Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
The West of England Clotli Establishment. (Established 1856. 0. P. OWEN & Co., 9, SCOTLl ND PLACE, BYROM STREET. YR HEN FASNACHDY mwyaf adnabyddus yn Lerpwl, Cymru, a rhanau helaeth o America, am YBRETHYNAU OREU. TORIAD | OREU. -"■OREU. FFIT OREU. Ac am y Prisiau mwyaf rhesymol. DEUWCH A GWELWCH. MEDDYGiNiAETH OREU Yr. OES YW QUININE BITTERS GWILYM EVANS Y FEDDYGINIAETH FAWR GYMREIG Sydd yn gwella holl Anhwylderau y CYLLA, y GIAU, yr AFU, a'r GWAED, ac sydd yn annghydmarol fel meddyginiaeth adgrythaol at bob math o WEN DID. QUININE BITTERS GWILYM EVANS QUININE BITTERS GWILYM EVANS. QUININE BITTERS GWILYM EVANS Y mae y QUININE BITTERS yn feddyginiaeth. holV-L lysieuol, ac yn eynwys ehwerw lysiau a melus lysiau, uedi eu haddas gymysgu i ffurfio y feddyginiaeth oreu a ddyfeisiwyd erioed er cryfhau y cyfansoddi-id, paro y 4 ned, a syiuud effeitaiui nivveidiol gwahanol glefydau. TYSTIOLAETH DDIWEDDAR. 41, Bimford Street, Hillgate, Stockport, Tachwedd 3, 1891. Fonecl(ligion, yn clda genyf eich hysbysu fy mod wedi derbyn lies mawr trwy ddefnyddio Bitters Gwilym Evans. Cefais ei fod yn peri i'r gwaed redeg yn rhwyddach trwy fy aeiod toredig, ac ar yr un-pryd yn fy nghryfhau. Teimlwn fod fy mwyd gynt yn pwyso fel plwm ar fy nghylla ar ol bwyta, ond yn awr ar ol efnyddio y Quinine Bitters nid yw fy mwyd yn peri poen i mi. Yr wyf yn falch fod eich llyfryn wedi dyfod i'm medd- iant, ac anogaf bawb sydd yn astudio eu hiechyd, i roddi prawf dioed arno. Yi eiddoch yn gywir, Mrs MARIA HALLAM. Derbynir canoedd o lythyrau yn flynyddol yn tystio i'w effeithiolrwydd a'i rinweddau iachaol annghydmarol. Anfonwch am daflen o dystiolaethau. BITTERS GWILYM EVANS m- GOCHELWCH DWYLLWYR. Edrychwch fod enw Gwilym Evans ar bob label, stamp a photel. Gwerthir mewn Poteli, 2/9 yr un dwbl faint, 4/6. Blychau yn cynwys tair potel 4/6 am 12/6. I'w cael yn mhobman, neu danfonir hwy yn rhad am y prisiau uchod yn ddyogel trwy y post oddi- wrth y perchenogion,— Quinine Bitters Manufacturing Company, Ltd., LLANELLY, SOUTH WALES. Gellir cael Quinine Bitters Gwilym Evans yn America oddiwrth y prif oruchwyiiwr—R. D. Williams, Medical Hall, Plymouth, Penn. FFORDD pjAlARN gIR QAER. [CHESHIRE LINES]. GWIBDEITHIAU YR HAF i FANCEINION A SOUTHPORT. Gellir cael Tocynau Rhad bob ddydd Sadwrn am 1, 2, a 3 diwrnod o'r ORSAF GANOL, LLYN- LLEIFIAD, i FANCEINION, gyda thren gyflym, fel y canlyn :— Dydd Sadwrn a dydd Llun, 8.30 c.a., 9.30 c:a., .12.30 w.a., 1.30 w.a., a 2.30 w.a. Yn dychwelyd 0 Fanceinion yr un dydd 6.30 w.a., 7.30 w.a., 8.30 w.a., 9.50 w.a., a 11.0 w.a. Cludiad, 3ydd dos- barth, yn dychwelyd yr un diwrnod, 2/6; i ddy- chwelyd ddydd Sul neu'r Llun dilynol, 3/6. ARDDANGOSFA GANMLWYDDOL YN SOUTHPORT. Bob dydd Sadwrn a dydd Llun, hyd rybudd pellach, ceir Tocynau Rhad i Southport fel y canlyn :— Ddydd Sadwrn, o Lerpwl am 9.0 c.a., 10.20 c.a., 12.20 w.a, 1.25 