Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

> NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

> NODION CYMREIG. > EIRIOLWR GYDA'R TAD. C Mi gofiaf dyner lef Yr Iesu ar y Bryn; • Maddeuant oedd Ei ymbil Ef, I dyrfa'r gwaewffyn; Er esgyn trwy y lien, Yn Brynwr euog fyd, Yn uchel lys y nefoedd wen, Eiriolwr yw o hyd. Er haeddu 'nhorri i lawr, Am feiau fwy na rhi; A cholli golwg lawer awr, Ar hawliau Calfari; Hwyrfrydig yw fy Nuw I daro f'enaid ffol; Mae o fy mhlaid Waredwr byw, Yn cadw'r farn yn ol. r Efe Ei hun yw'r lawn, Ac yn ei ddwyfol rin .Mae cymod a maddeuant 11awn, I wrthryfehvr blin; Fy nhynged heddyw sydd Yn ddiogel yn Ei law; A myn fy nghael yn fythol rydd, t 0 fewn y farn a ddaw. ■' DYFED. --+-- Cymdeilhasfa Llandudno. Gyda honno y bum byw ar hyd yr wythnos. Ar ol ciliot o sedd y gohebydd ddeng mlynedd yn ol, mae afiechyd y gohebydd! ffyddlon, a'm hen gyfaill, Mr. Wiliams, Manchester, aphrinder Cymry yn medru llaw-fer Gymraeg, wedi'm gorfodi i ddilyn y Sasiwn am dymor eto. ♦ Nid oedd dim eithriadol yno ym myd oorff nac ysbryd Sasiwn. Popeth yn dda, popeth yn drefnus, yr holl ddarpariadau yn daclus, a phawb a gymerodd ran yn gwneud hynny yn boenus o ddifai. Ond Did oedd neb yn cyr- raedd tiir uchel. Yn Aberaeron, yn Sasiwn y De, yr oedd gwael, gwell, a goreu. Yn.Llan- dudno yr oedd popeth yn dda, heb wael na, goreu. Y rheswm am hyn oedd fod pawb yn Aberaeron yn cymryd rhan, tra yn Llandudno yr ychydig oedd yn gwneud popeth. Dyna, wahan- iaeth amlwg rhwng y ddwy Gymdeithasfa. Bu- asai Aberaeron mor amhosibl yn Llandudno ag a-fuasai Llandudno yn Aberaeron. Ai mantais ynte anfantais i Gymdeithasfa ydyw cael ymlwybro ymlaen ac ymbalfalu ar y oorneli a'r croesffyrdd? Neu ynte ai mantais i gyd yw cael Cyfeisteddfod o oreugwyr y Corff i gerdded yr holl ffordd ymlaen llaw, a rhoi mynegfys ar bob trofa, gan ddweyd wrth y cyn- rychiolwyr Dyma y ffordd, rhodiwch ynddil • —> Prin y gwna set fawr capel Siloh, Llandudno, chwarae teg a'r rhai sy'n eistedd ynddi. Nid yw yn eu gosod allan yn dda:. Mae'r pulpud yn sefyll yn gadarn a chlir, a phawb o bob congl o'r capel yn gweld y neb sy'n sefyll ynddo. Ond am y set faw-r, mae'r canllaw yn rhy uchel a;'rsedd yn rhy isel, prin y gwelem benmau rhai o'r cyn-lywyddion a eisteddent ynddi. Collem olwg yn llwyr ar ambell un, a, phan y cyfodai i siarad byddai fel ymwelyd(1i o fyd anweledig. Nid mantais i urddas set fawr Sasiwn yw hyn. Mae gweld y tadau sydd wedi pasio'r gadair yn ysbrydiaeth a symbyliad i, eraill sydd yn dilyn ol eu troed. — Ac yr oedd yno nifer dda o arweinwyr y Cyf- undeb yn y Gogledd. Ar y dd'e i'r Llywydd, y undeb yn y Gogledd. Ar y dde i'r Llywydd, y Parch. T. Gwynedd! Roberts, a'r Ysgrifennydd, y Parch. R. R. Williams, M.A., eisteddai y Parchedigion Owen Owens, William Thomas, Elias Jones, a,c ar yr ochr arall Dr. John Williams, Evan Davies, ac Ellis James Jones. Ar y llawr y naill ochr yr oedd y Parchn. T. Charles Williams, M.A., John Owen, M.A., ac R. Aethwy Jones, M.A., ac ar yr ochr arall dri o leyigwyr amlycaf y