Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
Th; West of England Clotli Establishmelt. (Established 1856. O. P. OWEN & Co., 9, SCOTLAND PLACE, BYROM STREET. YR HEN FASNACHDY mwyaf adnabyddus yn Lerpwl, Cymru, a rhanau hclaeth o America, am YBRETHYNAU OREU. TORIAD f OREU. GWNEUTHURIADI ttoreu. FFiT OREU. Ac am y Prisiau mwyaf rhesymol. DEUWCH A GWELWCH. E. LEWIS & CO., BAZAAR, uitat George Street, Liverpool. Established over Half a Century. The Cheapest House in the Tntde for CARPETS, FLOORCLOTHS, LINOLEUMS, BEDSTEADS. BEDDING And every Article for Ladies and Children's Attire. 0/4 4 —LACE CURTAINS, three yards long, CO inches wide, exquisite de igns in white or cream. Most wonder- Per Pair, ful value ever offered. E. LEWIS AND CO., BAZA AH. GREAT GEORGE STREET. Goou waim lil.A NKET>, in cloth and witney; all 0 0 summer finished useful sizes, and strongly recom- Per Pair., mended for wear. A bargain. E. LEWIS AND CO., BAZAAR, GifEAT GEOROE STREET fi4 IC.— Bordered TAPESTRY SQUARES, 3 by 3t yards, 1 U excellent designs, good quality; unequalled in the trade. E. LEWIS AND CO., BAZ\ AR. GREAT GEORGE STREET h !A A-CLOTH HEARTHRUGS, extra"large size, good ^rH patterns very suitable for kitchens; warm and comfortable. A large Stock to select from. E. LEWIS AND CO BAZAAR, GREAT GEORGE FTREET. a r\J—IRON BEDSTKAf>, full size, extra strong, nicely 10 0 ornamented the b*st value ever offered. A eriucal inspection invited. Lewis aad C«., Baeaar, Great George Steiret. -—. Art p — a very handsome liBDVl'fciA L>, full siee, extended JQ'h foot-rail, beautifully ornamented, with massive brass spindles and rings; two heavy brass rails. Fully worth 55s.; defying competition.—E. Lewis and Co., Baiaar, Great George Street. 1 /C1D-LINOLEUM. superior quality, very durable, this 02 Season's designs; usually sold in the trade at 2s.3d.; Per square a marvel of cheapnells. E. Lewis and Co., Great yard. George Itreet. J /\1D.— FLANNELS. —A large purchase of All-Wool 2 Flannels, in white, scarlet, and natural wide per yard, width astounding value.—E. Lewis and Co., Great George Street. A A til—Bleached Linen TABLECLOTHS, double damask. ll'O 3 yards long by yards wide; pure Irish linen ll'O 3 yards long by 21 yards wide; pure Irish linen fully worth 21s.—E. Lewis, and Co., Bazaar, Great George Street. /—DRESS MATERIAL^, double width, leading shades very durable, in plain serges, fancy stripes ani per yard. checks quite new.