c.a., a 2.22 w.a. o Orsaf St. James, 9.4 c.a., 10.9 c.a., 12.7 w.a., 1.37 w.a Ddydd Llun, o Lerpwl, 9.0 c.a., 1020 c.a., 12.20 w.a., a 1.33 w.a. o orsaf St. James, 9.4 c.a., 10.9 c.a., 12.7 w.a., a 1.37 w.a. Am docynau a manylion, ymofyner a'r M i. Cook a'i Fab, 51, Lord Street; Swan a Leach, 14, South John Street; neu I D. MELDRUM, Cyfarwyddwr. Yr Orsaf Ganol, Lerpwl, Mehefin, 1892. JOHN THOMA 3, —Photographer,— 47, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. lienyddiaeth a Cherddoriaeth Gymreig HUGH EVANS, M, STANLEY RD., KIRKDALE MAE yr Esboniadau canlynol ar y GALATIAID liewydd dd'od i law:—Dr. O. Thomas, pris 2/ Dr. J. Hughes pris 1/6; Proff. H. Williams, M.A., 1/6 Parch. E. Davies, 1/6. Prawfion Diweddaraf Cristionogaeth, gan y Parch. G. Ellis, M.A pris 4c. Yr holl Ganeuon (Songs) diweddaraf mewn Stoc. THE TrA TRADE. 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. TEA FOR FAMILY USE. AT WHOLESALE PRICES. NO MIDDLE PROFITS We are now supplying a Special INDIA and CHINA, per lb. (Blended). This Tea possesses strength and flavour superior to any supplied before. We are also supplying a FINE STRONG Pure Indian Souchong 117 per lb (SPECIALLY RECOMMENDED). Orders by Post or otherwise shall have our best attention. THOS. JONES & (0., LTD.. BRANCHES: Tea and Coffee Merchants, 33B°irSSIIdBd- LIVERPOOL 60, Eastbank St., Southport. At ein Cohebwyr. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore ddydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher.
------------------_-----------DYRCHAFU…
DYRCHAFU Y DREICIAU. O'R diwedd y mae'r Etholiad Cyffredinol ar ein gwarthaf. Cyn wythnos i heddyw z, y bydd y goelbren wedi ei bwrw mewn llawer man. Nis gellir dweyd iddo ein goddiweddyd yn sydyn ond gresyn na ddaethai ar ryw adeg heblaw Dyddiau'r Cwn—rhyw adeg pan fuasai'r gwres- fesurydd islaw pedwar ugain yn y cysgod. Rhwng poethder yr hin a phoethder y frwydr y mae lie i ofni na fydd yn aros o ambell un gorselog erbyn canol Gor- phenaf ond y gweddill-rhywbeth o faint poeryn y gog. Prydnawn ddydd Mawrth daeth deu- ddegfed Senedd y Frenhines Victoria i'w therfyn danfonwyd gwys a gwa- hawdd yr un noson at etholwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon i ddewis un arall yn ei lie ac yn mhen ychydig gyda phythef- nos bydd y gorchwyl trafferthus hwnw wedi ei gyflawni yn lied lwyr. Nid oes achos dweyd ei fod yn orchwyl a chyf- rifoldeb dirfawr yn perthyn iddo a'i effeithiau yn sicr o gyrhaedd yn mhell. Y mae yn bwysig i'r Iwerddon, ac nid yw fymryn llai ei bwys i Gymru. Yr ydym, er's oesau lawer bellach, yn gofyn am Gyfiawnder-yn erfyn yn daer fel pe yn deisyf am Drugaredd-ac yn awr megys yn ngolwg cyflawniad ein go- beithion. Yspeidyn byr arall o ymlyniad diwrthgil a sylweddolir ein dymuniad fel cenedl. Cadarnhad i'r ymlyniad hwn fydd cofio yr hyn a wnaethom eisoes, a phenderfynu na cha fyn'd yn ofer; ac yn bendifaddeu cofio ebyrth ein tadau— merthyron