Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Y Cynadledd Wesleyaidd.

News
Cite
Share

Y Cynadledd Wesleyaidd. YN Birmingham, yr wythnos ddiweddaf, cynal- iwyd cynadledd flyiuyddol y Wesleyaid. Cynaliwyd y cyfarfod cyntaf foreu Mawrth, tan lywyddiaeth y Parch H. J. Pope, llywydd y flwyddyn ddi- weddaf. Galwyd enwau y "cant cyfreithioi," a chafwyd fod tri wedi marw yn ystod y flwyddyn, sef y Parchn J. W. Greeves, J. Baker, M.A., a P. N. Andrews. Dewiswyd y tri canlynol yn eu lie— Parchn Joshua Haigh, arolygwr Cylchdaith Birmingham; J. J. Prescott, a James Chap- man. Yna aed i ddewis llywydd. Enwyd cymaint a thri ar ddeg, eithr cafodd y Parch. Walford Green agos i 200 pleidlais yn rhagor na'r nesaf ato-Dr. Waller. Y trydydd ydoedd y Parch Hugh Price Hughes. Dewiswyd Dr. Waller eto drwy fwyafrif mawr yn ysgrifenydd y Gynad- ledd. Yn ughyfarfod y prydnawn, cymerodd y llywydd newydd y gadair, a thraddododd anerchiad rhagcrol, yn yr hwn y cyfeiriodd at waith a llwydd- iant y Cyfundeb. Yn ddilynol, cynaliwyd cyfarfod gweddi, yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y Parch Dr. Jenkins, Parchn H. Price Hughes, F. W. Mac- donald, Dr. Bowden, Charles Garrett, a Dr. David- son. Yn eisteddiad yr hwyr, diolchwyd i'r cyn- lywydd am ei wasanaeth, a'r un modd i'r swyddogion eraill. Penodwyd gwahanol bwyllgor- au i ddwyn y gwaith yn miaen. Hysbyswyd fod yn y colegau 119 o efrydwyr ar gyfer gwaith cartrefol, yn nghydag eraill parod i waith. Yn nghyfarfod dydd Mercher, darllenwyd rhestr faith o awgrymiadau o'r Cyfarfodydd Talaethol. Un o'r awgrymiadau pwysicaf ydoedd y dylai'r Gynadledd gael y gallu annibynol i benodi gwein- idogion i'r cylchdeithiau. Derbyniwyd deisebau o Gyfarfodydd Chwarterol hefyd. Cyfeiriwyd at farwolaeth dau weinidog—y Parch William Jones, Shepton Mallet, a Thomas Gane, Melksham. Aed yn mlaen gyda'r ymchwiliad i gytneriadau'r gwein- ogion, a thrafodwyd amryw faterion eraill. Ddydd Iau, aed trwy lawer o waith ffurfiol. Cyflwynwyd adroddiad yr ysgolion, yn dangos eu bod yn llwyddianus. Gwnaed y penodiadau swyddogol, y rhai canlynol yn eu plith Parchn J. E. Oiapham a M. Hartley i ymweled a Chyfar- fod Talaethol y Deheudir yn Mai nesaf a'r Llyw- ydd a'r Parch H. Price Hughes i ymweled a Chyf- arfod Talaethol y Gogledd, a gynelir yn Ngholwyn Bay. Ddydd Gwener, derbyniwyd i gyflawn undeb y pregethwyr a deithiasant eu pedair blynedd prawf yn llwyddianus, a phenderfynwyd eu bod i'w liordeinio ddydd Llun nesaf. Gorphenwyd y gvv«iith o dderbyn ymgeiswyr am y weinidogaeth hefyd. Derbyniwyd 68 allan o 108. Bu'r ymgeis- wyr Cymreig yn llwyddianus. Cynaliwyd cyfarfod dirwestol nos Sadwrn, a phregethwyd yn y gwahanol gapelau drwy'r Sab- both, Ddydd Llun, aed yn mlaen gyda gwaith y Gyn- adledd. Cafwyd cryn ddadl ar waith trydydd tal- aeth Llundain yn anfon boneddiges (Miss Dawson wrth ei henw) yn gynrychiolyddes i'r Gynadledd. Cynygiwyd nifer luosog o benderfyniadau a gwell- iantau ar y mater, ac yn y diwedd, pasiwyd, Fod y Gynadledd, wedi i'w sylw gael ei alw at bresen- oldeb boneddiges, a ddewiswyd gan drydydd dalaeth Llundain i'w chynrychioli eleni, yn ngwyneb amgylchiadau arbenig yr achos, ac heb roi barn ar gadernid yr etholiad hwn, yn pender- fynu myned yn mlaen gyda gwaith y dydd; ond, yn y dyfodol, na wiw l gadeirydd unrhyw synod dderbyn henw boneddiges hyd nes byddo'r Gynad- ledd drwy weithred deddfwriaethol wedi pender- fynu derbyn merched yn gynrychiolyddion, ac hyd hyd oni rodder y gyfryw drefn newydd o llatn y synodau talaethol i'w chymeradwyo."—Penderlyn- wyd fod y Gynadledd nesaf i'w chynal yn Plymouth. Cadarnhawyd y rhoddion canlynol i leoedd Cymreig tuag at y Genadaeth (,artrefoi :-Wyddgrug, lUp Caernarfon, 30p Colwyn Bay, 40p Caergybi, 15p; Croesoswallt, 15p; Aberystwyth, 60p. Cyflwyn- wyd amryw adroddiadau eraill, ac yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod agored. Ddydd Mawrth, caiwyd trafodaeth fywiog ar yr hyn a adnabyddir fel dadl yr esgobion Wesley- aidd." Y Parch Marshall Hartley a gynygiodd adroddiad y pwyllgor, yr hwn a awgrymai fod y 35 talaeth i'w huno yn 13, a bod cadeirydd i'w benodi ar bob un or 13, heb fod dim arall tan ei ofal. Cyflwynwyd deiseb yn erbyn y cynllun oddi- wrth Gynghor Talaethol Sir Fflint.-Cefnogwyd anogaeth y pwyllgor gan y Parch H. J. Pope a Mr John Cooper. Mr K. W. Perks, A.S., a wrth- wynebodd y cynllun, a chynygiodd welliant yn ei annghymeradwyo. Eiliwyd ef gan y Parch Charles Garrett, Lerpwl, a dilynodd dadl fywiog. Cefn- ogwyd y gwelliaut gan Dr. Jenkins a Mr Moses Atkinson (Leeds). Yn ddilynol, gohiriwyd y dra- fodaeth hyd fore Mercher, ac aed yn mlaen gyda'r gorchwyl nesaf. Gohiriwyd y Gynadledd am haner awr wedi saith. -:0:-

Gwirfoddolwyr Caernarfon ar…

IMethdaliad Cerddor Cymreig.

Cydbwyllgor Heddgeidwadol…

Y Saethu yn Bisley.

----0----Marchnadoedd.

[No title]

:Lleol

PWLPUDAU CYMREIG, Gorphenaf…

-0-MANCEINION.

CAERI-LEON. -1

Advertising

Family Notices