Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

---0-'---CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

-0- CWRS Y BYD. Yn y Meusydd. Y MAE llon'd gwyneb y ddaear o gnydau o bob math eleni. Anaml y gwelwyd y gweiriau mor drymion a phe ceid pythefnos o sychder, gellid cynull y porthiant hwn i ddiddosfa bron i gyd. Mewn llawer man, dechreua'r yd droi ei liw, ac yn y parthau cynar, bydd llawer ohono, gyda bendith, wedi ei gywain i'r ydlan yn mhell cyn diwedd Awst. Y mae'r gwenith, medd:r, yn debyg o fwrw i lawr yn well nag arfer, nid yw y ceirch mor bendrwm, ond y mae'r liaidd yn Oodedig o frigog. Gallai dyn gasglu, wrth ruthro trwy'r wlad wrth gynffon peiriant, fod y Meusydd haidd mor lluosog eleni a'r caeau gwenith a cheirch gyda'u gilydd ac nid yw hyny syndod yn y byd, pan ystyrier pris isei y gwenith. Deifiwyd y tatws gan y rhew dinys triol hwnw yn nghanol Mai ond yn y manau a ddiangodd y trychineb, ceir cnwd toreithiog. 13Ydd cyflawnder o afalau a gerllyg, er mai ysgafn ydyw'r eirin. Y gwyn fawr a glywir yn rnYsg yr amaethwyr ydyw drudaniaeth tros- glwyddiad cynyrch y fferm i'r farchnad yn y trefydd mawrion. Y railway, meddant, sydd yn myned a'r holl broffit Buwch y Bythynwr. TRA yr ydym yn nesu at yr amser y bydd gan "ob bythynwr yn y wlad le i gadw buwch, y Eiae o gryn bwys pa rywogaeth o fuwch fyddai Yr oreu at ei bwrpas. Yn y Rural World am y Sadwrn diweddaf, dywed gohebydd mai y tri "fid mwyaf cymhwys oherwydd eu caledwch ydyw yr "Ayrshire," y "Gymreig" a'r "Kerry," a dadleua o blaid y rhywogaeth lGymreig, oher- wydd y gall fyw ar lai a gwaelach porthiant na'r ddwy arall, ei bod yn rhoi mwy o laeth ac Yinenyu, ac yn ba wddach ei phesgi pan fo achos all1 hyny. Pan fo gan y llafurwyr le i gadw bilweh, fe arbedir y difrod gwarthus ar y borfa n tyfu hyd ochrau y ffyrdd gwledig, ac ni W pobl y wlad mor barod i ymfudo i'r dref a 1 gorboblogi. Myfanwy, oedd yn dda gan luaws weled Mrs Ceiriog S-.ughes, gweddw ein prif-fardd caneuol, yn ■^steddfod Caernarfon, a'i gweled yn edrych siriol a chysurus. Drychfeddwl hapus ydoedd gofyn iddi arwisgo y bardd cadeiriol, hnbhYdedd a roddir yn gyffredin i foneddigesau ftsb end ychydig neu ddim cysylltiad na chyd- yjttdeimlad a'r Eisteddfod. Ac y mae Mrs hughes nid yn unig yn weddw i fardd enwog, yn llenores wych ei hun, a phrawf o'r dy~ dordeb dwfn a gymer yn yr hen sefydliad Ydyw iddi ddyfod yma yr holl ffordd o New- castle, yn ngogleddbarth Lloegr. Er yn ened- 19o1 o ardal y Waen (Chirk), yn Nghaernarfon ydoedd yn byw pan newidiodd ei henw o •jj 188 Roberts i Mrs Ceiriog Hughes. Y mae awer blwyddyn er pan ganwyd y penill an- ar*ol hwnw :— Myfanwy, 'rwy'n gweled dy rudd Mewn meillion, mewn briall, a rhos yn ngoleu dihalog y dydd, A llygaid serenog y nos Pan gyfyd claer Wener ei phen T f, nloew rhwng awyr a