Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
[No title]
field, mewn glan briodas a Miss Deborah Davies, unig ferch Mr D. W. Davies, Y.H., Maesyffrwd, Dinas, Pontypridd. Y mae Mr Thomas yn Gymro glan gloyw, ac yn un o'r pregethwyr ieuanc mwyaf poblogaidd yn Lloegr, a disgwylir ei glywed yn fuan am Sul yn Myrtle Street, Lerpwl.
Y CYHUDDIAD YN ERBYN CADBEN…
Y CYHUDDIAD YN ERBYN CADBEN VERNEY, A.S. CRYBWYLLASOM yn ein rhifyn diweddaf fod gwys wedi ei chodi yn erbyn Cadben Verney. Pan glybu y Cadben am y wys, pellebrodd o Switzerland, lie yr oedd ef a'i wraig a'i bedwar plentyn yn aros ar y pryd, y byddai iddo ddyfod adref ar unwaith er cyf- arfod y cyhuddiad. Yn ol ei air, cyrhaeddodd ef a Mrs. Verney orsaf Charing Cross, Llundain, am haner awr wedi chwech boreu Sadwrn. Yr oedd dau detective o heddlys Bow Street yn ei gyfarfod, y rhai a'i cymerasant mewn cab i orsaf yr hedd- geidwaid. Aeth Mrs. Verney yn y cyfamser i'w gwestty. Yr un bore, yn Heddlys Bow Street, gerbron Syr John Bridge, cyhuddwyd Cadben Verney o ddarfod iddo, Medi 17, 1890, gydgynllwyn yn annghyfreith- lawn gyda Eugenie Rouilier, i hudo un Nellie Maud Baskett, o tan 21 oed, i ddybenion anniwair. Erlynid gan Mr. Horace Avory, ar ran yr Erlynydd Cyhoeddus, ac amddiffynid gan Mr. St. John Wontner. Mr. Avory a ddywedai fod y cyhuddiad yn cael ei wneud o tan Adran 2 o'r Criminal Law Amendment Act, o geisio hudo geneth o tan 21 oed, ac o gyd- gynllwyn a dynes o'r enw Rouilier i gyflawni y trosedd. Dianmheu fod yr Ynad yn cofio ddarfod dwyn y ddynes Rouilier ger ei fron ef yn Medi diweddaf, ac iddi gael ei hanfon ar brawf i'r frawd- lys. Yno cafodd ei dedfrydu i garchariad, yr hwn a ddaeth i ben Mawrth 23ain. Profwyd yn yr achos hwnw mai enw y dyn a gydweithredai a Roullier ydoedd Wilson. Medi lleg, gohebodd y ddynes hon hefo Swyddfa Gofrestrol am governess, gan ofyn os oedd ganddynt eneth 17 neu 18 oed, geneth o'r wlad fyddai oreu, a fyddai yn foddlon i fyned i wlad dramor am yspaid gyda boneddiges. Trwy y swyddfa, daeth i ohebu gyda Miss Nellie Baskett, yr hon ar y pryd oedd yn ceisio lie o'r fath. Ar y 15fed o Fedi, eyflogodd Roullier Miss Baskett i fyned i wlad dramor am tua mis o amser. Y dydd Mercher canlynol cyfarfuant, ac aethant gyda'u gilydd i Paris. Yno cyflwynwyd hi i'r dyn a elwid Wilson. Fe brofid yn eglur natur y cynllwyn oedd rhwng Rouilier a Wilson. Pan ddeallodd yr eneth beth oedd ei hamcan, hi a ddychwelodd i Loegr. Ar ol iddi gyrhaedd gartref, cafodd amryw iythyrau oddiwrth Roullier yn ceisio ei pherswadio i ddy- chwelyd i'r Cyfandir, a chyfarfod Mr. Wilson dra- chefn yn Antwerp. Bu y cais hwn yn aflwyddianus, achwynodd y teulu wrth yr heddgeidwaid, a dal- iwyd Rouilier. Cafwyd yn ei meddiant lythyr oddi- wrth Wilson, dyddiedig Paris, Medi 14eg, yn yr hwn y dywedai,—" Ni bydd i mi ddatguddio fy hun nes y cewch ei boxes a'i dillad, ac y byddoch wedi I Ú sicrhau, fel nas gallo ddianc." Cyfarwyddai hwynt l drafaelio wedi bv nos. er tvnn llai n oulw J < -J- "V'" Io,JJ"l.l.VIJä.l yr erlynwyr mai y diffynydd Cadben Verney oedd y Mr. Wilson hwnw. Yn nghyntaf, dyna a ddywedai Miss Baskett, er ei fod wedi newid ychydig trwy adael barf ar ei 6n. Yn chwanegol at ei thystiolaeth hi, yr oedd o leiaf y cyd-ddygwyddiad rhyfedd hwn, -fe brofid gan dyst (Russell) a adwaenai Cadben Verney yn dda er's blynyddau, ac