Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
- Cymdeitnas Hynafiaethol…
Cymdeitnas Hynafiaethol Cymru. YR wythnos ddiweddaf, daeth yn nghyd i Gaer- narfon luaws mawr o aelodau'r Gymdeithas uchod, ac hefyd o aelodau Cymdeithas Hynaf- iaethwyr yr Iwerddon. Cynahai'r flellaf y 48ain o'i chyfarfodydd blynyddol, a threfnasid gwibdeith- iau yma ac acw ileoedd o ddyddordeb yn y sir. Cyn- aliodd pwyllgor cyfFredinol y Gymdeithas Gymreig gyfarfod nos Lun, ac yn ddilynol aeth yr aelodau i gvfarf'd cyffredinol o'r Gymdeithas Wyddelig, tan lywyddiaoth Mr Thomas Drew, yr hwn a ddy- wedodd fod dibeaion arbenig i'r ymweliad hwn o eiddo'r Gymdeithas Wyddelig a Chymru. 0 gan- lyniad i drafodaeth ar y mawr ddifrod a wneid ar gofgolofaau cyhoeddus, &c., gan bleserdeithwyr, penderfynwyd cynyg gwobrwyon am hysbysrwydd a arweiniai i euogfarniad y trosedd wyr. Ym- ddengys mai Americaniaid sydd ddyinaf yn y camwedd hwn. —Yn ddilynol, darllenodd y Farch G. Black bapur ar Benau siethau Gwyddelig,' a'r Parch Leonard H isle ar British Pottery at Sil- chester,' a darllenwyd rhai ar faterion eraill gan y Parch W. T. Latimer a Mr R. G. Fitzgerald. Ddydd Mawrth, ymwelodd tua 100 o aelodau'i' ddwv gymdeithas a Chonwy, lie y derbyniwyd hwy, yn abseooldeb y Maer (Dr R. A. Pritchard), gan beirianydd y fwrdeisdref (Mr T. B. Harring- ton). Ymwelwyd yn gyntaf ag Eglwys y Plvvyf, a darllenodd Mr Harold Hughes, F.S.A., Bangor, bapur arm, gan gyfeirio yn arbenig at vsgrin dderw gerfiedig y gangell, a'r bedyddfaen, a rodd- wyd i'r eglwys, tneddir, gan y Tywysog Llewelyn. Yna ymwelwyd a'r Casteil, lie darllenwyd papur gan y Milwriad Gough, Caerhun Hal], ac arwein- iwyd y parti trwy'r hen adeilad gan Mr Farring- ton. Ymwelwyd yn nesaf a'r Plas Mawr, a ddef- nyddir yn awr fel oriel gelf gan y Royal Cambrian Academy, a darllenwyd papur gan Mr Baker, F.S. A. Wedi ymweled a Chaerhun (' Conovititn I y Rhufeiniaid) ae cL-,cl-iwil;o'r adfeilion, dychwelwyd i Fangor, ac oddiyao awd i Gastell Penrhyn, lie y derbyniwyd y parti gan Arglwydd Penrhyn, llyw- ydel y Gymdeithas Gymreig am y flwyddyn. Yn ei anerchiad, galwodd Arglwydd Penrhyn sylw at y priodoldeb i'r Gymdeithas Gymreig wneud ei goreu er adFer hen golofnau, &c., i'r Ileoedd y'u cafwyd yn hytrach na'u gadael yn nghudd mewn manau lie nad oeddynt o unrhyw ddefnydd. Ym- adawyd o'r Castell, ymwelwyd ag Eglwys Llan- degai, a therfynwyd gweithrediadau'r dydd. Ymgasglodd y parti yn nghyd ar y Maes, Caer- narfon, ychydig cyn naw o'r gloch fore Mercher. Ymwelwyd yn gyntaf a Chlynog, lls'r archwiliwyd yr Eglwys a'r gromlech. Oddiyno, gyrwyd i Lan- aelhaiarn, lie cafwyd gwest. Wrth ddychwel i Gaernarfon, ymwelwyd a Chraig y