesura'r tir 714 o latheni ysgwar, a saif ar gornel Upper Parliament Street a Lorton Street. Amcangyfrifid y draul o godi'r eglwys yn 2,000p. Cysegrir yr eglwys i Ddeiniol Sant, a bydd yn ddigon o faint i gynwys 300 o bersonau. Cymerwyd y contract am 1,430p gan y Mri Paterson a'i Fab, Soho Street. Gwnaed y cynlluniau ac arolygir y gwaith gan y Mri Rich- ard Owen a'i Fab, Crosshall Street. Gosodwyd y gareg sylfaen ddydd Iau gan yr Henadur John Hughes, ac yr oedd y rhai canlynol hefyd yn bresenol :-Esgob Bangor, Esgob Royston, Parch lianon Burbridge, Parchn J. Davies (Dewi Sant), J. Kirkby, Hugh Williams (St. Silas), J. M. Morgan (St. Asaph, Kirkdale), J. W. Tyrer (Wal- ton), ac O. F. Williams, gweinidog yr eglwys new- ydd, yn nghydag eraill. Dechreuwyd drwy weddi gan Esgob Royston, ac yna gosodwyd y gareg yn ei He. Y Parch O. F. Williams a gyflwynodd i Mr John Hughes drywel arian. Dadganai ddiolchgarwch i Mr Hughes am ei gynorthwy gwerthfawr a'r dy- ddordeb caredig a deimlai bob amser yn yr Eglwys Gymraeg yn Lerpwl. Beth bynag oedd eu gwa- hania.ethau mewn crefydd a gwleidyddiaeth, yr oeddynt oil fel Cymry yn falch o Mr Hughes. Yr oedd caredigrwydd Mr Hughes, a'i addewid o lOOp ? rodd at yr achos, wedi bod yn galondid mawr iddo ef (Mr Williams). Yr oedd y trywel arian yn arwydd bychan o'u diolchgarwch dwfn iddo ef a'i briod, Mrs Hughes, am y dyddordeb a gymerasent yn y gwaith. Wedi gorphen ohono osod y gareg, diolchodd Mr Hughes i Mr Williams am ei gyfeiriadau caredig ato ef a'i briod.. Pan grybwyllwyd wrtho ef am y mater, rai blynyddoedd yn ol, teimlai mai gwarad- Wyddus o beth oedd fod cymaint o bobl yn Lerpwl na fynychent dy Dduw. Teimlai hefyd y dylsid gwneud ymdrech i roi cyfle i'r Cymry addoli yn eu hiaith eu hunain. Bu'r anhawsderau yn anferth, a syndod braidd oedd cyfarfod anhawsderau yn mhlith pobl y gallesid disgwyl ganddynt bob cefnogaeth. Nid oedd ef yn gweled paham y dylasai eiddigedd flynn, oherwydd hoffai ef weled eglwysi yn Py n- yddu. Credai y darfyddai'r teimlad o wrthwyneb- lad bellich, ac y deuai pawb yn mlaen i gynorth- wyo. Yr oedd Mr Williams wedi gweithio a dod dros anhawsderau mawrion. Gobeithiai y pregethid yr Efengyl yn ei phurdeb yn yr eglwys, ac na fyddai angen am y ddefodaeth a'r seremoniau ag yr oedd yn ddrwg ganddo feddwl eu bod i'w cael yn eu plith mewn gwahanol ranau o'r dref. Yr oedd arnynt eisiau Efengyl bur, ac fe wyddai mor hoff oeddynt yn Nghymru o'u heglwysi, eu capeli, a'u hysgolion Sul. Gobeithiai y rhoddid i Mr Williams y gefnogaeth a haeddai. Hysbysodd Mr Williams fod y boneddigion can- lynol wedi anfon llythyrau yn ymddiheuro am nad allent fod yn bresenol :—Syr John Puleston, Mr G. Boscawen, A.S., Mr J. A. Willox, A.S., MrW. F. Lawrence, A.S., Mr R. P. Houston, A.S., Mr Lloyd, Cynghorwr E. H. Cookham (gyda rhodd o 5p), a'r Barwn H. de Worms, A.S. Esgob Bangor a ddywedodd nad oedd ond teg i'r Cymry oedd yn byw yn y ddinas fawr hon gael cyfle i addoli Duw yn eu hiaith eu hunain. Llaweu- ychai fod y symudiad i gael eglwysydd Oymraeg yn nhrefydd Lloegr yn cryfhau o ddydd i ddydd. Ac nid yn unig yn Lloegr, ond yr oeddynt yn anfon cenadon Cymreig Eglwysig i'r Wladfa Gymreig yn Mhatagonia. Yr oedd yn wir fod y wybodaeth o'r Saesneg yn cynyddu'n gyflym