Gogledd, y tri ynad parch- us John Owens, J. E. Powell, a Jonathan Dav- ies.. Amhosibl dymuno arweinwyr mwy medrus, ymroddgar, a doeth. — Cyfyngwyd pob trafodaeth o bwys i ran. o'r cylch rhagorol yna, gydag ambell eithriad oddi- ar y llawr. Distaw oedd corff y cynrychiolwyr. Boddlonent ar edrych, gwrando, a chodi llaw. Mewn un eisteddiad cyfrifais no na agorasant eu genau, ac wythyln siarad y cwbl. --+-- Hwyrach mai mewn distawrwydd y gall: y rhan fwyaf wasanaethu oreu. Yn enwedig pan fo pethau yn mynd yn hwylus. Ac felly yr oeddynt yn Llandudno. Onid gwell oblegid hynny oedd i'r Ysgrirennydd roi awgrymiadau y Cyfeisteddfod, ac i'r cyfarfod symud ymlaen o'r naill fater i'r llall mewh llwyr ymddiried yn arweiniad ysbrydoledig eu brodyr? 0 leiaf, gwelwyd y llong a'i llwyth gwerthfawr yn cyrT raedd y porthladd a'r llanw a'r gwynt o'i thu, heb gymaint a brisyn. Y Parch. T. Charles Williams oedd, y gwr amlycaf yn y Sasiwn. Efe a. ddewiswyd yn Llywydd am rgI.8. Gwrthododd Mr. John. Owens am yr ail waith adael i'w enw fyn-ed, i fot. Dewiswyd ,Mr. Charles, Williams yn un- frydol. Nid wyf yn hollol sicr am oedran y llywydd newydd, ond mae'r argraff yn gryf ar fy meddwl mai efe yw'r ieuangaf i gael ei dclewis i gadair y Gymdeithasfa. Nid aeth neb iddi, ychwaith, gyda dymuniadau da mwy o gyfeillion. Bydd y dewisiad hwn yn ychwanegu at urddas gwr sydd yn annwyl gan y Cyfundeb, ac wedi ei ddonio gan natur a gras i fod yn ar- weinydd. Fu erioed fwy o'r natur ddynol mewn cadair Sasiwn nag a fydd pan esgyno efe iddi. —. Daeth Mr Charles Williams yn amlwg mewn dau gylch arall. Yn y cyfarfodi nos Fercher traddododd anerchiad fydd yn godiad pen i'r achos dirwestol yn y Gymdeithasfa. Cytunai pawb a glywaisi yn siarad fod yr araith hon yn un o'r rhai mwyaf meistrolgar ac argyhoedd- iadol a wrandawsant erioed:. Bydd d'atganiad cryf Mr. Charles Williams ar weddau cyhoedd- us y cwestiwn yn. foddhad a symbyliad i gyfeill- ion dixwest, ac y mae yn debyg o greu cyfnod newydd yn hanes dirwest yn y Gymdeithasfa. —4— Holi y cenhadwr ieuanc, Mr. R. Penry Pryce, B.A., oedd y gwaith' arall y galwyd Mr. Charles Williams i'w gyflawni. Ni chlywais neb yn holi yn galetach ar ddyn ieuanc oedd i gael ei or- deinio. Diau fod yr holi yn dieg, ac nid oedd amheuaeth am gydymdeimlad yr arholwr a'r gwr ieuanc. Ysbrydoliaeth y Beibl, Pechod, lawn, Llywodraeth Duw ar y Byd, Atgyfodiadl y Meirw,dyna, rai o'r cwestiynau fu dan sylw. Teimlad pawb oedd fod y cenhadwr iieuanc wedi dyfod drwy ei arholiad caled yn anrhyd- eddus, ac hefyd ennill' calon ei arholwr a'r cyfarfod. Nid wyf Y11 sicr sut y teimlai "r Cyffes Ffydd! -+- Cofir y Sasiwni ym myd y trefniadau yn ben- naf am mai ynddi y pasiwyd rheolau y Drysorfa ar Cynorthwyo Gweirtidogion Methedig ac Oed- rannus. I Mr. John Owens, Caer, a theulu haelionus Lland'inam y mae'r Cyfundeb yn y Gogledd! yn ddyled'us am y Drysorfa hon, a llawer bendith arall. Eisoes mae wedi profi yn amhrisiadiwy, a bydd cenedlaethau o deuluoedd yn bendithio y mudiad. Ar brawf y mae y rheolau, ac mae'n amlwg y bydd