Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
NODIADAU CERDDOROL.
NODIADAU CERDDOROL. DA genyf weled fod ein cerddorion yn cael eu cydnabad mewn gwledydd eraill. Y mae o fy rnla n nifer o rigleni yr East End Industrial Exhibition, Glasgow, 1890-91, a gwelaf fod Mr. J. Osborne Williams wedi bod yn cynal amryw Organ Recitals yn y Grand Hall. Fe wel y cyf- arwydd wrth yr hyn a ganlyn fod dewisiad y chwareuydd ieuanc yn un chwaethus. Cymerwn raglen dwy -recital ar antur. Dyma gynwys y cyntaf: Extempore Introduction;" "Rig andon, o Ariodante Handel "First Move- ment of Trio," Haydn; "Adagio," o Fantasie und Sonate, Mozart Andante Sostenuto," gan W. H. Adams Andante," gan Merkel Allegro Moderato," gan Dr. Volckrnar; a We never will bow down," Handel. Gwelir yn yr ail;—"Fixed in bis everlasting seat," JHandel; Andante in D minor," Beethoven "Kyrie Eleison, "imozart "Melodia," Caprici; "Sonate" (rhif 6), Mendelssohn; "Morfa Rhuddlan "Pentecost March, F," V. Mellon a Let their celestial concerts," Handel. Deallwyf fod Mr. Williams yn ymbarotoi am y gradd o Mus. Bac., yn nglyn a Phrifysgol Durham. Y mae eisoes wedi llwyddo i enill y Certificate of Proficiency mewn gwybodaeth gyffredin er y 24ain o Fawrth, ac y mae am sefyll ei arholiad cyntaf am y gradd,yn mis Medi nesaf. Gobeithio y daw y cerddor ieuanc drwy y pair yn llwydclianus. Rhwydd hynt iddo, Byddai yn dda gan ddarllenwyr cerddorol y Cymro gael gwybod manylion yr arholiad am y Durham Mus. Bac. Degree. A fydd Mr. Wil- liams mor garedig a rhoddi y wybodaeth hon ini ? Dichon fod amryw o'n cerddorion ieuainc yn awyddus am yr anrbydedd, ond iddynt gael y manylion angenrheidiol. Efallai y rhydd Mr. Jenkins neu Mr. J. H. Roberts yr un wybodaeth am Rydychen a Chaergrawnt. Cefais gopi y tro cyntaf eleni o Cerddor y Cymry am y mis hwn. Y mae ynddo ertbygl fechan ar "Lyfr Tonau Cyfundebol i'r Metliod- istiaid," yn mha un y dywed yr awdwr fod y Methodistiaid, o leiaf yn y Gogledd, yn addfedu o berthynas i hyn," a rhydd farn y gwabanol Gyfarfodydd Misol ar y peth. Dywed fod air Fon, Debau Maldwyn, Dwyrain a Gorllewin Meirionydd, yn ffafr y mudiad fod Lleyn ac Eifionydd "o'r farny dylai y llyfr tonau (Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt) presenol gael ei ail drefnu, ac fod y tonau na ddefnyddir hwy ond anaml i gael eu tynu ymaith i wneud lie i eraill sydd yn arfetedig fod Arfon "yn teimlo mai dymunol i'r Cyfundeb fyddai cael llyfr tonau perthynol iddo ei hun," ac "befyd y dylai y cyfryw gael ei seilio ar Lyfr Tonau Ieuan Gwyllt fod Dyffryn Clwyd o'r "farn mai priodol i'r Cyfun- deb fyddai meddu llyfr tonau iddo ei hun, ond mai gwell, er mwyn y cynulleidfaoedd, peidio cyhoeddi y llyfr am o dair i bum' mlynedd, fel y gwyddai