Meirion, Ceredigion, a manau eraill, yn 1868, a chyn ac ar ol hyny. Y mae dyledswydd pob dyn teg a chydwybodol yn eithaf hawdd ei gweled ond, wrth gwrs, fe deflir pob rhwystr a magi gan y blaid arall ar ein llwybr. Dychrynir y gwangalon ohonom a "bwganod fel yr yspryd politicaidd new- ydd spon hwnw a elwir Ulster," yr hwn y mae ei frefiadau yn ddychrynllyd iawn yn y pellder; ond pan agosheir ato fe welir nad yw ond y Prifweinidog di- reidus mewn croen asyn. Os nad braw- ychu dynionach ofnus ydyw amcan Ar- glwydd Salisbury yn hyn, a mwynhau tipyn o ddifyrwch wrth sylwi ar eu hys- tranciau anmhwyllog, a oes rhywun yn ddigon ehud i goelio fod gwladweinydd mor hirben ag ef-mor ofalus am iawn- derau Presbyteriaid Gogledd Iwerddon, tra mor ddibris o iawnderau Presbyter- iaid Cymru fel ag i wneud deddf, y llyn- edd, er helpu eu poenydwyr i gynull y degwm oddiarnynt ? Na, ni ddylai drychiolaeth Ulster" ein dychrynu. Pa bryd bynag y daw Ymreolaeth yr Iw- erddon, ac yn mha ffurf bynag y daw, y mae mor sicr ag un o ddeddfau natur na cha Ymneillduwyr Ulster gam oddiar law Mr. Gladstone mwy nag undyn arall. Pe byddai rhyw gysgod perygl o hyny, ceid Rhyddfrydwyr Cymru yn mysg y rhai cyntaf i'w hamddiffyn er mai Toriaid Ymneillduol Ulster fydd y rhai olaf y ca y Cymry gymhorth ganddynt i ddryllio rhwymau eu caethiwed. Y mae rhaglen y ddwy blaid sydd yn I cynyg eu gwasanaeth eisoes gerbron y wlad; I a chyn belled ag y mae a wnelo a Chenedl y Cymry, ni ddylai fod dim petrusder pa un i'w dewis. Dodir unioni ein camwri yn ail fwriad ar raglen y Rhyddfrydwyr ni sonir am danom ni na'n cwynion gan y blaid arall. Chwerthinllyd iawn ydyw gwylio ystrywiau ymgeiswyr Ceidwadol ac Undebol Cymru i ysgoipwnc y Dadgysyllt- iad. Nid dyna'r mater sydd gerbron yr etholwyr," cbe un Rhoswch dipyn, gael i ni weled sut y daw pethau'n mlaen yn yr Iwerddon," ebe'r Hall, &c., &c. Y mae'r cyfwng yn rhy bwysig i gellwair ag ef gydag esgusion dichellgar a phlentynaidd o'r fath yna. Bydd llygad y gelyn yn gwylio ein hystadegaeth yn fanwl, a hy- frydwch calon fyddai gweled y pleidleisiau Rhyddfrydol yn llai nag oeddynt chwe' blynedd yn ol. Ni fyddai daw ar edliwiad- au y Toriaid na phen draw i'r casgliadau a'r rhesymau a dynent o hyny. Nid oes genym yn Nghymru ond pum' sedd i'w henill, ac fe enillir yn sicr ddwy ohonynt; ond rhaid wrth ddyfalwch rhag colli dwy arall er eu cyfer, ac yn neillduol i gadw cy- fanswm y mwyafrif trwy y Dywysogaeth yn gyfartal o leiafa'r hynydoedd o'r blaen. Cofied ein cydwladwyr hefyd sydd oddi- cartref ar wasgar pa blaid sydd yn addaw cyfiawnder i Hen Wlad eu Tadau, a'u bod wrth bleidio ymgeisydd Rhyddfrydol yn pleidio achos Cymru. Gymry lluosog Lerpwl a'r cyffiniau, Manchester, Caerlleon, Llundain, a manau eiaill, y mae Cymru yn galw am help genych, ie, ychydig aberth hefyd os rhaid. Nac annghofiwch hi.ddydd y bleidlais. Y mae dosbarth anrhydeddus arall o'n cyd- genedl y dymunem yn