cyfnewidiadau lawer ynddynt. Da fyddai trefnu rhyw gynllun i osgoi yr hyn y cyfeiriai y Parch. W. Williams, Talysam, ato. Ond fel y sylwodd Dr. John Williams, rhaid cadw'r Drysorfa i rai teilwng. ■ ■» ■— Mae'r Drysorfa Fenthyciol wedi tyfu yn bren mawr. Drwyddi galluogir eglwysi' i glirio'r ddyled, a gellir disgwyl i, hon ymhen ychydig o. flynyddoedd fod wedi dwyn baich y Cyfundeb i lawr i swm cymhedrol. I leygwyr fel Mr. J. E. Powell yr ydym yn ddyledus am y wedd flodeu- og sydd ar y Gronfa hon. —-♦ Aeth cwestiwn y Fyddin i gyfeiriad annis- gwyliadwy. Paratoi ar gyfer y milwyr pan ddychwel:ant oedd y mater gyflwynwyd o'r De. Ond gofynodd Mr. John Owen, Llandudno-,— Beth am y milwyr yn Kmmel Park a Chroesos- wallt? A beth am y inilwyr yn Ffrainc? ebai y Parch. Llewelyn Lloyd, efe ond yn brin wedi diosg ei wisg milwr. Gwna'r drafodaeth les. < ♦ Bydd yn gysur i lawer teulu pryderus glywed Dr. John Williams yn sicrhau fod pob gofal a thynerwch yn cael ei ddangos tuag at y bechgyn deunaw oed yn Kinmet Gobeithio ei fod yn gywir. Ond beth os yw y bechgyn i gael eu symud oddiyno ? A oes sicrwydd y byddant yn y gwersyll newydd yn cael yr un tynerwch a gofaH Fel y mae'r Rhyfel yn trymhau, darost- yngir popeth i'r galwadau milwrol, ac ofnus yw y bydd bechgyn Cymreig yn cael eu gwasgar i bob cyfeiriad —>-♦—- A beth am y bechgyn lawer o honynt sydd allan er 1914? Dyma'r gwroniaid pennaf. Ym- restrodd llawer mewn atebiad i alwad crefydd a gwladjganvch ? Dros y rhai hyn a'r rhai a aeth- P ant allan yn ddiweddarach yr apeliai y Parch. Llewelyn Lloyd. Mae llawer o'r bechgyn wedi digio a suro, ac yn anfon llythyrau yn llawn gwawd am aarweinwyr crefydd yng Nghymru. A beth am y gwersylloedd' sydd oi fewn ein cyr- raedd? Gwyddom, ysywaeth, am yr anhawster i gael pregethwyr i'r canolfanau hyn, a gwell gan eglwysi cyfoethog y wlad gadw eu bugeiliaid gartref na'u danfon. i bregethu i'r manau He y mae eu bechgyn yn ddiymgeledd ac yn ddi- gartref. Diffyg trefniant a dealltwriaeth yw'r prif reswm am hyn. Hwyrach y ceir gwelliant wedi'r drafodaeth iach yn y Sasiwn. — Mae'n ddigon arolwg oddiwrth yr hyn a ddy- wedodd Dr. John Williams fod eisiau argy- hoeddi ac ail-eni y Swyddfa Rhyfel. Caniateir i bob math o ddyn papur newydd fyned allan,— gwahoddir llawer o honom. Ond pan y mae un o weinidogion blaenaf Cymru yn awyddus am fyned allan i ymweled a'r bechgyn ag yr oedd wedi addaw hyn iddynt, rhodda'r hen wraig sydd yn gofalu am bethau o'r fath yn y Swyddfa Ryfelt bob anhawster ar ei ffordd! Mae'n werth cael Sasiwn i ddadlenu peth fel hyn. • c ♦— Nid oes le i gyfeirio at y pethau eraill pwysig a dyddbrol fu dan sylw. Gwelir adroddiad cyf- lawn o araith y Parch. John Williams, Caer- gybi, ar y Sedat,' ac un y Parch. T. M. Jones, Gronant, ar Beryglon Esmwythtra.' Anerch- iadau rhagorol oedd y ddau, ac un Mr. David' Jones-, Balai. Ond pwy ar y ddaear a dde-wis- v odd destun i Mr. T. M. Jones. Buasai I Peryglon Anesmwythder yn fwy amserol. Ond profodd Mr. Jones yn feistr ar ei destun fel y gweli:r, a dygodd ef up to date.'