Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

At Etholwyr Corllewinbarth…

News
Cite
Share

At Etholwyr Corllewinbarth Sir Ddinbych. FONKDDICUON,—Ar ol bod yn ddiweddar Ija talu ymweliad a'r gwahanol ddosbarthiadau yn yr etholaeth, ac fel yr ym- geisydd Rhyddfrydig dewisedig, wedi datgan fy ngolygiaaau yn gyhoeddua ar yr holl gwestiynau sydd yn enyn dyddor- deb ar yr adeg bresenol, ac o bwysigrwydd i GytLru, nid oes angen i mi yn yr anerchiad hwn wneud dim mwy na rhoddi crynodeb byr o'r rhesymau ar sail pa rai yr wyf yntanturio gofyn am elch cefnogaeth. Yn Gymro o waed, teimlad, ac iaith, credaf nasgali Cymru, yn y dyfodol, gael ei gwir gynrychioli yn y Senedd ond yn unig gan y rhai sydd yn dealt *efyllf a, yn cydjrmdeimlo ag anghenion, ac, mewn etholaeth o f th hon, yn alluog i siarad iaith y bobl. Yr wyf yn perthyn i'r sir o ran teulu, cartref, a hen gysyllt- idau. Cydnabyddaf y gwaith pwysig a wnaed yn y Senedd trwy weithrediad unol yr Aelodau Cymreig: a byddaf yn bared, yn y modd mwyaf calonog, i ymuno a hwy yn mhob ymdrech a wueir yn y dyfodol i sicrhau hawliau cytiawn, a hyrwyddo gwir iwyddiant y Dywysogaeth. Y cwestiwn mawr sydd o flaen Etholwyr Cymru yw DAD- SEFYDLIAD A DADWADDOLIAD EGLWYS LOEGR YN NGHYMRU, a dibyna penderfyniad buan y cwestiwn oll- bwysighwn ar ddychweliad y blaid Ryddfrydig i awdurdod o dan rwymedigaeth i ymdrin ag ef mewn dull boddhaol. Pel Annghyaffurflwr, yr wyf yn maentumio hawl Cymru i gydraddoldeb crefyddol cyflawn ac oddiar safle gyhoeddus, yr wyf yn dadleu fod bodolaeth Sefydliad estronol a brein- tiedig yn annuhyfiawnder cenedlaethol; ac y dylai y Degym- au, y rhai ydynt eiddo y genedl, gael eu defnyddio yn unol ag ewyllys pobl y Dywysogaeth. Y mae y cwestiwn yn nghylch perthynas y Tirfeistr a'r Tenant yn un o bwysigrwydd hanfodoi; ac yn ngolwg y (faith fou Amaethyddiaeth yn dal cysylltiad mor agos a'r sir, y,tyriaf y bydd yn ddyiedswydd arnaf i wasgu am Fesur Tir boddhaol i Gymru, gyda'r amcan o sierhau i'r tenantiaid (a) S,crwydd am y Denantiaeth, (b) Ardretli deg, (c) Ad-daliad am Welliantau. Yr wyf yn ffafriol i gymhwyso yr egwyddor o Dir-Bryniant at Cymru; a dadleud fod ffarmwyr Cymru yn meddu hawl i gael cyfieusderau cylfelybi'r rhai sydd eisoes wedi eu rhoddi i'r tenantiaid Gwyadelig. Rhoddwn dderbyniad llawen i benodiad Dirprwyaeth Freiahinol i wneud ymchwiliad i sefyllfa Ffermwyr Cymru, gan deimlo yn dia sicr y byddai ymchwiliad cyhoeddus i'w hauigylchiadau brofi yr angen- rheidrwydd am ddeddfwriaeth arbenig, ac ar wahan Cwestiynau Cymreig traill ydynt yn hawlio sylw union- gyrchol. Rhaid cydnabod hawl Cymru i gyfundrefn o Addysg Genedlaethol, a dwyn egwyddor rheolaeth leol i mewn i arolygiaeth ein hysgolion dyddiol. Gofyna Cymru am, a hawlia gael, awdurdod cliwanegol yn Ilglyn a Llywodraeth Leol; a byddwa yn barod i gefnogi ffurftad Cynghor Cenedlaethol gyda gailu i ystyried ac arolygu materion yn dal perthynas a'r Dywysogaeth. Rhaid rhoddi awduxdoa chwanegol i'r Cynghorau Sirol; ac yr wyf yn gosod pwys arbenig' ar yr angenrheidrwydd am osod Rheolaeth yr Heddgeidwaid yn gyfangwbl yn eu dwylaw. i'r wyf yn gryf o blaid ffurfiad Cynghorau Dosbarthiadol a Phlwyfol, gyda gallu