lli, M.yfanw.y, goleuach, 0 tecach wyt ti! •Mil lanach, mil mwynach i mi! YCh Ailwy yr Eisteddfodwyr. a o sylw a wnaed yn y papyrau i'r ciniaw avfa,"fnjV P°rtsaia:i nos Iau, er ei fod yn un o syiaitodydd goreu yr Eisteddfod. Er i feithder yr Eisteddfod y diwrnod hwnw bed oediad gyda I dechreu'r arlwy, cafwyd hyd i gryn lawer o hwyl cyn y diwedd. Syrthiodd y ddawn siarad ar tnag ugain o gwbl, a siarad yn dda ac Vrpoint yr oedrfynt bron i gyd. Ar y diwedd, canwyd Hen Wlad fy Nhadau," Mr. Ben Davies yn canu'r alaw a dweyd mawr, ond gwir bob gair, ydyw na roddodd y cerddor enwog erioed fwy o foddhad i'w wrandawyr. Neidiai pob un ar ei draed, fel wedi ei swyngyfareddu, i ganu y corws. Yr Archddiacon Howell. YR oedd y croesawiad brwdfrydig a roddwyd i'r Archddiacon hybarch yn dangos mor uchel y saif yn marn a serch ei gydwladwyr a rhoes yr araith hyawdl a draddododd fywyd a hwyl yn y cynulliad na fedr ond ychydig iawn eu cynyrchu. "Dyferai fel gwlith ar y rhos ei byawdledd." Mwy o wyr o ddoniau ysplenydd, eangder ys- bryd, a chalon gynes yr Archddiacon Howell sydd arnom eisiau i ddifodi culni cas a phleid- iaeth sur mewn byd ac eglwys. Eisteddfod 1898. DYLID cael ail argraphiad o Eisteddfod 1884 yn Lerpwl yn 1898. Bai arall ar Lewis Morris. HEBLAW ei fod yn Gymro, yr hyn sydd yn an- nghymhwysder neillduol yn marn coterie Llun- dain i lanw swydd y Bardd Llawryfol, y mae Mr Morris hefyd yn Rhyddfrydwr. Dadleua ysgriblwyr tros beidio penodi neb yn awr am nad oes neb yn gymhwys, ac wfftiaut pan gry- bwyllir enw awdwr Arwrgerdd Hades. Ond aroswch chwi tan ddaw Llywodraeth Doriaidd nid hir y bydd y swydd yn wag. Y mae gan- ddynt hwy wrth law bedwar neu bump allant rigymu am ddiwrnod cyfan na fyddant flewyn gwaeth na neb arall flewyn gwell. Y Corn Hirlas. YN ystod ei arosiad yn Nghastell Penrhyn, dy- wedir mai un croesaw gafodd yno ydoedd yfed gwin o'r Corn Hirlas. Yr oedd Corn Hirlas yr hen Gymry yn ateb o leiaf ddau ddyben, sef i yfed y medd ohono ac wedi dadscriwio ei ben meinaf byddid yn ei ddefnyddio fel udgorn. Corn bual nen ych gwyllt yn gyffredin ydoedd, a'i ymylon wedi ei wisgo &g arian, a chadwen arian wrtho. Trosglwyddid ef o dad i fab fel trysor teuluaidd, a mawr y pris fel y cyfryw a roddid arno. Yn y lWyV. Arch, ceir pryddest o waith y bardd-dywysog Owen Cyfeiliawg tan y penawd Hiilas EueiD," ac y mae math o gyf- ieithiad ohono yn y 3edd gyfrol o Tours Pennant. Rhydd Pennant hefyd ychydig o hanes yr Hir- las y bu Iorwerth Dywysog yn yfed ohono bythefnos yn ol. Corn ych ydyw, ac y mae wedi ei ymylu hefo arian yn ol yr hen ddull a gryb- wyllwyd. Perthynai unwaith i Pirs Gruffydd o'r Penrhyn—y Pirs Gruffydd a gymerodd ran ar fwrdd ei»long ei hun yn ngorckfygiad y Spanish Armada tan Drake. Gofynir t bob ymwelydd ucheldras a ddaw i Gastell Penrhyn yfed o'r Hirlas byth