Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PEDWAR CANMLWYDDIANT Y DI.WYGIAD…

News
Cite
Share

PEDWAR CANMLWYDDIANT Y DI.WYGIAD PROTESTANAIDD. CAN MR. WM. WATKIN DAVIES, B.A., 0 GRAY'S INN, A CHOLEG SANT IOAN, RHYDYCHEN AC ATHRO HANES YSGOL GANOLRADDOL Y BERMO. 4. II. YMLITHRODD pedair blymedd heibio. Yn y cyf- amser bu Luther yn trefnu ei feddyliau, ac yn cilio ymhellach o hyd o'r hen gorlan. Nis gwyddai yr awdurdodau uchel yn Rhufain, ar y cychwyn, beth i'w wneuthur. Nid dyma'r tro cyntaf i ddiwygiwr ymddangos yn yr Eglwys yn y canol oesoedd cododd Sant Francis a Sant Dominic; ond drwy gallineb y Pab Innocent III., gwnawd lie i'w dyheadau, a daethant yn golofnau cadarn i'r Babaeth. Tybed nas gellid ennill Luther yn yr un model 1 Methodd pob ymgais oherwydd yr oedd Luther, erbyn hyn, wedi cyhoeddi'n groew ei athrawiaeth bwysig o gyfia,wnhad trwy ffydd; a rhwng y gyfryw ath- .rawiaeth a daliadau crefyddol Cynghorau Basel, Constance, a Trent, nid oedd heddwch yn bosibl. Esgymunwyd y my'nach beiddgar; a galwyd ar yr awdurdodau gwladol i gario all an y ddedfryd. Cyfansoddwyd! yr Almaen y pryd hynny o luaws mawr o dywysogaethau, a fwynliaent fwy neu l'ai 0 ryddid oddiwrth eu pen arghvydd, yr Ymherawdwr Charles V., yr hwn oedd frenin yr Yspaen, a. rheolydd yr Iseldiroedd a rhannau helaeth o'r Eidal. Nid! rhyw lawer o gydym- deimlad geid rhwng yr Ymherawdwr a'i ddeiliaid yn yr Almaen; ond yr oedd eu cymorth yn an- hebgorol angenrheidiol iddo yn wyneb gelyniaeth barhaol ei gydymgeisiwr Francis I., brenin Ffrainc. Coleddai, erbyn hyn, amryw o dywys- ogkxn blaenllaw yr Almaen ddaliadau Luther- aidd; a phenderfynasant na chai neb niweidio eu cydwladwr dewr, heb o leiaf yn gyntaf roddi iddo gyfleustra i egluro ei ddysgeidiaeth ac am- ddiffyn ei hun gar bron cyngor cenhedlaethol yr Ym'herodraeth. Nid bychan ydoedd dyled Luther, a dyled Protestaniaeth, i deimlad eidd- igeddus yr Ellmyn tuao: at estroniaid fel Charles V. a Leo X. Cydsyniodd Charles a'u cais, ac ymgynhull- odd y Cyngor, yn y flwyddyn 1521, yn hen ddinas rhamantol Worms, ar Ian. yr afomi Rhein. Gorchymynwyd i Luther ddod yno, i ateb y cy- hiiddiadau ddygai yr Eglwys yn- ei erbyn. Mawr oedd y pryder am ei einioes, ymhlith ei gyfeill- ion; oherwydd llwyr gredai pawb y llwyddai y Pab i'w ladd mewn rhyw ffordd neu gilydd. Gwrthododd Luther gymeryd ei ddychryn. Hir- aethai am gyfleustra i gyhoeddi ei ddaliadau ger bron y byd, deued a' ddelo. Af i Worms," meddai, pe byddai pob carreg ar bennau y tai yn gythraul. Argyhoeddiad fel yna yn unig all symud mynyddoedd yn unrhyw oes! Ymddanghosodd ger bron yr ymherawd'wyr a'r tywysogion, a phrif glerigwyr yr Almaen. C'y- huddwyd ef gan gennad o Rufain; a chan ei fod yn gwrthod galw'n ol ei eiriau, condemniwyd ef gan fwyafrif y