Hide Articles List

9 articles on this Page

CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

CWRS Y BYD. Y LLINYN COCH. DYMA un o'r engreipbtiau goreu o red tapeism a welais er's blynyddau. Yr oedd ein cyd-drefwr pybyr, Mr. Edward Jones, B.A., yn un o'r ym- geiswyr fis Ebrill diweddaf am aelodaeth ar Fwrdd Gwarcheidwaid Toxteth Park-y Bwrdd mwyaf Toriaidd hwyrach o holl Fyrddau Tori- aidd Lerpwl. Gwyr pawb a wyr rywbeth am Mr. Jones nad dyma ei olygiadau ef a synai rhai na fuasai mwy na 23 rhyngddo a chael ei ethol. Ond barnai eraill o'i gyfeillion yn wa- hanol, ac nad oedd efe wedi cael chwareu teg a chawsant ganiatad i arcbwilio y papyrau. Ymddiriedwyd y gwaith hwn i'r cyfrifydd craff, Mr. R. W. Thomas (Robert Jones & R. W. Thomas) ac wedi manwl archwilio, cafwyd allan fod rbyw gamgymeriad yn bod, ac anfon- wyd ffrwyth yr ymchwiliad i'r Bwrdd Lleol yn Llundain. Yn mis Awst daeth Inspector Moor- som i lawr i gymeryd tystiolaethau yn yr achos a dydd Sadwrn cyn y diweddaf, cyrhaeddodd ei ddyfarniad ef yn yr achos, sef fod Mr. Ed- ward Jones wedi ei ethol gyda'r mwyafrif o 1. Wrth gwrs, fe gyflawnodd Mr. Thomas ei ran ef mewn ychydig ddyddiau am y rhelyw, fe gymerodd agos i naw mis iddynt gael allan fod Mr. Jones wedi ei ethol ac am y naw mis hyn cafodd ei wrthymgeisydd Toriaidd eistedd fel aelod, tra nad oes gan Mr. Jones, yr aelod a etholwyd, mewn gwirionedd ond tri mis na ddaw ei dymhor i ben. TRI BWLCH YN Y RHENGAU. RHYFEDD iawn oedd i Gymry Lerpwl golli mewn un flwyddyn dri yn meddu nodweddion per- Bonol mor gryfion, neu fel y dywed y Saeson strong individuality, ag ydoedd Dr. Hugh Owen Thomas, y meddyg esgyrn byd-adnabyddus; Dr. Owen Thomas, y pregethwr enwog a Mr. Richard Owen, tywysog architects Capelau Cymru ac yr ydym o'u colli yn teimlo fod y flwyddyn 1891 yn gadael y drefedigaeth fawr Gymreig ar lanau'r Merswy yn dlotach nag y cafodd hi. Anhawdd iawn ydyw deffinio genius; ond yn ol y darnodiad sydd genyf fi o athrylith, credaf fod y triwyr a nodwyd yn ei meddu i raddau helaeth nid i'r un graddau, mae'n wir, mwy nag yn yr un cyfeiriad. Safodd Dr. Owen Thomas yn rbeng flaenaf pregethwyr gwlad y pregethwyr am haner can' mlynedd; deuai darnau o ddynion o bob cwr bron i'r byd gwar- eiddiedig at Dr. Hugh Owen Thomas i gael eu hail asio a'u gwneud yn fodau cyfain drachefn a phortreadu adeiladau diddos, cysurus, pryd- ferth, i addoli o'u mewn oedd yr alwedigaeth anrhydeddus y galwyd Mr. Richard Owen iddi. Yr oedd y nodwedd ddeallol Gymreig, neu Geltaidd fel y dywedir yn bresenoi, yn gryf ac amlwg yn y tri-meddwl cyflym, craft, gafaelgar; penderfyniad cryf i oresgyn rbwystrau fyddai ar eu ffordd i gyrhaedd amcanion teilwng eu bywyd, yr hyn a'u gwnai yn efrydwyr caled a diorphwys hyd y diwedd. Gwaith, gwaith, gwaith, oedd eu pleser a newid y gwaith oedd eu gorphwys. Llanwodd y tri eu gwabanol gylchoedd yn an- rhydeddus iawn yr oedd eu doniau disglaer a'u cymeriadau dilycbwin o'r fath werth ini fel cenedl, nes yw eu symudiad o'n mysg, fel y dywedasom o'r blaen, yn peri ini deimlo'is dlotach ar ddiwedd y flwyddyn nag oeddym ar ei dechreu. DYWED y Post*am ddydd Mawrth nad oes air o wirionedd yn y chwedl a ledaenwyd mor gyffred- inol ychydig ddyddiau yn ol, sef fod y Barnwr Beresford ar fedr symud o Sirlysoedd Oanolbarth Cymru, i Gylchdaith yn Lloegr a Mr Lewis, ynad cyflogedig Caerdydd, wedi ei benodi yn ei le. Pwy, tybed, ydyw tad yr anwiredd hwn < Y mae ogleu Gwasg neillduol yn Neheudir Cymru arno.

o Dyfroead Cymru i Gymru."

Y "CANU YN YR AWYR."

-:0:-BIRKENHEAD.

[No title]

O TRYCHINEB YN RHOSCOLYN.

Cyfarfod Llenvddol Caernarfon.

[No title]

Advertising