barchus apelio atynt' yn y cyfwng presenol,sef Eglwyswyr Cymru. Y mae miloedd ohonoch eisoes yn Ddad- gysylltwyr egwyddorol, ac yr ydych yn addurn i'ch proffes. Yr ydych yn ddigon boneddigaidd i wrthwynebu, ar dir cyd- wybod, i'ch crefydd gael ei chynal trwy drais-pa foneddwr, wedi mynyd o ystyr- iaeth, na fyddai ? Gwyddoch chwi o'r goreu, ond maddeuwch i ni am ei ddweyd, nad amcan cyfangorph pleidwyr Rhyddhad Crefydd ydyw dinystrio na niweidio yr Eglwys mewn un modd, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb-dydd o fendigedig goffadwr- iaeth i'r Eglwys yn Nghymru fydd dydd ei rhyddhad. Dyna un paham, fel y gwyddoch chwi, y mae cynifer o Eglwyswyr selog, ac yn ben arnynt yr arch-Eglwyswr Mr. Glad- stone, yn pleidio y Dadgysylltiad. RHAID cael y maen rhwystr hwn oddiar y ffordd a chynta' bo'r goreu i bawb. nramgwydd parhausydyw. Y mae'n bryd i ni gael hamdden bellach i ystyried pync- iau mwy buddiol nag ymgecraeth sectol-i efrydu deddfau a nerthoedd defnyddiol natur sydd o'n deutu, a'r trysorau a gudd- iodd hi dan ein traed. Yr ydym felly wyneb yn wyneb a chyfwng difrifol yn hanes ein gwlad. Y mae genym ddyled- swydd bwysig i'w chyflawni, a'i chyflawni a ddylem, ac yn gwbl ddibris o wenau ffals, ysgwyd llaw rhagrithiol, ac ymadroddion melferet, ac yn gwbl ddiofn o Baal a'i holl brophwydi. Dyma'r adeg a'r cyfle i brofi y dynion hyny sydd wedi trydar a chlwcian am Ryddid Crefyddol ar hyd y blynydd- oedd, ond sydd yn awr yn crynu yn eu crwyn gan ofn Yspryd Ulster," ac, os oes modd, ysbrydion mwy dirmygus na hwnw. We], codwn i fynu y DREIGIATT, Ac edrychwn i lawr megys creigiau, Gawrfloeddio mae Rhyddid o ganol y gid I godi'r Hen Wlad yn ei hoi."
-:0:-CWRS Y BYD.
-:0:- CWRS Y BYD. PARCH. OWEN JONES, B.A. Wedi trigiant o ugain mlynedd yn Lerpwl— tafell fawr hyd yn nod o oes hir-y mae yn ddrwg genyf ddeall y bydd Mr. Jones, y Sul nesaf, yn tori y llinyn tynaf a chryfaf sydd yn ei gysylltu a Lerpwl. Daeth yma yn Nghor- phenaf 1873 i fugeilio Eglwys hybarch Chatham Street, penaf faes llafur a gofal y Parch. Henry Rees hyd ei farwolaeth. Nid anrhydedd bychan oedd byn ac y mae yn weddus dweyd na fu y gweinidog ieuanc 0 Benllyn, mewn hynawsedd, ffyddlondeb i'w ddyledswyddau, doethineb i drafod dynion, a gofal am y praidd, ddim yn ol i'w ragflaenydd clodfawr. Yr oedd yn adnabyddus y pryd hwnw trwy yr holl fyd Cymreig fel awdwr bywgraphiadau Dafydd Rolant a Robert Tomos. Bu, ac yn wir y mae, y ddau gofiant yn dra phoblogaidd ac un rheswm, yn ddiau, am hyny ydyw, dawn brin y bywgraphydd medrus i guddi. ei hun a chadw ei wrthddrychau yn ngolwg y darllenydd. Yn ystod ei arosiad yn Lerpwl, bu Mr. Jones, mewn ystyr lenyddol hefyd yn ddiwyd iawn ysgrifenodd lawer i'r cylcbgronau, ac fe gofir mai efe ydyw awdwr y rhagymadrodd galluog sydd yn nechreu yr argraphiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y swyddfa hon o Lyfr y Tri Aderyn. Cynullodd hefyd lyfrgell ardderchog, o