Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

PERSONOL.

News
Cite
Share

PERSONOL. CARIAD DIYMOLLWNG DUW. Emyn DR. GEORGE MATHESON. O Gariad na'm gollyngi i, Gorffwysfa f'enaid ynot sydd:. Yr einioes roddaist, cymer hi, A Ilawnach, glanach fyth ei Hi Yn D'eigiondwfn a fydd. O Lewyrch yn fy nghanlyn sydd, Fy nghannwyll wan a rof i Ti,: Ei benthyg-fflam fyl nghalbn rydd, Nes bod yn decach loywach dydd Yn Dy glaer heulweni Di. 0 Hedd a'm ceisi trwy bob braw, Ni allaf rhagot gau y drws 'Rwy'n gweld yr enfys trwy y glaw, Yn oil D'addewid gwn y daw Hyfrytaf fore tlws. 0 Groes a gwyd fy rnhen bob awiy Ni feiddiaf ddeisyf D'ochel Di: Mi fwriaf falchter foes i'r llawr, A thardd o'i lwch, a gwridog wawr, Fy mywyd bythol i. Cyf. D. TECWYN EVANS. Dr. T. J. Jenkihs, Froniago, Henllan, a dde- wiswyd yn grwner dros ranbarth Aberteifi. Mr. Edgar L. Chappell, vsgrifennydd y Welsh Housing and Development Association,' ydyw golygydd newydd y Welsh Outlook.' Cymer y gwaith yn ystod absenoldeb Mr. A. C. Williams, efe gyd,a'r fyddiin. Yr wythnos ddiweddaf bu y Parch. O. L. Roberts, Lerpwl, ar ymweliad a gwlad Lleyn ar ran y, Feibl Gymdeithas, ac yn annerch a phregethu mewn amryw leoedd. Ni raid dweyd ei fod yn traddodi gydag arddeliad. Penodwyd Miss Enfys Glyn Davies, B.A., rnerch y Parch. J. Glyn Davies, Rossett, yn athrawes-mewn Saesneg yn Ysgol Sir Abergele. Athrawes yn Ysgol Sir y Genethod yn Aberdar oedid Miss Davies cyn cael y penodiad hwn. Er mwyn cael atgyfnerthiad i'w iechyd, erys y Parch. Llewelyn Williams, B.A., Brighton, gyda'i rieni-y Parch, a Mrs. Robert Williams, M.A., yn Glan Conwy am ychydig. Pregeth- odd y Sul o'r blaen i gynulleidfa luosog yng nghapel y M.C. yno. -+- Erbyn hyn mae y Parch. John Williams, Slat- ington, Pa., wedi dechreu ar ei waith fel bugail newydd eglwys y M.C. yn Denver, Colorado. Ar ei ymadawiad o Slatington caed: cyfarfod ffarwel, ac anrhegwyd ef a phwps o aur gan yr eglwys yno. Ctywais fed costau y cyngaws am athrod a ddygodd Mr. Lloyd George yn erbyn dau neu dri o bapurau Llundlain tua chan' punt yr un iddynt. Cynhygiodd yr Exchange Telegraph Co. dalu'r holl gostau, ond gwell gan y papur- au oedd talu eu huniain. Gyda gofid1 yr hysbysir am farwolaeth y Parch. R. L. Roose. Cymerodd yr angladd le dydd Sadwrn yn Holt. Efe ydoedd gweinidog hynaf yr Henaduriaeth, wedi ei ordeinio yn, 1868, a bu yn gweinidogaethu yn Holt a Glanypwll am oddeutu 40 mlynedd, ac yn fawr ei barch gan bawb. Da gennym ddeall fod yr Henadur Richard Morgan, Y.H., Rhayadr, yn gwella o'r afiech- yd difrifol a'i gqddiweddodd' yn ddiweddar. Mae Mr. Morgan yn un o'r ychydig sy'n fyw o hen ielodau y Cyngor Sir, a bu am flynyddau lawer yn drysorydd Cymdeithas Ryddfrydol Sir Faesyfedi. Mae ffermwr,—Mr. John Phillips, Rhydy- gath, Llanfyrnach, Penfro,-wed'i cynnyg betio £500 yn erbyn Mr. Protheroe, y Gweinidog Amaethyddol, na.s rrall brofi fod codi' erw 0 da.twsyncostio ^35, tra nad' yw y frarmwr yn cael ond ^36 am v cynnyrch. DywedMr. Phillips nas gwyr Mr. Protheroe ddim byd am datws yn Sir Benfro. Drwg gennym ddeall am waeledd y Parch. R. R. Morris, y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog. Methodd a myned i'w gyhoeddiad y Sul o'r bl'aen. Dymunir ei wellhad buan. Ar gyflawniad 2S mlynedd o wasanaeth fel gweinidog eglwys Seisnig y Presbyteriaid yng N ghaernarfoni, anrhegwydi y Parch. David Hughes, M.A., gan yr eglwys a'r gynulleidfa a nifer o lyfrau gwerthfawr a timepiece.' Rhodldwyd dodrefnyn hardd hefyd i Mrs. Hughes. Dechreuoddy Parch. David Davies, B.A., ar ei waith yn Nazareth, Pentre, yr wythnos ddi- weddaf, a rhoddwyd iddo dderbyniad cynnes gan yr eglwys. Ni chafodd ychwaith ymadael a'i hen.ofaliaeth yni Libanus, Blaenclydach, heb i'r eglwys yno roddi