a fu yn gwasan- aethu tano yn y Llynges, ddarfod iddo ef, flwyddyn neu ddwy yn ol, ar gais y Cadben, dderbyn llawer o Iythyrau trosto tan amrywiol enwau, a'u danfon iddo i'r Travellers' a chlybiau eraill, Yr oedd yn ffaith na bu Cadben Verney yn y wlad hon er mis Medi diweddaf. Parth llawysgrif y llythyrau hyn, gallai yr Ynad farnu oddiwrth y ddwy envelope-un heb anmheuaeth yn llaw y Cadben, a'r llall wedi ei chyfeirio at Roullier gan Wilson. Yr oeddynt yn barod i gydnabod fod y cyhuddedig wedi dychwelyd i gyfarfod y cyhuddiad ond pwnc arall oedd ai ni wnaeth efe hyny oblegyd yr hyn ymddangosodd yn y newyddiaduron. Er pob cais, yr oedd yr heddgeidwaid wedi methu cael hyd i Rouilier, yr hon o fuasai yn dyst pwysig. Yn anffodus, nid oedd y cyhuddiad hwn wedi ei ffurfio nes oedd hi wedi ei rhyddhau o garchar. Ynagalwyd ar Miss Nellie Baskett, yr hon a ddy. wededd :—Yr wyf yn byw gyda fy mam, ond gwell genyf beidio nodi'r cyfeiriad. Yr oeddwn yn 19 oed yn Gorphenaf diweddaf. Mewn canlyniad i hysbysiad a welais mewn papyr, aethum gyda fy mam i Swyddfa Gofrestrol yn Ebury Street, er ceisio lie fel athrawes mewn teulu. Yno cyfar- fyddais y ddynes Florent, yr hon a adwaen yn awr wrth yr enw Eugenie Roullier. Dywedai fod arni eisiau i mi fyned gyda hi i Paris yn gydymaith iddi a gwnio trosti. Am fis yr oedd fy eisiau, a'r tal oedd ^2 10s. Wedi hyny, aethum gyda Roullier i Paris, gan drafaelio trwy Newhaven a Dieppe, a gyrodd fy nghydymaith bellebyr i Wilson o Lundain yn dweyd ein bod yn dyfod. Cyrhaeddasom Baris ddydd Iau, ac aethom i'r gwestty lIe yr oedd Roullier wedi cymeryd Hetty. Tua chanol dydd Gwener, hi aeth allan, gan ddweyd ei bod yn myned i weled cyfaill—bancer. Ar ei dychweliad, dywedodd ei fod ef yn dyfod yn yr hwyr i'm cymeryd am dro ac efe a ddaeth tua chwech o'r gloch, pan y cyflwyn- wyd ef imi fel Mr. Wilson. Derbyniasom ei wahoddiad i fyned allan i giniaw, a daethom yn ol ein tri mewn cab. Dywedai wrth ymadael y galwai foreu dranoeth am unarddeg. Dywedai Roullier iddo fod yn dda iawn wrthi hi—yn rhoi benthyg arian iddi, ac nad oedd hi wedi eu talu yn ol. Dranoeth, aeth Roullier a-llan wrthi ei hun; ac yn mhen haner awr wedi iddi ddychwelyd cyrhaeddodd Wilson. Daeth i fy ystafell, a gofynodd os awn gydag ef i Dwr yr Eiffel. Atebais yr awn os deuai Mrs. Florent. Yr oedd hi yn rhy flinedig i ddod; ac aethum gyda'r diffynydd i'r Twr. Dywedai fod genyf law fach ddel, a phrynodd i mi bar o fenyg mewn siop ar y ffordd. Pan aethum i'r Eiffel, dywedai fy mod yn dal i fynu yn bur dda, a gofynodd os oeddwn yn ffond o wisgoedd. Gofynai hefyd os awn i allan gydag ef wed'yn, a dywedais nad awn. Wrth fyn'd o amgylch y Twr, gwnaeth i mi gymeryd ei fraich. Pan ddaethom yn ol i'r gwestty gwelsom Roullier. Wrth ymadael, dywedai ef y deuai drachefn nos dranoeth, yr hyn a ddarfu, pryd y gofynodd os awn gydag ef i'r chwareudy. Gwrthodais, gan ddweyd fy mod yn rhy flinedig, ac aeth Roullier ac yntau allan gyda'u gilydd. Aethum i'r gwely cyn iddynt dd'od yn ol; ond deffrowyd fi gan wylofain Roullier. Gofynais iddi beth oedd yn bod, ac atebodd fod Mr. Wilson wedi digio wrthyf, ei fod ef wedi gwneud pobpeth a allai i'm boddio, ond nad oeddwn i wedi dychwelyd ei garedigrwydd. Chwanegai, Nid ydych chwi am fy helpu yn fy musnes, a rhaid imi gael rhywun a wna." Nid oedd hi, modd bynag, am fy ngorfodi; ond