Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYTHYR 0 Dfl CYFFRIDIN

News
Cite
Share

LLYTHYR 0 Dfl CYFFRIDIN DYDD SADWRN. Mssur Cynryehiolaeth y Bobl. Bu y Mesur hwni drachefn gerbron y Ty. Yr oedd y Drefnlen wedi ei, llanvv a. gwelliaaitau i .&Y.N i-ihygiion, Comisiwra y Terfynau ar yrAd-drefn- iant, yn cynnwys tri gan yr Aelodau Cymreig; ond penderfynodd yr Ysgrifennydd' Cartrefol gymryd yr unig gwrs diogel, sef glynnu yn fanwl at y cynhygion gwreiddiol, a gwrthod pob gwelliant- a, awgrymid. Calodd yr awgrymiad- au i ffurfio cynrychiolaeth arall o Fwrdeisdrefi Fflint a Dinbych, i ychwanegu rhanbarthau eraill at Fwrdeisdrefi Caerfyrddin fel ag i roddi tri aelbd i Gaerfyrdd'in yn lie dau, ac i gadw cynrychioilaeth Sir Faesyfed, eii Wrtho-d ar y tir y buasai sylfaen yr ad roddi ad wedi mynd os yr eid i grwydro unwaith oddiwrth y cynhygion gwreiddiol; ac os y caniateid un, ni ellid yn gyfiawn wrthod cyfnewidiadau eraill. Gwnawd y Mesur ynddyrus oherwydd mater ad-drefniant y Seddau Gwyddelig, yr hyn y penderfynodd Cynhadledd y Llefarydd beidio ei gyffwrdd, a.'r hyn sydd bron yn dyblu cynrychiolaeth Ulster. Maej hyn berthynas anffortunus a rhagolygon y Gynhadledd a.r yr Iwerddon. Os y cyrhaeddir dealltwriaeth yn y Gynhadledd, cynhwysir yn hynny ad-dref-niant, a bydd gwaith y Llywodr- aeth fellly yn ymddangos yn fethiant. Gyda De Valera yn dawnsio oddiamgylch, a'r America yn gwylio'n anesmwyth, nid yw hyn yn awgrymu doethineb ar ran y Llywodraeth. Ac yr oedd yn hollol ddiangenrhaid, gan fod ad-drefniant Lloegr yn gadael yr Iwerddon gyda, r03 o aelod- au yn Westminster, ac nis gall felly fod yn bar- haol. J, y Paeifflstiaid. Caed dadl ddyddorol ar drydydd darlleniad y 'Consolidated Fund: Bill" Cyfod'odd y pasiffistiaid y cwestiwn o amcanion rhyfel y Cynghreiriaid, gan argymell y polisi o geisio heddwch trwy gyflafareddiad. Ni ranasant y Ty ar y cwestiwn yn bendant, ond buont fodd- Ion ar rannu yn. erbyn y cloadur, yr hwn a gar- iwyd gyda 282 o bleidleisiau yn erbyn 33. Yna gwrthodwyd y gwelliant heb ranniad. Mr. Lees Smith gynhygiai y gwelliant, yr hwn geisiai gael y Ty i ddweyd Os y ceid sicr- wydd boddhaol gyda golwg ar annibyniaeth ac adferiad Belgium, a mynediad yn ol o'r tir a feddianwyd, ni ddylid gosod unrhyw beth' yn ffordd rhagbaratoad i gyflafareddiad tuag at delerau heddwch, y rhai ddylent gynnwys eglur- had teg ar broblem Alsace-Lorraine, a dargan- fod a chario allan foddion rhyngwladwriaethol effeithiol i osgoi rhyfel yn y dyfodol." Eiliwyd y gwelliant gan Mr. Richard Lam- bert, ac ategwyd gan Mr. Ramsay Macdonald. Atebodd Mr. Balfour dros y Llywodraeth. Con4emniai yr awgrym fod y Cynghreiriaid yn rhwym wrth gytundeb cyfrinachol i gyflwyno drosodd i Ffrainc lywodraeth ar y Germaniaid oedd yr ochr arall i'r Rhine. Datganai mai swm a sylwedd y dtFadl baslffistaidd oedd fody wlad hon, yn cael ei chadw yn y rhyfel er mwyn adfer Alsace Lorraine i Ffrainc. Mae hyn yn gamddoalltwriaeth perffaith o"r olwg gyffredinol a gymer y Llywodraeth bresennol, fel yr un o'i blaen. Yr ydym, yn ddiamheuol, yn ymladd dros hyn, ond nid dros hyn yn unig. Yr ydym yn ymladd er mwyn yn gyntaf, cael Ewrop yn rhydd oddiwrth fygythiad parhaus y Blaid Filwrol yn Germani. DatganoddJ fod y Gall'uoedd Camolog, yn nes i gael eu gorchfygu nag oeddynt yn. foddlon i gyfaddef. Yr hyn wnaeth gweddill y byd yw .ffurfio cyograir hunan-amddifFyniad yn erbyn. Gallu, sydd wedi gosod y nod o'i flaen o arg- lwyddiaeth ar y byd i gyd, yn fwy penderfynol nag unrhyw Allu er ys dwy fiT o flynyddoedd. Un o'r rhagbaratoadau raid fod tuag at hedd- weh yw fod y Galluoedd Canolog—sydd yn awr gyda'u ffrynd Twrci yn uno i draflyncu y man genhedloedd, ac i osod eu sawdl ar yddfau pobl ddarostyngedig,—eu bodl hwy yn dweyd wrth- ym beth a chwenychant, a pha mor bell1 y rhont i mewn i'r polisi ddelir gan yr ysbryd aruchel