Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. ydy* ya ystyried sin haaain ya gyfrifol am ayniadau yr y»gii^«awyT). COLEG Y BRIFYSGOL, CAERDYDD. AT OLYGYDD Y CYMRG. Syr-,—-Dymunir hysbysu eglwysi y gellir sicrhau gwasanaeth myfyrwyr o'r Coleg uchod i'w gwasan- aethu ar y Saboth, trwy anion at:— The Secretary, C.M., Students, University College, Cathays Park, Cardiff. 2 GWYL FLYNYDDOL BEAU CHAMP ROAD, CLAPHAM JUNCTION. AT OLYGYDD Y CYMRO. Aniiwyl Syr,—Dymuna swyddogion Eglwys y M.C. Beauchamp Road, Clapham Junction, S.W., hysbysu Cymry Llundain y bydd y Parch. D. Tecwyn Evans, Birkenhead, yn pregethu ar eu gwyl flynyddol y Sab- oth nesaf, 18fed o Dachwedd, am neg y bore a 6.30 yr hwyr, a 7 o'r gloch y nos Lun dilynol. t Yr eiddoch, &c. R. GRIFFITHS. CYFIEITHIAD 0 EMYN WILLIAMS. AT OLYGYDD Y CYMRO. Sy;r,-G-esyd Tecwyn yr emyn "Ynihtith holl ryfeddiDdau'r nef," &c., yn gorom air holl emynau Williams. I gynorthwyo y Sais i gael rhyw amgyff- red o'i ystyr, yr wyf yn cynnyg y cyfieithiad can- lynol Yx oidd-och, &c., Hwlffordd. T. C. REES. Of all the wonders of the skies, This shines with brightest light, To see in human nature clad The Only Infinite. Y DIWEDDAR BARCH. S. T. JONES. Y AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—-Syn iawn gan lawer o'ch darllenwyr oedd gweled erthygl y Parch. Evan Da vies, Trefriw, yn tich ih-if-yn diweddaf, "Er cof" am' y diweddar Barch. S. T. Jones, Colwyn Bay (gynt o Clwyd St., Rhyl). Prin y mae dyn wrth ddarllen yn gallu pen- derfynu beth sydd o'r tu ol, neu oddi tan,odd. Hyn sydd sicr, nid yw yn "adnabod" y gwrthrych, fel yr oedd canmoedd eraill yn ei, adnabod. Y mae y fath frawddegau a "Cyfrifai ei hun yn fardd," &c., a "Bu am dymor o'i oes," &c., a "Pan y mae gweini- dog lied ieuanc yn rhoddi ei ofalaeth i fyny, yr axgraff a rydd ar y wlad yw ei fod yn caru esmwyth- dira; ac am hynny ni warafunir iddo fwy o esmwyth- id nag a fyddai yn lies iddo, ac yn, ddymunol gan- ddo. Dyma i fesrur fu hanes y Parch. S. T. Jones," &C.ni,d yn imag yn anghywir, ond yn greulon i'r eithaf. Y mae i'r Parch. S. T. Jones (a'i deulu) le cynnes mewn ami i galon yn Rhyl, a hynny er gwaethaf- y Parch. Evan Davies, a purion peth iddo, os yw yr ysgrif hon yn esiampi gywir o'i allu, iddo roddi ei ysgrifell o'r neilltu am dymor, a gadael i eraill mwy galluog nag ef a minnau i wneud cyfiawnder a'r cawr bregethwr hwn, ag oedd mor annwyl gennym, ac mor dd'wfn yn ein, serch. Yr eiddoch yn bur, Lynwood, D. H. EDWARDS. Rhyl. [Diarbyniwyd llythyrau cyffelyb i'r uchod oddiwrth Mr. Thomas Pierce, Bon Marche, Rhyl, ac "Ed- mygydd,"—y ddau yn talu gwaroga).eth uchel i dalentau disglair a gwasanaeth dylanwadol y Parch. S. T. Jones tra yn fugail ar eglwys Clwyd Street. Gan fed ein, gofod yn brin, a chynnwys y tri llythyT yn debyg iawn i'w gilydd, cyboeddir un yn unig.