—Lewis and Ca., Bwsaar, Great George Street. MEDDYGINIAETH OREU YR OES YW Quinine Bitters Gwilym Evans. Y mae y Quinine Bitters yn feddyginiaeth hollol lytieuol, ac yn cynwys chwerw lysian a melus lysiau QUININE BITTERS wedi eu haddae gymysgu i ffurflo y QUININE BITTERS feddyginiaeth oreu a ddyfeisiwyd i QUININE BITTERS gryfhau y cyfansoddiad, a phuro y QUININE BITTERS gwaed, a eymud effeithiau niweidiol gwahanol glefydail. Cynwysa rin- weddau iachaol Quinine, Sarsapa- rilla, Saffrwn, Lafant, Crwynllys QUININE BITTERS (Gentian), Cynghaw (Burdock), Dant QUININE BITTERS y Llew, &c. Mewn gair, mae braidd bob llysieuyn a gwreiddyn meddyginiaethol yn y meddyglyn rhyfedd hwn, ac y maent wedi eu QUININE BITTERS parotoi a'u cyfartalu i wneud cy- QUININE BITTERS mysgedd celfyddgar o'r fath fwyaf QUININE BITTERS hapus a llwyddiarius i sierhau cyd- QUININE BITTERS weithrediad elfenau meddyginiaethol a gynwysir ynddynt, ac i gyrhaedd yr amcan oedd mewn golwg wrth ddar- paru y feddyginiaeth. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. TYSTIOLAETH BWYS'G. INFLUENZA. Berkeley Road, Bristol, Mehefin 18fed, 1891. ANWYL Syr,—Yr wyf wedi bod yn wael iawn dan yr Influenza, yr hwn a ddilynwyd gan Lid ar yr Ysgyfaint. <; Tair wythnos yn ol yr oeddwn mewn cyflwr peryglus, a N bran yn anobeithiol. Pan aeth y perygl heiblo yr oeddwn mewn gwendid mawr. Tua phythefnos yn ol dywedodd y meddyg fod yn rhaid i mi gael rhyw feddyginiaeth adgryf- W haol (tonic) dda. Gofynaisiddo," A wna Quinine Bitters p Gwilym Evans ateb y dyben ? Dyna'r peth i'r dim," j meddai, cymerwch ef dair gwaith yn ydydd." Yr wyf wedi ei gymeryd yn gyson a rheolaidd er y pryd hwnw, ac mae wedi gwneud lies dirfawr i mi. Teimlaf fod fy aelodau £ 5 yn adenill eu nerth, fy ysbryd yn bywiogi, a'm holl gyfan- m soddiad yn cryfhau. Nis gallaf ganmol garmod ar y Quinine Bitters. Yr ciddoch yn ddidwyll, B. P. Chick. RHYBUDD PWYSIG. Dymunir galw sylw y cyhoedd, a'u gosod ar eu gwyliadwr- iaeth rhag cymeryd eu twyllo gan Ystrywiau Diegwyddor ac Anonest rhai masnachwyr, y rhai a gynygiant i'w cwsmeriaid ddarpariaethau eraill yn lie QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Pris Poteli, 2/9. Eto, dwbl faint, 4/6. Blwch yn cynwys tair potel ddwbl, 12/6. I'w gael yn mhobman. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y prisoedd uchod yn rhad a dyogel trwy y post i unrhyw gyfeir- iad yn y. Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchol oddiwrth y percheiaogion- Quinine Bitters Manufacturing Company, Ltd., LLANELL Y, SOUTH WALES. Gellir cael Quinine Bitter Gwilym Evans yn America oddi- wrth y prif oruchwyliwr-R. D. Williams, Medical Hall, Ply. mouth, Penn. MERSEY VIEW GARDENS ANDBRIDE ROAD, BLUNDELLSANDS. -JOHN T 1-10 MA S.- Gardener, Florist, &c. Large Variety of Window and Table Plants, Cut Flowera, Wreaths. Bouquets, Crosses, Sprays also Plants on Hire for Peroration. Gardens attended to by day-work or contract. Estimates Free. Ymddangosohb yr hyn a ganlyn yn y Y Cymro, Rhag 17:- HOLI AC ATEB. [AR gais 11 uaws o'n darllenwyr, yr ydym wedi penderfynu rhoi tua baner colofn o'n gofod yn wytbnosol i'r dyben o Holi ac Ateb." Dymunem ar y sawl fo'n jsgrifenn dan y pen hwn wneud hyny mor eglur, byr a chynwys- fawr ag y bo modd. Gan fod cyfaillllenyddo1 o wybodaeth eang