Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. LLE 1 *MI. Rv.y:n mum yji y blaen, At geulan oer y byd A niwl y glyn yrndaen Dros f'eriaid Ix,,ver pryd' Ond gwelaf draw tu hwnt i'r lli, Fod gan yr lesu le i mi. O Geidwad, bu Efe Heb lety lawer awr; Gomeddwyd iddo le I rod Ei ben i lawr; Ac yn uhigrwydd Calfari, Fe brynodd hawl y nef i mi. Dirgelwch sydd yn toi Sylweddau'r byd a ddaw; Ond rhaid i ofnau ffoi Wrth feddwl glanio draw; Yng nghanol tyrfa fawr ddi ri, Mae gan yr lesu le i mi. Wel, caned byd ei ddor Yn f'erbyn pryd y myn; Bendigaf byth -fy lor, A chanSf yo y glyn; Ar newydd stad o duwyfol fri, Mae ga:n: yr lesu le i mi. DYFED. Yng nghyfarfod Merched y De yng Nghaer- I b fyrddiili dy wedodd Miss Agnes Slack Lie bynnag y mae'r Wlad'wriaeth wedi prynu'r Fas- nach methiant fu'r anturiaeth." ♦ — Gwerthwyd y Rock House Hotel, Llandrin- dod, i gwmni newydd gyda chyfalaf o ddeng mil o bunnau. Mae'n amlwg fod pobl yr ari mawr yn credu nad yw'r byd yn mynd i allu gwneud heb Llandrindod. --+-- J Mae siroedd Fflint a. Dinbych yn colli un aelod dan y mesur newydd. Ceisiodd Syr Her- bert Roberts a Mr. Ormsby Gore gael pedwar aelod dros y ddwy sir yn lie tri, a'r hyn na allent hwy ill dau, yn tynnu gyda'i gilydd yn yr un cwch, ei gyrraedd, sydd anobeithiol yn wir. —_ i— Cyhoeddwyd tair ysgrif y Scottish Review ar Enter the: Celt, yn bamffled. Y gyntaf p'r tair yw un Mr. E. T. John, A.S., ar le y Cymro ym mywyd! y dyfodol. Ymreolwr cryf yw Mr. J ohu, a dengys ymha gyfeiriadau y gellir datblygu adnoddau ac eangu cyfleusterau Cymru. --+-- Dywedir mai Arglwydd Kenyon sydd, i fod yn Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych fel i'r Milwriad Comwallis West. Er mai Sir Ym- neilltuol ydyw Sir Ddinbych, mae Toriaeth yn gryf yn y cylch lie y mae y swyddi hyn yn bwysig. Ac ar ol Sir Gaerfyrddin, tro y Toriaid .1 yw yn awr. *— Mae Eifion Wyn' wedi ymrwymo na chyn- hygia byth mwy ar destun yr englyn yn yr Eis- teddfod Genedlaethol. Wel, fe enillodd! chwe' gwaith, a (ai droi o'r neilltu bellach. Da lawn fydd'ai i bawb nad oes ganddynt ymddiried yn y beirniaid ddilyn esiamrpll Eifion Wyn cyn cynnyg y tro nesaf. ♦ — Gwr dyddorol yw Capten Doughtbn, maer newydd Aberystwyth. Ganwyd ef yn 1846, a bu yn yr ysgol gyda'r Parch. William Jones a Mr. John Evans. Mae bron drigain mlynedd er pan aeth i'r mor, ac yn ystod ei oes faith gwelodd lawer o .enbydrwydd. Mae wedi gadael y mor er ys blynyddoedd, ac yn un o ddynion cyhoeddus mwyaf gweithgar y dref. Ryw Saboth digwyddais fyned i'r Ysgol Sul yn I Salem, ac efe oedd yr arolygwr. Preifat oedd y brecwast roddodd Mr. Lloyd George i weinidogion Ymneilltuol Llundain, ac felly rhaid peidio dweyd beth oedd y sgwrs. Ond gwelais air gan bedwar o'r rhai oedd yno, a bydd Y11, dda gan rywrai gwan eu ffydd glywed fod y Prif Weinidog yn para yn Ymneilltuwr a Radical. Sicrheir, hefyd, nad yw wedi gadael y Bedyddwyr. --+- Mewn colofn arall gwelir apel gan frodyr am gynhorthwy i gario ymlaen Genhadaeth