Cyngor. Er mwyn diogelu ei fywyd ymosodbdd nifer o'i gyfeillion atiio un diwrnod, a dygasant ef yn erbyn ei ewyllys i gastell cadarn y Wartburg, lie yr amddiffynasant ef nes aeth grym cyntaf yr ystorm heibio. Gwyddent o'r goreu fod1 amser yn ymladd o'i du, ac fod cannoedd yn yr Almaen bob blwy- ddyn yn mabwysiadu y ffydd newydd. Tra yn y Wartburg cyflawnodd Luther un o brif oruchwylion ei oes; cyfieithiodd y Beibl am y tro cyntaf erioed i'r iaith Almaeneg, a rhoddodd ef i'r werin i'w ddarllen. Er na chymerai y Beibl yng nghyfundrefn Luther y lie amlwg a roddid iddo gan Calvin, eto edrychid arno fel arweinydd gwerthfawr ar hyd llwybrau dyrys diw-inyddiaeth a. moeseg. Ceir llawer i hanes dyddorol am y gwron yn ystod y cyfnod hwn; am ei gariad at blant ac at greaduriaid d'i- reswm; am ei lioffte-r o gan, ac yn enwedig emynau: am ei diriondeb, ac hefyd am ei wrol- deb. Fel enghraifft o'i wroldeb cymerir yr hanes yma: Fel pawb arall! yn yr i6eg ganrif. cred'ai Luther yn ddiffiiant fod y Diafol yn berson a chai lawer i ymfryrch frwd ag ef. Un noswaith pan yn gorwedd yn eii wely, clyw- odd swn yn yr ystafell. Cododd, ac edrychodd oddiamgylch; ond nid oedd dim i'w franfod. Penderfynodd ma.i y Diqfoi" oedd. 0. tydi sydd yna, meddai, gyda gwawd yn ei la.is. Dychwelodd i'w wely, a chysgodd yn ddlod. Cofiwn fod Luther yn credu y gallasai y Diafol wneud unrhyw niwed a fynna.i i'w gorff, a pharchwn y gwroldeb a'i galluogai i gysgu'n dawel1 yn ei bresenoldeb. Erbyn hyn 'roedd yr Almaen ar dan drwyddi draw; a lledaenwyd y dalia:dau newyddion gan ddynion fel Zwingli a Chalvin mewn gwledydd eraill. Cod odd Calfiniaeth yn Geneva; sect yr Huguenots yn Ffrainc; Protestaniaeth salw y Llyfr Gweddi Cyffredin yn Lloegr; a Phres,by- teriaeth eithafol Johni Knox yn Scotland. Rhoddwyd yr enw Protestaniaid' fel un o wawd ar ddilynwyr Luther yag nghyngor Spires- yn. y flwyddyn 1529. Gwnawd pob ymdrech o'r ddeutu i gadw'r Eglwys yn un. Syniad newydd ac atgas i feddwl crefyddol y d'ydd ydoedd y y .1 y syniad o- fan eglwysi cenhedlaethol; un Bugail ac un Gorlan ydoedd arvvyddair y canol-oesoedd. Ond er pob ymdrech methwyd cyrraedd cytun- deb ar y pynciau sylfaenol, a phenderfynodd Protestaniaid yr Almaen sefydlu eglwys gen- hedlaethol Lutheraidd. Ond nid oedd y Pab, nac ychwaith yr Ym- herawdwr, yn. f odd Ion i hyn; ac mewn canlyn- iad torrodd rhyfel gartrefol erchyll allan yn yr Almaen, rhwng pleidwyr yr hen grefydd a phleidwyr y newydd. Yn yr ymdrech- ofnadwy hon. ofer fyddai'ceisiodal fod rhinwedd a gonest- rwydd i gyd ar un ochr. Ymhlith y gwahanol ddosbarthiadau gydunent i ymladd yn erbyn y Pab a'r Ymherawdwr, ymladdai rhai dros iawn- derau cydwybod, eraill drop iawnderau cym- deithasol y werin, erailll dros iawnderau y ben- defigaeth. Ond ychvdig o gydymdeimlad