iddo brofion o'i gwerth- fawrogiadi o'i lafur, ynghyda'i dymuniadau goreu am ei lwyddiant yn y dyfod'ol. Mae eglwysi Sandycroft a Mancott wedi rhoddi galwad unfrydol i'r. Parch. E. P. Hughes, Abertawe, ac hyderir yn fawr y bydd yn abl i, dderbyn yr alwad. Mae yma faes mawr i weithio ynddo. Bydd yn Hawenydd gan yr Henadiuriaeth hefyd weled Mr. Hughes yn dod i'r cylch; efe yn fab i Mr. H. H. Hughes, Y.H., Caergwrle, un o golofnau yr Henadur- iaeth. Mae y myfyrwyr canlynol o Goleg unedig y Bala ac Aberystwyth yn gorffen, eii cwrs eleni,, ac ar dir i d-derbyn,,galwad: -Mri. John Davies, B.A., Llansadwrn, Carmarthenshire; R. S. Hughes, B.A. Rhostryfan; J. Parry-Jones, B.A., Treforris; O. T. Jones, B.A., Rhos- tryfan; E. Ll. Lewis, M.A., Blaenau Ffestin- iog; J. M. Roberts, Blaenau Ffestiniog; Owen Roberts, Porthaethwy; Griffith Griffiths, Capel Ucha'. Tachwedd, iaf, y cynhaiiwyd Cyfarfod Croes- aw y Parch. D. J. Wiilliams, B.A., B.D., yp Walham Green, Ijundain, ac ni chafodd un- rhyw weinidog erioed gynhesach derbyniad. Daeth aelodau yr Eglwys ymghyd yn gryno, a 11 y chynrychiolid ymron bob eg:lwys Gymraeg yn y didinas fawr. Er prysuredl gwr yw Mr. Timothy Davies, A.S., mynnodd egwyl. i ddod i'r cyfar- fod i lywyddu, a gwnaeth hynny gyda'i ddeheu- rwydd arferol. Nid heb a.chos y teimla Cymru yn falch o hono. Gwnaeth Mr. Lloyd, ysgrif- enydd yr eglwys, ei waith yn fedrus, ynghyda'i gyd-swyddbgion gymrodd ran. yn y siarad. Caf- wyd anerchiadau effeithiol a phwrpasol gan Mr. William Lewis, Cadeirydd y Cyfarfod Misol, a'r Parch. F. Knoyle, B.A;, a Mr John Morgan, Holloway. Daeth y Parchn. W. M. Davies, B.A., a T. E. Davies-ydda,u o Dreorchy—i'w hebrwng 01 Morgannwg, y naill ar ran yr Eglwys a'r llall ar ran yC. M., a. chyflwynasant ef mewn geiriau tyner, caredig, ac hiraethlawn. Os yw y cyfarfod hwn yn flaenbrawf o'r dyfodol!, gellir yn rhesymol ed'rych ymlaen am amseroedd hyfryd: yn hanesi yr eglwys horn. Y Parch. E. P. Hughes, Rhyddings Park, Abertawe, sydd wed'i derbyn gwahoddiad taer o eglwysi Mancott a Sandycroft, Caer, ac ar ol dwys ystyriaeth mae efe wedi ateb yn gadarn- haot. Dechreuodd ei yrfa ddisglair fel gweini- dog yn y Gegidfa, ar y Goror, ac erys ei enw yn annwyl yno hyd heddyw. OddiyMO symud- odd i Borthmadiog, ac am dros 12 eg mlynedd mae wedi porthi y praidd ar y bryn, gyda medr, doethineb, a dawn. Disgynna y gwr parchedig o deuluoedd enwog, ar ochr ei; dad yn or-wyr i Harri Roberts, Uwchlaw'rcoed, Dyffryn a Har- lech, ac o ochr ei fam yn wyr i Peters, Caer a Chaergwrle. Mancott, sydd yng nghesail castell Penarlag, a hyfryd yw atgofio, mae enw bu y Parch. John Prichard, Amlwch, yn llafur- io gyda mawr gymeradwyaeth, bydd dyfodiad eu dewisddVn yn, olyniad teilwng o'r gwr uchod, a diau gennym y bydd ei arhosiad yn ei faes newydd1 yn symbyliad i bob achos da ac i'r eg- lwys yn neilltuoT. Amharod ryfeddol yw ei eg- lwys i'w ollwng, gan ei fod wedi llafurio mor egniol, a hithau wedi cryfhaui yn ddauddyblyg er ei ddyfodiad ef atom. Mae ei amr^-wiol swyddau yn y dref, vn brawf o'i allu. ac nid' oes bron unrhyw weinidog vn fwy adnabyddus vng nn-hylchoedd goreu y ddinas. Eiddunwn iddo ef a'i briod bob bendith ar eu ddychweliad i'w hen gynhefin. Cyfrol ddyddorol mae"n ddiameu fydd honno y mae Mr. J. H. Thomas, A.S., newydd ei chwblhau, sef ei hunangofiant, yn dwyn y teitl "From Engine-Cleaner to Privy Councillor." -+- Da fydd gain bawb ddeall fod y dadganwr enwog, Mr. FfrangcGii, Davies, yn gwella, ac wedi gadael y cartref lie y bu yn cael gweini arno er ys rhai blynyddoedd bellach. Dywedai y dydd, o'r blaen wrth Mr. Tom Davies, yr ar- weinydd hysbys o Lundain, ei fod yn hyderu y bydd'ai cyn hir yn abl i fyned ar y llwyfan eto fel cynt.

------''-0.--''-CYMRU A'R…