—Gol.]. CENHADAEtll Y MIlLWYR CYMREIG YN PRESTON A LATHOM PARK. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,Wedi clywed am y nifer mawr o filwyr Cymreig yn Preston a Lathom Park, ac am eu hawydd am wasanaeth Crefyddol Cymreig, pendex fynodd y Cyfarfod Misol, oddeutu pedwar mis yn ol, ein bod yn gwneud trefniiad i gyfarfod eu dymuniad. Apwyntiwyd gwr cymwys iawn—y Parch. D. P. Jones, Dinbych, i ofalu am y gwaith. Gwneir gwaith rhagorol gan y genhadaeth, a gwerthfawrogir ef yn fawir gan y milwyr, ac ni ddylem laesu dwylaw gyda hyn. Hyd yma costiodd dwyn y gwaith yrnla en oddeutu £ 4 yn yr wythnos. Galluogwyd y Pwyllgor i wneud hyn, yn bennaf, ar gyfrif rhodd werthfawr gan frawd caredig a haelionus. Mae'r swm a roddwyd ganddo ef erbyn hyn wedi ei dreulio ac ychwaneg. Gosodwyd yr achosl gerbron Cyfarfod Pedwar Misol Liverpool yn Chatham Street,, a datganodd y Cyfar- fod Misol y byddai wrth gefn y Pwyllgor mewn un- rhyw ymdrech a farnai'n oreu er parhau y gwaith yn effeithiol. Barnasom, fel Pwyllgor, mai'r peth goreu, ar hyn ö bryd, fyddai gwneud apel at swyddogion yr eglwysi, a thr-wyddynt hwy at gyfeillion. yn yr eglwysi allai ac a ddymunai gynorthwyo gyda hyn, yn hytrach na gofyn am gasgliad at hyn. Hyderwn y rhoddir ystyriaeth ddwys i'T mater hwn, ac y ceir pob cynhorthwy a ellir estyh. Yr eiddoch dras y Pwyllgor, <- D. D. Williams, Llywydd. John Evans, Trysorydd, 19, Denman Drive. D. Jones-Hughes, Ysgrifennydd., aa, Victaria Dxives Aiatree. BLAENORIAID EGLWYSI Y CYFUNDEB. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Nid amhriodol nac anamser- ol" ydy w galw sylw at J pethau canlyriol, yn enwedig pan y mae cymaint o feio ar y gwein-idoilou a'r eg- lwysi :— (I) Diffyig prydlondeb yn cyflawni eu hymrwyin- iadau. Pan yn cael menthyg ariam at gapelall. cym- erir wythxiosau i gael y nodau yn barod ar ol derbyn yr arian, ac y mae yn rhaid aros am y iiogau am dymor ar ol terfyn y flwyddyn, ac ni cheiir hwynt heb anion am danynt. (2) Yn ol adroddiadau y Cyfarfodydd, Misol y mae traul afre.symol ytn myned iddi, oherwydd anniben- dod ac esgeulusdra y blaenoriaid i gyflawni y gwaith ymddiriedwyd iddynt. (3) Fod eglwysi yn cael eu condemnio am beidio cyflawni pethau osodwyd arnynt, pan, nla roddwyd y mate,riom. hynny ger eu bron o gwbl, ac fel y dywed- odd un blaenor yn Nwyrain Morgannwg, nia roddid casgliad y Gronfa Ganolog gerbron yr eglwys yr oedd ef ynddi. (4) Fod swtn pob casgliad a wneir yn yrnddibynnu ar deimlad y blaenoriaid tuag ato. (5) Fod teithiau Sabothol yn cael eu hamddifadu o wasanaeth gweiruidogaeth ragorol., oherwydd mym- pwy yr 'Autocrat' sydd