Ddiaas, Glyn- llifon, Maenhir a Dinas Dinlle. Yn yr hwyr, cyn- aliodd y Gvrodeithas Gymreig gvfarfod. Ddydd Ian, ymwelwyd a rhanbarth Biwmaris. Megya y diwrnod cynt, yr oedd niter luosog o ael- Od<ll'l' Gymdeithas Wyddelig yn bresenol. Gadaw- sant Gaernarfon gyda'r tren am Fangor tua haner awr wedi wyth, tan arweiniad Mr Evans (arolygydd siro'l) a Mr D. Griffith Davies, B. A. Cludwyd hwy mewn crbydau o'r orsaf i'r Garth, Ile'r aeth- ant ar fwrdd yr agerlong Menai. Ni ddilynwyd rhaglen y diwrnod fel y'i trefnasid yn flaenorol. Vnrwelwyd a Phemnon, pelider o bum' rniD.dir o Biwmaris, i archwiiio'r Priordy. Wedi dychwel i Biwmaris, ymwelwyd a'r Casteli a'r eglwys hynafol, a dvchwelwyd i Gaernarfon.111 Llanberis a'r cylchoedd fu maes ymchwil dydd Gwener. Yn jstod y dydd, ymwelwyd a Dinas Dinorwig, Dinas Mawr, Llys Dinorwig, Casteli Dolbadarn, Btddau r Cewri, Csvrn LKvythwch, Caergarreg-v-Iran, a Ileoedd eraill. Dychwelwyd i Gaernarfon, a bu cvfarfod yn y Victoria Hall, lie darllenwyd pe-pyrau. Yn yr hwyr, cynalnvyd cyf- arfod iluosog dan lywyddiaeth yr Archddiacon Thomas (Meifod). Ar ran y Gymdeithas Gymreig, dywedai'r llywydd mai boddhad mawr iddynt oedd fod y Gymdeithas Wyddelig wedi ymweled a Chymru megys vr ymwelodd y Gymdeithas Gym- reig a'r Iwerddon dair blyuedd yn ol. Darllenwyd papyrau, a thraddodwvd anerchiadau gan amryw aelodau. A Ddydd Sadwrn, buwyd yn ymweled ag amryw leoedd o gwmpas Caernarfon. Yn Eglwys Llan- beblig, cafwyd cryn siomedigaeth. Yn aden dde- heuol yr eglwys, y mae bedd rhyw hen saat anadnabyddus, fe gredir a ehafwyd cenad y ficer (Parch J. Wynne Jones) i'w agor. Dygwyd llaiur- wyr at y Cfwaith, ac wedi cryn anhawsder, syiaudas- ant y gareg oddiar wyneb y bedd eithr wedi'r cwbl, cvn chwilio dim, hysbyswyd fod y pwyllgor wedi penderfynu peidio agor y bedd, oherwydd rhyw resymau. Yna, buwyd yn chwilio olion yr hen Segontium, a therfynwyd gweichredudau jr wythnos drwy ymweled a Chastell Caernarfon, aan arweiniad Syr L'ewelvn Turner, y dirprwy- ewnstabl. Mwynhaodd y gwibdeithwyr eu haros- iad yn Nghaeruarfon yn ddirfawr, ac ymadawoddy rhan fwyaf ohonynt o'r dref ddydd Sadwrn. --0-
Hen Lawysgrifau Cymreig.
Hen Lawysgrifau Cymreig. DDYDD Iau, ymwelodd dirprwyaeth a'r aelodau Cymreig, gyda'r amcan o alw eu sylw at gyflwr hen Lawysgrifau Cymrefg, fel y byddo iddynt hwythau yn eu tro ddefnyddio eu dylanwad ar y T-lywoclr- aeth, a sicrhau penodiad dirprwywr cynorthwj ol 1 ymwneud a'r gwaith esgeuIusedig hwn. Yn mhlith v ddirprwyaeth, yr oedd y Prifathrawon Vinamu Jones, T. F. Roberts, a Reichel, y cofrestrwyr James (Caerdydd) a Green (Aberystwyth), y Pro- ffeswyr Powell, Phillips, a Grey, MrO. M.Edwards, Mr W. Lewis