Hide Articles List

6 articles on this Page

DR. HUGH OWEN THOMAS.

News
Cite
Share

DR. HUGH OWEN THOMAS. VYis- ein rhifyn <i weddaf, addawse-m gyflwyao i'n • datllenwyr gryuKttleb o'r papyr rkagorol fJ. ddar- .Ilenod(I y Parch. A. J. PARRY ar y meddyg enwog yn y GymdeithMiGenedlaethol Gyarog, .Ebrill 14. Bu y darlithydd or gwrthddrych ei destym ynfgyfeill- lion mynwesol a an chwarter canrif, yr hyn aedd yn glod i ryddfrydisdd y ddau pan g-oier ^gymaint g.wahaniaeth bars oedd rhyngddynt ar [awer pwnc ipwysig. Syl would Mr. Parry :— Ganwyd Dr. Thomas yn 1834, yn Modedern, Mon, lie yr aebliai ei fam o Lerpwl er rhoii .genedig-; aeth iddo, fel y byddai yn Gymto o eiiedigaeth cystal ag o riaiaifc. Ac ar ol hyn, yn ei faboed, danfonwyd ef yn iynych i Gymru er adgyinertbu ■cyfansoddiad ag oedd yn naturiol wanllyd. Drwy hyn, cedwid ef mawn. cyffyrddiad parhaus aiGhymru a Chymraeg, yr hyn a wnaeth lawer i ddylrihau ei serph at bobpeth Cymreig. Yn ystod yr ymwel- iadau hyn, yiiigycliiabyddodd a hen gyisaeriad o ysgclfeistr yn Modedern, o'r enw Owen Roberts ac fel cydnabyddiaeth o'i ddyled i'r gwr hwa, ibu yn diricn a charedig wrtho hyd derfyn ei oes. Y MJJODYG IEUANC. Bschreuodd yn gynar ar y gwaith i'r fewin y diofrydodd ei fywyd, sef Llawfeddygiaetk. Yn nghyntaf, fel cynorthwywr i'w dad (Mr. Evan Thomas, y meddyg esgyrn) wedi hyny aeth at ei ewythr, Dr. Roberts, i Lanelwy-dyn rhagorol, a llawer o gydnawsedd naturiol rhwng y nai ac yntau. Bu yr ewythr hwn yn athraw godidog iddo yn ei alwecligaetli, ae yn esiaiiupl ddisglaer a rhinwed". Ar derfyniad cyfnod dedwydd ei fywyd yn Llan- i elwy, symudodd i Edinburgh i astudio ac i sicrhau diploma. Yn ol ei natur a'i arfer, llafuriodd yn galed a bywiedd yn gynil, oblegyd deg swllt yn yr wythnos a ganiatai ei dad iddo at ei gyuhaliaeth y ddwy flynedd y bu yno. Edinburgh aeth i Lundain am dymhor i ymberffeithio trwy gerdded yr ysbyttai, ac oddiyno i Paris.; ac ar ol gorphen yr ymchwil-gr vvydriadau hyn dyekwelodd i dref ei faboed ac ymroddodd o ddifrif ar lafurwaith y gweddill o'i fywyd. BETH OEDD ELFENAU EI LWXDDIANT? Gallir yn ddianinbeu ei briodoli i dri pheth :—ei athrylith, ei ymroad, a'i ddyngarwch. Yr oedd ei athrylith yn etifeddiaethol-yr oedd yn ei dad, yr hwn a gyrhaeddodd fesur mawr o enwogrwydd mewn canghen neillduol o feddygiaeth, sef esgyrniaeth, eithr yn unig trwy rym ei alluoedd naturiol. Yr un athrylith, o radd uwch ac wedi ei hawchlymu gan gwrs priodol o ddysgyblaeth a chylch eangach o sylwadaeth a phrofiad, oedd yn y mab. Profion diymwad o'i athrylith oeddynt ei ddoniau i ddarganfod a dyfeisio amryw foddau ac offerynau er lleddfu poen. Cafodd allan ffordd newydd, a hollol i'r gwrthwyneb i'r hen, i ymdrin a'r anhwyl- der peryglus hwnw, Rhwystriad Perfeddol (Intesti- nal Obstruction ) a phrofai ei ddarganfyddiad bron yn ddieithriad yn llwyddianus. Yn afiechydon y cymalau ac anffurfiad neu ddrylliad yr esgyrn, ystyrid ef ar ben ei alwedigaeth. Nid oedd bendraw ar ei allu i gyfaddasu offerynau neillduol a phwr- pasol i'r achos llawfeddygol fyddai dan ei ofal. Y