wedi addaw golygti yr adran L hon, doder y geiriau H. ac A." oddiallan i'r envelope. Rhoddir GWOBR o HANER Gini bob haner blwyddyn i bwy bynag a atebo'n gywir fwyaf o'r cwestiynau am y chwe' mis aeth heibio. Ond yn annibynol ar gystadlu, teimlwn yn dra diolchgar os atebir unrhyw gwestiwn neillduol gan rywun yn meddu gwybodaeth neillduol arno. Dechreuir cy- boeddi yr Atebion yn ,.in rhifyn am Ionawr 7, 1892; ac yn y cyfamser, diolchwn am Holiadau.-GOL.] l.-Pa bryd y dechreuwyd galw ein gwlad yn Gymru ? 2.—Yn mha afon yn Nghymru y delir mwyaf o eogiaid? 4.-Beth oedd prif ddiwydrwydd (industry) Cymru yn nechreu y ganrif hon? 4k— Yn mha ranau o Gymru yr arferir y geiriau cwitie a mynte," a beth yw eu hystyr ? 5.—Yn nesaf i'r aderyn tô, p'run yw'r aderyn mwy af cyffredin (a) yn Ngogledd Cymru, (b) yn y Deheudir. 6.—Pa bryd y rhanwyd Cymru yn siroedd ac yn blwyfi ? 7.-Pa heJp a gafodd Dr. Owen Pughe gani rag- flaenoriaid yn awduriaeth ei Eiriadur ttiawr ? 8.—Pa bryd y dechreuwyd gweithio llech chwarelau, (1) Penrhyn, (2) Llanberis, (3) Ffestiniog. 9.—A oes gwahaniaeth rhwng y ddau air anfon a danfon ac os oes, pa beth ydyw ? 10.—Beth ydyw y Silurian strata a phaham ei gelwir felly ? ii.-Pa bryil y dechreuodd Dirwest yn Nghymru? Enwer rhai o gefnogwyr cyntaf y symudiad. 12.-Beth ydyw'r alwedigaeth, y fasnach, neu'r broffeswriaeth, oreu y blynyddau hyn i roddi bachgen o Gymro wedi cael addysg dda ynddi ? AT EIN GOHEBWYR. Dylai pob gohebiaeth ein cyrhaedd fan bellaf fore ddydd Llun a phob newydd a hysbysiad erbyn bore ddydd Mercher.
EDRYCH YN OL.
EDRYCH YN OL. Y MAE yn ddefod, ac arfer gan ein cyf- oesolion, ar ddiwedd blwyddyn, i adolygu ei phrif ddigwyddiadau, a rhaid i ninau yn llesg geisio eu hefelychu goreu gallom. Yr anhawsder ydyw gwybod gyda pha beth i ddechreu deuparth gwaith yw ei ddechreu," ebe'r hen ddiareb. Ni a ddechreuwn gyda'r tywydd. "Hwnw" iawn a fu'r hin trwy y flwyddyn. Nid yw'r hynaf ohonom yn cofio un wlypach. Y rhan fwyaf o'r deuddeng mis sydd ar ein gadael, mwy oedd mwyniant y llyff- ant na'r gloyn byw. Yr oedd hi'n oerach y Pasg na Dydd Nadolig ac am y Sul- gwyn anhawdd gwybod eleni pa un ai oddiwrth flodau gwynion y coed eirin ac afalau ynte yr eira a orch»ddiai'r ddaear ar y pryd y cymerasai ei enw. Gan y gwlawogydd trymion a ddisgyn7 ent yn misoedd Awst a Medi, ofnid un- waith y buasai raid gadael cynyrch y tir i fraenu ar y meusydd ond gofalodd Rhagluniaeth am danom, cawsom yn y diwedd y cwbl bron i ddiddosfa, ac ar y cyfan, gnwd gwell na chyffredin. DAMWEINIAU A THROSEDDAU. Ni fu 1891 yn fwy llawdrom arnom mewn damweiniau na'i chwiorydd canys ni ddigwyddodd yn Nghymru, nac yn wir yn Lloegr, yr un galanasdra mawr. Cadwyd Cymru yn dda hefyd oddiwrth droseddau erchyll ymgais fileinig Dun- can i labyddio ei wraig gerllaw Dol- yddelen oedd y dduaf o'r cyfryw, ac estron yn ein mysg a gyflawnodd