Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. "MI A DDEUAF ATOCH." Yng ngofidiau'r anial dyrys, \lewn peryglon lawer awr, Am Dy hen addewid felys, Diolch iti, lesu mawr; Heulwen bywyd ..Yw Dy fwyn gymdeithas Di. ? Digyfnewid yw Dy gariad, Drwy y bedd a Chalfari; At yr unig a'r amddifad, Cynnes yw Dy galon Di; Ni, anghofi, Stormydd blin y cystudd mawr. Pam yr oedi, O! Ddiddianydd, Wedi prynu ein rhyddhad j"; Dyro innii brotiad newydd Dy fod eto yn y wlad; Yn Dy heddwch, Aros bellach gyda ni. Mae amheuon yn ein blino, A gobeithion yn llesghau; A'n gelynion byth yn effro, A'u byddinoedd yn cryfhau; Tyred, Iesu, Ti Dy hun all gario'r maes. ,> DYFED. 4 Drwy gynnal gwasanaeth crefyddol yr agor- wyd neuadd drefol Dinbych,—y gweiniidogion Ymneilltuol a'r clerigwyr yn gwasanaethu. Pe buasai hyn yn digwydd bedair blynedd yn ol, ciniaw fuasai vno. ♦ Gwerthwyd amryw o newyddiaduron Cymru i gwmniau Seisnig yn ddiweddar. Effaith hyn fydd jgwneud y wasg yn anturiaeth ariannol, a gwelir ffrwyth y cyfnewidiad eisoes ar ddalen- nan rhai o'r papurau. 4— Er pob anhawsterau mae'r Annibynwyr yn llwyddo gyda'r casgliad at y Drysorfa Gynorth- wyol. Mae'r addewidion yn 26,983p. 15s. 2c., ac yn ystod y deng mis diweddaf y caed 2505P. 14s. 3c. or swm yna. Ac y mae hanner yr arian wedi eu talu. Clyfwais fo-d cannoedd o gopiau o lyfrau Cym- raeg safonol wedi eu gwerthu yn ddiweddar i'w berwi i lawr a'u troi yn bapur gwyn. Beth fu- asai rhai o'r hen gyhoeddwyr yn ei ddweyd pe y gwelsent y llwythi yn myned i'r felin? Cost- iodd rhai o'r llyfrau hytn gannoedd o buwnau. Dymai un o effeithiau rhyfedd y rhyfel. — Oni bai am y rhyfel, dywedir y byddai yr ar- graffiad newydd o'r. Caniedydd Cymilleidfaol wedi ei gyhoeddi. Y mae iddo olygwyr gallu- og, ac os ydynt hwy yn gallu cytuno a'u gilydd, cryn gamp iddynt fydd plesio pawb. Barn Tecwyn yw mai un, Golygydd fyddai oreu, ac i hwnnw siawnsio yn wyneb clod ac anghlod. — Dywedir fod yna dros ugain o'n gweitnidogion ni yn ystod y blynyddoedd diweddaf wedi mynd trosodd at y Presbyteriaid, a diau mai y rheswm pennaf am hyn yw rheswm ariannol. Uchel eilw hyn ar i'r eglwysi ystyried y mater hwn o ddifrif, neu fe fyddis yn sicr o golli rhai o'n pregethwyr goreu yn y dyfod'ol. .—4 A fu rhywbeth mwy rhamantus yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol na gwaith Hedd Wyn yn anfon awdl o faes y gwaed, ac yn ennill y gadairf GorflFermodd ei awdl erbyn yr adeg i'w hanfon i mewn, ond bu yn Haw awdurdodau'r llythyrdy am bum' niwmod cyn gadael Ffrainc, a.c felly yr oedd yn rhy hwyr yn cyrraedd. Ond nstynwyd yr amser, a,'r awdl yma a enillodd y gl-dair Dywed cyfaill oedd yn y Gynhadledd Ddir- I westol yn Llandudno na fu efe erioed' o'r blaen /mewo cyfarfod dirwestol heb iddo gael ei ddechreu gyda gweddi. Cynhadledd sych ydoedtj, ebai fy nghyfaill, heb ddim cyfeiriad o gwbl at yr agwedd grefyddol i'r cwestiwn. Yn wiir prin y cafodd moesoldeb le i roi ei droed i lawr. — Um o bregethwyr mwyaf poblogaidd Llundain yw y Parch. Thomas Phillips, Bloomsbury. Cymro i'r earn ydyw, a Bedyddiwr. Mae'n weinidog ar hen eglwys fu yn gyfoethog ac