hen lyfrau prinion Cymreig gan mwyaf-y wertlifawrocaf, mae'n ddiau o lawer, sydd yn Lerpwl—wedi eu dethol oddiar chwaeth goeth ac uchelryw, a gwybod- aetb fanwl o'u teilyngdod a'u gwerth llenyddol. Gobeithio yrerys Mr. Jones yn ein mysg am hir amser eto canys yn mhob ystyr y mae yn addurn i ni fel cenedl. GWRTWODODD y Parch. Mr. Wickham, ficer Kossett ganiatau yr Ysgoldy Cenedlaethol i Mr. Osborne Morgan er cynyg Rl-y taliad arferol-am fenthyjf. y lie. O'r ochr arall, can- latai y Parch. J. Williams, ficer Llanrhaiadr Dyffryn Clwyd, wasanaeth yr Ysgoldy Cenedl- aetbol yn rhad i'r ddwy blaid fel eu gilydd. Dywedai Ymneilldu wr a ffarmwr sydd yn byw yn ei blwyf na fydd Mr. Williams byth yn derbyn tal am fedyddio, priodi na chladdu yr un o 1 blwyfohon yn bytrach ei fod yn barotach i roddi na derbyn. Pe pob ficer fel offeiriad bybarch Llanrhaiadr ni fyddai cymaint o son am ddadgysylltu'r Eglwys. Ond fel arall ysywaeth y mae hi. J ANMHARCHU'.R MARW. Y MAE'R dysgawdwr hwnw sydd yn proffesu ^oleuo r Deheuwyr ar bob pwnc dan haul, wrth ddyfynu dwj^ linell yn ei lith yr wythnos ddi- weddaf, yn dweyd "fel ydywed Jac Glanygora yn Ewyllys Adda" Yn mhellach yn mlaen, dywed fod yr hen Ryddfrydwr hirben, pwyllog a synwyrol Simon Jones o'r Bala mor hurt ag enwi Wyn yn lie Williams yn y bwth wrth bleidleisio yna a yr oracl yn mlaen gyda'r hanes "ac ar yr un gwynt crochlefodd, '0, na, Williams, Williams, WILLIAMS.' Ond yr oedd yn rhy hwyr, collodd ei bleidlais, ac aeth ynte (sic) allan o'r neuadd drefol fel gwallgof- ddyn, taflodd ei het ar lawr, a chiciodd hi bob cam at ddrws ei dy, lie yr ymguddiodd am y gweddill o'r dydd ac am ddyddiau lawer ar 01 hyny." Y mae genyf awdurdod perthynas agos iawn i'r diweddar hybarch Mr Simon Jones nad oes yr un gair o wirionedd yn y chwedl wantan uchod ac y mae'n gywilydd o beth, meddaf i, na chai un o hen Ryddfrydwyr dewr a chyd- wybodol Meirion lonydd a'r gwir yn ei fedd anrhydeddus-ac nid gwneud ei goffadwriaeth yn gyff cler a thestyn gwawd Balaamiaid a Phil- istiaid Morganwg. ARGLWYDD PENRHYN A'R ElSTEDDFOD. 1R oedd yn bleser genyf weled fod ei arglwydd- iaeth a'r ben sefydliad Cymreig unwaith etc ar delerau siarad a'u gilydd a'i fod wedi cyfranu £ oO at drysorfa Eisteddfod Rbyl, yn nghyda chynyg £ 10 o wobr am y traethawd goreu yn INghymraeg ar y fantais o iawn ddeall yr Jaith Gymraeg neu'r Saesneg (y mae amrywiaeth yn yr hysbysiadau). Gwyddom oil iddo ffromi yti, aruthr wrth Eisteddfod Gwrecsam, bedair blyn- edd yn ol, am iddi gynwys Radical mor beryglus a Mr. Gladstone i'r lie i areithio volitics. Am y rheswm hwnw ni fyddai dim a wnelai ag Eisteddfod Bangor, a ebyhuddid ef o atal Tywysog Cymru i'r wyl. Dipyn yn gas oedd i Iwyddiant wenu ar yr Eisteddfod hono, er i Gastell y Penrhyn wgu arni. Awgrymai un drwgnaws wrthyf echdoe, mai yr actios o dirioni presenol Arglwydd Penrhyn ydyw dewis- iad ei frawd ffydd, ArgIwydcl Esgob Llan- elwy yn