Hide Articles List

9 articles on this Page

Etholiadol.

News
Cite
Share

Etholiadol. Y MAE yn byw yn y Wyddgrug er's hir amser bellach hen garitor digrif o Wyddel a Radical selog o'r enw Doyle, sydd yn myned ar hyd y wlad i werthu potiau. Dipyn o amser yn ol, yr oedd mas- nach Doyle wedi gwella fel y gallodd brynu bastard mul yn lie y mulsyn fyddai ganddo o'r blaen ac ar un o'i bererindodau yr wythnos ddiweddaf, cyf- arfu ynad yn sir Fflint sydd wedi gwyro at y ffydd Undebol, yr hwn a'i cyfarchodd yn gellweirus, Hullo, Doyle What is this animal you have ?I Unionist, your 'onor," ebe'r Gwyddel. Sir Fon.-Bu y ddiu ymgeisydd profiadol a'u pleidwyr yn ymweled a gwahanol ranau y sir, ac yn diwyd ganfasio ar hyd yr wythnos. Nos Fawrth, anerchodd Mr T. P. Lewis gynulliad lluosog yn Nghaergybi; yr Henadur Richard Hughes yn y gadair. Rhoddwyd pleidlais unfrydol o ymddiried ynddo ar gynygiad Mr T. R. Jones, ac eiliad y Parch W. R. Jones. Y mae rhagargoelion y bydd mwyafrif Mr Lewis yn fwy nag o'r blaen. Dywedai Mr Morgan Lloyd yn yr un dref y noson o'r blaen mai dinystr i Gaergybi a fyddai Ymreolaeth, ac na symudid byth mo Greigiau Platters ond gan Lyw- odraeth Undebol. Dyma fel y canodd un o feirdd y dref ar y pryd :— Ow ow Morgan Llwyd, un hynod iawn wyd, Yn palu fel hyn yn Nghaergybi Mog bach, taw a son, 'dyw pobl sir Fon O'r haner mor ffol ag y tybi. Sir Gaërnarfon- Y Bwrdeísrlrefi-Gwelir mewn colofn arall fod y ddau ymgeisydd wedi cael eu croesholi ar bwnc y tafarnau, ac y mae atebion y ddau yn ddigon diamwys. Yr oedd cyfarfod Mr Lloyd George a gynaliwyd yn Nghaernarfon nos Wener yn un nodedig o lwyddianus, a bydd yn sicr o dwymno Ymneillduwyr clauar ac annghyson y dref hono. Tra yr oedd Mr T. E. Ellis yn siarad taflodd rhyw ddyhiryn gareg ato, ond Mrs Evans, gwraig a safai gerllaw, a gafodd yr ergyd. Nid oedd y niwed a gafodd yn fawr ond y mae Uvichio ceryg yn ddull creulawn o ymresymu. Cafodd Syr John ei gyfarfod goreu hyd yn hyn yn Mangor nos Fawrth cludwyd yr hen Farchog ar ysgwyddau ei bleidwyr, a buasai darlun ohono ar y pryd yn werth ei gadw hyd y Mil Blynyddoedd, er mwyn i bobl yr oes hono wybod sut i wenu. Rhagibarth Eiifon.-Druan o amaethwr Abercin; nid fel amaethwr-da iawn fuasai cael rhagor o amaethwyr i'r Senedd-ond fel Methodist yn gwneud ei hun yn bawen cath i Doriaid ac Eglwys- wyr Lleyn ac Eifionydd. Profodd Mr. Bryn Roberts ei hun yn un o seneddwyr do.thaf a mwyaf annibynol Cymru a chyda llawer o briod- oldeb y gall Mr. Humphreys suoganu 'Rwyf fl fel ceffyl Plas y Maen, Wrth redeg am y gwpau yn gyru'r llall o mlaen. Rhanbarth Arfov,Nicl oes undyn eto wedi dad- gan ei benderfyniad i wrthwynebu Mr. Rachbone- Croen iach ydyw croen Neirionydd.Fel y cyfryw, prin y mae gwrth- wynebydd Mr. T. E. Ellis yn werth sylw. Ar- weinydd Eisteddfodau ac nid Gwladweinydd y bwriadwyd Amaethon. Trefaldwyn- YSir a'r Biordeisd?