Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Gyfarfoa Cystadieuol y Temlwyr…

News
Cite
Share

Gyfarfoa Cystadieuol y Temlwyr Da. CYNALIWYD y cyfarfod cystadleuol eleni fel arfer yn y Rotunda Lecture Hall, Rhagfyr 26ain. Llyw- yddwy1 gan Mr William Venmore, ac arweiniwyd gan y Prif-fardd Pedrog. Enillwyd y gwobrwyon fel y canlyn Siaced wlanen gydag ymylwaith sidan, Miss Ellis, Bootle. Traethawd ar John Howard." Neb yn deilwng. Gwneud Tyllau Botymau, Miss Margaret Wil- liams, 2, Valley Road. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, Miss Dora Williams, Verulam Street. Painted Frames, Miss Ceridwen Jones, Balliol Road, Bootle. Traethawd, Hanes Bywyd Father Matthew, Mr Thomas Jones, Post Office, Birkenhead ail; Miss Dora Williams, Verulam Street. Unawd, Plentyn y gwlith (R. S. Hughes), Mr Joseph Jones, St. Helens. Unawd, "Teach me Thy way," Miss Griffiths, Birkenhead. Englyn, Y Sebonwr," Mr Evan Treflyn Jones, Caergybi. Deuawd ar y berdoneg, Misses Sophia a Grace Roberts, Spellow Lane. Traethawd, Hawliau y bobl gyda golwg ar y fasnach feddwol," gwobr 92 2s.; ail wobr, £1 Is., goreu, Mr Owen Jones, Pwllheli; ail, Mr Evan R. M orris, Biaenau Ffestiniog. Adrodd Yr Ystorm," cydfuddugol, Mr O. R. Hughes, 42, Faraday Street, a Mr Hugh R. Hughes, Kemble Street. Unawd, Gwlad yr Eisteddfodau," Mr D. Pryce Davies, 74, Eversley Street. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, cydfuddugol, Miss Dora Williams, Verulam Street, a Mr Richard Hughes, Eastlake Street. Yn-a darllenwyd beirniadaeth Watcyn Wyn ar destyn y gadair, sef 500 o linellau barddonol ar "Abraham." Gwobr, cadair gwerth 95. Pump yn ymgeisio, sef Un hoff o wobrwy ffydd Abraham, Jacob, Mihangel, Crediniol, ac Un ganai er mwyn y testyn. Safai y gystadleuaeth rhwng y ddau olaf, a throai y fantol yn marn y beirniad o blaid yr olaf, sef y Parch J. Cadvan Davies, yr hwn a gad- eiriwyd yn ol Braint a Defawd Beirdd Ynys Prydain, tan arweiniad Gwilym Alltwen, a'r dorf yn canu Hen Wlad fy Nhadau." Aneichwyd yr arwr gan Pedrog, Tanadog, Rhydfab, a Gwilym Deudraeth. Dyma englyn Pedrog :— Plethiadau doniau dinam-awen goeth VVnai ei gan yn wenffiam; Ni cheir adlais cwynlais cam Drwy wobrwy Cadair Abram." Deuawd, gwobr Fl Is., Mri Joseph Jones, St. Helens, a Pryce Davies, Lerpwl. Canu Scena Y Got (D. Jenkins), i gor ofeibion heb fod tan 20 na thros 30 mewn nifer, gwobr pum' gini. Dau gor yn cystadlu, sef Parkfield, Birken- head, a Bootle Cambrian. Dywedai y beirniad y dylasai y cor cyntaf fod yn fwy o tan lywodraeth yr arweinydd, a'r symudiadau yn fwy o un cyfan- waith. Yr oedd gwell llywodraeth ar yr ail gor, er y dylasai ganu rhai rhanau yn ysgafnach, ond barn- ai yr olaf yn oreu. Y brif gystadleuaeth gorawl, sef canu Ar don o flaen gwyntoedd," i gor heb fod tan 35 na thros 50 mewn nifer, gwobr deg gini. Pedwar cor yn ymgeisio-Parkfield, Tyldesley, Arvonic, a Brytl on. Sylwai y beirniad y dylasai fod gwell llywodraeth. gan yr arweinydd ar y cor cyntaf, a thonyddiacth gywirach. Camnolai y lleisiau yn yr ail gcr, ond ei fod yn canu yn rhy araf, a'r arweinydd yn ymddangos yn rhy lafurus wrth eu harwain. Yr oedd lleisiau da, tan feistrolaeth lied fedrus ar y cyfan, gan y trydydd, ond eu bod yn canu rhai darnau yn rhy drwm. Canai y pedwerydd mewn amser rhagorol a chyda melusder mawr. Credai y dylesid arddangos drychfeddyliau rhai rhanau yn well nag a wnaed gan yr un o'r corau, ond cydunent fel beirniaid i ddyfarnu y Brython, sef cor Fitz- clarence Street, yn oreu ac yn deilwng o'r wobr. Beirniadwyd y traethodau gan y Parchedigion D. O. Jones, Lodwig Lewis, Joseph Davies; Barddoniaeth, Watcyn.Wyn; Cyfieithiadau, Parch John Hughes, M.A.; Adroddiadau, Proffeswr Lloyd, M.A, a'r Parch H. M. Hughes; Cerddor- iaeth, Mri Bennett Williams a W. T. Rees, Mus. B.ic.; Celfyddydwaith, Mrs O. J. Owen a Mrs Lodwig Lewis. Yn yr hwyr, cynaliwyd y cyngherdd yn Hope Hall, tan lywyddiaeth y Proffeswr Lloyd, M.A., Yr oedd y neuadd yn orlawn, a chymerai y can- torion canlynol ran ynddo :—Miss Eleanor Rees, Miss Eleanor Jenkins, R.A.M.; Mr William Evans (o gyngherddau y Crystal Palace); a Mr Bennett Williams, a rhoddodd y pedwar fawr fodd- lonrwydd i'r gynulleidfa. Cystadleuwyd hefyd yn y cyfarfod hwn fel y canlyn :— Pedwarawd, "Y Blodeuyn Olaf," Mr Pryce Davies a'i gyfeillion. Adrodd, "It Pays," o waith Gough, Mr J. P. Roberts, Walton. Cyfeilid gan Miss Maggie Evans a Miss Gwladys Pritchard. o

Eisteddfod Gadeiriol Llangefni,

LLEOL.

CAERLLEON.

[No title]

NEWYDDION CYMREIG.

PWLPUDAU CYMREIG LIVERPOOL.…

MARCHNAD YD LIVERPOOL.

Etholiad Waterford.

MARWOLAETH MR J. OSBORNE WILLIAMS,

Advertising

Family Notices

Advertising