os na wnawn, y byddai raid imi fyn'd adref. Bore dranoeth, gofynodd os awn i allan gydag ef, ac atebais inau nad awn. Yna, meddai, rhaid i chwi fyn'd adre' heno. Aeth allan, a phan ddychwelodd, dywedai fod Mr. Wilson yn d'od i'w gweled. Galwodd y diffynydd am dri yn y prydnawn; a gofynodd ganiatad i fyned i lawr y grisiau gyda < Mrs. Florent-fod arno eisiau siarad a hi ar < fater o fusnes. Pan ddaeth yn ei hoi dywedodd ei bod hi wedi cael yr arian i dalll fy nghludiad gartref. Yr un prydnawn, gofynodd iddi drachefn fyned allan gyda Wilson a chwanegai fod ganddo amryw enethod a'i fod yn dda iawn wrthynt, yn rhoi arian ac anrhegion iddynt. Nododd un eneth oedd yn hoff iawn ganddo, ei fod yn ei chymeryd hi allan ac er hyny, ei bod yn myn'd i briodi yn fuan. Nis gwyddwn yn iawn beth i'w ddweyd. Gadewais Paris y noson hono. Hi a dalodd £2 o gyflog imi, yn nghyda thraul fy nghludiad. Dywedai y cai fy ngweled yn ol pob tebyg yn Llundain, a rhoes imi lythyr at fy mam. Yn mhen diwrnod neu ddau ar ol imi gyrhaedd adref, gwelais feddyg y teulu, yr hwn a adwaenwn er's llawer o flynyddau, a dywedais yr hanes wrtho, ac hefyd wrth fy mam yn ystod yr wythnoi. Ysgrifenais at y ddynes Florent neu Roullier, cyn siarad a'r doctor, a chefais yn atebiad ddau lythyr yn yr un envelope. Yr oedd un yn dechreu— Anwyl Nellie, --Wedi ysgrifenu y llythyr arall, meddyliais hwyrach fod yn edifar genych fy ngadael. Os dymunech dd'od yn ol, yr wyf yn myn'd i Antwerp, ond nis gallaf roddi ychwaneg o gyflog i chwi nes gweled pa beth allwn wneud a chwi. A rowch chwi eich hun yn gyfangwbl yn fy Haw, i wneud yr hyn a fynwyf yn mhob ystyr ? Rhaid i chwi roi heibio rai o'ch rhagfarnau, fel y dywedais wrthych. Y mae gan bob gwlad ei gwahanol arfer- ion, ac nid yw'r byd hwn yn ddim ond ymladdfeydd yn erbyn cydwybod a rhagfarnau." Cyn ateb y Ilythyr hwn, yr oeddwn wedi ym- gynghori a rheddgeidwaid, ac yn ol eu cyfarwyddyd hwy yr atebais ef ar y Sadwrn ar ol y 27ain. Y dydd Mawrth canlynol, cefais ddau lythyr yn yr un envelope eto, un mewn inc a'r llall mewn pensil. Dywedai yn y blaenaf ei bod hi yn Antwerp, a gofidiai na buasai hithau (y dyst) yno a gofynai iddi wrth ateb beidio ysgrifenu ei henw ar y cyfeiriad yn llawn, gan y gallasai fod yn y gwestty eraill o'r un enw ac i gamgymeriad ddigwydd. Yn y Ilythyr arall dywedai nas gallwn i wneud dim heb geisio, y gwyddwn beth oedd ei busnes hi, ac os oeddwn i yn foddlawn y byddai iddi fy helpu i gael lie. Aeth y dyst yn mlaen i ddweyd y drafodaeth a fu rhyngddi hi a r ddynes, hyd nes y cymerwyd Rouilier i'r ddalfa, ac y dedfrydwyd hi i bedwar mis ) benyd wasanaeth. Gan Mr. St. John Wontner: Hi a welsai y diffynydd y bore hwnw yn mysg nifer o ddynion eraill, ac nis gallai ei adnabod. Gan Mr. Avory Yr oedd hyn yn yr ystafell, ond oddiallan hi a siaradodd gyda Inspector Moore wed'yn yn nghylch y dynion a welsai. Cyn belled ag y gallaf ddweyd Wilson oedd y diffynydd. Y gwabaniaeth oedd ei fod wedi gadael i'w farf dyfu. Yr oedd hi wedi adnabod Cadben Verney oddiwrth D1 ,.1;1.1. uucu.uu mewii papur newycid, ac nid oedd ur anmheuaeth nad darlun o Wilson oedd hwnw. Pan adwaenai hi ef, gwisgai Wilson ei wallt fel yr oedd yn y darlun. Yna gohiriwyd yr achos hyd ddydd Gwener, Ebrill 24. Gollyngwyd Cadbea Verney allan tan feichniaeth, ei hunan o £ 5,000, a dau eraill o ZL,OOC yr un.