hono. Digon gwir fod rhai achosion poenus wedi eu dwyn gerbron Brawdlysoedd ein gwlad, yn enwedig yr olaf a gynaliwyd yn Ngogledd Cymru a bod Llys Ysgar- iad a llysoedd eraill Llundain wedi codi y lien oddiar lygredd ac anfoesoldeb anaele y dosbarth a elwir yn bendefig- aidd ac ucheldras. Ond un tu i'r ddalen ydyw'r ochr ddu. Cronicl o'r rhai a demtiwyd ac a syrthiasant a geir yn y newyddiaduron beth am y cant namyn un a demtiwyd ac a safasant yn gadarn ? Cyhoeddir rhestr fanwl o'r methdalwyr, ond pa le y cofnodir yr ymdrechion arwrol, yr hunan-aberthau, y cynildeb hyd at brinder, trwy yr hyn yr osgoir gwarth ac y telir i bawb ei eiddo ? Dad- lenwyd twyll a hoced anfadwyr rhagrith- iol, yn gwneud defnydd o wenwisg crefydd er mwyn yspeilio poblach ddi- niwed o'u harian, fel yr adyn hwnw Plunkley yn neheubarth Lfoegr ychydig wythnosau yn ol-arolygydd ysgolion y Llywodraeth, a gwr eglwysig, yn gystal a dau neu dri o barchedigion allem nodi yn ein gwlad ein hunain. Tyn ambell un wyneb hir pan ddynoethir y pechad- uriaid hyn, a gofynant i bwy y gellir ymddiried ? Gwell genym ni gredu fod naw deg a naw o bob cant sydd yn proffesu crefydd yn ceisio byw i fynu i'w gofynion. Dichon nad yw eu syniad am rinwedd a chrefydd mor uchel, rai ohon- ynt, a'r eiddo eu barnwyr, ond y maent yn mhell iawn o fod yn dwyllwyr. 0 tan y gwlan ceir defaid ac nid bleiddiaid. ADDYSG. Talwyd yn ystod y flwyddyn lawer o sylw i Addysg Cymru, megys ansawdd a lleoliaeth yr Ysgolion Canolradd a chynaliwyd amryw gyfarfodydd pwysig er hyrwyddo y symudiad i gael Prifysgol Gymreig-un o ba rai a fu yn Lerpwl, mewn cysylltiad a'r Gymdeithas Genedl- aethol, tan lywyddiaeth Argl. Mostyn, pan yr oedd yn bresenol y Prifathraw Reichel, Proff. Ellis Edwards, Deon Llanelwy, a Mr. Osborne Morgan. Cam pwysig yn nadblygiad addysg dduwin- yddol Cymru ydoedd penodiad y Dr. Charles Edwards yn brifathraw Coleg y Bala, cyfyngu y coleg hwnw i efrydiaeth dduwinyddol, a'i agor i enwadau eraill heblaw y Methodistiaid Calfinaidd. Di- lynwyd y Dr. dysgedig yn Mhrifysgol Aberystwyth gan y Proffeswr Roberts o Goleg Caerdydd ac er ini ar y pryd ddadleu hawliau ymgeisydd arall, nis gall Prifathraw presenol Aberystwyth byth wneud yn well na'n dymuniadau iddo. Yr ydym yn llawenhau o galon yn newisiad Proff. Prys yn Brifathraw Trefecca; gyda rhwydd deb, fe ddaw y Cymro ieuanc galluog hwn yn fuan yn un o arweinwyr pwysicaf ein gwlad. Da iawn genym gofnodi etholiad Mr. John Price yn brifathraw Coleg Normalaidd Bangor, lie y bu efe yn llafurio fel athraw mor dderbyniol am gyhyd o flynyddau cyn hyny. Dymunem lon- gyfarch Mr. Henry Jones ar ei apwyntiad i Gadair Athroniaeth yn yr Alban, a Mr Keri Evans ar ei ddewisiad yn olynydd i Mr. Jones yn Mangor. Mewn addysg, gwelir fod Cymru yn dringo ac os ym- ddyrchafa fel y darfu eleni bydd ei chyf- undrefn o gyfranu gwybodaeth i bob gradd erbyn diwedd