Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Ymddiswyddiad y Parch. 0.…

News
Cite
Share

Ymddiswyddiad y Parch. 0. Jones, B.A. AR ol gweinidogaeth ffyddlawn a thangnefeddus iawn am ugain mlynedd, nos Iau ddiweddaf, hys- bysodd y Parch. OWEN JONES, B.A., Eglwys Chatham Street ei fod yn bwriadu ymddiswyddo ar ddiwedd y mis hwn a diangenrhaid ychwanegu i'r hysbysiad bed gofid cyffredinol i bawb.t-'i clywsant. Fe gofir ddarfod i Mr. Jones rai blyn- yddau yn ol roddi rhybudd cyffelyb ond perswad- iwyd el gan y swyddogion i ganiatau iddynt roddi'r mater gerbron yr Eglwys, yr hon trwy fwyafrif mawr a ddeisyfodd arno dynu y rhybudd yn ol, ac a'r cais hwn y cydsyniodd. Tan deimladau dwys, dywedai Mr. Jones nad oedd ef wedi penderfynu ar hyn yn sydyn ond ei fod wedi gwneud ei feddwl i fynu pan yn symud o'r blaen ugain mlynedd yn ol os byth y deuai i am- gylchiad eyffelyb drachefn mai byr rybudd oedd oreu i'r naiil ochr a'r llall er arbed twrw ac an- nghyfleustra. Hysbysai nad oedd ei iechyd cystal er's blynyddau, na'i got mor gryf ag arfer, a bod ei weinidogaeth o ugain mlynedd yn eu plith yn terfynu ddiwedd y mis hwn. Wrth edrych yn ol, gallai adgofio llawer amgylchiad cysurus, a Uawer o bryder ar yr un pryd. Ni chollodd ef ei bryder am lwyddiant yr eglwys yn ystod yr holl flynyddau hyny a chredai fod amcan pwysicaf yr Eglwys i raddau wedi ei gyrhaedd; fod llawer wedi eu perffeithio ac eraill ar y ffordd Iluaws o'r rhai a fedyddiwyd ganddo, yn awr yn aelodau eglwysig un genedlaeth wedi codi, ac un arall wedi myn'd— os edrychid am y rhai yr oedd eu enwau yn adrodd- iad cyntaf yr eglwys, ychydig ohonynt sydd yn aros. Tra yn trigianu yn y dref, addawai ei gwasanaethu hyd eithaf ei allu ond anogai yr Eglwys i feddwl am, a galw, heb ymdroi un i'w bugeilio; a hyderai y byddai i Ben Mawr yr Eglwys fod yn bob arweiniad iddynt yn yr amgylchiad. Fel y crybwyllwyd, gwrandewid ar ymadroddion tynei ac effeithiol Mr. Jones gyda gofid a phrudd- der; a'r dvmuniad cyffredinol ydoedd nad ymad- awai o'u plith am hir "mser. Cafwyd ychydig eiriau pwrpasol gan Mr. E. Pugh, blaenor hynaf yr Eglwys; a chyfeiriodd at ystod maith gweinidog- aeth Mr. Jones fel tymhor o dangnefedd a ffyniant; a phriodolai hyny i raddau helaeth i farn addfed, synwyr cryf, ac ymarweddiad hardd eu gweinidog hybarch.

-o Fe Ddywedir

i v , Cohebiaethau.

Ein Cenedl yn Manceinion.

[No title]