[No title]
Prynodd Cymanfa Bedyddwyr Norfolk hen gapel i'r Wesleyaid, a rhoddwyd ef tan ofal efengylydd o'r enw Mr. Platten, a chymerodd yntau lety gyda Mr. William Nichols yn mhentref Ringland, ger Norw ich ond cafodd Mr. Nichols rybudd i ym- adael gan y foneddiges berchenogai y ty a'r rhan fwyaf o'r pentref, am roddi llety i'r pregethwr Ym- neillduol, a bu gorfod ar Mr. Platten i gysgu yn y festri am bum' wythnos, a dywed yr Eastern Daily Press fod y capel i gael ei drethu am fod Mr. Platten I wedi byw yn y festri, ac os felly, bydd helyntion yr ^f«ngylwr, fel profedigaetb.au Enoc Huws. yn dilvn 2U gilydd. j
---------------------...-…
DYFFRYN CLWYD. LLWYDDIANT MEDDYG IEUANC. Y MAE yn dda genym hysbysu fod Mr. David Livingstone Davies, mab Mr. David Davies, Free- lands, Rhyl, wedi myned yn llwyddianus drwv arholiad y Royal College of Physicians, Llundain, yr wythnos ddiweddaf. Yn Ionawr diweddaf, pan nad oedd ond 21 mlwydd oed, aeth. drwy arholiad tertynol y Royal College of Surgeons. r Nid yn ami y mae un mor ieuanc yn myncd trwy yr holl arhol- iadau meddygol—ni fethodd Mr. Davies unwaith. Dechieuodd ei efryd eith o ideutu pum' mlynedd yn ol gyda Dr. Barstow Carstairs, Rhyl, ac y mae clod yn ddyledus i'r boneddwr hwnw am yr hyfforddiad rhagorol a roddodd i'w ddisgybl. MARWOLAETH Y PARCH. J. ROWLAND THOMAS. Y mae yr yindrafodaeth a fu yn nglyn a'r boneddwr hwn yn Llys y Methdalwyr yr wythnosau diweddaf wedi gwneud ei enw yn adnabyddus i holl ddarllen- wyr y Gymro. Y mae yn drwg iawn genym hysbysu ei fod wedi ei alw i roddi cyfrif o'i oruch- wyliaeth mewn Ilys uwch. Bu farw ddydd Sul. Yr oedd gan Mr. Thomas ei ffaeleddau fel y cyffredin o blant dynion, ond yr oedd ganddo ei rinweddau hefyd, a gobeithio mai y rhai hyny yn unig a gedwir mewn cof genym. MARWOLAETH MR. ROYSTON. Bu y boneddwr hwn farw yn sydyn nos Sadwrn, a theimiir colled ar ei ol. Yr oedd yn ddyn tyner a. charedig, ac nid yn ami y ceir cymeriadau felly yn cyllawni y swydd a gyflawnid ganddo ef-casglwr trethi ydoedd. HIRADDUG. CYDNABOD TEILYNGDOD. 'J. Un o'r cyfarfodydd mwyaf dyddorol a fu yn Llanhedr yma er's llawer blwyddyn oedd yr hwn a gynhaliwyd nos Wener ddiweddaf, pan y cyflwynid timepiece hardd a llwyau arian, gwerth tua £ 11 i'r Parch W. P. Owen, B.A unwl y plWyf, ar"i ymadawiad, wedi gwasanaeth hynod o lwydd- ianus am tua dwy flynedd a haner. Pe byddai pob offeiriad a churad, ac esgob ran hyny, mor hynaws at bawb ac ymdrechgar i wneud daioni a Mr Owen, ni a glywem lai o son am Ddadgysylltiad yn y wlad. Y mae hefyd yn bregethwr da yn y ddwy iaith, a'i Gymraeg wedi gwella yn rhyfeddol er pan yw yn y plwyf hwn. Cymerwyd y gadair gan y Rector newydd, Mr Jones (diweddar o Rosllanerchrugog), yr hwn a siaradodd yn dra chymhwys ar amcan y cyfaifod ac anerchwyd y cyfarfod gan Mr Lloyd, y Berth Mr Ash, Caefron- a Mr Denton, Llanbedr Hall, yr hwn a gyflwynodd yr anrheg ar ran y tanysffrifwvr. Diolnhnrlrl Af- Owen mewn araith ddestlus am y rhodd a'u harwydd o'u hewyllys da. Yn ystod y cyfarfod, canodd Mrs Denton un gan, a. Master Denton ddwy, yn dda iawn a chyfeiliwyd gan Miss Cowen a Mr Arthur Jones, organydd yr Eglwys. Diweddwyd