Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Congl y Cymdeithas Ddarllen.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Congl y Cymdeithas Ddarllen. DECHREUWN y tymhor presenol gyda CEIKIOG Oriau Eraill (Hughes a'i Fab, Is.) Cymru Fu, tud. 157-33J (eto). Y mae Elfed wedi addaw nodiadau ar Oriau Eraill, ond oblegyd ei waeledd mae Golygydd y 'Gongl yn gorfod cymeryd ei le y tro hwn. Y Proff. Anwyl sydd yn ysgrifenu ar Oymru Fu. Am unrhyw hysbysrwydd, anfoner at Olygydd y 'Gongl, J. E. Lloyd, Caederwen Cottage, Bangor. CYMRU Fu. Math ab Mathonwy (Hen Fabinogi Gymreig). Dylai'r sawl a astudiant y Fabinogi hon ei dar- llen, os ydyw yn eu cyrhaedd, fel y mae yn yr hen "Gymraeg. Perthyna Mabinogi Math ab Mathonwy i bedair caine y Mabinogi fel y gelwir hwy yn y Mabinogion eu hunain. Yn yr hen Fabinogion hyn y cynwysir hufen yr hen draddodiadau Cymreig a dianmheu, fel y dangosodd y Proff. Rhys yn ei Celtic Heathendom, fod ynddynt lawer o olion hen grefydd y Cymry. Un or pethau cyntaf sydd yn tynu ein sylw wrth ddarlten y Mabinogion hyn yw'r modd y maent yn gysylltiedig ag enwau gwahanol ranau o Gymru. Weithiau, rhoddant esboniad ar enw lie yn y Deheudir, bryd arall yn y Gogledd, a phryd arall yn Mhowys. Nid wyf yn sicr na cheid, pe chwilid y traddodiadau hyn yn ofalus, fod bron bob un ohonynt wedi codi yn yr awydd i esbonio enwrhyw fan penodol. Ceir y duedd hon yn mhob hen len- yddiaeth, ac na ollynger ef dros gof wrth astudio 116n gwerin a thraddodiadau lleol. Pebin o Ddol Pebin yn Arfon Y mae yn eithaf tebyg na fu erioed y fath un a Pebin, ac mai'r hyn roddodd fod i'r traddodiad am dano yw'r enw hwn, Dol Pebin, oedd mewn angen esboniad. Un o rag- orion penaf y Mabinogion yw'r gallu a'r hwn y mae'r gvvahanol draddodiadau lleol wedi eu gwau yn nghyd. Beunydd: Ystyr beunydd yn wreiddiol yw bob-dydd," megys yn ein bara beunyddiol," Gyfoeth: Yr un gair a'r Gwyddel. "Cumaeht," ya yr ystyr o allu fel yn y gair "hollgyfoethog- hollalluog. I. Ni ddylid ysgrifenu'r rhagenw i a llyth- yren fawr fel y gwneir yn Saesneg. Gyneddf: Priodoledd naturiol. Tud. 158: "Taw, enaid."—Defnyddir yn gyff- redin yn yr hen Gymraeg yn union fel Syr," yn awr. Tud. 159: Cynllyfan-yn Saesneg, "leash." Ystyr Uyfan yw rhaff neu denyn. Lledrith Mewn manau yn y Mabinogion fe geir y ffurf "lledfrith." Ystyr brith yw sWyn- gyfaredd; Gwyddelig, "bricht." Mochdref Sylwer eto ar y duedd sydd yma i -esbonio enwau lleoedd. Diau fod yn mhob ardal lie ceir "moch" yn rhan o'i henw draddodiadau yffelyb. Tud. 160: Saethu "—Tardda'r gair saeth o'r .Lladin "sagitta." Tui. 161: Sayizlath.-Hudlath. Ystyr "llath" yn wreiddiol yw gwialen. Yr un gair ydyw a'r Gwyddelig slat." Tud. 162: Pared.