Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
THE TEA q^RADE, i i 1 DARKER QTREET, 9, b LIVERPOOL. The Board of T, ade returns for December and January show a deficit in the Stock of Tea. from India, China, an Ceylon of over 25 million pounds this, with the increased consumption, has caused an advance of 2d. per lb. on low- priced Teas, bring ng them on a level with FINE TEAS. In November, when the market was offering excellent value from the best Tea districts, we made very extensive contracts on most favourable terms and are giving our Customers the Full Benefit of these purchases. We beg to call Special attention to our SUPERIOR INDIAN TEAS at 1/7 and 19 per lb. 230, GRANGE ROAD, BIRKENHEAD. BRANCHES j 6Q' BASTBANK ST., SOUTHPORT. T HOS. JONES AND COMPY., TEA IMPORTERS. 67 SPANISH TAUGHT BY Correspondence at 2;- per Lesson; also in Class or privately. Trail ola h oaf. PROFESSOR GINTY'S School for Languages, 66, UPPER HOPE PLACE, LIVERPOOL E. F. BLAKELEY and CO., Iron Roof & Church Builders, 27 &29 HA HON GA RDEN, LIVERPOOL Corrugated Curved Iroh Mer Qir CAST JRON COLUMNS Jill Manufacturers of Iron Koofs and Buildings for Hay Sheds Shippons, Granaries, and Farm Buildings generally. Roofs over Works of every description and for every purpose. Iron Buildings, Churches, etc., for Home and Abroad. Galvanized Corrugated Iron Sheets. Estimates Free on Application. Telegrams-" CODnCGATED, LI VERPOOL." The West of England Clotli Establishment. (Established 1856.) OWEN & WHITTINGTON, 9, SCOTLAND PLACE, BYROM STREET. YR HEN FASNACHDY mwyaf adnabyddus yn Lerpwl, Cymru, a rhanau helaeth o America, am YBRETHYNAU OREU. TORIAD I 1 OREU. GWNEUTHURIADl -toreu. FFIT OREU. Ac am y Prisiau mwyaf rhesymol. DEUWCH A GWELWCH.
-0-NODIADAU 0 LAN Y TAFWYS.
-0- NODIADAU 0 LAN Y TAFWYS. [GA.N UN O'R GWYBODYDDION.] Llundain, Nos Fawrth. ATHROFA GYMREIG. Ni fydd cyfundrefn Addysg Cymru yn gyflawn hyd nes. y sefydlir Athrofa-Prifathrofa-ar lineliau unol ag anianawd y genedl. Y mae y peth yn y gwynt er's tro ac er nad yw eto wedi cymeryd gafael tyn yn y werin, y mae y syniad yn cynyddu. Yr unig ffordd i ddwyn y syniad i bwyut ymarferol yw i garedigion addysg ddilyn cynghor byr ond cynwysfawr yr lanci-keep pegging on. Rhyw gnoc ar yr hoelen yn y cyfeiriad hwn ydoedd cyfarfod diweddaraf y Cymmrodorion. Pobl yw y rhai'n ag y mae cryn lawer o feio arnynt, ond pobl ydynt er byny a geir bob amser yn lied agos at y blaen gyda phob symudiad i wella addysg ac i ddyrchafu lien yn Nghymru. Traddodwr y cyfarfod ydoedd y Proffeswr T. F. Roberts o Goleg Caerdydd, un o'r bechgyn goreu a fagwyd erioed yn ein colegau cenedlaethol. O'r gadair llywyddai Mr E. Rowland Jones, consul yr Unol Daleithau, a phen llywydd y Gymdeitbas Gymmrodorol yn Nghaerdydd. Ofn penaf Proffeswr Roberts ydoedd nid na cheid Prif- athrofa yn mhen amser, ond ofn i'r Athrofa hono droi allan i fod yr un peth neu rywbeth yn lied debyg i Athrofa Llundain. Baich ei ysgrif bwysfawr ac ystyrgar ydoedd y rhaid i'r Athrofa Gymreig, cyn y cyfarfyddai ag anghen- ion