Jones, Mr Brynmor Jones, A.S., Parch W. J. Davies, Llandudno, a Mr Gwenogvryn Evans Rhydychain. Derbyiiiwyd y ddirprwyaeth tn Yv aelodau Cymreig cfinlynol :-Syr G. O. Morgan (vn y gadair), Mri Herbert Roberts, Frank Edwards D. Randell, W. Rathbone, Egerton Allen t! Price, S. Smith, A. J. Williams, Lloyd Morgan* T- Lewis, J. Herbert Lewis, Bryn Ro- berts T E. Eilis, A. Thomas, a'r Uchgapten Jones. Cyflwynwycl y ddirprwyaeth gan y Prif- athraw Jones, yr hwn a ddarllenodd lythyr oddi- wrth y Proffcswr Rhys, yn egluro cwynion yr efrydwyr Cymreig mewn dull clir, anwrthwyuebol, —Y proffeswr Powel (Caerdydd) a daywedodd fod angen mawr am Ddirprwywr o benodiid y L!yw- odraeth, fel y caffai /ynediad rhwyddach at hen lawysgrifau yn meddiant personau unigol ar hyd a, Iled y wlad. Dylid cyfarwyddo'r swyddog hwn i wneud rhestr a mynegai o'r llawysgrifau Cymreig oedd vn yr Amgueddfa Brydeinig, yn Rhydychain, yn y Record Office, a Ileoedd eraill, ac nid Sais un- vkth a wnai'r tro, ond ysgolor Cymreig cymhwys. Yn mhelbch, byddai yn ddyledswydft ar y dir- prwywr cynorthwyol hwn fyned ar daith 1 geisio darganfod pob llawysgrif Gymreig oedd ar gael. a u rhestru, wrth gwre. Ychydig a wnaethai'r Llyw- odraeth yn y gorphenol, a gofynai'r ddirprwyaeth i aylw gael ei dalu i'r cwestiwn er mwyn llenydd- iaeth. Mr 0. M. Edwards a ddywedodd nad ymgym- erai'r un dyn ag ysgrifenu hanes Cymru a'i llen- yddiaeth hyd oni allal deimlo'n sicr fo 1 pob defnyddiau oedd ar gael, yn adnabyddus a chyr- haeddadwy. Mr Gwenogvryn Evans a adroddodd ei brofiad ef wrth chwilio am lawysgrifau, a'r modd y daethai o ddamwain ar draws amryw o ganiadau prif-fardd Cymru yn y canol oesoedd-Dafydd ap Gwilym. Buasai ef am flynyddoedd yn casglu gwaith Dafydd, ond o ganlyniad i'r hyn a ddarganfyddodd mewn tai neillduol yn Nghymru gorfu arno roi llafur blynyddoedd heibio oherwydd yr ansicrwydd oedd yn bod o berthynas i swm gwaith y bardd, a'r lie yr oeddynt i'w cael. Gallasai dyn cymhwys wneud y gwaith yn ystod o dair i bum' mlynedd, ac amcanai ef fod nifer y llawysgrifau tua 2,000. Wedi i Syr George O. Morgan ddiolch i'r ddir- prwyaeth, efe a adawodd yr ystafeli, a dychwelodd gyda Syr John Hibbert, Ysgrifenydd Cyllidol i'r Trysorlys, yr hwn, wedi gwrando'r ddirprwyaeth yn egluro eu haincau drachefn, a gydnabu fod achos cyfangwbl wedi ei brofi. Ychwanegodd, fodd bynag, fod yr arian a roisid gan y Scnedd am y flwyddyn eisoes wedi eu rhanu. Ond efe a longyfarchai'r ddirprwyaeth ar gryfder eu hawliad a cbymedroldeb eu cais, sef un dirprwywr jysiorth- wyol am o dair i bum mlynedd a sicrhai hwy ei fod yn cydymdeimlo yn drwyadl a hwy a'u hachos. Y na ymadawodd y ddirprwyaeth. (0)
Gwreichion.