y ganrif gyda'r oreu yn y byd. SENEDDOL. Yn wleidyddol, yr unig DdedfSeneddol a basiwyd yn ystod y flwyddyn ar gyfer Cymru (ac ar gyfer Cymru, nid oes a wild, y lluniwyd hi) ydoedd Cyfraith y Degwm; a'r cwbl ellir ddweyd o'i phlaid ydyw ei bod yn tynhau y gadwen, yr hon a dyr o gymaint a hyny yn gynt. Gan fod swn Etholiad Cyffredinol yn y gwynt, bu cryn gynhwrf mewn manau parth dewisiad ymgeiswyr; ac y mae Rhyddfrydwyr Bwrdeisdrefi Caerfyrddin a Dinbych a Gorllewinbarth sir Ddin- bych yn parhau yn eu penbleth hyd yn hyn. Yr oedd yn ofidus genym glywed am benderfyniad Mr. John Roberts i ymneillduo o gynrychiolaeth Bwrdeis- drefi Fflint, canys llanwodd y boneddwr anrhydeddus y swydd yn dra theilwng am lawer o flynyddau, a chyflawn- odd wrhydri arbenig gyda Mesur Cau Tafarnau Cymru ar y Sul-y ddeddf cyntaf a wnaed er's canrifoedd ar gyfer Cymru yn unig. Ond yn ngwyneb ymddiswyddiad Mr. Roberts, caffaeliad i Ryddfrydwyr y bwrdeisdrefi hyn ydoedd taro mor ffodus a chael Mr. J. Herbert Lewis yn olynydd iddo. Bydd Mr. Lewis yn ychwanegiad gwerthfawr at ddoniau Cymreig Ty y Cyffredin. SYMUDIADAU CYHOEDDUS. Gwnaed cais deheuig i ddwyn y gwa" hanol enwadau Ymneillduol yn nes at eu gilydd, yn benaf trwy offerynoliaeth Mr. Owen Owen, Croesoswallt. Cynal- iwyd cyfarfodydd dylanwadol yn ystod y flwyddyn. Amcan ardderchog, teilwng o gefnogaeth pob Cymro crefyddgar a gwladgar. Ond mor anhawdd ydyw di- wreiddio rhagfarn a henffasiwnaeth ffol hyd yn nod o'r galon ddefosiynol Gym- reig, fel yr ofnwn y rhaid ini dda! i ganu yr hen linell "Partïol farn a rhagfarn lawr a hwy am rai blynyddau eto cyn y ceir Pawb o'r brodyr yma'n un." Y mae genym fwy o hyder y daw amcanion y mudiad arall a gychwynwyd yn ystod y flwyddyn i ben, sefargyhoeddi Lloegr o gyfiawnder-erfyniadau mwyafrif mawr ein cenedl am Ddadgysylltiad, er mai gwaith cyndyn am beth amser fydd hwnw. Gwnaed cynydd amlwg- yn y cyfamser ar ddadblygiad Undeb&u Llafur yn y Dywysogaeth, yn mysg y chwarelwyr a'r glowyr yn arbenig ac arwydd ragoiroi ydyw fod ein gweithwyr yn ymddiried eu harweinyddiaeth i ddynion call, prof- iadol, ac nid i fdn-ffaglwyr hunangeisio! yn gofalu yn benaf am eu buddianau eu hunain. Fe wyr meistriaid a gweithwyr bellach mai colled ddigymysg yw streic. ANRHYDEDDAU. Dylem fel cenedl deimlo'n falch fod dau o'n meibion wedi eu hanrhydeddu mewn modd neillduol yn ystod y flwydd- yn. Dyrchafwyd Cymro o Lantrisant yn Arglwydd-Faer Llundain, a Chymro arall, Dr. Herber Evans, yn Gadeirydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru. Anrhydeddwyd Gogledd Cymru hefyd eleni gan ymweliad y Gyngres Eglwysig a Rhyl, pan yr oedd tri archesgob yn bresenol, amryw esgobion, a lluaws o urddasolion lien a lleyg. Yr oedd yn un o'r Cyngresau lluosocaf a gynaliwyd hyd yn hyn. Darllenwyd ynddi bapyrau dysgedig ac areithiau hyawdl ond y mae'n ofidus dweyd fod erbyn hyn fwy