dyfnaf ein cenedl, fod yn sefydliad nid i arholi ond i ddysgu. I'r amcan hwn mynai uno y tri choleg eenedlaethol a ffurfioBwrdd Athrof ol i drefnu ewrs addysg plant Cymru ar linellau tneddiad a dyhead y genedl. Yn ol cynllun y Proffeswr byddai raid i holl raddwyr yr Athrofa fod yn ddisgybl trigianol yn un o'r colegau cenedlaethol, a chan belled ag yr wyf yn deall ni chaniata i ddisgyblion y colegau duwinyddol nac i efrydwyr preifat gystadlu am raddau heb fyned drwy holl gwrs addysg y prif golegau. Mae'n ddigon tebyg mai nid hyn fydd barn pawb y pwnc pwysig yw cael trafodaeth gyflawn ar y mater fel y penderfynonr beth yw ein hangen a pha fodd i'w gyfarfod. —• x — GOLYGWYR DAN ANFANTAIS. Gyda'r rhifyn Ebrill y mae Cymru Fydd, sef Cylchgrawn y Blaid Genedlaethol, ys dywed yntau, yn terfynu ei oes yn y gobaith o adgyfod- iad gwell o dan enw newydd. Dechreuodd ei fywyd ystormus o dan reolaeth Adfyfyr, a gwreichionodd yn chwyrn am rai misoedd. Gt sodwyd ef ar ol hyny o dan ofal magol y Parch R. H. Morgan o Fenai Bridge, a Mr Owen M. Edwards, Rhydychen, a disgwyliem dyfiant a dadblygiad mawr. Ysgrifenodd awdwr "Tro yn yr Eidal" lawer o'i bethau doniolaf iddo. Traethodd ei gydolygydd wirioneddau chwerwon o dro i dro. Ond ni thyciai y melus na'r miniog i .wrthio Cymru Fydd yn mhell i'r dyfodol. Yn y rhifyn dan sylw y mae y ddau olygydd yn canu ffarwel a'u hen ddarllenwyr. Ynddengys dipyn yn fod y naill a'r llall yn ymwrthod fel ymborth llenyddol A'r ,t politics ag y tybid oeddynt wrth wrai ld bywyd y cylch- grawn. Ychydig iawn o gydymdeimlad sydd gan Mr Owen Edwards hefo "syniudiadau troellog ac annisgwyliadwy pleidiau politicaidd y dydd," ac uid yw Mr Morgan "erioed wed i credu mai politics yw y penaf peth, na bod bywyd a chadernid cenedl yn dibynu ar ei pholitisians." Ac yn hyn o beth y. mae teim- ladau yr ysgrifenydd presenol yn cydfyned 4 hwy i ben eithaf y tenyn Mae'r dydd yn dyfod —o leiaf ni a obeitbiwn hyny-pryd y bydd gwladgarwch Cymru yn lletach na'i pholitics, a'i chenedlaetholdeb yn cyrhaedd yn mhellach na therfynau pellaf pob plaid. Dymunol iawn i'n golwg ni yw antlmaeth newydd Mr Owen Edwards bwriada gyhoeddi misolyn (fe'i hargrephir yn Nghaernarfon) a wna rywbeth dros Hanes a Llenyddiaeth Cymru, misolyn a wna ryw fymryn tuag at godi'r hen wlad yn ei hoi" o flaen llygaid Cymry'r dyddiau hyn. Pwy na eiddunai i gyhoeddiad o'r fath Illwedda?" — x — MR SAMUEL EVANS. Parhau i enill clod ac i esgyn ysgol llwyddiant y mae ein cyfaill Mr Samuel Evans, gynt o'r Rh os. Hysbysaisdroynoleiddyrehaifadfelun o arolygwyr yr Imperial Ottoman Bank yn Constantinople. Yn awr, ar daer ddymuniad un o uchel swyddogion gwlad Persia, y mae Syr Edgar Vincent wedi caniatau iddo fyned am chwe' mis i Teheran i wneud ymchwiliadau a threfniadau i fasnach frenhinol y tybaco yn y wlad hono. Mae'r swyddogaeth yn un bwysig ac yn un ag elw iddi. Rhwydd hynt i Mr Evans Rhyw ddydd fe ddaw'n ol yn ddyn rhydd ac yn ddyn cyfoethog i wasanaethu y wlad fechan a gar yn fwy na holl wledydd y Dwyrain-gwlacl ei enedigaeth- Cymru.