ganddynt i reoleiddio Elusenau Lleol, gosod Man Uyddynod, ac mewn modd cyffredinol rhoddi i'n Pentrefwyr yr hawl i lywodraethu eu hachosion eu hunain. Y mae angen am gyfnewidiad yn y dull o benodi Hedd- ynadon, fel ag i sicrhau fod y detholiad ollonynt yn gyfryw ag a f) dd yn cyd-daraw a golygiadau, ac yn hawlio parch y bobl yn y gwafcjnol ardaloedd. Fy ngolygiadau ar y Cwestiwn Dirwestol ydynt eithaf adaabyddus. Credaf fod Deddf Cau y Tafarnau ar y Sabboth wedi bod yn fendith i bobl Cymru a phan ddiwygier hi yn y dull a gynygir, bydd o fwy fyth o les i'r Dywysogaeth. Yr wyf yn gefDOgol i Ddewisiad Lleol, a throsglwyddiad yr hawl i roddi Trwyddedau oddiwrth Fainc yr Ynadon i ryw Gorph Cynrychioliadol. Mesur ag y mae angenrheidrwydd am ei gael yn ddioed ydyw un ar Ryddfreiniad orfodol Prydlesoedd Capelau yn .ilighymru. Tra yn rhoddi blaenoriaeth ddyladwy i faterion yn dal per- thynas uniongyrchol ag Etholaeth Gymreig, ni pheidiaf a rhoddi fy sylw mwyaf gofalus i Gwestiynau Cydraddoldeb Cyffredinol ac Yiiierodrol; ac hyderaf y bydd y profiad a gefais wrth deithio yn ein Trefedigaethau ac yn yr India 0 wasanaeth i'm cymhwyso ar gyfer y safle gyhoeddus uchel yr wyf yn dymuno ei chyrhaedd. Yr wyf mewn cydymdeimlad llawn a gwladweiniaeth y blaid Ryddfrydig, ac yn derbyn Rhaglen Newcastle yn ei chyfander. Yr wyf yn gefnogydd cryf i Wladlywiaeth Wydd. elig Mr Gladstone; ac yn condemnio llywodraethiad yr lwerddon trwy foadion gorfodol. Credaf nad yw hawliad yr Iwerddon am Ymreolaeth yn ddim ond datganiad o hawl y bebl i gael eu llywodraethu fel y byddo y mwyafrif o'u cyn- rychiolwyr yn gofyn a bydd y gydnabyddiaeth o gyfiawnder yr hawl gan y blaid Ryddfrydig o bwysigrwydd mawr yn y dyfodol. Bydd i Y mreolaeth agor y tfordd i Gymru gael mesur cyflawnach o Hunan-Lywodraeth. Cydnabyddaf bwysigrwydd Cwestiwn Llafur; a chaiff unrhyw ymgais trwy weithrediad deddfwriaethol, neu trwy ryw ffordd arall, i wella sefyllfa y llafurwyr, fy nghydymdeim- lad a'm cefnogaeth galonog. Wrth derfynu, caniatewch i mi eto eich adgoflo am bwysig- rwydd y canlyniadau sydd yn dibynu ar yr etholiad presenol. Y mae Cymru yn ymladd am Hawliau a Rhagorfreintiau wedi eu hir gadw octdiwrthi, ond yn awr o fewn ei chyrhaedd -a dylai pob man wahaniaethau lleol gael eu claddu, er mwyn enill buddugoliaeth i'r Genedl. Cydnabyddaf gyfrifoldeb difrifol V gorchwyl yr wyf wedi ymgymeryd ag ef; a theimlaf ei bod yn anrhydedd mawr i mi gael fy newis, ar adeg mor arbenig, a chan Etholaeth mor bwysig, i fod yn bencampwr Achos y Bobl. Os etholir fi, ymdrechaf i wasanaethu buddianau yr Ethol- aeth yn gyffredinol yn y modd ffyddlonaf. Ac am fy mod yn gwybod fod fy ngolygiadau mewn cydgordiad ag eiddo y mwyafrif mawr o'r etholwyr; ac am fy mod yn credu y bydd- weh, trwy fy nychwelyd i i'r Senedd, yn enill buddugoliaeth, aid yn unig i Egwyadorion Rhyddfrydig, ond hefyd i Hen Wlad ein Tadau, apeliaf yn y modd taeraf arnoch i roddi i mi ich cefnogaeth ar Ddydd yr Etholaeth. Yr wyf yn meddu yr anrhydedd o fod, Eich ufudd Was, JOHN HERBERT ROBERTS. Bryngwenallt, Mehefin, 1392.

At Etholwyr Sir Fflint.

: o : At Etholwyr Rhanbarth…

At Etholwyr Corllewinbarth…

Advertising

Y Parch MEURIG BIFAN.