er dyddiau Pirs Gruffydd a dywedir i'r Frenhines ar ei hymweliad a'r Castell flynyddau yn ol gydsynio a'r hen yfed-ddefod. Dynwared. y MAE'R Llan yn llawdrwm ryfeddol ar Ym- neillduwyr am efelychu Eglwyswyr. Dywed nad yw yr hyn a adwaenir yn ngwersyll Dissent fel y "Weinidogaeth sefydlog" ond dynwared- iad o drefn blwyfol yr eglwys. Fe wyr pawb a wyr rywbeth am Gymru, mai anhawdd dychy- mygu am ddim mwy musgrell a methiantus na'i threfn blwyfol. Heblaw fod rhaniadau y plwyfi yn ffolineb, y mae'r eglwys a blanwyd at wasan- aeth y plwyfi wedi ei gosod yn fynych mewn con<*l annghysbell ohono weithiau ar fin plwyf arall; ac fel y gwyddis, nis gall un yn byw yn mhlwyf A ddal swydd yn eglwys plwyf B er iddo ei mynychu yn rheolaidd. Nid af i ddi- raddio synwyr fy narllenwyr trwy egluro mai nid dyna'r ydyw'r weinidogaeth sefydlog sydd yn mysg yr Ymneillduwyr. Rbaniad annaturiol y wlad°yn blwyfi sydd yn gwneud haeriadau Esgob Llanelwy, druan, mor ddisynwyr. Y mae'r gweinidogion Ymneillduol yn gosod eu hunain yn ymyl eu gwaitb, yn nghanol y pentref poblog ac nid ar ben mynydd, neu mewn congl annchyfieus, lie na fydd dim yn agos atynt ond ty tafarn a phlas y sgweiar. Nid beth yw rhif gweinidogion mewn hyn a hyn o blwyfi ydyw'r pwnc, ond beth ydyw eu cyfanrif trwy y dref a'r wlad. Ac yn mheliach, nid y one-horse power, fel y gelwir y gyfundrefn weithiau, sydd wedi gwneud Ymneillduaeth Cymru yr hyn ydyw, ond a wnaeth yn ddiau yr Eglwys yr hyn ydyw. Gan fod y Llan ar bwnc y dynwaredu, byddai yn burion iddo gynghori tipyn ar ambell offeir- iaid i efelychu llai ar wag ddefodau, ffurfiau gwrthun, ac ystumiau Eglwys Rhufain. Tyned y trawst o'i lygad ei hun. Llywydd Newydd y Gynadledd W esleyaidd, Y MAE'R Parch Walford Green, yr hwn a ethol- wyd yr wvthnos ddiweddaf i'r swydd bwysig ac anrhydeddus o Lywydd y Gynadledd, yn meddu ar ragoriaethau lawer fel dyn a phre- gethwr. Y mae hefyd yn wr o gyfoeth mawr, nodwedd na cheir yn fynych yn Llywydd y Gynadledd. Preswylia mewn palas yn sefyll yn ei bare ei hun, ac a elwir Macartney House, Blackheath, ger Greenwich. Cyfrifir ef yn foneddwr addfwyn, medrus mewn cynghor, a thra hyddysg yn hanes, rheolau a gweithred- iadau y gyfundrefn grefyddol ardderchog y bydd efe yn ben arni am y deuddeng mis nesaf. Moel Siabod. YMDDENGYS ar ol y cwbl fod y mynydd hwn wedi ei werthu yn yr arwerthiad ar ran o Ystad Gwydir y cyfeiriais ato bythefnos yn ol. Ofni LibeL CLYWAIS enwi tri llenor a'r tri yn dal rhyw gys- ylltiad neu gilydd hefo Chaernarfon, fel awdwyr y llyfr Saesneg swllt ar y Pwlpud Cymraeg. Y mae genyf ofn eu henwi; nid wyf yn sicr na fyddai cyhu ido dyn o fod yn awdwr ambell lyfr yn libel arno. O

Nodion o Lan y Tafwys.

Dyogelwch y "Cambrian Chieftain."

COlwg Mr Cladstone.

[No title]

| hewyddion Cymreig.

" CWLAD RYDD, A MVNYDD I MI."