Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
ESTABLISHED 18.3 v) WE N ROBE RTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South. Has large and small Dwelling-houses to Let in w various parts of the town. (F n. h, t-;ywards & Co., 18, LORD STREET, ESTATE AOENTS, Have Cottages to LET in various parts of the renting trom 2/6 to 8/6 per weec, clear of Also larger houses at higner renus. U? -"H. £ ~Tw L L A M S, 5= II- r\ !i,, v'f 10, CONYERS STREET, KBTATE AGENT, TI AS large and amall Houses To Let in various parts of the ]] cHy aacl suburbs. Houpes Bought and sold. Mortgages arranged, <fco- (F J OIIN WIL J. IA M S, —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159, KIRKDALE RD. a.I ota, of H„™= HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 177, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Kents Collected. Mortgages Arranged, TELEPHONE No. 1779. (F fheTiverposllatid Company, Limited. -r^— rj f-r. —To be Sol<1, Freehold and 999 s^tassr- w«n•««>» oealiti.es.—Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, F) 22, LORD STREET. 0 & 1). WILLIAMS, & Brass Founders, Engineers, Millwrights "° fc-LKYS d VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERGhAJStTb Works- TAYLOR STREET, ShOoffiw cRe oanomd s AG2 & 404, Scotland Rd. Show Booms w t) LIVERPOOL. „ p„„(. Tr0n Gates, and. Railings Hot Kitchen cavitary Engineers; Williams Water, Green i{o^csA^ t^ Sun S^ale for Shops &c.; Patent Winding and ers» 0vens, Chaffers, Boxes, qarSref ODDICART REF. a w A L I A I-I ° XJ s E PRIVATE HOTEL), 9, Uppal" Woburn place, TAVISTOCK SQU ARE, LONDON, W.C. O^b Fares to Bridge' Vict0rl* &Sd Waterloo Stations, Is. c Kings Cross, Strand, St. Cab Fares to Amusements, Is. Flve^linutes' Walk from TSuston Station, Midland, K.ng Cross and Gower Street Stations, Proprietor R- G. P RICHARD, Jc IiATTS POKTMAD'viC. Telegraphic Address—" GWYIS VA- I SUIT 1 AD I I I ,DARGANFYDDIAD PWYSIGIII Yjigwir yn erbyn y byd." "Bywyd heb Iechyd, baich y PF. cBEi_ENAt] (HEAD PILLS) JR-CWX _A.IT3DS> ,J' 'I V .L" h.- FFER YLL YDD, I, BRIDGE STREET, GIV N EC-SAM, *€ 0 Fy mhen, fy Eihen Cyn eu cymeiyd. "YnTachac nacerioedl" Ar 01 eu cymeryd. Dymuna alw sylw pob un ag sydd yn dyoddef oddiwrth gur yn y pen. Y maent yn anffaeledig. UN DYSTIOLAETII ALLAN 0 GANOEDD. IF Anwyl Syr,—Yr wyf yn amgau pedwa.r ar ddeg o lythjrrl BO<Sau. Anfonwch ddau flychiad arall o'ch Pelenau rhagoro- at boen yn y pea. Bhaia i mi ddweyd yn gydwybodol mai hwy ydyw y Pills goreu a ddefnyddiais erioed, ni fynwn fod hebddynt yn fy iihy ar uncyfrif. Gallweh wneudy defnydd a fynocn o'r llythyr hwn, Yr eiddoch yn gywir, H. B. JONES. Borough Place, Grange Road, Birkenhead. iwerthir hwy mewn blychau, 6ch. a Is. yr un drwy y Post Ie, a Is. lc., a ffugiol ydyw pobun os na fydd yn argraphedig artiynt Rowlands' Magic Pills.' Goruchwy 1 wyr y: '"aiau yn mhob man. Parotoirynr gan' ROWLANDS (gynt o Lverpool), 1, Bridge Street, Gwrecsam, GENUINE REDUCTIONS. Midsummer Sale. 10 DAYS ONLY. x Commencing SATURDAY, JUNE 30th, 189. Doors Open at 70 O'Clock. Messrs GRIFFITHS & DAVIES, 338, SCOTLAND ROAD, PEIDIWCH OEDI. GASTROGYNE (BENSON EVANS) ydy- y FEDDY6I8IAETH SICRAF RHAG DIFFYG TREULIAD, Poen ar ol Bwyta, Cur vn y Pen, Poen rhwng yr Ysgwyddau, Cyfog, Penvsgafnder, D'wfr Poeth, Gwyrit»&c. Canoedd o dystiolaethau oddiwrth hen ac ieuainc sydd wedi cael gwellhad drwy 'GAST ROCYN E' MEWN POTELAU (13 doses), I/I; f 40 doses), 2/6. -Ar werth gan bob Fferyllydd.