-0--, Materion Arianol Mr.…
-0-- Materion Arianol Mr. G, W. Taylor. DYWED The Age (newyddiadur newydd ein cyr- haedd), Awstralia, am Mawrth 14, fod achos Mr. G. W. Taylor wedi bod tan sylw y Barnwr a'Becketty diwrnod blaenorol yn y Practice Court, ar sail gw £ s 0 foreign attachment. Gwysiwyd Mr. G. V. Taylor gan Mr. Michael William Ferguson, fel gwneuth. urydd naw gaddaweb (promissory notes) am y cyfanswm o ;619,494. Gwnaed yr addawebau yn ffafr Ferguson, Thomas Alston a L, J. Payne, a chefnysgrifi-, yd (endorsed) hwy gan y ddau olaf i Ferguson. Dychwelodd y wys a gymerwyd allan gan Ferguson yn wag. Am fod Taylor allan o'r drefedigaeth cafwyd writ o foreign attachment Chwef. 17eg, yn gafael yn y cyfryw o eiddo Taylor oedd tan awdurdod yr Australian City a'r Suburban and Investment a'r Banking Company Limited, the Mercantile Finance Trustees and Agency Company Limited, a Frederick Palmer. Daeth y mater yn awr o flaen y llys yn y wedd o arholiad ar gyfar- wyddwyr y ddau gwmpeini, ac ar Palmer aFerguson. Dywedai yr olaf iddo werthu eiddo yn Preston i Taylor am E130,000, a bod tua j £ ic0,000 o'r swm yn awr yn ddyledus. Holwyd Palmer wedi hyn fel rheolwr yr Australian City a'r Suburban Company. Dywedodd i Taylor yn 1888 gytuno i werthu i Mr A. Deakin, M.L.A., a Mr James Bell, M.L.C., fel ymddiriedolwyr i'r cwmpeini oedd y pryd hwnw yn cael ei ffurfio rhyw 70 neu 80 o wahanol diroedd, yn y rhai yr oedd ef yn gyfranog am £ 3,850,000. Yr oedd y cwmpeini i gymeryd drosodd ei holl gytundebau, ac i dalu iddo ef y swm o £ 100,000 mewn arian o fewn saith niwrnod wedi cofrestru y cwmpeini, £ 133,000 mewn 21 o ddyddiau, £ 100,000 mewn tri mis, a £ 133,000 mewn chwe' mis. Yr oedd hefyd i roddi iddo ef 9u0,000 o gyfranau punt yr un wedi eu talu yn gyflawn yn y cwmpeini. Yr oedd y gweddill i'w dalu trwy ymgymeryd a chyfar- fod a chyfrifoldeb cytundebau oeddynt y pryd hwnw heb eu gorphen gan Mr Taylor ond fod y swm o £ 500,000 i fyned i'r reserve fund, a £ 50,000 i fyned i'r special reserve fund. Yr oedd Taylor mewn dyled fawr i'r Mercantile Finance Company, ac o ganlyniad talwyd y ddau swm o Zloo,oOO a 4133,000 i'r cwmni hwnw gan yr Australian City a'r Suburban Company, ac aethant i leihau dyled Taylor i'r blaenaf. Yr ail symiau o £ 100,000 a £ 133,000 a dalwyd mewn biliau, y rhai a gyfarfyddwyd, ebai Palmer, pan yn ddyledus. Gwnaed cytundeb arall gan Mr Taylor gyda'r Australian Company a'r Suburban Company, Tachwedd 14, 1888, trwy yr hwn y tynodd allan ran o'r eiddo yn y cytundeb cyntaf, ac y gostyngwyd pris y pryniad ar gyfartaledd. Cafodd y cwmpeini wneud fel y mynai ai caniatau hyn ai peidio, a chydsyniodd Tachwedd 28, 1888. Y canlyniad o hyn oedd lleihau gwerth yr eiddo a gymerwyd gan y cwmni i £ 1,600,000. Dilewyd yr ysgrif am y 900,000 cyfranau a safent hyd yma yn enw Taylor, a'r canlyniad