aristocrataiddi. Erbyn hyn mae nodwedd yr eglwys wedi newdd, a'r bugail yn apelio at y gweithwyr, ac yn llwyddo yn anghyffredin. Yn Llundain, fel pob man arall, y dyn sy'n gweithio sy'n llwyddo yn y diwedd. —♦—— Daeth yr adran -gyntaf o lythyrau Trefecca (1-44) ac 0 ddyddlyfrau Howell Harries allan fel atodiiad i rifyn Mehefin o Gylchgrawn Hanes yM.C. Blaenorir hwy gyda Rhagaar gan v Parch. J. Morgaa Jones. Rhifyn neilltuol o ddyddorol yd'yw hwn, ac mae'n, addewid am rywbeth ag yr ydym wedi disgwyl yn hir am dano. Ond ychydig ysywaeth sy'n cymryd dyrklordeb mewn pethau fel hyn, ac yn araf y gall y Pwyllgor symud' ymlaen. I. Ysgrifenna y Parch. E. K. Jones, Cefnmawr, lythyr oryf i'r wasg ynglyn ag achos y Parch. B. Meyrndk, gweinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mon. Bwriedir codi'r achos i'r Uchel Lys, ac felly nid da cyfeirio llawer at y manylion. Ond mae'r adeg wedi dyfod! i Ymneilltuwyr Cymru siarad yn glir gyda golwg ar y creulonideb a ddangosir at bregethw-yr ac eraill sydd wedi eu taflu i ddwylaw y milwyr. Dywed Mr. E. K. Jones fod y Pabyddion yn cael llawer gwell trin- iaeth na'r Bedyddwyr. + Ymwthia Esgob Tyddewi a'r ffrynt yn yr Eg- lwys y dyddiau hyn. Cafodd efe ei fagu gyda'r Methodistiaid, ac ni siaradaii ddim ond Cymraeg y deuddeng mlynedd cyntaf o'i oes. Daw hynny yn fantatis fawr iddo yn y cyfwng yma, pan nas gall yr un o'r tri esgob arall ysgrifennu brawddeg Gymraeg gywir pe byddai eu bywyd yn, dibynnu ar hynny. Y canlyniad yw fod Esgob Tyddewi ar y blaen iddynt ymhell, a gallai efe achub yr Eglwys yn y cyfwng hwn. Gresyn na buasai yn bregethwr. Ond y mae yn ddeheuig a hirben, a gall hynny gardo dyn ymhell. --+- Daeth i'm Haw raglen Cymdeithas Lenyddol Llangollen, am y tymor nesaf, ac y mae; yn bat- rwm o raglen. Heb enwi'r darlithwyr campus, dyma rai o'r testynau :iEmrys ap Iwan; Wil- liams Pantycelyn; S.R. Owaih Alaw, Brinley Richards a Phencerdd Gwalia; Gerallt Gymto Robert Moffat; George Borrow; Dvled Shakes- peare i'r Beibl; Yr Arwyddluniol mewn Celf Gristionogol Ysbrydegiaeth; Ffynonau cysegr- edig Gogledd Cymru; Teymas Nefoedd; Dylanwad sefydliadau gwerinol ar foes ac ymar- weddiad Arfbeisiaeth; Llysiau meddygol ein gwlad. Dyna arlwy fuddiol ar gvfer pawb. — -+-- Fel y canlyn yrysgrafenna Gwilym Hiraeth- og yn y 4 TraethoSydd am 1846 am Willilami, Pantycelyn:—" Hwn er ei fed yn hen sydd o hyd yn ieuanc; er wedi marw a thewi yn fyw ac yn IlefaTu eto, ac ieuanc a fydd, byw a llefaru a wna, tra byw crefydd ac iseith v Cymry. Y mae yr hen Williams," yn lie hemeiddib, yn hytrach yn ieuangach, ac elfen- nau bywyd yn gryfach ynddo na phan oedd peiriannau y bywyd natumol yn cyflawni *u priodol swyddau. Yn nesaf at y BeibI ei gan- radau ef ydynt brif gyfeillion Cristionogion r Efengylaidd y Genedl." Mae pwyllgor Prifysgol Aberystwyth, gyda'i b garedigrwydd a'i graffter arferol, wedi cynnyg ystafelloedd cyfieus i gynal Coleg Diwinyddol y M.C., yn i, Marine Terrace. Yno. mae'n debyg y bydd y Coleg yn cartrefu'r tymor hwn. Mae'n hawdd iawn gor-wneud dathliadau. Felly gyda dathliad cam'mlwyddiant genedig- aeth Edward Morgan. Ond gadawyd