o son am ei "beer" na dim arall. LLENYDDIAETH. Collasom un newyddiadur yn ystod 1891 rywbryd tua Hydref, hi aeth yn nos ar Ddydd Dolgellau; a thranc llen- yddol arall a fu yn yr un dref-tawodd lleferydd Cymru Fydd. Ond cododd amgen llewyrch, a llefarodd mwyneidd- iach llais—ie filwaith, yn y Cymru, a gychwynwyd gan Mr. O. M. Edwards; ac yn ol pob argoel, fe bery yn hir < loni ac addysgu darllenwyr Cymraeg. Anrhegwyd ein cenedl hefyd 4 chais go ddeheuig i sefydlu misolyn Seisnig, sef y Welsh Review, tan olygiaeth Mr. Ernest Bowen Rowlands. Amser a ddengys pa un a yw y Gol. wedi taro ar y cywair priodol. Ni chyhoeddwyd nemawr lyfrau o bwys yn yr iaith oddi- gerth Enoc Huws. Fel y dywedai ei gyfenw Enoc Evans o'r Bala, am dano ei hun, ac ar fater arall, ni fydd yr un lyfrgell Gymreig yn berffaith heb Enoc, MARWOLAETHAU. Y Methodistiaid Calfinaidd a golled- wyd drymaf yn yr ystyr hon. Nid oes enwad yn y byd mor gyfoethog o ddon- iau na fuasai yn teimlo colled ar ol dynion fel Dr. O. Thomas, y pregethwr grymus a'r awdwr defnyddiol, a'r Prif- athraw D. Charles Davies, y meddyliwr gloyw a'r dysgawdwr ymroddgar. Am. ddifadwyd yr un enwad hefyd o'i gwein- idog hynaf, yn 96 oed-y Parch. Wm. Evans,Tonyrefail,heblaw amrai eraill wyr o nod ac arddeliad, megys y Parchn. D. Edwards (Casnewydd), J. Pugh (Seaforth, Treffynon gynt), Hugh Roberts (Bangor), &c. Collodd y Wesleyaid dri phregethwr o ddoniau annghyffredin, sef y Parch. Samuel Davies, cyn-Gadeirydd y DaIaeth Ogleddol, ac un o lefarwyr mwyaf dylanwadol y Pwlpud Cymreig y Parch. T. Jones, cyn-Gadeirydd y DalaethDdeheuol; a'reffeithiol,ddiniwed, ddiabsen, Ddewi Mawrth, anwylyn ei enwad a'i gylch helaeth o gyfeillion. Y mae yn dra gofidus genym hefyd orfod nodi colled yr Annibynwyr yn marwolaeth y Parch Hugh Jones, Bir- kenhead dyn tirion, a phregethwr rhagorol a'r bwlch a wnaed yn rhengau gweinidogion y Bedyddwyr gan ymddat- odiad sydyn y Parch John Thomas, Caerfyrddin. Y Parch T. R. Lloyd (Estyn) oedd yr offeiriad mwyaf adnab- yddus a dorwyd i lawr—dyn da ac od oedd Estyn, hynod o garedig, gwladgar, ac un o'r siaradwyr mwyaf doniol ar esgynlawr ein Heisteddfod Genedlaethol glywodd yr oes hon. Y mae son am yr Eisteddfod yn ein hadgoffa am ymadaw- iad dau hen Eisteddfodwr selog,— Nathan Dyfed hynaws a dyddan, a'r trydarol Ddewi Wyn o Essyllt. Yr oedd y ddau gydymaith ymlyngar hyn mor rheolaidd yn yr Wyl Genedlaethol ag Ymdaith Gwyr Harlech." Collasom ddau fardd ieuainc hefyd yn anterth eu bywyd, sef Glan Llyfnwy a Huw Myfyr. Dyna y rhestr. Mae'n wir ei bod yn drom ond efallai yn ysgafnach nag arfer, ac yn sicr na'n teilyngdod. Byddai'n hawdd tynu casgliadau lawer oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, gwnaed y darllenydd hyny drosto ei hun; ac yn yr un yspryd caredig ag y cyfarcha ei gyfeillion goreu bore fory, ac y dywedwn ninau wrth bawb, BLWYDDYN NEWYDD DDA.