yn trawsfeddiannu yr hawl i agor neu gau drws y pulpud. (6) Fod gweinidogion sydd ynddigotlJ gwrol i aw- gryinu fod costau teithio wedi cynyddu er pan rodd- wyd y cyhoeddiad, ar yr un pryd yn siicrhau na ofynir cyhoeddiad iddynt drachefn. Cymerodd hyn le yn ystod y mis diweddaf. Y mae llawer o'n blaenoriaid. yn enrwedig y rhai hyniny sydd yn dira anwybodiug ac yu ddiffygiol o'r gras 0 hunan-ym.wadiad yn teimlo fiod ganddynt ryw haWliau tra-arglwyddiaethol, fel nad ydynt foddlawn i neb wneud unrhyw wasanaeth ond hwy, ac y.mae llawer o ddynion ieuainc yn myned i dir neilltuaeth. Cefais lythyr oddiwrth un felly y dyddiau diweddaf hyn, ac yr oedd y dyn hwmw yn un o ddlyn-lion, gallii- ocTJ y sir. NID BUGAIL. PROFIAD HEN WR. AT OLYGYDD Y CYMRO. Aohiwyl Mr. Evans,—Yr wyf yn amgau penillion yn cynmwysi profiad hen wr siydd wedi myned heibio ei 82 garreg filltir, brodof o Elirn,, Manddeiniol, set Mr. William Lloyd, yr hwn ymfudodd i Johnstown, Pensylvaniia, tua 35 o fiynyddoedd yn ol ynghyda'i deulu. Yr oeddynt yno adeg y gyflafan fawr pan. y hodd wyd y dr-ef trwy doriad argae y gwaith dwfr. Dilangodd Mir. Lloyd a'i deulu, ond ooillasantt yr oil a feddent, a bu gorfod iddynt ail gychwyn brwydr bywyd o'r newydd. Bellach mae amryw o'i blant yn dal safleoedd pwysig yng ngwlad y Gorllewin,—un mab yn gyfreilthiwr, ac un arall yn weinidog parchus gyda'r Presibytariaid. Mae. Mr. Lloyd yn dal i deim- lo dyddordeb dwfn yng ngwlad ei faboed, ac yn nawn ei ddydd yn prydyddu ei brofiadau. J.H.R. MORDAITH BYWYD. Mordaith bywyd, brolli dibenu, Gwelaf decach glan trwy ffydd, Caiff fy llestr wan amgori Wrth syhveddau gwlad y diydd Teithio wnaethum ar y cefnfor, Yn ngoleunii gwan y ser, Y dyfnderau yn dygyfox, Minnau'n, gruddfan am fy Ner. Niwloedd trymion oedd yn t'w'llu Nes gwneud dydd yn ganol nos, A fy lamp ymron diffoddi Llawer gwaith mewn gwyntoedd oroes; Gwynt a thonnau yn anhydrin, Minnau rhyngddynt ar fy hynt, Fel ysglodyn diamddiffyn At drugaredd ton a gwynt. Ar y mor o hyd yn teithio Gyda rhyw gylfymder mawr, Disgwyl 'machlud haul' a glando Ar draethellau gwlad y wawr; Gwylan fwynaidd ar yr aden., Fel rhyw gennad oddidraw, Safodd enyd ar yr hwylbxen I gyhoeddi "Tir gerllaw." Mae i'm etifeddiaeth yno Wedi gorffen teithio trwy, Cadw ngohvg wnaf ar honno, Pam y digalonaf mwy; Y mae traeth y byd ysbrydol Bron ar gyrraedd gennyf 'nawr, Ni wna serch a bri daearol Fyth fy nghlymu wrth y Ilawr. x Yno wedi hir gyd-deithio, Glaniodd fy anwyiiaid mad, Credaf caf eu cwrddyd eto Yn nhrigfannfau Ty fy Nhad; Henffych borthladd fy nymuniad, Clod i'r Gwr am dygodd trwy; Henffych foreu gwyn fy nglaniad, Nibydd mor n-a chwmwl mwy. WILLIAM LLOYD.

ER BUDD YR YSBYTY CYMREIG.

ADOLYGIAD. ,

■'j COLWYN BAY.'