y dyddiau hyn, ond fe gymerai lawer o genedlaethau eto cyn y byddai laith y bobl farw. Mor fawr y carai'r Cymro ei iaith fel y'i dygai gydag ef i gartref ei alltudiaeth, He bynag y byddai, ac yr oedd yn well ganddo addoli Duw yn ei iaith ei hun na'r un iaith arall, pa >nor arddercheg bynag a fyddai. Am genedlaethau i ddyfod, byddai'n angenrheidiol darparu moddion i'r Oymry addoli yn eu hiaith eu hunain. Credai ef fod yn ddyledswydd ar yr Eglwys Seisnig yn Lloegr ddarparu moddion i'r Cymry addoli yn eu hiaith eu hunain. Pan elo'r Saeson i Gymry caent "Wasanaeth Seisnig yn mhob plwyf. Yn Lloegr, ni chymerid sylw o'r Cymry ac ni ddarperid dim ar eu cyfer. Gobeithiai y cymerid y mater hwn i fynu gan esgobion holl Loegr, ac yr edrychent arno fel dyledswydd arnynt i wneud darpariaeth o'r fath. Megys y gwydclent, yr oedd ymosodiad pen- derfynol i'w wneud ar yr Eglwys yn Nghymru ond credai fod llawer oedd drwy amgylchiadau yn gwrthwynebu'r Eglwys eto a ddymunent yn eu calon i'r ymosodiad fethu, a methu wnai, gredai ef. pymunai eu rhybuddio yno rhag y twyll honiadau a ledaemd hyd y wlad ganGymdeithasRbyddhadCref- ydd. Apeliai atynt i beidio credu'r mynegiadau, ond yinchwilio eu hunain, a chaent allan mewn llawer achos eu bod yn gelwyddau, yn enwedig am yr ■Eglwys a'r Eglwyswyr yn Nghymru. Ni fu'r Eg- lwys erioed yn fwy gweithgar nac yn nes at y bobl y n,:1g ydoedd yn awr. Yr oedd yr Eglwys yn Nghymru yn d'od yn gryfach o ddydd i ddydd, ac os cai hi lonydd am ychydig flynyddau, byddai Wedi ysgubo plaid y capelau ymaith. Ond yr oedd perygl iddynt hwy yn Nghymru gael eu symud oddiwrth eu hen angorau drwy'r syniadau newydd- ion a ddygid i'w meddyliau drwy'r iaith Saesneg a pha beth oedd ganddynt i wynebu'r psryglon hyn ond yr Eglwys Gymreig? Dywedid fod gan yr Eglwys yn Nghymru orrnod o gyfoeth. Yn lie hyuy, prinder gwaddoliadau oedd arnynt. Oher- wVdd y prinder hwn y dyoddefent, a thrwy hyny wethent helaethu gwaith yr Eglwys. Drwy gym- horth Eglwyswyr Seisnig a Chymreig, hyderai y xnedrent amddiffyn.yr Egtwys, a'i chadw i genedl- aethau oedd eto heb eu geni. Y Parch. Ganon Burbridge a ddatganodd obaith y ceid cyfraniadau fel y gellid agor yr Eglwys yn udiddyled; Esgob Royston hefyd a obeithiai y galluogid Mr. Williams i orphen ei waith yn llwyddianus. Y Parch. J. Davies a edrychai ar y diwinod hwn fel dydd rhyddhad Eglwyswyr Cymreig y rhan hon o'r dref. Oherwydd cyfreithiau'r tir, nis gallent adeiladu Eglwys Gymraeg yn unrhyw blwyf heb gydsyniad y ficar, ac onibai am y fFaith fod Mr. John Hughes yn gyfreithiwr, ni osodasid mo'r gareg sylfaen hono i lawr y diwrnod hwnw. Dymunai bob llwyddiant i Mr. Williams a'i waith yn y dyfodol. Mr. John Hughes a gydnabu dderbyniad 5p. gan Miss Parry, Upper Parliament Street. Ar gynygiad Mr. Jonathan Parry, yn cael ei eilio gan y Cynghorwr W. Roberts, diolchwyd i Mr. John Hughes am ei wasanaeth a diolchwyd i Es- gob Bangor ar gynygiad yr Henadur Grindley ac eiliad y Parch. 0. F. Williams. Terfynwyd drwy ganu emyn. Yn yr hwyr, traddododd Esgob Bangor bregeth i gynulliad lluosog, yn Eglwys Gymraeg St. Nathan- iel, Smithdown Lane, ar Gal. v. 9.

-0--Gwreichion.

IColeg Aberystwyth.

[No title]

Beirniadaeth y Cyfieithiadau.

[No title]

RHYD I WYLFA A'l BOBL ODFA