allan o'r cyfarfod yn y Dyffryn ddau bwynt pwysig a dyddorol,—ei enedigaeth a'i waith Uenyddol. Cyfeiriodd Mr. Mordaf Pierce am y pwynt cyntaf, a gallasaii efe ymhelaethu, oblegid gwyr efe hanes Llanidloes yn well na neb arall. Ond at waith Ilenyiddol Mr. Morgan ni chyfeiriodd neb. Ac y mae hwn yn faes toreithiog. Nid yw y Cofiant yn dweyd ond ychydig iawn am dano. Difynir yn helaeth, ac m cheir nemawr ddim arall. Pwy tybed a gymer hyn mewn, Haw? 0 Bydd d'athliad dau gan'mlwyddiant Williams, Pantycelyn, yn debyg o symbylu amryw i chwilio ei hanes, a diau y deuir o hyd i lawer o ffeitk- iau nad oeddynt YIll hysbys. Mae'r Parch. M. H. Jones, B.A., yn gweithio'n ddistaw drwy ei golofn hynafiaethol ddyddorol ym mhapur Caerfyrddin, ac y mae "JD.E.O. (ficer Llan- ymddyfri) wedi cyhoeddi pamfflet bach gwerth- fawr iawn,—" A Short Biographical Sketck and the will of the Rev. William Williams, Pantycelyn, 1716—^1791." Dywed y ficer mal ym Mawrth, 1716, y ganed Williams, ac felly mae'r dathliad yn ddiweddar. Dywed i Wil- liam Williams gael- ei fedyddio ar y 29a,in a Ebrill, 1716. --+- Y mae eglwys Bethel, Pontycymmer, wedi jgwneud trefniadau helaeth a dd'athlu dau can'- mlwyddiant Williams, P antycelyrn. Bwriedir cynnal pedwar o gyfarfodydd, a disgwylir y cewri i siarad ar destynau pwrpasol yn y dreftt ganlynol: Nos Faw-rth, Hydref 22ain: Ei fywyd a'i waith." Y Parch. J. Morgan Jones, Caerdydd. Nos Fercher, Ilydref 23ain: "Barddoniaeth ei Emytaau." Yr Archddterwydd Dyfed. Nos Iau, Hydref 24aia: Diwinyddiaeth ei Emynau." Y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D. Nos Wener, Hyd. 25am: Ei Emyn-au yn feith- xiniad- profiad." Y Parch. J. Hughes, M.A. (Liverpool gynt), Penybont. Y mae gwa,sanaeth Williams, Pantycelyn, i Gymru yn d'eilwng o'r trefniadau goreu, ac y mae yn amlwg fod eglwys Bethel wedi pender- fynu cael dathliad teilwng. Deallaf fod ym mwriad y gweinidog i gyhoeddi yr anerchiadau yn llvfr, ac y mae, yn ddiau y caiff gylchrediad eang. ——, Mae hanes rhai o'r myfyrwyr newydd fydd yn myned i'r Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth yn hynod, oherwydd y rhyfel neu amgylchiadau eraill. Ganed Mr. E. H. Morris, B.A., yn Singa- pore, lie y preswyliai ei dad, sydd yn gapten llong. Siaradai'r ialth Malay pan oedd yn fachgennyn yro. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ganolraddol Llandudno, a graddiodd gydag an- rhydedd mewn Athroniaeth ym Mangor eleni. Preswylia gyda'i ewythr ym Mettwsycoed. Cymerth Mr. E. J. Lloyd y radd o M.A. o Fangor rai blynyddoedd yn ol, dnvy draethawd ar hanes Thessalia. Yna aeth i Rvdychen i barhau ei ymchwiliadau a cheisio gradd B.Litt. Ond pan dorodd y rhyfel allan, daeth adref i Ffestiniog i gymryd masnac4 ei frawd oedd wedi ymuno a'r fyddin. Lladdwyd hwnnw ychydig fisoedd )7'111 ol, a phenderfynodd Mr. E. J. Lloyd barhau ei efrydiau. Brawd i'r Parch. J. Vardre James, Newbridge, Sir Fynnwy, yw Mr. W. R. James. Bu am fisoedd yn y ffrynt yn Ffrainc, ac mewn ysgarmesoedd p-wysig. Ymhlith y lleill a fu am ysbaid yn y fyddin gellir enwi Mr. T. Alun Williams, Clynnog, a Mr. F. T. Davies, Aberhonddu.