Gwreichion. H WEDI clywed rhywun yn dweydfod Arglwydd Salisbury yn pwyso 256 pwys yn ei sgidie, tra nad oedd Mr Gladstone yn pwyso ond168 pwys, sylwai Ned Wynne yn bur ddigrifol, Hawdd iawn gen i gredu hyny, ond y mae yr hen ddyn yn drymach ddwywaith na Salisbury yn ei het.' If Dywedir am Mr Gladstone y gellir yn fyaych ei weled yn gwenu, ond mai ychydig iawn, os neb, a'i clywodd yn chwerthin yn ystod yr haner olaf o'i oes. II Er fod y Tywysog Bismarc yn ystyried draughts y goreu o chwareuon teulnol, fe ddywedir ei fod yn elyn annghymodiawn i'r draughts mwy sylweddol sy'n dyfod i vstafell trwy y ifenestr, ac yn chwipio allan trwy y drws heibio gwiir dyn, ac yn gadael ar ei ol y stiff neck a'r anwyd. "IT Fe ddywedir am un cocosyn aeth ar ymweliad a'r Rotichilds ag oedd yn meddwl y byd o'i sleeve- links Malacaidd, ac yr oedd yn drafferthus iawn i geisio eu dangos. O'r diwedd, fe ddywedodd ei gymwynaswr, Ydyw, y mae yn gareg pur bropor -y mae gen i mantelpiece ohoni yn yr ystafell nesaf." Heliodd y ffop ei gyffs tan ei lawes mewn yswildod mawr. II Yn 01 un o'r meirchfilwyr warchodent y Tyw- ysog yr wythnos o'r blaen, gellir meddwl mai wythnos o fvvyta pwdin ydoedd. Ar ei ddychwel- iad gartref, gofynodd car iddo, 'Sut y darfu i ti fwyuhau dy hun hefo'r teulu brenhinol ?' pryd yr atebodd yntiu, Rhyw symol, at ei gilydd—yr oedd y drychfeddwl cyn myned yno yn well sylweddoliad ohono—gormod 0 bwdin dagiff gi ? Nid ydyw ymweliadau cariadon bob amser yn rhosynog. Fel yr oedd hwsmon yr Hendre wedi croesi y mynydd ar ei fiordd i edrych am ei gariad, y noswaith o'r blaen, fe dorodd cyfartliiad llwynog nr y distawrwydd dwfn o gongl gwig ddiffaeth yn ei ymyl. Fo'n gwarchod safai ei wallt fel cecs ar ei ben, a pheidiodd ei galon guro am eiliad. Yr oedd ei ddychryn yn ofnadwy. Ond yn mhen enyd magodd nerth i fentro yr ymosodol, a gwaeddodd nerth asgwrn ei ben, Dowch allan, y d-iaid, ac mi setla i chi.' Wrth gwrs, ar hyn, dychrynodd y llwynog, ac fe redodd y ddau, un bob ffordd, am ei fywyd. H Fel yr oedd gwr awengar yn moli y gynghan- edd, wrth fyned o'r Eisteddfod, fe ballodd amyn- edd un critic llengar ac fe ddwedodd, Tewch a'ch lol, ddyn—pe baech chi'n rhoi holl awdlau buddugol y chwarter canrif diweddaf yn un pen i'r glorian, ac awdl Dinystr Jerusalem Eben Fardd yn y pen arall, fe bwysai awdl Eben y cyfan i'r llawr fel peiswyn, serch eu bod wedi costio i'r genedl yn dyn ar fil o bunau. Tydyw yr awdlau i'r genedl, a brnu oddiwrth yr hyn a ddarllenir arnynt, yn werth mo'r papur eu hysgrifenwyd hwynt arno.' Llawdrwm, onide ? IT Eithaf gwir—un 0 fil o'r Cymry fedrai ddweyd beth oedd testyn chwarter yr awdlau ddeorwyd, heb son am ddyfynu ohonynt a llawer llai fedrai eu darllen, er budd, pe cyhoeddid hwynt, am nad ydynt wedi ei gweled yn wsrth i ddysgu athron- iaeth y glee gynghaneddo!; ac felly, mewn difri calon, onid ydyw yn eithafnod ffolineb gwario arian arnynt ? If Eithafnod lol oraclau Gorsedd yr Eisteddfod oedd iddynt, yn eu ffrwgwd, wrth chwareu "urddo" y teulu brenhinol, alw y dywysoges brydweddol Maud, wrth y ffugenw Mailt—rottenness, cor- ruption, putrefaction s.m. an evil spirit I" Fo'n gwarchod, fyddai ryfedd yn y byd i lorwerth Dywysog basio deddf i ysgubo yr Orsedd a'i chriw i ebargofiant. If Cymerwyd yr hen Robert Evans, gwr Jini, yn sal iawn, yn hynod o ddisymwth, pan oedd y dehu mewn gwth o oedran, ac yn rhagdybio ei cholled, pe buasai y gwaethaf yn digwydd, fe sisialodd Jini yn ei glust bwl, canys yr oedd yr hen wraig yn ymhoni gallu barddoni Robet anwyl, paid a myn'd— Paid a myn'd mewn difri'; Os ei di rwan, yr hen ffrynd, Peril a ddaw o Jini? Cyfarwydd. -:o:-
[No title]
Golbokne.—Y Sabboth diweddaf, cynaliodd yr Eglwys Annibynol yn y lie uchod ei chyfarfod pre- getnu blynyddol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn Richard Roberts, Manchester; a John Myrddin Thomas, Wyddgrug. Cafwyd pregethau nerth,,l a chynullia-l;),u Iluosog.-E. Evans. Caerlleox Llwyddiant Athrofa.ol.-Da genym ddeall fod Mr Thomas Henry Jones, rnab Mr Henry Jones, commercial traveller, o'r ddinas hon, wedi myned yn llwyddianus trwy ei arholiad ter- fynol am y 'graddau o Bachelor of Medicine a Master oi Surgery yn Mhrifysgol Edinburgh. Mae y ieuanc uchod, er wedi ei eni a'i fagu mewn tref Saisnig, yn gallu siarad Cymraeg croew a di- lediaith. °Eiddunwn iddo nerth ac iechyd a phob llwyddiant.—Peres.