—o'r Lladin "paries" "mur rhwng dwy ystafell." Tri meib, etc. Feallai fod y trioedd hyn yn 11a wer hyn na'r Fabinogi ac mai i'w hesbonio hwy y gwnaed yr hanesion am Bleiddwn, Hyddwn a Hychdwn. Tud. 163: "Hi a gyrchodd "Tardda'r gair "eyrehu" o'r Lladin eircare o'r hwn hefyd y tardda'r leidalaeg. cercare" a'r Ffrancaeg .H chercher." "pili" a "satin" o'r Lladin "pallium. Gaer Arianrod y farn gyffredin am "Gaer .Arianrod" ydyw mai'r Llwybrllaethog" a feddylir wrth yr enw. Chwedl ddiweddarach yn ddiameu na'r enw Caer Arianrod yw'r chwedl am Arianrod ei hun. Tud. 164: Cordwal-o enw Cordova lie gynt y gwneid math o ledr enwog. Gormod, o gor a modd," h.y., ;dros fesur. Gweler fel y mae'r .banes yma eto yn ymgais i esbonio enw Llew Llaw Gyffes. T'ud. 165: Dinas DinUef-Dinas Dinlle-man a'r lan y mor heb fod ymhell o Gaernarfon i gyfeiriad Clynnog. Tud. 166 Un o'r darnau tlysaf yn y Mabin- ogion yw'r disgrifiad o ffurfiad Blodeuwedd, ond diamau yma eto fod yr enw yn hyn na'r chwedl. Teleidiat te ledi waf teceaf. Tud. 168: Bryn Cyfergyr.-Ystyr Cyfergyr yw ;ymladdfa. Tied. 169: Ateichiad-Un yn gofalu am foch y mae yn tarddu o Moch" a iad (atddodiad). Nant y Llew-Nantlle. Y mae yn annhebyg iawn fod Nantlle wedi tarddu o Nant y Llew," ac o bosibl nad oedd awdwr y labinogi hon yn gyfarwydd iawn a'r ardal. T'ud. 170: -Diamau eto mai'r hyn roddodd fod i'r ystori hon am droi Blodeuwedd yn aderyn oedd yr angen am es joniad ar natur ryfedd y Ddallhuan. E. AXWYL. AWGRYMIADAU I'R CYLCH DARLLEN. Gellid trin yn bur ddyddorol ar sail y dernyn .yma y pynciau a ganlyn :— Enwau Cymraeg y ser. Hanes y llefydd enwir yn y Fabinogi. Hen ardaloedd Cymru. Llynoedd Morwynion—chwedlau am danynt. Y Ddyllhuan. ..Dychymyg yr hen Gymry. CEIRIOG Oriau Eraill. Y bywgraphiad goreu o'r bardd yn ddiau yw -eiddo'r Llyfrbryf, John Cetrzog IIu!ihes,-(Foulkes, Liverpool), a'r traethawd beirniadol goreu ar ei waith ydyw eiddo Elfed, yn nghyfrol Eisteddfod Gwrecsam (1888). Cyhoeddwyd Oriau Eraill yn 1868, pan oedd Ceinog ynbyw yn Llanidloes, ac yn llanw yno y swydd allfarddonol o oruchwyliwr y stesion. Sylwa Llyfrbryf fod mwy o Anian yn y llyfrau cyntaf, gyhoeddwyd pan oedd y bardd yn Man- chester, a mwy o'r natur ddynol yn y rhai olaf, ymddangosodd ar ol iddo ddod yn ol i Gymru, a dywed yn bur briodol mai tuedd pob bardd wrth addfedu a heneiddio ydyw troi oddiwrth anian at ryfeddodau calon dyn. Syr Rhys ap Tomos.-Buddugol yn Eisteddfod C&erfyrddin, 1867. Ceir hanes Syr Rhys yn lied gyflawn yn yr Ol-ysgrif. Dylai yr efrydydd ddar- llen hon cyn dechreu ar y gan. Cydmarer a'r dernyn yma "Faes Bosworth," Eben Fardd. Nid oes anmheuaeth nad oedd y frwydr yn un bwysig i Gymru cafodd y wlad, nid yn uaig enw o oruch- afiaeth drwy y Tuduriaid, ond hefyd well chwareu teg gan y Saeson o hyn allan. Ac eithaf eywir ydyw Ceiriog pan ddvwed, Bosworth ni b'asai heb Rhys ap Tomoa." I Y DDRAIG.—Gymru. Tud. 7.—Eisteddfodau Dan nawdd Gruffydd y cynaliwyd Eisteddfod Fawr Caerfyrddin, yn 1451. 8.—Mortimer's Cross Ymladdwyd yn 1461, ystod Rhyfel y Rhosynau. 9.-Selyflaid Solomoniaid. Rhon yr afon Rhon. 10.—Byrdwn Cydgan. 13.-Yma dechreuA'r mesur di-odl y eyfeiria Elfed ato fel un o ychydig fethianau Ceiriog yn y gelfyddyd o fydryddu. Yn sicr, anodd yw cael allan pa ddeddf sydd yn ei reoli tybed fod un o gwbl ? 18.—Dengys Ceiriog dipyn o dalent drama- yddol yn y rhan yma, ond ffei o'r mesur.

O Cynghrair Rhyddf rydol Gogledd…

o Barddoniaeth,

Llenyddiaeth.

Advertising