pawb pa bryd i'w ddisgwyl;" fod sir Fflint "yn credu mai buddiol fyddai darparu llyfr tonan newydd os yw hyny yn ymar- ferol;" fod Gogledd Maldwyn yn ffafr i'r Cyfundeb feddu llyfr tonau," ond cynghorai "y Gymdeithasfa i feddianu llyfr y diweddar leutn Gwyllt, ac fod i Attodiad gael ei gyboeddi mewn cysylltiad ag ef o'r tonau a ddewisir gan bersonau a benodir gan y Gymdeithasfa fod Lerpwl ar hyn o bryd yn credu nad oes angen- rheidrwydd am lyfr tonau i'r Cyfundeb." "Gwelwn hefyd," ebai, fod Cyfarfodydd Misol y gwabanol siroedd perthynol i'r Dalaetb Dde- heuol yn bur addfed i gael llyfr tonau i'r Cyfundeb." Yn Nghymanfa ddiweddaf Aberystwyth, yr oedd adroddiad y siroedd yn ffafr meddu llyfr tonau, oddigerth sir Frycheiniog, a dywed yr awdwr ei fod yn gwybod beth sydd yn dylan- wadu ar y sir i beidio symud gyda'r lleill yn y mater hwn, er eu bod yn proffesu mai y Llyfr Hymnau Seisnig sydd ar y flordd." Beth yw y dylanwad hwn nis gwn, gan nad yw yr awdwr yn traethu. Y gwir yw mai y bwgan ar y fl'ordd yw y Llyfr Tonau Cynulleidfaol. Y mae yma ryw haner addoliad o'r hen lyfr gan y Methodistiaid yn gyffredinol; ac y maent yn tybied nad oes gyffeiyb llyfr tonau iddo ar wyneb daear, ac felly augenrhaid yw glynu wrtho drwy y tew a'r teneu. Pell wyf o amddifadu y diweddar Ieuan Gwyllt o'r anrbydedd a'r clod am ddwyn allan ei gasgliad tonau mewn adeg pan oedd gwir angen- rhaid am y fatb lyfr, a phell wyf o daflu unrhyw sarhad ar y casgliad, casgliad a wnaeth ddirfawr les i ganiadaeth grefyddol eto rhaid imi ddweyd yn gydwybodol fod adeg y llesiant wedi myned heibio bellach, ac fod gwir angenrhaid am lyfr newydd. Y mae yr hen lyfr ar ol yr oes yn sicr, a goreu po gyntaf i hyny gael ei gydnabod. O'm rhan fy hun, carwn weled eiisgliad hollol newydd a gosoder yr hen mewn congl anrhyd eddus a hwylus yn ein llyfrgelloedd modd y gallwn yn awr ac yn y man dreiddio iddo er mwyn yr amser gynt,blynyddoedd y cynoesoedd. Teimhvn felly ryw antiquarian interest yn y gyfrol. Llongyfarchaf bwyllgor Eisteddfod Rhyl ar eu penderfyniad o roddi datganiad yn eu bnchelwyl o dreithgan newydd Dr. Joseph Parry, sef Bywyd Sant Paul a hefyd, gan had yw y gwaith eto yn argrapbedig, am yr addewid o gynorthwy arianol er dwyn hyny yn mlaen. Bydd y draul yn fawr, canys nid y gost o argraphu a fydd y cwbl. Rhaid caelcopiau i'r gwabanol offerynau yn y gerddorfa, pa rai a ysgrifenir gan gopiwyr proffesedig, beblaw y copiau argrapbedig yn nwylaw y cantorion, ac felly treulir yn angenrheidiol gryn lawer o arian. Mood bynag, y mae y cam hwn yn yr iawn yfeiriad, a gobeithiaf y bydd pwyllgorau eis- eddfodau dyfodol yn dilyn yr esiampl dda, trwy oddi cymhorth cyfamserol i'n cyfansoddwyr. Y niae gorn-iod o lawer o gerddoriaeth dramor yn cael