Llenydtiol.
Llenydtiol. Y 1raethodydd. -Rhifyn amrywiol a thra dy- ddorol o dywysog y cylchgronau Cymreig ydyw yr un am Orphenaf. Traithawd galluog o waith y Parch Wm. Glynne, B.A., Manchester, ydyw'r peth cyntaf yn y rhifyn yr hyn a ddilynir gan amryw lythyrau a ysgrifenodd leuan Gwynedd at Eben Fardd yn 1850 a '51—yr olaf ohonynt dri mis cyn ei farwolaefch, yr hyn a gymerodd le Chwefror 23, 1852. Y dyddiad uwchben y llythyr hwn ydyw "Tach. 12, 1852 ond yr oedd hyny naw mis wedi marwolaeth Ieuan, ac felly rhaid mai '51 a ddylasai y '52 yma fod. Ond fel pobpeth Ieuan, y mae'r llythyrau hyn yn ddyddorol iawn prin y rhaid chwanegu mai i'r llyfrbryf trylen Myrddin Fardd y dylem ddiolch am eu cadwraeth. Gwaith ein cymydoges fedrus Mrs Williams, St. Michael's, ydyw'r traithawd nesaf ar y testyn Merohed a'u gwasanaeth i grefydd," ac yr ydym yn go- beithio na fydd i'r un o'n darllenwyr fyned heibio iddo yn ddisylw. Yna cawn ddarn o "Inferno" Dante wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg yn Cairo gan Mr R. Bryan. Da.w yn nesaf draithawd ar "Y Gymraeg ddoe a heddyw," gan Wm. Pritchard Williams, traitha.wd yn dangos fod ei awdwr wedi darilen cryn lawer ar y pwne, ond wedi ei ddi- fwyno gan ytnosodiad ffol a chwbl ddifudd ar Dr. O wen Pughe. Fel y dywedwyd yn y Cymro droion o'r blaen, bydd yn ddigon buan i'r ieithwyr ieuainc yma ddylorni Dr. Pughe pan font wedi gwneud chwarter y gwaith a gyflawnodd ef. Cynyrch y Oolygydd trylen ei hun ydyw y peth nesaf "Dad- sefydhad i Gymru ydyw'r pwnc; ac fel yn holl ysgrifau Mr Rowlands, trinir y mater hwn hefyd ganddo yn deg ac yn drylwyr. Ac fel gwrthgyfer- byniaeth iddi dilynir ysgrif y Gol. gan un arall tan y penawd Isfeirniadaeth," o waith y Parch Robert Williams, M.A. Rhagoriaeth fawr yr ys- grif hon ydyw ei bod yn ffer. Y mae hefyd wedi ei britho hefo chyfeiriadau at awdurdodau uchelryw fel nas gallwn lai na gofidio oblegyd ffaeledd y gyfundrefn eglwysig sydd yn gadael clerigwr mor ddysgedig mewn plwyf gwladaidd fel Dolyddelen yn lie ei wneud ar unwaibh ya esgob, deon, neu brifathraw rhyw goleg eglwysig. Ar ddiwedd y rhifyn, nodedig am ei amrywiaeth fel y gwelir, ac fel y dywedasom o'r blaen, ceir adolygiadau manwl a diduedd ar Lyfrau. A London Rose and other Rhymes. By Ebnhst RIIYS. London: Elkin Matthews & John Lane. 5/ Y mae awdwr y gyfrol brydferth hon yn hysbys i ddarllenwyr Saesneg trwy yr holl fyd, fel golygydd lluaws o gyfrolau adargrapliiado!; ond dyma, hyd y gwyddom, y llyfr cyntaf a gyhoedd- wyd o'i