trwy i'r gynulleidfa Iuosog ganu yr hen don Hudclersfie'd, yn nghyda gweddi gan y Rector. DAMWEINIAU. Anfynych o drugaredd y gelwir arnom i groniclo cynifer o ddamweiniau angeuol mor agos i'w gilydd ag a ddigwyddodd yma o fewn yr ychydig ddydd. iau diweddaf. Dim lIai na thair. Yn Mhenyrhen- goed, fferm yn mhwyf Llanfwrog, lladdwyd yn o'r enw Shadrach Hughes, trwy iddo gael cic gan geffyl yn ei ben tra yn crymu i fyned o'r naill ystofa i'r llall yn yr ystabl. Dyfarnodd y rheith- wyr ar y trengholiad mai damwain hollol ydoedd. Yr ail anffawd a ddaeth i fachgen 16 oed o'r enw John Gardiner, yr hwn oedd yn brentis o argraph- ydd gyda Mr Lewis Jones, Rhuthyn, ac yn fab i Mr John Gardiner, Llanfair. Prydnawn ddydd Iau cyn y diweddaf, aeth gyda dau gyfoed allan i chwareu cricet mewn cae gerllaw y dref. Efe oedd yn bowlio, a tharawodd y belen ef yn ochr ei ben nes syrthiodd i lawr. Helpiwyd ef i godi, ac wedi ei osod i bwyso yn erbyn gwal, daeth ato ei hun yn go lew yn mhen rhyw ddeng mynyd, ond ei fod yn teimlo'n syfrdan. Yr oedd yn abl i gerdded gartref, pellder o tros dwy filldir o ffordd, y noson hono gyda help ei gymdeithion. Fore Sul, cwynai wrth ei fam fod ganddo waew mawr yn ei ben, a nos Sul bu farw. Gan na thybiai ei rieni fod perygl, ni ddanfonwyd am feddyg. Yn y trengholiad, dywedai'r crwner y rhaid fod yr ergyd a gafodd gan y belen wedi niweidio ei ymenydd ac nad oedd ei dad a'i fam yn meddwl ei fod mor ddrwg, onide mae'n siwr y buasent wedi ceisio meddyg. Cydsyniai'r rheithwyr,a rhoisant ddedfryd mai achos y farwolaeth ydoedd ysgytiad yr ymen- ydd a achoswyd gan darawiad pelen gricet. Bu y clrydedd ddamwain i John Cleaver, is gipar i Mr Hughes, Kinmel. Cafwyd ef yn ei ystafell wedi marw, y gwn wrth ei ochr, ac archoll ergyd ar ei fynwes. Nid oedd ond mis er pan ddaethai i wasanaeth Mr Hughes. Tybir iddo godi i saethu'r brain oedd yn cadw swn o gylch ei ystafell ac yn ei gadw ar ddihun bob bore, ac i ergyd o'r gwn, yr hwn oedd yn hen, fyned allan yn ddamweiniol. Dyna hefyd oedd barn y rheithwyr. Yn ol yr hyn a glywais heddyw, ni fu hi ddim ond cael a chael na chawswn hanes rhyw anffodion dychrynllyd eraill i'w cofnodi o'r hen Ddyffryn tawel yma. Cyfarfu ynfydion Dinbych a ffyliaid Colwyn Bay am y drydedd waith yn Llanelwy ddydd Sadwrn diweddaf, i ymryson yn mh'run o'r ddau le yr oedd y mulod mwyaf, neu y ciciwrs pel droed goreu-yr un fynoch chwi. Dinbych a enillodd, feddyliwn, gyda n 3 goal yn erbyn 2." Nid wyf yn sicr beth yw ystyr goal yn y fan yma, ac nid oes genyf eisiau gwybod ond mi aeth gwell yr hoil griw i'r gaol ganwaith, a'u callach nhw i Seilom Dinbych hefyd. Cyn diweddu, bu agos iawn i'r cwbl fyn'd i ymladd a'u gilydd a thywallt gwaed. Allai llabystiaid segur fel hyn ddim cael. tipyn o waith garddu yr amser yma o'r flwyddyn, tybed? Fe wnai hyny rhyw les, a byddai yn gystal exercise, chwedl hwythau, a dadgymalu eu pedion, a chorddi eu hymenyddiau bychain wrth gicio pel droed, ac yn annhraethol fwy cydweddol ag urddas creadur rhesymol. Yr oedd yr elw oddiwrth y Bazaar Wesleyaidd a gynhaliwyd yn Rhuthyn yr wythnos ddiweddaf yn £ 130. CLYWEDOG. -:0:-
COLEG NORMALAIDD BANGOR.