oedd gan Luther a'r werin. Iddo ef yr oedd awdur- dod, mewn byd ac eglwys, yn beth tra pwysig. Yr oedd yn casau annhrefn ac anghyfraith ym- hob man. Ar ol hir frwydro, sylweddoloddi Rhufain ei bod wedi colli'r dydd. Yn: yr Al- maen cofleidiodd y mwyafrif o'r tywysogaethau y ffydd Lutheraidd; arhosodd rhai yn ffydd eu cyndadau. Ond cyn peidio o'r frwydr yr oedd arwr mawr y mudiad wedi gadael maes ei lafur. Bu farw yn Eisleben yn 1546; a'chladdwyd ef yn Wit- tenberg. Cymysg rhyfedd o rinweddau mawr a gwendidau bychain yw ei gymeriad. Cynysg- aeddwyd ef a theimlad dwfn at ddynoliaeth; ag yni diball; a chanfyddiad ysbrydol eithriadol iawn. Meddai yn helaeth y ddawn o danio eneidiau eraill a'r tan <lvA-fol losgai yn ei enaid' ef ei hun. Dyn ar dan ydoedd Luther. Medd- ai yn helaeth hefyd y gallu i arwain dynion. Cawr o ddyn ydoedd* mewn deall a gwroldeb moesol. Meddai wendidau fel pawb—tymer boeth, culni, a diffyg tynerwch ac amynedd tuag at wrthwynebwyr. Ond1 oes galed, greulawn, oedd y 16eg ganrif, ac nis gallasai dyn add- fwynach adaelJi argraff ami. Edmygid ef gan ei elynio'n pennaf. Beth amser ar ol ei faiwol- aeth daeth yr Ymherawdwr Charles i Witten- berg; ac arweiniwyd ef at fedd y diwygiwr mawr. Taer erfyniai y mynachod arno i godi'r corff a'i losgi wrth yr ystanc, yn ol arferiad gyffredin yr bes. Safodd Charges am rai eiliad- au yn syllu ar y bedd. Yna trodd ymaith, gan ddywedyd, Na, nid wyf yn rhyfela yn erbyn y meirw! "• Newidiodd Luther aWYlgylch y byd. Adfeil- iodd Lutheriaeth, a daeth crefyddau eraill i fewn i'w hetifeddiaeth. Ond fe erys gwaith Martin Luther er hynny. Efe burodd efengyl Crist oddiwrth ofergoeledd y canol-oesoedd. Aper- iodd oddiwrth y Pab a'r Cyngor at deimladau dyfnaf y werin. Safodd dros. iawnderau y gyd- wybod uni-pol yn. erbyn trais a, gorthrwm ymhob man; a thra pery parch ac edmygedd at yr wron- iaeth uchaf ymh lith dynion, nis anighofir byth m (-)'i enw. 0 wyll llwydwyn y i6eg ganrif, gwibia. meddwl dyn i nos ddudew y d'ydd presennol. Ai ofer fu holl ymdrech v gwroniaid gyntT A ydyw sylfeini'r byd yn wir yn siglo yn y rhyferth- wy ofnadwy hwn?' Uwchlaw'r d'wndwr i gyd clywir Ilais- Gobaith yn cyhoeddi fod amser braf y gerllaw. A heibio'r dvwell nos.; fe dyr cymyl- au*r nen. Ceir gweled eto genhedloedd Ewrop yn dyfod allan o gvstudrl mawr yr 2ofed ganrif, a'u gynau wedi eu carinu, a'u gwelediad wedi ei fywiro. fel erioed o'r blaen. Pwy fydd yn eu harwain ? Nid y genedl Kyfoethocaf; nid chwaith y genedl rymusaf a'r dedd; ond y genedl sydd wedi dvsgu oreu wersl yr hen bro- ffwvdi, o ddyddiati'r Hebreaid i ddvddiau Luther, mai nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn; ac fod hawl gwlad i'r lfe blaenaf yn di. bynnu'n hollol ar ei golud ysbrydol, ac ar ei

.. -..------.-....----PRYNIAD.…