farddoniaeth ef ei hun. Fel yr arwydda ei gyfeuw, Cymro ydyw Mr Rhys, a gwslir ei enw yn fynych mewn cysylltiad â symudiadau Cymreig yn y Brifddinas. Daw ei deuiu o ardal Caer- ;yrddin, a dywed y Newcastle Chronicle, mewn adolygiad tra chanmoliaethol o'r gyfrol hon, fod ei dad, Mr John Rees, yn win-fasnachydd cyfrifol yn y dref hono. Yr ydym yn crybwyll hyn, gan wybod y bydd i'r (Faith enyn mwy c ddyddordeb ein cyd- genedl yn y bardd ieuanc a'i waitb. Yn mhellach, ceir adran o'r llyfr, yn cynwys deg darn, ac yn dwyn y penawd, "Welsh Rhymes and Ballads." Testynau yr adran hon ydynt: The House of Hendra," The Wedding of Pale Bronwen," The Mountain Wedding," Brechva's Harp Song," Olweu (From Eiihwch and Olwen ')," Y Fam a'i Baban (From the Welsh)," &c &c. Yr hiraf o'r cyfaasoddiadau hyn ydyw y bryddestawd ar dy a theulu yr hen deulu a elwir Hendra. Y mae ysprydiaeth gyfrin yr awen Gymreig yn treiddio trwy y gerdd; a hawdd gweled fod yr awdwr naill ai wedi etifeddu y ddawn o ganu'n brudd-ddyddorol oddiwrth un o'i hynafiaid, neu wedi ymgydnabyddu cymaint, a gwaith ein hen feirdd nes yw eu delw i'w gweled yn ei waith yntau. Hyderwn nad yw y gyfrol gyntaf hon o brydyddiaeth Ernest Rhys ond blaenffrwyth cyn- hauaf toreithiog, Cymru'r Plant. Y mae'r cyhoeddiad bychan hwn i'w argraphu o hyn allan yn swyddfa'r Mri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, a rhifyn Gorphenaf yw'r cyntaf i ymddangos o'r swyddfa hono. Mae cynwys y rhifyn, fel arfer. yn fywiog a dyddorol- yr union beth ar gyfer y plant. Ceir ychydig o hanes John Gibson, y cerflunydd enwog amryw ehwedlau a chaneuon, ac ysgrif ddoniol gan Mr Daniel Owen tan y penawd "Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog." Y mae'r argraphwaith yn glir a destius, a'r darluniau yn rhagorol. Rhwng pobpeth, y mae'r rhifyn hwn yn fwy deniadol lawer na'i ragflaenoriaid, a dianmheu y bydd iddo enill rhagor o boblogrwydd gyda'r plant. PREGETH Y PARCH. HARTWELL JONES. Y mae'r bregeth alluog a draddododd Mr. Hart- well Jones yn Eglwys Dewi Sant, Lerpwl, yn mis Mi, o flaen Arglwydd Faer a Chorphoraeth y ddiaas, wedi ei chyhoeddi yn bamphlet destlus, ac i'w chael am 6oh. trwy anfon at y Parch. James Davies, M.A., 44, St. Domingo Grove. LLYFR NEWYDD 0 WAITH ELFED. Y mae Cadeirfardd Caernarfon yn darparu llyfr o'i ganeuon, yr hwn a gyhoeddir yn Swyddfa'r Cymro. Bydd "Caniadau Elfed yn gwneud y rhif XIX.) "Gyfres y Ceiuion." Disgwylir y daw y gwaith allan yn niwedd Awst neu ddechreu Medi.
-:O-Prifysgol Cymru.