y Mil- wyr Cymreig yn Preston a Lathom Park. Cwynir weithiau mai ychydig iawn o gefnogaeth t, ol a roddir gan eglwysi y wlad if waith crefyddol ymhlith ein bechgyn. Diffyg- trefniadau yw'r prif reswm am hynny. Yn awr dyma gyfle a phob cyfarwyddiadau. ♦ Geilw y Brenin am ddydd o Ymostyngiad ar y Saboth cyntaf o'r flwyddyn newydd. Mae America wedi cychwyn gyda dydd o ymostyng- iad, a P'hrydain ymhen tair blynedd a hanner yn cyhoeddi dydd o ymbil! Pwy na theimlai fod America ymhell o'n blaen pan yn darllen mai'r Arlywydd Wilson oedd yn dechreu'r Cyf- arfod Gweddi yn y capel Presbyteraidd, lie y mae yn aelod! Nid yw Dyfed yn gweled un gobaith am ddydd irniad y gwahanol Enwadau Crefyddol. Ychydig o ffydd sydd ganddo hefyd mewn Llyfr Hymnau anenwadol. Ofna y bydd i'r un sydd yn y wasg ar hyn o bryd fod yn farw-anedig. ,Yr hyn, a ddylid ei wneud, medd efe, yw i bob enwad lynu wrth yr emynati fel eu cyfansoddwyd gan eu hawdwyr, a gochel cyfnewidwyr emynau fel y gochelir lilofruddion. ♦ "• Mae rhagor na dwy ran o dair yr hyn a gesglir fel treth y tlodion" yn rhanbarth Conwyi yn myned at dreuliau y Cyngor Sir,—^42,074 yn myned i'r sir, a ^14,946 i'r tlodion. Dyma baiies petb-au drwy'r wlad, ac eto nid oes neb yn cymryd sylw. Cael cyflogau i swyddogion yw'r peth pwysicaf, ac nid oes un adrain. o fywyd cyhoeddus yi deymas mor ddiymgeledd ag eiddo'r awdurdodau sy'n trin y trethi. ♦.— Mae anerchiad y Prifathrb Prys o gadair Cymdeithasfa Aberaeron, ar Fywyd yr Eglwys a'i lie yn y Byd, wedi ei chyhoeddi yn bamffled destlus yn Swyd-dfa'r CYMRO. Prin y tybiaf i ddatganiad pwysicach gael ei wmeud o gadair yr un o'r ddwy Gymdeithasfa yn ystod yr oes hon. Dylai gael sylw drwy yr holl! Gyfundeb,— a thuallan iddo, pblegid mae iddo genadwri bwysig at Gymru. --+-- Fe fydd bwlch mawr yn nhre Castellnedid ar 01 y diweddar Dr. Powell. Gwasanaethodd y dref a'r cylch yn ffyddlon am flynyddoedd meithion, a gall llu ddwyn tystiolaeth i'w galon haelfrydig. Ni utganai O'il flaen, ac ni chaffai ei law aswy wybod! yr hyn a wnai ei law ddehau. Yr oedd yn edmygydd diderfyn o'r diweddar Barch. Evan Phillips, a dywedai na fuasai byw yn y dref yn beth mor ddiogel i neb wedi marw y seraff hwnnw. Gwelais hanes y gynhadledd a'r cyfarfod cy- hoeddus yng Ngwrecsam o blaid Pryniant gyda Dewisiad Lleol. Mr. J. E. Powell, Y.H., oedd cadeirydd y gynhadledd, a dywedodd fod o bump i saith 0 siroedd Cymru fuasai ar unwaith yn pasio Gwaharddiad. Dadleuai Mr. Powell nad oedd gwahaniaeth rhwng prynu y Fasnach ragor elwa ami fel y gwneir yn awr, ac os gwna'r Control Board gymaint o les, betht-n,a wndr os eangir y rheolaeth ar y Fasnach t Dyna'n fyr farn Mr. Powell, a haedda^wrandaw- iad parchus er anghytuno oddiwrtho ben a chynffon.. Mae newyddiadur lleol yn croniclo hanes dathliad dau canmlwyddiant Williams yn Llani- ymddyfri mewn dwsin o linellau! Nid aeth cymaint ag un o'r aelodau Cymreig yn erbyn y Llywodraeth yn yr ymraniad ar gwelliant o blaid heddwch yn Nhy y Cyffredili nos