wedi y cyfnewidiadau hyn oedd fod Taylor mewn dyled i gwmpeini yr Australian City a'r Suburban am 9449,000. Mr. Palmer, yr hwn sydd yn gyfreithiwr awdur- dodedig i Mr. Taylor, a holwyd nesaf. Dywedai ef fod y cyfrif yn y Commercial Bank yn dangos ychydig o bunoedd yn ffafr Mr. Taylor, ond fod ail gyfrif yn enw Palmer, yr hwn mewn gwirionedd oedd Taylor, yn dangos dyled o £ 2,700. Yr oedd wedi ei sicrhau gan ddarnau o dir yn Preston, gwerth tua 61,500 11 acr yn Sandy Point, gwerth tua ZIOO dau ddarn ar ystad Devonshire, £500 a thir arall gwerth 9200. Nid oedd gwerth pres- enol y tiroedd yn gyfartal i swm y ddyled i'r ariaD- dy. Er pan dderbyniodd y wys i atafaelu, yr oedd wedi cael f,200 ar ran Taylor, ac wedi talu f,300 neu £ 400. Talodd ei hun £83 6s. 8c. y mis o gyflogau, a zC75 y mis i dri clerc. Gohiriwyd yr achos i ddyddiad i'w benodi eto, Ymddangosai Mr. Bryant dros Mr. Ferguson a'r ddau gwmpeini, a chynrychiolid Palmer gan Mr. Phillips.
o Newyddion Cymreig
o Newyddion Cymreig Prydnawn Sul, cyfarfu nifer mawr o weithwyr ar y reilffyrdd yn Ngwrecsam er ystyried oriau eu llafur, yn enwedig gweithio ar y Sul. Nos Sul, yn Rhyl, bu farw y Parch. J. Rowland Thomas, yr hwn a fu unwaith yn ficer Rhosesmor. Rai blynyddau yn ol, rhoes y ficeriaeth hono i fynu gan ddyfod i fyw i Rhyl, lie y bu ganddo law mewn amryw anturiaethau y rhai a droisant allan mor aflwyddianus fel y gorfodwyd ef rai wythnosau yn ol i geisio nawdd Llys y Methdaliad. Bu am ysbaid yn aelod o Fwrdd y Dirprwywyr, ac efe oedd eu cadeirydd flwyddyn neu ddwy yn ol. Bronchitiq oedd afiechyd Mr. Thomas brodor ydoedd o Lan- fechain, Maldwyn ac y mae iddo amryw frodyr yn drapers yn Lerpwl.
---_----COLEG NORMALAIDD BANGOR
COLEG NORMALAIDD BANGOR DA a doeth, yn ddiau, oedd gwaith awdur- dodau Coleg Normalaidd Bangor, ddydi Gwener diweddaf, yn dewis Mr. John Price yn brif-athraw eu sefydliad, fel olynydd i'r Parch D. Rowlands. Wedi gwasanaethu y coleg fel is-athraw cyhyd o flynyddo-dd gan enill parch a serch y to ar ol to o'i efryd- wyr, wedi enill safle anrhydeddus iddo ei hun yn marn y cyhoedd, a chadw yn ddi- lychwin yr ymddiriedaeth a roddwyd yn ei ddwylaw gan awdurdodau y coleg, beth arall mewn gwirionedd allesid wneud ? Yr unig gwyn a glywsom e. ioed yn erbyn Mr. Price oedd ei fod yn ymyraeth a pholitics. Cyfyd dau ymholiad oddiar y cyhuddiad hwn. A ydyw llanw swydd neu swyddau neillduol yn amddifadu dyn o'i freintiau fel dinesydd ? Ac os ydyw, a oedd swydd Mr. Price yn un o'r cyfryw ? Ein cred ni ydyw ei b'd.