COLEG NORMALAIDD BANGOR. GYNHALIWYD cyfarfod blynyddol y cyfranwyr a'r tanysgrifwyr yn y Colegdy, ddydd Mawrth, Ebrill 14, ac yr oedd yn amlwg oddiwrth luosogrwydd y cynulliad fod rhyw atdyniad anarferol yn y gweith- rediadau. ETHOL CADEIRYDD. Cynygiodd Mr. H. Lloyd Jones, ac eiliodd Mr. W. J. Parry, fod Mr. J. Bryn Roberts, A.S.,i gymeryd y gadair. Cafwyd dadl faith ar y cyfan- soddiad, ac yn y diwedd dywedodd y Cadeirydd fod hawl gan bob tanysgrifiwr bona fide am y flwyddyn bresenol i bleidleisio, ond nid rhai wedi eu gwneud o bwrpas erbyn y cyfarfod hwnw. Mr. T. Marchant Williams a ddywedai ei fod ef yn credu na ddylid cymeryd rheoleiddiad y gadair ar Rheol 2. (Gwaeddi uchel gadair, y gadair.") Treuliwyd tua awr a haner i ddarllen enwau y cynrychiolwyr (proxies). Mr. Henry Lewis a ofynodd gwestiwn am yr hawl i bleidleisio yn bersonol lieu trwy gynrychiol- ydd, a darllenodd y Cadeirydd Rheol 4, yr hon a ddengys y gellid by proxy ond cael awdurdod ysgrifenedig, ond naa gallai yr un person wneud dros fwy na thri yn yr un cyfarfod. Yna cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol, ac wedi ei feirniadu yn fanwl gan amryw o foneddigion a'i gyfnewid i raddau, a basiwyd yn unfrydol argynyg- iad Mr. Herbert Robei ts, ac eiliad Mr. Edward Griffiths. ETHOL PWYLLGOR LLYWODRAETHOL. Yr oedd yn amlwg fod dyddordeb mawr yn cael ei gymeryd yn etholiad y Pwyllgor Llywodraethol. Penodwyd Mri W. Cadwaladr Davies, H. O. Hughes, Herbert Roberts, a G. J. Roberts, i adchwilio y pleidleisiau. Cynygiwyd lluaws o enwau, a gwrthwynebwyd arnryw am fod y tanysgrifiadau yn dod o'r eglwysi, ac ereill am fod y tanysgrifiadau hebjeu talu, a dywedai y Cadeirydd nad oedd sail digonol i wrthwynebu y blaenaf. Mr Henry Lewis a ddywedai ei fod ef yn dymuno gwrthdystio yn y modd mwyaf penderfynol yn erbyn y ffordd yr oedd tri-ar-ddeg o foneddigion wedi cael eu cynyg gan yr un person; deg o ba rai oeddynt yn Fethodistiaid, ac yr oedd ef fel Methodist yn protestio yn erbyn. Y Parch Owen Hughes A yw ef mewn trefn, Mr Cadeirydd ? (Llefau o Nag yw "a Y Gadair "). Os oes gormod o Fethodistiaid byddaiyn well i Mr Lewis roddi ei le i fynu. (Clywch clywch, a chymeradwyaeth). Mr Lewis Yr wyf yn galw arnoch i ystyried. (Llefau uchel "Ni a wnawn," a chynwrf cyffred- inol). Bu raid i Mr Lewis eistedd i lawr cyn cael trefn; a dywedai wrth eistedd, "Y mae hyn yn urSl.t.hl1<: 93 Major Savage Y mae yn beth gwarthus. Am ugain mynud i saith cyhoeddodd y Cadeirydd mai y personau canlynol oedd wedi eu hethol:—y Parch. T. Roberts, Bethesda Mri. Richard Davies, Treborth; W. Bayne E. Griffith, Dolgellau; Morris Jones, Dolgellau W. J. Parry, Parch. E. H. Evans, Morris Owen; John Williams, Moss Bank, Parch. Owen Owens, Lerpwl; Richard