Fawrth. ♦ i— Mae ffermwyr Sir Gaerfyrddin yn dihuno, ac yn penderfynu undebu a'i gilydd. Gwnant hyn am y tybiant y gallant mewn modd effeithiolach amddiffyn eu huna,in yn wyneb y duedd amlygir bron gan bawb i ymosod arnynt, a hwythau yn ddieuog a diniwed. Heblaw hyn soniant am y priodoldeb o gael gwr neilltuol i'w cynrychioli yn uniongyrchol yn y Senedd, ac y talai'r ffordd iddynt, meddai rhai o honynt, i dalu iddo gyflog o ddwy fil o bunnau y flwyddyn. Edryched Mr. John Hinds a Mr. Llewelyn Williams ati! Breakers ahead. ♦ ■— Onid da fyddai cyhoeddi y rhestrau y cyfeirir atynt mor fynych o bleidwyr a gwrthwynebwyr Pryniant y Fasnach Feddwol7 Er ys wythnos- au mae'r Wesleyaid yn dadleu a'i gilydd pa un ai hanner dwsin ynte ugeiniau o weinidogion sydd o blaid Pryniant, ac yng nghynffon y ddadl yna cychwynir un arall, drwy ddweyd fod ugein- iau o weinidogion y Methodistiaid CalAnaidd o blaid Pryniant. Paham na chyhoeddir y rhestr fel y gwneir gyda rhestr y rhai yn erbyn Pryn- iant? Arbedai lawer o ysgrifenmu a thipyn o ddrwg-dleimlad. ■ ♦ > 1 Dywedai un gwr pur amlwg mewnr cyfarfod cyhoeddus .y dydd o'r blaen na wyddai efe am un dosbarth o ddynion nad oedd -wedi manteisio yn ariannol ar y rhyfel, gyda'r eithriad o'r mil- wyr eu hunain. Yn sicr rhaid fod gwr o'r fath yn byw mewn byd eithriadol o fychan cyn byth y gallasai wneuthur gosodiad o'r fath, ac fe weddai inni dosturio wrth ei anwybodaeth dygn. Oni fyddai yn hawdd enwi llawer dosbarth iddo ag y mae y rhyfel erchyll hwn yn peri eu bod yn gruddfan o dan eu beichiau. Dyna-breintars y wlad1 i ddechreu! Dywedai yr Henadur J. M. Howell mewn cyfarfod cyhoeddus gartref fod llawer yn Aber- aeron yn blino ar y rhyfel, yn troi! i ftimiadu Mr. Lloyd George tra yn canmol Mr. Asquith a Syr Edward Grey serch mai hwy ill dau fu'n cyhoeddi rhyfel. Cyfeiriaf at sylwadau yr Henadur am fod yr un peth yn wir am rannau eraill, o'r wlad. Clywais wr adnabyddus yn dweyd y dydd o'r blaen y rhaid i'r Prif Wein- idog a Syr Douglais Haig fynd o'r neilltu yn y man. Credaf mai effaith y blinder y cyfeiria Mr. Howell ato yw y cyfan. A chofier nad yw'n gyfyngedig i'r ynysoedd hyn. Lie bynnag 0 9 y mae milwyr heddyw, maent yn anesmwyth ac anniddig. -+- Un o ysgrifau mwyaf dyddorol y Cerddor am y mis hwn yw eiddo Mr. David Beynon, Caerdydd, yn cynnwys cronicliad o'i atgofion am y diweddar Dr. Joseph Parry. Ganwyd hwy yn ymyl ei kilyddl, a buont yn cydweithio yn llanciau yn hen Feli'n Cyfartha—un yn yn, ddeuddeg oed, a'r Hall yn unarddeg, a hynny am chwech cheiniog y dydd 01 ddeuddeg awr. Yn fynych fe fyddai y ffwrneisiau yn segur, oblegid fod llawer o'r gweithwyr ar y spri' a chaffai y bechgynos amser da. Gwaith Joe.' ar adegau felly fyddai casglu y llanciau ynghyd < a'u ffurfio yn orymdaith, gan efelychu seindorf bres Cyfartha. Efe bid sicr oedd yr arwein- ydd, a'r amrywiol offerynau gwaith oedd yr in- strumentals.' Eglur y dengys y dyn o ba radd i.y bo'i wreiddyn. Diolch i Mr. Beynon am ddiogelu yr atgofion hyn.