ei ddwyn i mewn i gyngherddau ein heisteddfodau, a hyny ar draul esgeuIuso talentau cartrefol. Dyna y cyhoeddwyr poblogaidd, y Meistri Novello a'u Cyf., wedi cyhoeddi treithgan Mr. Jenkins, sef Dafydd a Saul, gwaith y mae yn sicr na buasent byth yn edrych arno, chweithach ei argraphu, onibai ei fod yn deilwng o sylw y byd cerddorol yn gyffredinol. A esgeulusir y gwaith hwn gan ein cantorion a'n cerddorion Cymreig 1 Na, mi obeithiaf y gwnant eu goreu er symbylu cylchrediad y llyfr, ac er dangos i'r cyhoeddwyr nad yw eu hantar yn ofer, i gael o amgylch ami i berfformiad o'r dreitbgan. Dymunol, er hyrwyddo hyn yn mlaen, fyddai i'r pwyllgorau eisteddfodol beidio colli golwg ar y gwaith pwysig hwn. Beth ddywed pwyllgorau I Abertawe a Rhyl ar hyn 1 fr oeddwn wedi meddwl ysgrifenu ryw fras adolygiad ar Dafydd a Saul yr wytbnos hon, ond y mae amser yn pallu a'm gofod yn fyr. Disgwyliaf y caf y fraint o draethu ar y gwaith mewn rhai o rifynau dyfodol o'r Cymro, ac hyd hyny caffed amynedd ei pherffaith waith." Yn Ngherddor y Cymry, o'r hwn y traethais uchod eisioes, gwelaf atebiad i ofyniad un a alwai ei hun yn "Hen Arweinydd Canu," yr hwn a ofynii paham na fuasai golygydd y misolyn crybwylledig yn cael ei gynrycbioli yn Ngemau Mawl. Yr atebiad yw, na "cbafodd gynyg i anfon ton gan y golygydd dysgedig. Tyned ein darllenwyr, felly, eu casgliadau eu hunain yn y mater hwn." Y golygydd dysg- edig yw golygydd Gemau Mawl. A oes ryw wenwyh aspiaidd yn yr atebiad hwn ? Ym- ddengys i mi fod. • WALAS. 0
'¡HAWL AC ATEB.
'¡ HAWL AC ATEB. ENWAU Lleoedd YN NGHYMRU. BARN y rhan fwyaf o hynafiaethwyr a haneswyr erbyn hyn ydyw ein bod ninau, cenedl y Cymry, yn genedl bur gymysg. Rywbryd yn y cynoesoedd, nis gwyr neb yn iawn pa bryd, fe orchfygwyd trigolion y wlad hon gan rai aberthynent i'r gangen Wyddelig o'r tylwyth mawr Celtaidd. Wedi hyny, fe'u goresgynwyd hwythau, fe feddylir, gan Geltiaid o'r gangen Frythonaidd o'r teulu yma. Y tylwyth olaf hwn a siaradai yr iaith Geltaidd yn ei ffurf Gymreig, mam yr iaith a leferir yn Nghymru heddyw. Fe wyr pawb i'r Cymry gael eu gorch- fygu gan y Rhufeiniaid; fe wyddis hefyd fod Scandinafiaid, yn enwedig y Daniaid duon, fel eu gelwir yn y Brutiau, wedi disgyn o bryd i bryd ar lenydd Cymru, ac yn olaf oil ein bod wedi myned fel cenedl dan iau y Saeson. Nid yw hyn ond crynodeb byr o'r hyn a gy- merodd le yn ystod canrifoedd lawer, ond y mae y braslinelliad hwn yn ddigon at ein pwrpas presenol, sef i geisio creu dycldordeb mewn enwau lleoedd yn Nghymru, yn y rhai yn ddianmheu y mae llawer o olion ein hynafiaid yn aros eto. Wrth edrych ar enwau lleoedd yn Nghymru ar y map, neu wrth feddwl am yr enwau lleoedd hyny y gwyddom am danynt, yr ydym yn cael llawer iawn ohonynt yn