Davies, Bethesda Hugh Owen, D. Edwards, Caer- narfon; John Hughes, Portdinorwic Parch. W. R. Jones, Caergybi; Norman Davies, Parch. Owen Hughes, G. J. Roberts, Parch. Owen Jones, Taly- Barn Thomas Williams, a'r Parch. D. Charles Davies. Mr. T. C. Lewis a gyfeiriai at sylwadau Mr. H. Lewis, ac a ddywedai mai y rheswm nad oedd mwy o'r enwadau eraill ar y pwyllgor oedd absenoldeb personau cymhwys o'r cyfarfod, ac nid unrhyw am can arall. Diolchwyd i'r Cadeirydd ar gynygiad y Parch. T. Roberts, ac eiliad Mr. Harrison Jones, ond sylwai y Cadeirydd mai y ffordd oreu i ddangos diolch- garwch oedd ei ryddhau o'r gadair wedi bod yno yn eistedd am wyth awr. ETHOL LLYWYDD. Cyfarfyddodd y Pwyllgor Llywodraethol yn uniongyrchol tan lywyddiaeth Mr. Bryn Roberts, A.S., ac wedi ail-ethol Mr Herbert Roberts yn drysorydd, Mr Bulkeley Price yn ysgrifenydd, a Mri W. Pughe a J. Lloyd yn archwilwyr, ac ethol pwyllgor y ty, a darllen llythyr maith o Swyddfa Addysg, Mr Henry Lewis a sylwai fod yr Education Department yn rhyddhau y pwyllgor i raddau pell o fai, ond yn beio y myfyrwyr; ac yna darllenodd adroddiad y pwyllgor fu'n dethol yr ymgeiswyr am y lIywyddiaeth, yr hwn oedd wedi dewis chwech ■o'r un-ar-bumtheg i ymddangos gerbron y pwyllgor, sefMri E. K. Evans, M.A., Prifysgol Glasgow; John Price, is-lywydd Coleg Normalaidd Bangor; F. W. Lucas, M.A., B.Sc., Leeds; J. F. Davies, M.A., D.Lit., Llundain W. G. Constable, B.A., B.Sc., Derby; E. G. Baker, B.A., is-lywydd Coleg Caerfyrddin. Wrth ystyried y cwestiwn pa beth ddylid ofyn i'r ymgeiswyr, Mr T. Marchant Williams a ddywedai y dylid gofyn iddynt pa un a oeddynt yn Fethodistiaid Calfinaidd ai peidio. Y Parch. Owen Hughes a ddymunai brotestio yn erbyn ensyniadau Mr Williams. Nid hwn yw y tro cyntaf iddo ddefnyddio y sylw yna. Y Cadeirydd Credwyf fod y sylw i raddau allan o le. Parch. W. R. Jones Cwynai rhai cyfeillion yn y prydnawn at sylwadau Mr. Williams. Mr T. M. Williams Yr oeddynt yn berffaith deg. Mr D. Edwards, Caernarfon 0 gan eu bod yn d'od oddiwrth Mr Williams, credwyf nad ydynt yn deilwng o sylw. Yna galwyd yr ymgeiswyr gerbron a chafwyd nad oedd ond Mr Price a Mr Evans yn medru siarad Cymraeg. Mr. Edward Griffith, Dolgellau, a gynygiodd Mr. John Price, yr hwn, meddai, a gefnogid gan fwy na 250 o'r hen fyfyrwyr. Mr. Edward Jones (Brynmeirion) a gefnogodd y cynygiad. Mr. Richard Davies (Arglwydd-Raglaw Mon) a gynygiodd Mr. E. K. Evans, er mwyn codi safon y coleg. Mr. G. J. Roberts a eiliodd y cynygiad. Cefnog- wyd gan Mri. H. B. Price a T. M. Williams; a chefnogwyd etholiad Mr. Price gan y Parch T. Roberts a Mr J. Williams, Lerpwl, a chafwyd fod 21 o blaid Mr. Price, a 13 dros Mr. Evans. -o— Ymunodd y Parch John Thomas, B.A., Hudders-
o NANT CONWY.