-eif. -Cyn,.tliwyd cyfarfod unol Rhyddfrydwyr y ddwy etholaeth hyn yn y Drefnewydd, ddydd Mawrth, yr hwn a anerch- wyd gan yr yingeiswyr, Mr Stuart Rendel a'r Anrhyd. Hanbury Tracy. Rhoddwyd pleidlais un- frydol o ymddiriedaeth yn y ddau foneddwr. Dy- wedai Mr Rendell ei fod wedi derbyn llythyr oddiwrth r Gladstone yn mawr obeithio y bydd i Gymru roddi dedfryd' bendant o du iawnderau cenedlaethol a rhyddid Dinbych—Bwrdeisdrefi. —Fel y gwyddis, y mae gan Mr Howell Williams frwydr galed o'i flaen ond oblegyd rhagoroldeb ei brogram, ei a.lluoedd dianmheuol, a'i yni diorphwys, ni ryfeddem ei weled ar ben y rhestr ddydd yr etholiad. Nid oes gydmariaeth rhwng Mr Kenyon a Mr Williams yn wir, fel y dywedasom o'r blaen, y mae Mr Williams yn un o'r ymgeiswyr goreu sydd yn cynyg ei was- anaeth i unrhyw etholaeth Gymreig. Gorllewinbarth Str Ddinbyeh.-Gwelir anerchiad- au y ddau foneddwr sydd yn ymgais yn y rhanbarth hon mewn colofn arall. Nid oes dim fuasai yn rhwystro ail-etholiad Mr. West ond ei bolides; canys y mae iddo fawr barch yn y rhanbarth fel cymydog tirion a meistr tir rhagorol. Ond oblegyd nad yw yn cydweled a'i hen blaid ar Ymreolaeth, ac yn enwedig ar Ddadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru, dygir Mr. J. Herbert Roberts yn mlaen fel Ymgeisydd Rhyddfrydol, ac ymgeisydd campus ydyw yn mhob ystyr ac yr ydym yn deall fod ei ragolygon yn arwyddo llwyddiant sicr. Yr oedd mwyafrif Mr. West fel Rhyddfrydwr yn 1885 yn agos i 1,700, a dychwelwydef yn ddiwrthwynebiad yn 1886. Dwyreinbarth Sir Ddinbych—Bydd yma hefyd frwydr galed. Dyma y drydedd waith i Mr. Osborne Morgan, ac un o gynrychiolwyr seneddol goreu Cymru er's 24ain mlynedd, gydymgais am y sedd gyda Syr Watkin ac fe'i gorchfygodd bob tro, ond nid oedd ei fwyafrif yn 1886 yn fwy na 26 Credir y gellir beth bynag y tro hwn chwan- egu 0 at y 26. Y mae'r ddau ymgeisydd yn brysur wrthi hi ond i gyfarfodydd Mr. Morgan yr ym- gynulla'r Iluaws. Fflint— Y Sir a'r Pwrdeisdrefi. -Yr ydym mewn colofn arall yn cyhoeddi anerchiad Mr Samuel Smith at yr etholwyr. Yr oedd ei fwyafrif yn erbyn Mr Pennant, yn 1885, dros 1,500, ac ni fu ymryson am y sedd yn 1886. Y mae'n anhawdd gwybod pahamy rhoddir boneddwr morddyngarol a hael- ionus, a Seneddwr mor alluog, yn y draffertli fawr o etholiad. Yn y Bwrdeisdrefi, ymleddir brwydr y Rhyddfrydwyr gan Mr J. Herbert Lewis, un o aelodau mwyaf addawol Cymru Fydd; tra mai arwr y Ceidwadwyr ydyw Mr Pennant. Nis gwyddom pa sawl curfa gafodd Mr Pennant o'r blaen, ond y mae un arall yn ei aros. Gwrthymgeisydd Mabon yn Nghwm Rhondda ydyw Mr R. Morris, brodor o Ddinbych, meddir, hen ysgolfeistr, gweinidog wedi hyny, yn awr siopwr a chynghorwr sirol. Safai cynrychiolaeth Cymru yn y Senedd ddad- gorphorwyd ddydd Mawrth fel y canlynBwr- deisdrefi, dau Geidwadwr, un Undebwr, ac wyth Rhyddfrydwr siroedd, un Ceidwadwr, un Undeb- wr, a dau ar bumtheg o Ryddfrydwyr yn gwneud y cyfanrif yn 30, neu dri Cheidwadwr, dau Undeb- wr," a phump ar hugain o Ryddfrydwyr. DYODIAD YR ETHOLIADAU. M6n Gorph. 14 Bwrdeisdrei fArfon 9 Dinbych „ 7 Dwyreinbarth 8 Lerpwl >> ° Birkenhead ••• »» £ Wirral >> 1

Olynydd Mr. Dillwyn.

-:0:-Penderfyniad y Chwarelwyr.

I , Ffestiniog a'r Cwmpasoedd.

Barddoniaeth.

PWLPUDAU CYMREIG LIVERPOOL.…

Advertising

Family Notices

Lleol.