annealladwy yn ngoleuni yr iaith Gymraeg bresenol. Ni raid i'r darllenydd ond meddwl am rai o enwau lleoedd yn ei ardal ei hun na wel yn union gynifer ohonynt a gynwysant eiriau sydd erbyn hyn wedi colli o'r iaith Gymraeg, neu sydd wedi newid eu hystyr yn fawr. Meddylier er engraipht am y gair "tref." Fe'i ceir mewn enwau amaethdai mewn rhai lleoedd yn Nghymru. Cymerer yr enw Dre' bach," nid oes yno na thref na thebyg i dref yn ein hystyr ni o'r gair nid tref (town) oedd ystyr y gair pan roddwyd yr enw yna ar yr amaethdy, ond "trigfan," tre yn yr ystyr ei harferir ynddo yn y Deheudir yn y geiriau "sha thre"—tua thre', neu tuag adre'. Gwyddom am eiriau eraill a arferir ar enwau lleoedd ac amaethdai na arferir bellach ond mewn llenyddiaeth y gair "ceinaeh am ysgyfarnog," a'r gair "ysgaden" (yr hwn yn y Gogledd, beth bynag, sydd wedi rhoi lie i'r gair penog "). Y mae yn rhyfedd am gymaint o amser y gall enwau lleoedd aros heb eu cyfnewid nid yw enwau lleoedd, fel y mae yn hysbys i bawb, mwy nag enwau personau, yn newid pan y byddant wedi dyfod yn annealladwy. Y mae yn ddianmheu fod yn enw llawer ardal, a llawer tyddyn, a llawer cae yn Nghymru lawer hen air Cymraeg neu Wyddelig yn llechu na ddaeth erioed i'n llenyddiaeth. Ie, feallai fod rhai enwau lleoedd yn aros y peth oeddynt cyn i'r un Celt lanio yn yr ynys hon. Pe gellid cael casgliad hylaw a manwl o'r enwau hyn yn mhob ardal, fe allent fod yn gymorth anmhrisiadwy i ieithyddwyr Celtaidd. Y mae llawer o eiriau Gwyddelig na chafwyd eto eu cymharau yn yr iaith Gymraeg, ac feallai nad yw y gair y byddwn yn chwilio am dano i'w gael ond yn enw rhyw amaethdy neu faes yn Nghymru. Feallai fod geiriau yn aros, fel y dywedasom, yn enwau ar afonydd, neu fynyddoedd, neu ardaloedd a ddefn- yddid yn y eyfuod cyn-Geltaidd, ac y gallai ieith- yddwyr fel y Proffeswr Rhys ddweyd wrthym a oes geiriau yn cyfateb iddynt ai peidio mewn ieithoedd fel y Basque, nad ydynt yn perthyn i'r dosbarth Aryaidd o ieithoedd. Fel y mae daeareg wedi gallu i raddau helaeth daflu goleuni ar ffurfiad creigiau ac arwynebedd y ddaear, felly fe all ieithyddiaeth wedi iddi gael digon o ffeithiau wneud llawer i daflu goleuni i ni ar hanes y gwahanol doau o drigolion fuont yn byw yn ein gwlad. Gwaith ydyw, y mae'n wir, yn gofyn ymchwiliad manwl a dyfal, ond gwaith ydyw, ar yr un pryd sy'n 11awn o ddyddordeb. Bydd genyf air yn mhellach ar hyn yn y rhifyn nesaf neu yr un canlynol. E. ANWYL. SYR, -A fydd rhai o'ch gohebwyr mor fwyn a dweyd wrth lane ieuanc sydd yn dechreu agor ei lygaid ar lenyddiaeth Gymreig beth ydyw tarddiad ac ystyr yr ymadroddion a'r geiriau a ganlyn 1. Dic Sian Dafydd. 2.-Beirdd Taleen Slip. 3. Y mffiarny.chu. 4.—Heth. 5. —Pwyddion. r; Efrydydd.
Jonathan Hughes.