sydd yn fyw yng ngwledydd rhyddion yr Hen Fyd a'r newyddi. Ni ddaeth "yr amser eto. Buasem yn cyflawni troseddl dybryd pe y ceisem ddarbwyllo eraill ei fod wedi dod. Er mor fawr yw yr aberth a wnaethom, yr ydym ynl barod i dd'al ati, ac i ddall ati am amser amhenodol, nes i'r amcanion, mawr, cyfiawn, ac anhunanol, sydd gennym mewn golwg, gael eu sicrhau. Mewn araith bum munud, gwnaeth Mr. As- quith i ffwrdd a d'wy dybiaeth anghywir. Mae y pwys a roddir, meddai, ar gwestiwn. Alsace Lorraine yn awgrymu os y ceid y cwestiwn hwnnw oddiar y ffordd, y byddai yr amcanion rhyfel broffesa cefnogwy r y gAvelliant eu ceisio, o fewn cyrraedd eu syhveddoli. Ni fu y fath gamgymeriad. Yr ail dybiaeth anghywir oedd ein bod yn symud neu yn lledu ein amcaniion ynglyn a'r rhyfel. Mor bell ag yr oedd. ei wyb- odaeth ef yn myned, nid oedd ein amcanion/fel y gosodod ef hwy allan dair blynedd yn ol wedi in,a newid niac eangu, a'i obaith ef ydoedd, na fyddai iddynit mewn. unrhyw fodd gael eu culhau. Yna galwodd y Llefarydd ar Mr. Wliitehouse. Yr oedd y Ty wedi clywed digon, ac ni chan- iatawyd i Mr., Whitehoiuse fyned ymlaen. Pob tro y cynhygiaii annerclr boddid ei lais gan floeddiadau am ranmu.' Cynhygiodd Mr. Stanley Wilson y cloadur, ond ni dderbyniodd y Llefarydd ef, a pharhaodd y cynnwrf. Ymhen oddeutu pum munud, cynhygiodd Canghellor y Trysorlys y cloadur, a derbyniwyd ef y tro hwn gan y Llefarydd, ac yng nghanol llefau o gag," rhannodd y Ty -lyda'r canlyniad a nod- wyd eisoes, a daeth y ddadl i ben. Beirniadulr Llywodraeth. Yr oedd gan Major David Davies a Col. Lynch lawer i'w ddweyd mewn ffordd o feirn- iadaeth ar y dull y mae y Llywodraeth yn cario y rhyfel ymlaen. Gwnaeth yr olaf ymosodiad aiddgar ar amryw o aelodau y Weinyddiaeth, gan gynnwys y Prif Weinidbg. Cymeriad dydd- orol yw Col. Lynche—bu yn ymladd o du y Boeriaid yn ystod Rhyfel De Affrica, dedfryd- wyd ef i farwolaeth, ond newidiwyd y ddedfryd gan y diweddar Frenin Edward. Ddydd Mercher,. gofynodd Col. Lynch, oni ddesgÚfid y swyddfa rhyfel yn gywir pe v dcdid- gwireb Carlyle uwchben y drws— With sound digestion and stupidity, a man may front much"! Yr Olwg Filwrol. Ma^V newyddion o'r meusydd rhyfel Italaidd a Rwsiaidd wedi bod yn ddigalon iawn. Mae'r Prif Weinidog ar ymweliad ag Itali, a hyderir y gall sicrhau ein cyfeillion: Italaidd ein bod yn un a hwy yn ein hymdrechion i guroVi 01 y gelyn o'u tir. Dylifa milwyr Prydain a Ffrainc i Itali, a disgwylir y rhoi'r atallfa buan ar gynllun y gelyn. Ar y llaw arall mae cymryd Gaza a Passchendaele wedi calonnogi y rhai oedd yn tueddu i ddica,loni. Nid: oes mewn unrhyw gwrr arwydd o'r duedd leiaf i ddigaloni. Tywyllaf y bo'r olwg, mwy penderfynol yr el y dyn ar yr heol. Y Draul Ariannol. Mae y Pwyllgor sydid yn chwilio i mewn i'r Treuliau Cenedlaethol yn parhau gyda'u gwaith. Y mhlith y tystion yr wythnos hon yr oedd Syr Robert Chalmers, Syr John Bradburyt a Syr Edward Holden. Dadwaddoliad. Cyrhaeddlodd sibrydiion i'r Ty fod ymgais yn myned i gael ei wneud i ail-agor cwestiwm y Dadwaddoliad, a rhyfedd iawn dywedir fod y symudiad wedi ei gychwyn gan weinidog. amlwg iawn gyda'r Ymneilltuwyr Cymreig. Awgrymir y dylid cael cynhadliedld i geisio dod i ddeall- twriaeth. Caiff y personau sydd gyfrifol am y cyfryw symudiad eu synnu yn ddirfawr os y ceis- iant. gyffwrcld a Mesur sydd,-gyda'ramgY'lch- iadau mor wahanol oherwydd) y codiad yn y degwm a'r Hog, a'r oedfiad ..mewn rhoi y mesur mewn gweithredia,d,-yn rhoi mwy o incwm at alwad yr Eglwys wedi y dadwaddoliad nag, oedd yn dod iddi cyn hynny. Ond. rhaid i Ymneill- tuwyr fod ar eu gwyliadwriaeth, a rhaid iddynt beidio gadael i'r rhai a roddant fwy o bris ar ffafrau politicaidd nag ar egwyddor, i siarad a gweithredu fel pe baent yn gwir gynrychioti teimladl ae opiniwn Aelodau Egl'wysi Rhydd Cymru.

Advertising

O'R TSTWYl^H I'R DDYFI. --