-am fod tuedd yn hyny i wneud y swyddog yn was i'w argy- hoeddiadau politicaidd yn hytrach nag i'w ddyledswyddau cynhenid i'r graddau y boddia ei blaid ei hun, y digia y blaid wrthwynebol, ac yr enyn eu dygasedd (y mae cashau yn rhan fawr iawn o wleidydd- iaeth) nid yn unig tuag ato ei hun ond hefyd y sefydliad a wasanaetha. Ac os cymerir yr holl amgylchiadau i ystyriaeth, megis chwerwder yr ymbleidiaeth wleid- yddol yn Mangor er pan y mae'r ddinas fechan a phrydferth yn Gorphoraeth, a'r rhan flaenllaw a gymerth Mr. Price yn yr ymrysonfa (canys dyn o ddifrif ydyw ef gyda phobpelh, a'i alluoedd yn ei ddodi yn naturiol ar y blaen) y gred gyffredinol yw mai gwell a fuasai iddo gadw oddiwrth y trybestod politicaidd. Ond wedi caniatau fod cryn lawer yn y cyhuddiadau hyn a ddygid yn erbyn Mr. Price fel is-athraw, pa le y bu ei gyhudd- wyr selog asiaradus ddydd Gwener diwedd- af heb atal ei rusedd ? Paham na alwasent ef i gyfrif yn rhai o'u cyfarfodydd blaenorol? A ellir goddef yn ymddygiad is-athraw yr hyn nis gellir yn y prif ? Ebe Theodore Hook yn ei arawd ysplenydd,- Os llygr- wyd Daniel Webster, onid gan eich moethau a'ch anwes chwi, O! Fostoniaid hunain- gyfiawn, y gwnaed hyny?" Tybier fod y penodiad fel arall, a Mr. Keri Evans yn cael ei ddewis yn lie Mr. Price, y fath esiampl a gawsem o anniolch- garwch brwnt a dybryd,a buasai yn ddinystr i'r coleg am haner canrif-yn wir, hwyrach am byth. Gobeithio hefyd nad oes dim sylwedd yn y bygythiad a wnaed yn y cyfarfod, a'r gair fu ar led wedi hyny, sef y gwneir ymgais i ddirymu gweithrediadau y cyfar- fod, ac felly benodiad Mr. Price, oherwydd fod yno afreoleidd-dra yn y pleidleisio. Dywedai Mr. Rowlands mai dyna a fu yr arferiad er's blynyddau yna paham y rhaid codi ystwr yn ei gylch eleni? Gwneler pobpeth mewn trefn ar bob cyfrif ond y mae plentyneiddiwch y bygythiad yn awr, wedi colli'r chwareu, yn rhy amlwg. Er mwyn pob dynoliaeth, bellach bydded a fu a fu. T. --0--
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. YCHYDIG amser yn ol, cawsom bamphled Saesneg ar y Pwysigrwydd o arft"r y moddion goreu er Lledaenu Socialism." Defnyddiwn Socialism, am nad oes eto, hyd y gwyddom, air Cymraeg hysain a cbwbl gyfystyr iddo wedi ei fathu. Papyr ydyw'r traethodyn a ddarllenwyd gerbron Cymdeithas Ffabiaidd Manceinion a'r gymydog- aeth (Manchester and District Fabian Society), yn Chwefror diweddaf, gan ein cydwiadwr llenyddol Mr. R. J. DERFEL Fel pobpeth o waith Derfel, y mae hwn wedi ei ysgrifeuu yn eglur, (iiamwys, ac yn ddatganiad o farn onest yr awdwr. Ceir yma luaws o gynghorion a rhybuddion pa fodd i hyrwyddo symudiad, bron na ddywedem crefydd, newydd. Rhydd y dadleuwyr o'i phlaid ar eu gwyliadwriaeth rhag defnyddio geiriau annghyfiaith a thermau estronol wrth egluro eu syniadau, ac yn benaf oil i ochelyd eithafion, a chydnabod ffeithiau. Dywed fod yn rhaid iddynt wrth amynedd a dyfalbarhad, canys nid ar unwaith, nac yn wir mewn oes, y gellir trawsnewid hen arferion a hen feddylddrychau cymdeithas; acyn mhellach, fod yn rhaid iddynt weithredu-gwneud eu hoi -na wnai siarad yn unig mo'r tro. Geilw arnynt i aberthu hunau, ac i ddodi bywyd a brwdfrydedd