— Wholesale AGENTS- EVANS, SONS & CO., LIVERPOOL. R. HORENDEN & SONS, LONDON. OLDFIELD PATTISON, Manchester. Neu oddiwrth y Perchenog- T. BENSON EVANS Manufacturing Chemist, F) DENSICH, North Wales. 2 TLYFRI'TJ^ILOEDD. g 9. NABL ISALAW zlx 18 0 DONAU NEWYDDION AR PN EMYNAU CYMRU, yn ughydalr geiriau, Pob archebion gyda blaendal i'r Awdwr, ISALAW, BANGOR. Neu Mr. E. D. WILLIAMS, North Wales Music Co., Bangor. Rhan-gan, Mawl-gan i'r Gwaredwr." H.N. 4c., Solffa Ie. Peclwarawd, ,c Draw y'mhell." Pris 4c. AT Y CANTORION. New Songs by the late R. S. Hughes (Pigion o ganeuon newydd B. S. H.) „ in E, & F., SL.EN FWYN. 1 un o'i ganeuon olaf a goreu. Sop. or Tenor., "LULLABY." (Suo-gan) 1/- one of the sweetest Cradle Songs composed. Bjritone, Y 11ILWE CLWYFEDIG." 2 The Won dud C-ivaliar;. A Grand Song—Vide the Pre "RHYFELGERDD CYMRU" 2/- (Cambria's Song of Freedom). Very Suitable for Competition, Ready Feb. 20th. New Song by Dr Rogers. "THE SILENT SlKGER." 2/- Words by Oxenford. Music by Dr Bogers- POPULAR SONGS. "Gwlad y Delyn." J Henry. Is. Bwthyn yr Amddifad." Is "Merch y Morwr." Is. "Y Dymhestl." K.S.Hughes. 2s. ''Inchcape Bell."K.S.Hughes,2s,"Bagail yr Eryri."D. Parry. 2s D. TREHEARN, Publisher, Rhyl. —ARGRAPHU- o bob math, Cymraeg a Saesneg, yn Swyddla'r CYMRO," 18, Brunswick Street, I LERPWL.
B HY D I W Y LFA A'l BOBL…
B HY D I W Y LFA A'l BOBL OD. [Gan YR HEN Wylxwr ] PENNOD XV. DAMW AIN WEDI DIGWYDD I'CH BRAWD." Fel yr oedd cys^odau'r hwyr yn disgyn yn dywyll dros y wlad, y nos Lun dilynol i'r Sad- wrn ar ba un yr aethai Phylip Pari i'w gyhoedd iad pell, yr oedd ei chwat-r, Neli Pari, yn suddo i bryder yn ngliylch ei brawd, yr hwn oedd hyd yn hyn heb ddychwelyd adref, er ei bod hi yn ei ddisgwyl yn gynar yn y prydnawn. Yr oedd gair wedi ei chyrhaedd eisoes, trwy lythyr gludydd a gerddai rhwng Rhyd y Wylfa a phentref cyfag^s i Gapel y Fron, fod y pregeth- I cl wr wedi gweithio ei ff ircld. trwy yr ystorm, ac wedi cyrhaedd yn ddiogel i'w bwJpud foreu Sul, ac wedi myn'd trwy ei daith Sabbothol yn ilwyddiaims. Fel y crybwyliwyd eisoes, yr oedd Phyip Pari yn foreu-godwr ac ni fynai er dim, haf na gauaf, lie bynag y byddai, dori y rheol o fod yn ei ddillad a'l iawn bwyll cyn chwech o'r gloch y boreu. Yn gwybod hyny, ac yn gweled fod yr ystorm wynt ac eira weditaw- elo, a'i bod erbyn byn yn lied hawdd i deitbio, dyfalai Neli Pari yn bryderus beth a ddaetbai o'i brawd. Yn wir, yr oedd amryw wedi galw yn ystod y dydd i holi a glywsai hi rywbeth am dano, ac yn eu plith William Owen, blaenor l Capel Mawr. Tybiodd nowaith y gallasai fod wedi myn'd at ei waith i'r "Plaa" cyn dod adref, ond diflanodd y syniad hwnw o'i meddwl tra tarawai yr awrlais wyth or gloch y nos. Yr oedd ei arferiad o gadw amser rheolaidd