o NANT CONWY. CYFRIF Y COGOD." FEL yn mhob man bu cyfrif yn Nant Conwy, ac yr wyf yn credu y ceir fod nifer y trigolion wedi lleihau yn fawr er y cyfrif blaenorol ddeng mlynedd yn ol. Mae hyny i'w briodoli nid i ddiffyg cariad at yr enedigol fro, nac unrhyw ddiffyg aros gartref i dreulio bywyd, ond i ddiffyg y moddion cynhal- laeth. Cyfyng ydyw y lie hwn, a I I d'od le fel y preswylwyf ydyw iaith pobl o byd. Ceir trigolion ardal y gog wedi lleihau tros ddau gant. Mil a deg sydd yma yn awr, tra yr oedd yma ddeuddeg cant a phedwar ugain a phump yn adeg y cyfrif blaenorol. Mae hyny yn lleihad o fwy nag un o bob chwech, fel y gwelir-lleihad mawr iawn lie y mae y trigolion mor deneu. Nid ellir cynhal dyn, nac anifail, nac un math o fywyd heb foddion cyn- haliaeth. Mae llawer o leihad hefyd wedi cael ei ddwyn oddiamgylch oherwydd bod amryw fin dyddynod wedi cael eu huno at dyddyn neu dy- ddynod eraill. Mae yr arferiad hono yn parhau i gynyddu, fel y mae tebygolrwydd y bydd ardal y gog fel yr oedd ar y cyntaf-yn ddim mwy na llai na phedwar tyddyn. Dyma eu henwau i chwi:— Hafotty Mur Coch, y fan lie y bu y faelfa gyntaf yn yr ardal; Hafotty Llwyngrenig, Hafotty Gwen- Iliain, a Hafotty Bryngyll. Nid oedd yma yr adeg hono yr un Hendref, ond hafdai oedd yr oil, ac y mae lie i ofni y daw y fangre i'r un ystad eto cyn diwedd hyn o fyd. HEN Dy DYDDOROL. Ar Etifeddiaeth Gwydir, fel y mae yn hysbys, y ™ yrhcn anedd-dy lie bu y diweddar frodyr John, Dafydd a William yn treulio dyddiau eu mabolaeth. Daeth un yn hysbys ar ol hyny fel John Jones, Talsarn, y llall fel Dafydd Jones, Treborth, a'r trydydd fel William Jones, Welsh Prairie, America. Gan fod awydd canmoladwy y dyddiau hyn i anrhydeddu coffadwriaeth y rhai cynawn, ysgrifenodd brawd gwladgarol o Dol- yddelen at Mr Peter McInyre, goruchwiliwr Etifeddiaeth Gwydir, yr hwn gyda'i foneddigeidd- rwydd a'i ryddfrydigrwydd arterol a atebodd fel y canlyn :—" I do not know what Cottage it is you refer to. You can show it to me when I am in the village, and I will then authorise you how to move in the matter of having it repaired.—Yours truly, PETER MCINTYRE." Dyma yr oil a ellir amlygu ar hyn o bryd. Os y deuir i'r penderfyniad o'i adgyweirio, dylid gofalu am ei gael mor debyg ag y gellir fel yr oedd pan oedd yr enwogion yn blant, neu nid hen gartref meibion Tan y Castell a fydd o gwbl. Gwir i hen dy Dr. Morgan yn Ewybrnant gael ei adgyweirio gan Arglwydd Penrhyn, ond wfft y mae ei Forganiaeth wedi ei andwyo yn llwyr. Cauwyd i fynu yn hollol yr hen gilfachau lie y dywedid yr arferai Cadwgan-y. mynach Pabaidd enwog ac athraw Morgan ieuanc-ymguddio pan dan erledig- aeth, a lie bu y Dr. ei hun lawer awr pan ar ffo yn nyddiau Mari Waedlyd. ELLIS O'R NANT. o
[No title]
Cynhelir Cymanfa Gyffredinol gan Undeb Cerdd- orol Bedyddwyr y Gogledd, yn y Pavilion, Llan- duclno, Mai 11, tan arweiniad Mr W. T. Samuel, Abertawe. Yn ol bras-ddysgrifiwr yn y British Weeklyt y mae y Parch Hugh Price Hughes yn enyn cy- maint o frwdfrydedd ar y llwyfan Rhyddfrydol ag mirhyw arweinydd oddigerth Mr Gladstone.