Jonathan Hughes. ADDFWYN a chwareus oedd tueddfryd Jonathan Hughes o Bengwern. Yn ei ragymadrodd i'w gyfrol Bardd a Byrddau amryw Seigiau fe ddywed ei fod yn ymawenu mor ieuanc a 15 oed, a phan oedd yn ugain teimlai ei draed tano fel bardd, ac o hyny i 50 yr oedd wedi canu llawer, ac yn 57 y mae yn cyhoeddi y gyfrol hono o'i weithiau. Fe ym- wthia elfen chwareus ei feddwl allan yn y dyfyniad yma o'i ragymadrodd, Ac nid wyf fi Gymro, am fy mod i gymydog rhy agos i'r Saeson, canys hen arfer cymydogion ydyw benthycio oddiar eu gilydd, felly finau wrth ganu,mi fenthyciais o eiriau Seisnig fwy nac a dalaf fi fyth adref." Nid oedd dim a roddai fwy obleser iddo na gwaith rhyw fân feirdd a ddelent a'u cynyrchion ato i ofyn ei farn arnynt. Porthai y rhai hyn efallai i eithafion gormodol, ond gwnelai hyny yn unig i borthi ei bleser diniwed ei hun. Yr oedd cymeriad felly yn byw yn ei ymyl o'r enw Edward Llwyd, yr hwn a fedyddiasai y prif-fardd yn Ned Leban. Mab oedd Ned i wraig weddw, ac efe oedd yr hynaf o saith o blant. Un diwrnod, modd bynag, aeth Ned i'r Pengwern, yn crio yn orchfygol. "Be sy'n dy flino?" ebe'r prif-fardd. Y mae mam wedi marw, Jonathan Hughes," ebe Ned, yn Uwythog o alar. Na hidia," ebe J. H., "gogoniant bardd ydyw bod yn wrol; gwaith Rhagluniaeth fawr y nef ydyw hyn, i roddi i ti gyfleustra i anfarwoli dy enw os na wnei di awdl neu gywydd anfarwol o farwnad i dy fam, wnei di byth dy fare fel bardd." Iachaodd Ned drwyddo, ac aeth adre', ac yn ngolwg yr arch cyfansoddodd brif orchest ei oes, a chyti pen dwy awr dyna fo yn picio i Bengwern i'w ddangos i'w athraw barddol, ac ebe fe, Yr ydw i wedi 'i gneud hi!" "Gad ei chlywed?" ebe J. H., a chan godi gwyn ei lygaid tua'r nefoedd, dyma hi allan Saith rhes o hoelion pres Ar arch mam bach, A mam bach yn dywarchen Saith o honom ninau ar y barth, A'r hyna'n gloff!" "Anfarwol," ebe J. H., "nifu 'rioed ei gwell-fe fyddi di fyw yn 'nwna wedi marw y diwedda o'r hil ddynol," a chredai Ned Leban bobgair a ddywedai.
Ei GRASINEB.