wedi ei alluogi i oresgyn anhawsderau, megys drwy swyngyfaredd, a dyeithrbeth yn ei hanes oedd iddo beidio ymddangos yn mhob mail yn ei adeg. Ond gorfu iddo yntau blygu i rhyw rwystr a'i eyfarfyddodd y noswaith hono. Ac fel yr oedd y nos yn hwyrhau, yr oedd pryder Neli Pari yn cynyddu. Syllai yn fynych ar yr hen awrlais mawr oedd yn y gegin, a'r gofyniad a daflai i'w wyneb beuaydd. oedd,— Yn xieno'r taid, i b'le mae o wedi myn'd, tybad Dynes dda a chrefyddol iawn oedd Neli Pari, ac yr oedd hi, fel ei brawd, yn dra hoff o ddar- llen a myfyrio y Beibl. Ac un ffordd oedd ganddi i geisio dofi ycbydi^ ar ei phryder tra yn disgwyl dychwe'iad ei brawd o'i gyhoeddiad oedd drwy dd.arllen Slmau. Modd bynag, yn awr ac yn y man rhoddai ochenaid, codai ei llygaid oddi ar y Beibl a syllai ar yr awrlais, fel pe buasai yn ddig wrtho ef am daro oriau mor hwyr cyn i'w brawd dd'od adref. Yr oedd yr hen awrlais iddi hi fel pe buasai ysbryd byw ynddo, a'r hwn y siaradai, ac i'r hwn y gofynai gwestiwn ar ol cwestiwn. Waeth yn y byd, tarawai yr awrlais yr unfed awr ar ddeg y nos, er ei bod yr un pryd ya taro cynifer o friwiau ar galon Neli Pari. Yn byw yr ochr arall i'r ffordd i Neli Pari yr oedd cyrnydoges iddi o'r enw Sara Pyrs, yr hou hon a'ai i edrvch am dani yn lied fynych, yn enwedig pan y byddai ei brawd, Phylip Pari, oddicartref. Ond y dydd Llun dan sylw yr oedd dau fab iddi wedi dychwelyd o'r môr, ac yn ei llawenydd o'u gweled hwy, a'i thrafferth i'w eroesawu adref, ni fu ei bymweliadau a. Neli Pari mor fynych tig arferol. Modd bynag, cyn haner nos, dyna gnoc ar ddrws ty yr olaf, yr hon a ofnii agoryd y drws ar y cyntaf, eithr gofynodd, Pwy sydd yna ?" Y fi," oedd yr atebiad, ac yr oedd yn eithaf digon i Neli Pari i ddeall pwy oedd y fi hono. Dowch i fewn, Sara Pyrs," ebai Neli Pari. Ddoth o ddirn adra byth, Neli bach ?" go- fynai Sara Pyrs. "Naddo'n wir, wel'd di; ac yr ydw i yn teimlo yn reit anesmwyth yn i gylch o hefyd," oedd yr atebiad. Wel, yn wir," ebai Sara Pyrs, "r haid i mi syrthio ar fy mai am beidio dwad yn gwmpeini i ti cyn hyn, ynte mi ddoth yr hogia acw adra o'r mor, yntê, ac yn y miri mawr efo nhw, mi annghofiais i bob peth am danat ti, yntê, Ond pan oeddwn i ar gychwyn i ngwely, yntê, mi welwn y gola yn y ffenast yma, yntê, ac mi trawodd rwbath fi yn y fan nad oedd petha ddim fel arferol yma, yntê, ac mi benderfynais alw yma am funyd, ynte. A dydi Pny'ip dy frawd byth wedi cyrhaedd, ydi o V' "Nac ydi yn wir," oedd yr atebiad, ac wn i ddim beth i feddwl yn iawn, achos fel yr ydach chi'n gwbod, mae Phylip mor ofakis am ddwad adra yn brydlon o bob man. Tasa fo heb gyr- haedd i'w gyhoeddiad nos Sadwrn, faswn ra synu dim llawar, achos yr oedd hi yn dywydd mor fawr ond mi glywodd Tomos Jones, y postman. fod Phylip wedi cyrhaedd i Gapel y Fron, ac wedi pxegethu dair gwaith ddoe." Wyt ti'n siwr, Neli," ebai Sara Pyrs, nad ydi Tomos Jones, y postman, wedi camgymeryd, yaite 1 Mae o'n ddigon hurt yn amal efo liythyran, medda nhw, ynte acfealla mai cam- ddallt rhywun ddaru o. Wrach fod Phylip Pari wedi'i daro'n sill ar ol myn'd drwy'r tywydd mawr, yntê, os