-:O- Prifysgol Cymru. Cyearfu Llys Prifysgol Cymru ddydd Gwener, yn y W^estminster Palace Hotel, tan lywyddiaeth Arglwydd Aberdar, pryd yr oedd yr aelodau can- lynol yn bresenol :—Arglwyddes Aberdar, Ar- glwyddes Verney, Arglwydd Powys, Syr J. Hills Johnes, Mr W. Rathbone, A.S., Mr T. E. Ellis, A.S., Mr J. Herbert Lewis, A.S.; Proffeswyr W. Rhys Roberts, R. W. Phillips, A. Gray, Silas Morris, J. E. Lloyd, W. Lewis Jones, a'r Prii* athraw Reichel 0 Fangor Proffeswyr E. Anwyl a C. H. Herford, Dr Jones, Dr Brough, Parchn T. M. Green a Ll. Edwards, a'r Prifathra w T. F. Roberts, o Aberystwyth; Mr Ivor James, ProfF. Sorley, Miss A. Rule, Mr Charles Morgan, Proff. Powell, Henadur Aaron Davies, Proff. C. Vauhan, Maer Caerdydd, a'r Prifathraw Viriama Jones, o Gaer- dydd; Mr Lewis Morris, Mr Brynmor Jones, A.S., Proff, Ellis Edwards, Mr T. John, Dr J. D. Jones, Dr R. Roberts, Mr Cadvval&dr Davies, Mr O. M. Edwards, Mr Owen Owen, Dr Isambard Owen, ac eraill. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod diweddaf, a hysbyswyd fod llythyr wedi ei dderbyn oddiwrth Arglwydd Lywydd y Cyngor, yn cynwys copi 0 ystatudau'r brifysgol. Efrydiau DUWINYDDOL. Aeth y Llys rhagddo i ystyried adroddiad y pwyllgor fu'n trafod pwnc yr efrydiau a'r arhol- iadau duwinyddol, ac awd trwy holl baragraphau yr adroddiad V naill ar ol y llall. Derbyniwyd y paragraph cyntaf heb gyfnewid- iad fel y canlyn-" I. Deffiniad. 'Coleg Duwin- yddol' a ddeffinir at berwylion y -siarter fel sef- ydliad neu nifer o sefydliadau yn y rhai, ar wahan neu yn nghyd, y gall ymgeiswyr am raddau duw- inyddol yn y Brifysgol dderbyn hyfforddiant yn yr holl bynciau a ofyner gan y Brifysgol er cael y eyfryw raddau. Tan yr amod fod y eyfryw sef- ydliad, neu nifer 0 sefydliadau, yn rhai a dderbynir gan y Llys fel Coleg Duwinyddol cymeradwy, gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Duwinyddol, neu habddi. Yn nesaf, derbyniwyd y rhestr o golegau duwin- yddol a gymeradwyid gan y pwyllgor, fel y canlyn: —" Fod y sefydliadau a ganlyn, tan yr amod eu bod yn rhoi hyfforddiant yn yr holl bynciau a ofyner ar gyfer graddau duwinyddol y Brifysgol, i gael eu derbyn fel colegau duwinyddol cymeradwy, oni, ac hyd nes dadgano'r Llys yn wahanol:—Y Coleg Duwinyddol, Bala; y Coleg Annibynol, Bangor y Coleg Coffadwriaethol, Aberhonddu y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin Coleg y Bed- yddwyr, HwlfFordd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Coleg y Bedyddwyr, Bangor; Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd Coleg y Methodistiaid Calfinaidd, Tre- fecca." Ymdrinai ail ran yr adroddiad a phenodiad y Bwrdd Duwinyddol. PeDd(-.rfynwyd-" Gall y Llys benodi pwyllgor cynghoro], yr hwn a elwir yn Fwrdd Duwinyddol. Derbyniwyd hefyd yr adran nesaf 0 barth cyfansoddiad y Bwrdd, yr hwn fydd fel y canlyn:—Un gan bob coleg duwinyddol; un, a hwnw o blith yr athrawon neu'r llywodraethwyr, o bob coleg duwinyddol fo'n meddu pedwar athraw; chwech dros Senedd y Brifysgol; a naw dros y Llys.—Yn ol yr adran ddilynol, gall y Llys ychwanegu at y nifer, os tnyn. Bu maith drafodaeth ar adran 4, yr hon a dder- byniwyd yu y diwedd fel hyn Dyledswyddau'r Bwrdd Duwinyddol fydd cymeradvvyo i'r Llys gynlluniau 0 efrydiaeth ac arholiad am raddau yn y wybodaeth o dduwinyddiaeth, a rheolau ac ar- holwyr am y cyfryw raddau cyflwyno adroddiadau i'r Llys ar gymhwysderau colegau duwinyddol, ao ystyried a chyflwyno adroddiad ar umhyw fater arail o barth efrydiau, arholiadau, a graddau yn y wybodaeth o dduwinyddiaeth, a gyflwyner o'i flaen gan y Llys neu'r Senedd." Derbyniwyd adranau eraill o barth swyddocion y Bwrdd, &c., heb gyfnewidiad. Yn ddilynol, trafodwyd adroddiad Pwyllgor Amlinelliad yr Ystatudau, a chytunwyd ar Reolau Sefydlog o berthynas i'r gwaith angenrheidiol tan yr ystatudau. Penodwyd pwyllgorau arianol a gweithiol, a gohiriwyd y gweddifl o'r materion oedd ar y rhaglen hyd y cyfarfod Desaf. o
Gwibnodion o Odyffryn Maelor.