Ei GRASINEB. Yr oedd cydnabod iddo, os nad perthynas agos, breswyliai mewn fferm yn y plwy' o'r enw y Dinbren Ucha', wedi syrthio yn ysglyfaeth i'r ddiod gadarn, a chan gymeryd ei geffyl elai bob dydd, a llawer gwaith yn y dydd, i dy tafarn elwid yn Woolpack, i ddiota. Wedi deall hyn, ac iddo gael ei flino o'r herwydd gan gydymdeimlad a'i wraig a'i blant, fe ysgrifenodd J. H. lythyr ato, yn cynwys duchangerdd watwarus, yr hon a ddiweddai fel hyn Aiff Dei o'r Dinbren, annghall ddyn, Like a gentleman on horseback, Gan wario gwisg ei wraig ei hun I wisgo gwraig yr Woolpack." Ac fe ddywedir fod y linell Seisnig wedi dychrynu ei gar gymaint nes y cafodd y ceffyl lonydd o'r dydd hwnw allan, a gofalodd am wisgoedd ei wraig byth ond hyny, ac nis gwelwyd ef yn yr Woolpack tra bu byw Pe buasai awen yr hen fardd wedi gneud dim ond diddyfnu Deio o'r pechod yna fe fuasai yn ddigon o iawn iddo am ei mhagu ond fe wnacth lawer mwy. Nodwedd arall ei awen oedd canu dros eraill i ofyn cymwynasau. Yn Cell Jallestr gan Wil Ysceifiog, ceir can lawn o deimlad, sef apel at ei gyfeillion am gymorth arianol i helpu MARGARET, Ei FERCH-YN-NGHYFRAITH, i dalu bill y meddyg, coes yr hon oedd yn wywedig er's dros flwyddyn a haner, a dyma engraipht o'r gan Mae geny deulu mawr, gnwd aelwyd, Drwy'r lluaws boliau'r Haw ysbeiliwyd Wyrion byrion, hwyr a boreu, Freichiau dinerth, am frechdanau A gwaeth na rhain, oer sain resynol, Amryw g'ledi Fu arna'i 'leni, farn olynol; Cloffi'r famaeth, drwblaeth drablin, A fyddai'n weithgar, Un wych, haw'gar, yn ei chegin." Nid oes ond disgwyl wrth Ragluniaeth, Drwy hon y dygir gwaredigaeth, Rhagluniaeth fawr oedd llances fechan A wnaeth iachau gwahangiwyf Namaan A hon ddaw eto yn ddiatal— Mae ganddi eli, I hybu Begi heb ei bagal; Gobeithio felly byth yw f'wyllys Y cawn ei chanfod Eto a'i haelod yn fwy hwylus." Yn y Gell, hefyd, ceir yr hen fardd yn ymarllwys gwaelodion ei enaid mewn marwnad ar ol ei anwyl briod, ac yn y penill yma ceir cnewyllyn hanes ei fywyd priodasol:— "Mi ges gydoesi a phur ddyweddi, A chariad imi'n llenwi'n llawn A byd dewisol, iaeh, heddychol, Serch naturiol, unol iawn Blynyddoead llawen, dair a deugain, A byrion oedden'—diben daeth, Yn rhy gynar, a'i rhoi'n y ddaear Gwely galar, carchar caeth Bu'n ffyddlon briod cyd a'i hamod, Hyd ing y dyrnod, angau du, I roi gwahaniad, ymddatodiad, A thori rhwymiad cariad cu." Ni fu erioed deulu dedwyddach, yn ngwir ystyr y gair, na theulu y Pengwern nac erioed deulu mwy hyddysg yn yr Ysgrythyrau. Y mae carolau J. H. yn dangos cynefindra hapus yn mhethau y Beibl,- yr oedd ei hanesion a'i egwyddorion ar flaenau bysedd ei awen, ac yn cordeddu trwy ei gynyrchion barddono!. Yr oedd rhagor nag un o'i ferched a'i feibion hefyd yn fyw o athrylith farddol, a cheir carol ar Charity Meistres yn Nghell Will Ys- ceifiog o waith Ann, i brofi hyny. Cyn terfynu hyn o nodion, crybwyllwn nodwedd arall yn J. H., a hyny oedd ei
GASINEB AT ORTHRWM