yn y symudiad. Yn iaith yr ys- grifenydd, We must have the coolness of the Saxon in argument, and the fire of the Celt in oratory, to make the movement successful. The harvest is great, and the workers are few. Our cause is noble and good, and must ultimately win." Dyna eiriau calonogol maes-lywydd ffyddiog yn yr olwg ar fuddugoliaeth. OND beth yw Socialism ? Rhaid cydnabod nad yw Mr. Derfel yn rhoddi odid i ddim goleuni arno yn y traethodyn hwn-yn wir testyn y Papyr ydyw, nid beth yw, ond pa fodd i'w led- aenu. Beth ydyw, yn nghyntaf, yn Nghymraeg ? Cydfeddianaeth hwyrach ydyw'r goreu o'r nifer geiriau a geir gan y Canon Silvan Evans, er nad yw, mae'n sier, yn ddigon eang i orchuddio ystyr y term Seisnig. Ond i ba ddyben y ceisir cyf- ystyr i air fel Socialism, sydd yn cyfleu cynifer o vstyron yn Saesneg ? I rai golyga bob peth yn gyffredin," o fodd, fel yn nyddiau'r Apostolion, pan ddygai Joseph Barnabas, yn mhlith eraill, arian y tir a werthodd ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion," ac "y rbanwyd i bob un megys yr oedd yr anghen arno." Efelycbiad ar y ffurf hwn o gydfeddianaeth a gafwyd yn Nghymru saith ugain mlynedd yn ol, pan sefydlodd Howell Harris ei gyfundeb crefyddool yn Nhrefecca, ac y gwerthai lluaws eu medd- ianau mewn gwahanol barthau o'r wlad gan eu dwyn yno a'u bwrw i drysorfa gyffredinol y frawdoliaeth. Nid ymddengys i'r un o'r ddau ymgais uchelryw hyn droi'n llwyddiant dian- mheu eu bod yn rhy dda ac ysprydol i'r ddynol- iaeth ffaeledig. YNA dyna Communism y Ffrancod, y ffurf arwaf a hacraf ar yr achos, a ffynonell ddihysbydd trybini mynych y genedl uchelfryd, alluog, ac anesmwyth bono. Cyn belled ag y gellir casglu, rhyw syniadau go debyg a goleddir gan Nihiliaid Rwsia. Yn rhywle rhwng y ddwy gyfundrefn hyn y saif cydfeddianaeth Lloegr, er fod yn mysg ei harweddwyr hitbau amrywiaeth barn dirfawr. Clywsom ei pbregetbu ar heolydd ein dmasoedd mawrion, gan lefarwyr oraclaidd yn siarad ar ddyrysbwnc trefn cymdeitbas fel pe buasai y symlaf o bob gwybodaeth, sef mewn gair, Pobpeth i mi, a'r gweddill i chwithau." OND gellid casglu mai apostol cydfeddianaeth R. J. Derfel ydyw Robert Owen, y Socialist, am yr hwn y bu tipyn o siarad yn y Cymro ycbydig wythnosau yn ol. Trwy foddion cyfreithlawn, trwy ddeddfwriaeth araf ond gonest, y mynai ef ddwyn i ben ei ddiwygiadau cymdeithasol. Ceisiodd yntau roddi ei syniadau cydfeddianol mewn ymarferiad, a bu ei sefydliad yn Lanark am yspaid yn dra llwyddianus. Cafodd gyd- weithrediad llawer o wyr cyfoethog, dyngarol, a chrefyddol, a da y gallasai, canys nid oedd cyf- undeb Lanark yn ddim amgen na Christionog- aeth ar waith. Dinystriodd Owen yr adeilad orwech a god odd trwy ei ddatganiadau anffyddol. OND pa beth bynag am gydfeddianaeth fel yr esbonir hi yn ei gwahanol agweddau, y mae'n sicr fod adeg yn ymyl pan y