Gwibnodion o Odyffryn Maelor. A [AF, y tywydd wedi bod yn wlyb dros ben, yr wythnos ddiweddaf, Ddydd Mercher cawsom y gvvl,,w tryn,,if eleni. Yr oedd Holt-gwlad y mefus-wedi ei gorlifo, a bu raid i'r strawberry pickers roi heibio eu gwaith. Andwywyd llawer o'r mefus, y rhai oeddynt eisoes yn brin, fel erbyn hyn y mae y cnwd mefus wedi myned yn hollol ddiwerth eleni. Y mae'r cynhauaf gwair yn prysur ddynesu at y terfyn, ac y mae wedi bod yn gynbauaf rha- gorol o doreithiog. Am y cnydau eraill, maent yn dyfod yn mlaen ya ardderchog, a disgwylir y bydd yr amaethwyr ar ben eu digon. Mae gan R. H. Gabriel, Rhosymedre, ebol newydd a chanddo bum' troed, a mawr yw y cyw- reinrwydd yn mhlith y trigolion o berthynas i'r pumed troed. Nid yw ddim ond prawf mai blwyddyn doreithog ydyw yr un bresenol. Tra yn dychwelyd adref oddiwrth ei waith nos' Fercher, yr oedd Edward Hughes, llanc oddentu 19 mlwydd oed, yn cymeryd ei redfa i croesi y canal, pryd y syrthiodd yn wysg ei gefn i henodyn, dyfnder o 14 o latileni; torodd am- ryw o'i asenau, ac er pob cynorthwy meddygol bu farw dranoetb, 0 Hefyd yn Nglofa y Yauxhall, digwyddodd damwain angeuol i un o'r enw William Roberts. Tra yr oedd ef ac eraill yn codi tram ag oedd wedi myned oddiar y rails, syrthiodd careg fawr ar ei wegil, a lladdodd ef yn ddiatreg. Yr oedd y trancedig yn byw yn Talwrn ac yn 25 mlwydd oed. Bu dyn arall, o'r enw John Ed. Williams, farw yn Ngwrecsam trwy yfed gwenwyn. Ym- ddengys mai wedi yfed ychydig yr ydoedd er mwyn cysgn, ond iddo gymeryd dropyn gormod. Teiliwr ydoedd ef wrth ei alwedigaeth, ac yn gweithio yn siop Rhys Jones. Mae y pysgotwyr yn ei gwneud yn odidog o dda yn y DyfFryn yma eleni. Daliwyd eog yn ymyl Overton nos Fawrth yn pwyso dros wytli pwys ar hugain. Gwella, onide ? Bu y Parch Llewelyn liees, o wlad y Yankees,, yn dadithio yn y Poncian, y nos o'r blaen, ar y testyn "Y Beibl a dyn." Teneu ydoedd y cynulliad, a hynod farwaidd ydoedd y darlith- iwr. Gallem feddwl mai rhyw haner Yank ydyw Rees, er cymaint oinisei mae wedi dreulio yn myd mawr y gorllewin, neu mi fuasai mwy o go ahead ynddo. Y mae yr Ysgolion Sabbothol yn brysur iawn yn cyual eutreats-mae rhyw ysgol neu gilydd allan bob dydd. A'r creaduriiid byelain tlys- ion yn cael llon'd eu boliau o ddifyrweh. Mae llawer iawn hefyd o'r boblach yma oddi- cartref yn treulio y tywydd braf yn nhwrf y mor. Ac felly, rhyw dawel ydyw pethau yma arhynobryd. SAMWEL JONES. c
[No title]
Mae lorwerth Dywysog wedi dotio ar Gym- ru, oblegyd dywedir y daw i Gastell y Penrhyneto yn mis Hydref i saethu phesantod. A gawn ni eto Awdl lawn o glod di-lol, Lesmeiriol, Lewys Morys ? Ymdrochai dau wr o Gaer yn y Bermo, ddydd Iau, pryd yr amgylchwyd hwy gan y llanw. Tyn- odd un ohoiynt ei esgidiaw a'i hosanau, cylymodd hwy am ei wddf, a dechreuodd nofio tua'r lan. Collodd ei esgidiau, ac ymdrech galed a gafodd i gadw ei hun rhag eu dilyn. Cafodd y Hall le basach, a cherddodd i'r Ihn trwy ddwfr at ei ges- eiliau. Yr oedd cryn gyffro at. y traeth hyd nes daeth y dda.u o'u perygl.