GASINEB AT ORTHRWM o ba le bynag y deuai. Yr oedd rhyw gymydogion iddo o'r enw Enoch a Jeremiah wedi carcharu cymydog arall am ddwyn Ilwyth neu ddau o dail moch," ac y mae ei gan o "Gwynfan at blwyfolion Llangollen dros Simon Thomas oedd yn ngharchar Rhuthyn," yn rhostio Enoch a Jeremiah yn ddi- drugaredd:— Nid trwy rj m y gyfraith gre' Dan wybr wen 'r a neb i'r ne' Mae'n rhaid i'r efeogyl gael ei lie Sy'n ystyr madde'n wastad; Madde ein dyled, galed gur, Fel yr y'm yn madde i'n dyled-wyr, Dyna, iiiith 'r:,Efeugyl bur,'ei bwriad. Ac am Enoch a Jeremiah :— Mae r gair am Enoe, eglur yw, ( Ei fod yn rhodio gyda Duw, A Jeremiah 'r prophwyd byw, 0 feddal ryw oedd rowiog. Nid ydyw'r Scrytbyr mewn un man Yn dweyd i rhai'n garcharu'r gwan Mewn garw nych, na gwyro'n annhrugarog. Rhtx. o
Ein Cenedl yn Manceinion,
Ein Cenedl yn Manceinion, Cymeriad arall gaf ei enwi yw "Bethma." Y mae i hwn eto ei nodweddion neillduol ei hunan -y mae ganddo dalcen gwych a thrwyn Gladston- aidd-n-iae tremiad ei wynebpryd yn tystio ei fod yn wr deallgar, y mae y dyn oddimewn yn edrych drwy Ifenestri'r corph gyda math o graffder, gan argyhoeddi pawb ei fod yn perchen ar feddwl clir a goleu, ac ar ddychymyg bywiog a chyflym, a'r hyn dery pob un ddaw i gyfarfyddiad ag ef yw ei chwil. frydedd yn myd gwybodaeth a'i ddyddordeb mewn problems dyrus a thuedd ynddynt i osod y meddwl ar ei lawn waith i'w deall. Nid wyf erioed yn cofio i mi ei gyfarfod na byddai ganddo rhyw gwestiwn dyrys, ryw puzzle meddyliol i'w ddodi ger fy mron -fynychaf o'r Beibl—ac ni rydd dim fwyofoddhad iddo na'm gweled yn gosod fy holl ddyfais ar waith i geisio ei ateb, a methu Yn mhlith y cwestiynau diweddaf a gefais ganddo yr oedd a ganlyn,- Y n mha le yn y Beibl y cawn son am black beetles ? Eto,-Yn raha le yn y Beibl y cawn hanes merch ieuanc yn gweddio am wr ac yn cael un ? Y mae Bethma" yn dra chyfarwydd a phob dadl enwadol, ac yn hollol gartrefol gyda phob ochr i'r cwestiynau ac felly y mae yn wr anhawdd ei guro mewn dadl. Os digwydd i'w wrthwynebydd ei gyfarfod ar un o'r hen lwybrau adnabyddus, fel eich Beattie chwi yn Lerpwl yna gyda chwareu draughts, y mae'n cofio'r moves a'r variations perthynasol fel mai ychydig o siawns sydd i'w wrth- wynebydd os nad all dori tir newydd iddo ei hunan. Nos Fercher diweddaf, bu'm yn Pendleton yn gwrandaw ar y cor Cymreig perthynol i'r Method- istiaid yn cynal eu cyfarfod a synwyd fi yn fawr gan eu talentau. Prin y gallaf goelio y gallai un- rhyw gapel Cymreig arall o fewn y ddinas arddangos y fath ddoniau. Y mae gan y cor hwn nid yn unig nifer dda o rai a. lleisiau gwych ganddynt, ond hefyd amryw o rai holiol gynefin a datganu ar eu penau eu hunain unawdau, &c., yn eu plith Misses E. Red- fern, Edith Edwards, Prys Edwards, Laura Evans, Master W. Edwards a J. R. Edwards, a'r Mri. Henry Jones, Hugh Jones, D. E. Williams, J. A. Edwards, a Llewelyn Williams. Gwnaeth pawb eu rhan yn ganmoladwy. Arweiniwyd yn ddeheuig gan Mr. Richard Williams. Cafwyd hefyd Dramatic Sketch gan aelodau y cor yn gampus dros ben. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Miss E. Redfern a Mr. Thomas Edwards. Einion EFELL.