gallodd o gyrhaedd i'w gyhoedd- iad o gwbwl, ynte. Mi wyddost na fydda i byth yn leicio brifo teimlad neb, na chymryd yr oiwg dwlla ar ddim, yntê; ond mi wn i y bydd gin ti fwy o barch i mi yn y pen draw, ynte, am ddweyd fy meddwl yn onnst, wrthat ti, fy mod i yn meddwl fod rhivhath wedi digwydd i dy frawd, ynte, cyn iddo fo gyrhaedd i'w letty nos Sadwrn, ynte." Gwelwodd gwyneb Neli Pari, ac yr oedd yn hawdd deall wrthi fod awgrymiadau Sara Pyrs wedi ei chyffwrdd i'r byw. Mae yr hyn a ys- grifenwyd eisoes yn ddigon i brofi pa fath un oedd Sara Pyrs, a gadawaf i'w geiriau fod yn farnwyr ami. Ebai Neli Pari. Sara Pyrs, 08 ydach chi wedi clywad rhw- bath am fy mrawd nad ydw i yn i wbod, da chwi deydwch y gvir, beth bynag ydi o." "Wel," ebai Sara Pyrs, "dydw i ddim wedi clywad dim byd yn sicir, ynte ond i fod yn onast rhaid i mi ddeyd fy mod yn ofni fod rhwbath amgen na da wedi digwydd, ynte ac yr ydw i yn meddwl fod rhyw anfluwd wedi i ddal o nos Sadwrn, ynte." Gyda byn, dyna gnoc arall ar y ddor, pryd y ihuthrodd Neli Pari yno, gan obeithio mai ei brawd--o'r diwedd—oedd wedi cyrhaedd. Modd bynag, pan agorodd hi y drws, gwyneb rhadlon William Owen, blaenor y Cape Mawr, ddaeth i'r golwg. Galwasai yr I en frawd ddwywaith neu dair yn gynarach, ond methodd ymdawelu i gysgu—er myne i ohoao i'w wely !—heb wneud un ymholiad arall yn nghylch ei hen gyfaill. Ydi o wedi cyrhaedd bellach C¡" oadd gofyn- iad cyntaf William Owen. Nag ydi," atebai Neli Pari, ac mae arna i ofn na ddaw o ddim heno, beth bynag sydd wedi dwad obono fo." Dydach chi ddim yn meddwl, William Owen," gofynai Sara Pyrs, "y rhaid fod rhw- bath amgen na da wedi digwydd i Phylip Pari nos Sadwrn yn y tywydd mawr hwnw, yrlt6 ? Mi wyr pawb na bydda i yn leicio cymryd yr olwg ddua ar betha, yntê, ac ni fynwn er dim friwio teimlad neb, ynte ond yr ydw i yn gorfod deyd fy meddwl yn onast fod arna i ofn fod rhwbath pwysig wedi cyfarfod Phylip Pari, neu y basa fo adra cyn hyn, ynte. Beth ydi'ch barn chi, William Owen 1" Wel," ebai William Owen, mae o yn beth lied hynod i weled bod Pbylip Pari heb gyraedd adref cyn hyn ond rhaid i ni beidio cymryd gblwg rhy ddu ar y mater ac mae'n bosibl fod pobpeth yn iawn, ac y bydd o adra gan loned a'r gog cyn hir. Peidiwn a chredu drwg nes byddo i-aid ini." William Owen," ebai Sara Pyrs, "ydach chi'n taflu ata i wrth ddeyd na ddyla ni ddim credn drwg nes byddo raid ? Mi alia rhywun feddwl wrth y'ch geiria chi, William Owan, fod arna i eisio i Neli Pari gredu y gwaethaf am i brawd. Dydw i ddim yn meddwl i fod o'n iawn ynoch chi i dafla peth fel yna i ngwynab i mor ddialw-am-dano." Wel, wel," ebai William Owen, yr ydw i fel pe bawn wedi ngeni i'r byd yn un pwrpas i dynu pobl yn fy mhen yn ddiweddar. Mae'n rhywyr gin i weld Phylip Pari yn dwad adra, achos mae pob peth yn ymddangos i mi fel pe basant wedi drysu er pan aeth o o'r cartref. Fu rioed y fath drybini ar y mhen i ag y fu er prydnawn Sadwrn, ac yn 01 S lfa Pyrs 'tydi'r ddrycin ddim drosodd eto." Un o dymher flin a phoetblyd oedd Sara Pyrs, ac nis gallai wadu ei buD. hyd yn nod ar yr awr hono o'r nes, a than