mae y splints a'r pattens a ddyfeisiodd wedi dyfod yn fydenwog. Defnyddir hwy gan feddygon Ewrop ac America, ac iawn yr adwaenir hwy fel "Thomas' Splints," &c. Gyda golwg ar hyn, sylwai un meddyg a gawsai brofiad helaeth o'u defnyddioldeb wrth nifer ohonom ddydd ei angladd, Dylai Dr. Thomas gael mynediad i Deyrnas Nefoedd pe na byddai ond am ei splints." DIWYDRWYDD A DYFALBARHAD. Drwy holl gylch ein hadnabyddiaeth, ebe Mr. Parry, ni chyfarfuom erioed ddyn mwy diwyd. Gweithiai yn llythyrenol ddydd a nos, gwyl a gwaith. Ni roddai iddo ei hun byth ddiwrnod o seibiant nac awr o egwyl. Treuliai'r dydd mewn llafur mawr yn nglyn a gofynion ei alwedigaeth, ac nid anfynych y nos drwy ei chydol mewn llafur llenyddol hefo cyfansoddi rhyw un o'i lyfrau. Gwelsom ef ar yr adegau hyn yn cadw dau ysgrif- enydd mewn Ilawn waith am oriau—un yn ysgrifenu liaw fer, a'r llall yn adolygu'r copi. Byddai yn traethu wrth y blaenaf, ac wed'yn tra yr adysgrifai hwnw ei waith i law hir, byddai'r Dr. gyda'r llall yn prysur adolygu yr hyn a ysgrifenwyd fel y gellid drachefn ei ail gopio. Fel yna, yn gyflym a gofalus, y cynyrchodd wyth o gyfrolau trwchus ac anmhris- iadwy yn traethu ar ddyfeisiau a chynlluniau pa fodd i dyneru dyoddefaint yr anffodus a chwanegu at drysorfeydd y wybodaeth lawfeddygol. CYFFREDINEIID EI WYBODAETH. Nid dyn yr un idea mohono ychwaith. Er ei lafur meddygol a llenyddol enfawr, mynai hamdden i efrydu canghenau eraill o wybodaeth. Anfynych y cyfarfyddid un yn gwybod mwy bron am bobpeth. Yr oedd yn nodedig o hyddysg yn hynafiaethau yr Aipht a Rhufain, a chanddo ga.sgliad ardderchog o lyfrau drudfawr o'u hanes. Talai sylw manwl dra- chefn i wleidyddiaeth ddiweddar Ewrop, yn neill- duol yr eiddo Ffrainc. Gweriniaeth oedd ei gynllun lywodraeth; ond yn ddiweddar, trwy ddarllen gwaith Herbert Spencer, daethai yn wrthwynebydd selog i sosialaeth a deddfwriaeth dadol. Yr oedd ganddo yntau, fel eraill, ambell ifad. Un ohonynt ydoedd mai Arglwydd Bacon oedd gwir awdwr chwareuon Shakespeare ac un arall mai Thomas Paine a ysgrifenodd Lythyrau Junius. Bu yn ei fryd unwaith ysgrifenu llyfr yn dodi ei resymau dros y grediniaeth olaf. Yr ydym yn nodi y pethau hyn er dangos na cheisiai ef ei adloniant mewn seibiant a seguryd ond mewn newid testynau ei efrydiaeth. EI DDYNGARWCH. Y mae llawer agwedd ar drueni y ddynoliaeth ond yn ei dyoddefiadau y gwelai ef hi ac mewn ymdrechion i symud y rhai hyny yr amlygodd ef yn benaf ei ddyngarwch. Llwyr ymgysegrodd i'w alwedigaeth er mwyn hyn. Nid fel moddion i gasglu cyfoeth. Efe a ddaethai, efallai, yn gyd- marol oludog ond nid trwy wneud hyny yn brif amcan. Ei arwyddair ef ydoedd, doed a ddel yn nglyn ag arian, na chai dim ei rwystro i ufuddhau i alwadau ei broffeswriaeth-blinder corphorol, pellder ffordd, gofynion cymdeithas, cysur teuluol, na thlodi y gwrthddrych, sefyll rhyngddo a chyf- lawni ei ddyledswydd. Yr ymroddiad dihunan- arbedol hwn tuag at un o'i gleifion a achlysurodd ei farwolaeth. Syrthiodd mewn gwirionedd yn ferthyr i'w alwedigaeth. Go YCHYDIG A WNAI HYK :— Adroddwn yma