cymer chwyldroad pwysig le yn nosparthiad cyfoeth, ynenwedig yn y. trefydd a'r manau y mae cynydd preswyl- feydd. Heb fyned gam pellach na Lerpwl a Bootle, y miloedd o bobl ddlWyd a gonest sydd yn y ddau le hyn rarwn pribder a chyfyngder, a'r miloedd o bunau a delir yn flynyddol o'r ddwy dref hyn i ddau neu dri pendefig ar ffurf ground rents, ar brydlesoedd, lie ychydig amser yn ol ni dderbynieut odid i bunt am y cant a, gant yn awr. Fe wa pwy bynag fydd byw weled lefelu yr anwastadrwydd hwn cyn y bydd y ganrif nesaf yn hen iawn. Y mae Demos eisoes ar y trothwy a gellwch benderfynu y myn ef gryn lawer o'r swm hwn tuag at leihau trethi a dwyn oddiamgylch ei welliantau. PRYDNAWN Sadwrn li weddaf, teLiis fy ymweliad cyntaf a St. Helens tref fawr o fewn deuddeng milldir i Lerpwl, ac un o greadigaethau prysur y ganrif hon. Ar ol dyfod i'r heol o'r orsaf, y peth cyntaf a glywais oedd dau yn siarad Cymraeg, a'r peth cyntaf a welais oedd tna dau ganto ddynion yn ymdyru at en gilydd ac yn llawn cynhwrf fel pe buasai ynlladdfa ar gymeryd lie yn eu mysg. Ond yn union deg, dyma y ddwy golomen yn hedfan i fyny o'u canol, yn nghanol curo dwylaw, ac yn olwyno yn yr awyr; yna, wele golomen arall fwy o ran maint yn cael ei gollwug, a mwy o guro dwylaw nag o'r blaen. That's the main, sir," ebe dyn a safai yn fy ymyl. Gyda fod y gair o'i enau, gollyngwyd o ddau i dri chant o golomenod, a hedodd y rhai hyny i bob cyfeiriad. Gofynais i'r dyn beth oedd ystyr y chwareu, ac atebodd fod yr haid olaf i droi o amgylch y main," chwedl ynta j, a'i chadw rhag dianc ymaith. Nis gallai roddi fawr o wybodaeth am reolau y cbwareu colom- enaidd hwn, ond dywedai fod llawer o fetio ar pa un a ddiangai y main ai peidio. Ni welais gynifer o feddwon er's Ilawer o flyn- y I dau. Nid yw hyny ycbwaith ryfedd yn y byd. Y mae gwyrddlesni St. Helens wedi ei ddifa am filldiroedd gan fwg ffumerau y gweith- feydd fferyllol, &c., a'i hafonydd bychain cyn d iued a'r gloyn neu cyn felyned a'r cryd melyn. Llenwir y lIe ag arogledd fel pe buasai rhywun wedi eich taro yn eich talcen ag wy gorllyd a thywyllir yr awyr nwchben gan fwg. Dyma le i egwyddor cydfeddianaeth ddangos ei hun. Beth a fyddai defnyddio ychydig mewn cyd mariaeth o'r arian mawr a enillir gan berchenog- og:on y gweithfeydd hyn tuag at adeiladu pentrefi glanwaith allan o'r mygle di goed a di lysiau ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd ? Hyd yn nod pe byddai raid dewis lleoedd tair neu bedair milld 1 roddiwrth y gwaith, hawdd y gellid trefni)'r clndiad hwyr a boreu heb nemawr ddim cost. • »nd mi wn y rhaid aros peth am hyn o leiaf, nes y daw perch enogion gweitbfeydd yn ddyn- garwyr Cristionogol, neu y cyfyd rhyw wlad arall, trwy ei hesiampl, gywilydd i wyneb ein Seneddwyr. Y mae hefyd fanau yn N gbymrn bron mewn cymaint angen y model villages a St. Helens.