gadeirydd y pwyllgor. Nid yw ei arglwyddiaeth mor blentynaidd a byny chwaith. Pa fodd bynag, gresyn na fyddai mwy o gydym- deimlad rhyngddo ef a'i dras a'r bobl y mae yn byw yn eu mysg. Annedwyddwch ydyw an- mhoblogrwydd. Y TAFARNWYR A'R ETHOLIAD. A SYLWODD y darllenydd ar faniffesto tafarnwyr Mon ac Arfon, trwy enau en gwas mygedol Mr. Harwood o Gaernarfon ? Math o epistol at y byd a chatecism i Aelodau Seneddol y ddwy sir ydyw, ar bwnc yr Etholiad Cyffredinol. Dywed Mr. Harwood ei fod yn siarad yn enw 1,500 o etholwyr ac y mae'r cyfryw am bleidleisio yn solet dros yr ymgeisydd a addawa roi mwyat o gymwynasau iddynt hwy fel tafarnwyr. Buont ddydd Sadwrn yn cateceisio Mr. Lloyd-George ac feI y gallesid disgwyl nid mêI iddynt oedd ei atebion ef. Dywedodd wrthynt ei feddwl yn groyw a diamwys ac aetbant ymaith wedi caei, mae'n ddianmheu, tua'r un faint ag a ddisgwyl- ient. Y mae rhywbeth yn chwerthinllyd o ysmala mewn mwstwr dynion fel hyn i amddi- ffyn gobaith eu helw. Pa le y mae yr argraph- yddion duwiolfrydig bellaeb ? Nid oes yr un dosparth wedi colli cymaint trwy yr hyn a elwir yn bureiddio yr etholaeth a pherchenogion swyddfeydd argraphu. Er's talwm clywais y byddai ambell brintar yn dweyd weithiau wrth yr allor deuluaidd, A rhynged bodd i Ti ddan- fon atom yn fuan Etholiad Cyffredinol." Erbyn hyn nid yw Etholiad Cyffredinol yn dwyn dim oud trafferth ac estimates diddiwedd i argraph- wyr ein gwlad ac y maent hwy (mor wahanol i'r tafarnwyr a dosbarth arall allem nodi!) yu goddef eu hysbeilio o'u buddianau yn gwbl ddi- rwgnach. 'Does yr un dosbarth diniweitiach ar y ddaear, er maint a ddywedir i'r gwrthwyneb na phrintars.
o Ymgeiswyr Bwrdeisdrefi Arfon…
o Ymgeiswyr Bwrdeisdrefi Arfon a'r Tafarnwyr. BOREU dydd Sadwrn, daeth Cap ten Henry Har- wood, Caernarfon, ysgrifenydd Cymdeithas Tafarn- wyr Mon ac Arfon, i gyfarfod Mr. Lloyd-George yn ystafell ei bwyllgor, Caernarfon, gyda'r amcan o gael gwybod ei farn ar y cwestiynau a anfonwyd allan at yr ymgeiswyr gan y gymdeithas. Y cwestiwn cyntaf ydoedd, A ydych chwi yn ffafr rhoddi iawn teg i bob person ag sydd â budd mewn trwydded er gwerthu diodydd meddwol os ar unrhyw adeg y bydd i'r drwydded hono gael ei chymeryd ymaith ar dir cyhoeddus, ac nid trwy fai y trwydded-ddaliwr ?"—Dywedodd Mr. George nad oedd ef yn cydnabod hawl unrhyw drwydded- ddaliwr i iawn. Yn ol cyfraith y tir nid oedd gan y daliwr unrhyw fudd yn ei drwydded ond am flwyddyn. Nid oedd yn credu y dylai cwmniau o fragwyr oedd yn perchenogi nifer o'r tafarndai gael yr un geiniog o iawn. Ni roddai yr un geiniog i'r rhydd.ddaliwr (freeholder) dros ben ei hawl gyf- reithiol.—Mr. Harwood: Tybiwch fod rhydd- ddaliwr yn drwydded-ddaliwr, a ydych yn ystyried na ddylai ef gael iawn?—Mr. George Yr wyf yn tybied, er engraipht, eich bod yn rhydd- ddaliwr. Ni fuaswn yn rhoddi yr un geiniog i chwi. Yn nesaf daw y cwestiwn o drwydded- ddaliwr, yr hwn, fe ddywedwch sydd yn colli