hanes amgylchiad a gymerodd le pan y dluwyddai i mi fod yn ei gymdeithas- amgylchiad a ddengys mor gywir y myntymiwn mai rhywbeth yn mhell uwchlaw cariad at arian oedd egwyddor el ymgysegriad i'w waith. Ar yr achlysur y cyfeiriwn ato, daeth tece;ram yn gofyn iddo fyned i ardal nid nepell o Aberystwyth, er cyflawni operation ar fachgen ieuanc a gyfaifeiasai ag anhap difrifol. Buasai myned tcyn beiled « tfordd yn peri anhwylusdod mawr iddo gan y cadwasai ef ddau ddiwrnod oddicartref. Gallasaigodijee uchel iawn —yr oedd ganddo hawil i gini ,y filidir ae yr- hyteach na dodi'r bobl i draul fav/ndanfonodd yn ol yn eu hanog i gymeryd rhyw feddyg lleol, gan y byddai ei fee ef yn hur dram, am y cedwid ef cyhyd oddiwrth y cleifion. a ymddibynent arno. Daeth gair yn ol yn gofyn maint yfee, ac atebodd Dr. Thomas, £ 50. Tyhiai y buasai'r.swm hwn yn eu dy.chrynu a pheri iddynt geisio meddyg lleol; ond i!r,gwrthwyneb, daeth gair yn ol am iddo fyned. Cyrhaeddodd y lie, a cliy.tiawiiodd .ei waith difrifol gyda'i ddeheurwydd arfer ol. Yn y cyfamser, aeth y ^gair ar led fod Dr. Thomas, Lexpwl, yn y lle^ a cliyimllodd y bobl ag yr oedd dim anhwyldeb arnynt i'r fan. er ceisio ei wasanae.th. Dyna lie y bu drwy gydol y nos braidd yn gweinyddu ar y tyrfaoedd. Daeth y swm a ddexbyniodd am y gwaith ychwanegol hwn i 37p. Yna pan estynwyd iddo gan fam y bachgen y fee o £ 50, estynodd yntau,iddi hithau yr oil o'i £37. Y mae hon yn engraipht deg o degweh, uniondeb a dyngarwch y Dr. Thomas. PA FODD Y TREULIAI EI SABBOTHAU. Gwedd arbenig ar ei ddyngarwch. yn esbonio i rhyw raddau ei boblogrwydd, oedd ei wasanaeth i'r tyiodion a ymdyrent wrth yr ugeiniau i'w surgery ar y Sabbath, yr hwn a roddai yn gwbl i'w gwas- anaetliu. Byddai ei weinyddiadau iddynt mor drwyadt a phe buasent yn bendefigion y tir a pharhaodd ei gymwynasau hyn am 25 mlynedd. Pa mor ddwfn ydoedd yn serch tylodion Lerpwl a'r amgylchoedd, dangosai y miloedd ohonynt a ddaethant i'w angladd yn eu dagrau a than ddatgan mewn geiria.u hyglyw eu hedmygedd ohono a'u colled ar iei ol. Pa ryfedd V Ni thybient fod meddyg o'i fath yn yr holl wlad-yn wir, credent ei fod fel meddyg bron yn anffaeledig. Oyflwynodd ei ddarganfyddiadau a'i ddyfeisiau gwerthfawr yn hollol rydd at wasanaeth ei gyd- feddygon, a thrwyddynt hwy at wasanaeth dynol- ryw. Nid eu celu a ddarfu ef a'u cadw i'w fudd a'i elw ei hun, fel y gwnaed lawer tro. Y eyfryw ac, y ceisiasom ei ddesgrifio, a llawer mwy, oedd y Dr. Thomas. Erioed ni bu poblog- rwydd gonestach na'r eiddo ef, wedi ei enill ar lwybrau mwy dihoced, er hyny a enillwyd er gwaethaf, yn nechreuad ei yrfa o leiaf, gwrthwyn- ebiad a rhagfarn nas gallai odid i alwedigaeth heb- law yr un feddygol ddangos ei gyffelyb. Ond bywiodd yr oil i lawr drwy fywyd gonest a gwaith didwyll. Gall y Cymry ymffrostio yn eu cyd- wladwr enwog a gwladgar a dinas Llynlleifiad yn y ffaith iddi fod yn gartref bywyd, yn gylch llafur, ac yn brif dderbynydd gwasanaeth un o feibion dilysaf athrylith.

-0-LLANELWY A WAUNGOLEUGOED.

CYFFREDINOL.

Blaenau Ffestiniog.

[No title]

Advertising