- PWLPUDAU CYMREIG MANCHESTER,…
PWLPUDAU CYMREIG MANCHESTER, EBRILL 26. t, Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss Side-Am 10.30, Parch G. Parry, D.D., Carno am 6.39. Parch Robert Roberts, Bala. Pendleton-CYFARFOD BLYNYDDOL. Am 10.30,2.30, a 6.30, Parch D. Saunders, D.D. Heywood Street-Am 10.30, Parch W. James, B.A. am 6, Parch G. Parry, D.D., Carno. Higher Ardwiclc-Am 10.30, Parch Robert Roberts, Bala am 6, Parch W. James, B.A. YR ANNIBYNWYR. Booth Street East-Am 10.30 a 6.15, Parch W. O. Jones. Chorlton Road-Am 10.30 a 6.1), Efrydydd. Queen's Road.-Am 10.30 a 2, West Craven Street, Salford-Am 2.30, Parch W. O. Jones. YR EGrLWYS SEFYDLEDIG. Oeioi Sant, Tuer Street, Oxford Street-Am 11, Parch, James Price, y Caplan. -0-
[ CREFYDDOL.
CREFYDDOL. Y PARCH E. Osborne JONES, M.A., mab rheithor diweddar Abermaw, benodwyd gan Esgob Bangor yn olynydd y diweddar Barch John Hughes, i ber- igloriaeth Llanidloes. Derbyniwyd Mr. D. M, Rees, Atbrofa Annibynol Bangor, yn genhadwr i Madagascar gan Gymdeithas Genhadol Llundain. Costiodd organ newydd Eglwys (M.C.) Maen- gwyn, Machynlleth, 9350. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol yn Fflint i Mr. E. G. Roberts (W.), yr hwn a fwriada ymsefydlu yn Bangor, Pennsylvania. Pasiodd Mr. Roberts yr arholiad am y weinidogaeth yn llwyddianus, ond gan nad oedd lie gwag, cynghorwyd ef i ymfudo i America, a chyflwynwyd iddo anerchiad ac alwar llawn o aur. Cyflwynwyd Beibl ac Esboniad ar y Testament Newydd, ac alwar yn cynwys 9,15 o aur, gan y dosbarth Beiblaidd i'r Parch W. Griffith (M.C.), Llansantffraid. Gadawodd Miss E. B. Houghton, New Brighton, gymunrodd o £ 500 yn ddidoll at Gymdeithas Gyf- ieithiadol y Bedyddwyr. Rhoddwyd gal wad i'r Parch D. B. Evans (A.), diweddar o'r Wyddgrug, i eglwys Ebenezer, Pont- ypwl. Cliriwyd 970,) o ddyled eglwys Park Place (T.C.), Tredegar, y flwyddyn ddiweddaf. Talwyd yr oil o ddyled capel Talybont (A.), Aber. teifi. Costiodd yr adgyweirio E2,000 yn 1885. Rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. D. M. Davies, Athrofa Trefecca, gan eglwysi Defynog, Pentre'r- felin, a Crai. Casglwyd 800 o geiniogau yn yr un cyfarfod yn un o gapeli Llanelli y Sul o'r blaen. Ordeiniwyd y diweddar Barch E. P. Williams (B.), Bethel Bassaleg, yn 1839. Yr oedd yn 78 mJwydd oed pan fu farw. Gweinidogaethai flyryddoedd yn 01 yn Bethesda, Arfon. Bwriada y Parch William Evans (B.), Axton, Fflint, ymsefydiu yn niwedd y mis hwn yn Rhos- hirwaen, Arfon. Dengys yr ystadegau a gyflwynwyd gan 777 o gylchdeithiau allan o 781, fod rhif Wesleyaid Prydain Fawr fel y canlyn Aelodau, 424,303 ar brawf, 28,095; yn nosbarthiadau yr ieuenctyd, 62,416, cynydd clir o 688. Bu cynydd mewn 19 o'r talaethau, a lleihad mewn 16, a saif Caerdydd ao Abertawe ar ben y rhestr am gynydd, a Lincoln a Hull am leihad.