amgylchiadau mor eithriadol eithr yi- oedd yn llosgi o awydd i ffrae, ac ebai hi wrth William Owen— Yr ydw i yn sy di atoch chi, ynte—ydw yn wir, William Owen, n siarad fel yr ydach chi. Mi faswn i'n meddwl fod yr byn gymrodd le yn Mryn Llywarch yn ddigon o wers i unrhyw ddyn rhesymol i fod yn ofalus iawn ar ei dymar a'i eiria, ynte. Yn lie hyny, yr ydach chi yn ceisio gwneud allan y mod i am ddychryuu Neli Pari trwy gael gyni hi gredu y gwaetba am i brawd, yn te. Does gyjuoch chi ddim bawl i siarad fel yr ydach chi; a beth wyddoch chi nad ydw i yn iawn wedi'r cwbwl ynte ?" Wel," ebai William Owen, rhaid i mi ad- ael llonydd i'r ddadl rhwng Sara Pyrs a minau hyd ryw dro eto, pan fydd gynon ni fwy o am- ser o'n blaen ond heno, mae hi yn rhy hwyr, a ddeyda i ddim ond gan lleied ag sydd bosibl eto." u Ond cofiwch chi, William Owen," ebai Sara Pyrs yn mhellacb, "na ddylai dyn o'ch oed chi ddim bod mor barod i siarad yn erbyn pobo eraill. Mae Neli Pari a minau wedi bod yn gyfeillion calon ar byd y blynyddoedd, ond yr ydach chi wedi gwr.eud y'ch gora i achosi drwg deimlad rhyngon ni." "Sara bach," ebai Neli Pari, "yr ydw i yn y'ch nabod chi yn rhy dda i ddigio wrthech chi ar chwara bach a dydw i ddim yn meddwl fod William Owan wedi bwriadu deyd dim i'ch brifo chi na mina. Ac ar draws y'ch holl siarad chi, yr ydw i yn metbu peidio meddwl am fy mrawd a cheisio dyMu beth sydd wedi digwydd iddo fo. Ac mae rhwbath yn gwasgu ar fy meddwl i nad ydw i ddim wedi son ana dano wrth undyn byw o'r blaen ond alia i yn fy myw beidio ei ddweyd wrthoch chi heno, a dyma fo :— Blwyddyn i neithiwr mi ges freuddwyd rhyfedd lawn. Wn i ddim faint o goel sydd i roi ar freuddwyd, ond mae hwnw wedi peri llawar o o fiinder meddwl i mi, beth bynag. Dydw i ddim yn cofio y cwbwl ohono fo, ond mae hyn wedi glynu yn y ngho i, ac wedi rhedeg drwy fy meddwl i agos bob dydd byth er hyny-sef gweled fy mrawd Phylip yn dwad adra yn gorph." Hyd yma y gallodd fyned nad oedd ei chalon yn ei gwddf, ac yn ei thaga, a dagrau mawrion yn gyru eu gilydd i lawr dros ei gruddiau gian- Modd bynag, adfeddianodd ei hun i raddau, ac ychwanegodd- "Wn i ddim oes ryw svlwedd mewn peth fel yna ai peidio ond mae o wedi peri llawar o boen meddwl i mi, ac i d h yd. y gwir, mae arna i ofn fod rhyw newydd drwg i ddwad 0 hyn i gyd." Yr oedd trymder hwyrnos, y pryder am ddi- ogelwch Phylip PXri, difrifoldeb ofuadwy ei chwaer, gyda chred gyffredin mewn breuddwyd- ion, wedi rhoddi dylaawad ofnadwy i adroddiad Neli Pari o'i breuddwyd. Ond pa faint mwy y braw pan glywyd swn rhywun yn curo yn drwm ar y ador Pan agorodd Neli Pari, gwelodcl Tom Huws y Plisman, yr hwn a'i cyfarchodd gyda'r geiriau- Peidiwch a dyohryn dim ond rhaid i mi ddeycl^ fod damwain wedi digwydd i'ch brawd Cyn iddo ddweyd gair yn mhellacb, yr oedd Neli Pari yn gorwedd ar y llawr o'i flaen mewn llewyg. (I barhau). f :0: 1- Yn groes i ddymuniad y trethdalwyr, a gyflwyn- wyd yn lied boeth i sylw mewo cyfarfod cyhoedd- us, y mae Bwrdd Llywodrsieth Lieol yn cadarnhan cais Bwrdd Lleol y Wyddgrug arn genad i fenthyca. arian at wneud carthffosydd newyddion yn y dref.