Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

----NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. CNWD Y MAES. Trugaredd, fawr Cynhialiwr byd, A gyrraedd hyd y nefoedd; A dyfnder gwag anghenus ddlyn, A edwyn Ei oludoedd. Arlwyodd newydd fwrdd yn llawn, A chroesaw gawn i wledda; Id Ac uchel ddwed Ei ddoniau rhad, Mai cariad yw Jehofah. o danEi fendith rasol bu Y cnwd yn tyfu'ni araf; A bywyd dan ei! goron sydd Yn nhywydd y cymhaeaf. Cydnebydd daear ymbob cwr Lywiawdwr anweledig; A llawenhau ar for o yd, Mae gobaith byd llygredig. Wrth ganu mawl am gnwd y ddol, A phob daearol hawddfyd, Rho brofi eto; Arglwydd da, Mai Ti yw Bara'r Bywyd. Disgynned had efengyl Ion I galon y cenhedloedidl; s A dwg i mewn1 ysgubau gras, I lonni teyrnias nefoedd. DYFED. — ♦1 I Drwy ddamwain cefais fy hun yn Llandrindod ar adieg pan yr oedd dau atdyniad yno i ymwel- wyr,—CynhadLedd Heddwch a Bowling; Com- petition. Nid oedd cysylltiad rhwng; y ddau, ac ni buaswn yn son am danynt gyda'u gilydd oni- bai i"r ddau ddyfodi i wrthd-arawiad nos Fawrth. I. Galwyd y Gynhadledd dlrwy Y Deyrnas," cyhoeddiad y Fraiwdoliaeth, ac yn yr hysbysiad gelwir hi yn Gynhadledd Heddwch Llandrin- do,d Estyna y cyfarfodydd o nos Lun hyd ddydd Mercher. Nid oedid y cynhadleddau yn agored r neb ond rhai mewni cydymdeimlad ag amcanion y Frawdoliaeth, oddigerth pregeth nos Lun a'r cyfarfod cyhoeddius nos Fawrth,—y ddau yn cael eu cynnal yn Nhabernacl y Bed- yddwyr. ——. Ay. gae glas y Rock yr oedd cynhadledd y cbwareuwyr, a daethant yno yni llu mawr o dueddau Caerdydd ac Abertawe i ymryson mewn cystadleuaeth oedd yn mynd ymlaen ar hyd yr wythnos. Bum amryw weithiau yn edrych armymt, ac a barnu oddiwrth bryd ai gwedd y chwareuwyr, gallwn feddwl fod! y chwarae yn un manteisibi i iechyd. Gwyr graenus oeddynt, heb olwg ympryd na phoen bywyd amynt. Ni chlywais iddynt son ar y cae glas am y cyfarfod gweddi na'r bregeth; ond galwyd sylw at y cyfarfod oedd i'w gyninal nos Fawrth ynglyn a Chynhadleddi Heddwch, ac aeth y son allani y byddai yno row. --+-- Buasai yn dda gennyf we led y bowlers yn y capel i glywed pregeth y Parch. Herbert Morgan, M.A., Bryste, nos Lun. Cawsant wledd, heb achos cwyno. Ei bwnc oedd Gweinddogaeth y Cymod." Perthynas cymod a chalooii a hanfod ein crefydd, y mae yn ddech- reu ac yn ddiwe&, ac yn bob diiim yinddi. ♦ 1 Rhannüdd ei sylwadau dan ddau be;n,-Sa,il y Cymod, a'i igylch. Y Cymod sy'n gwahan- iaethu Cristionogaeth yn bennaf oddiwrth bob crefydd arall. Mewn paganiaeth rhaid i' chwi gymodli y duw; ond dywed I'esu Grist fod Duw yn baratoch i ddyfod atom ni nag ydym ni i fyned ato Ef. Y broblem fawryn y byd moesol yw cymodi'r byd a Duw. Am fod Duw yn Dduw fel yma y rhoddodd inni weinidogaeth y Cymod. —I Efe a roddes i ni weinidogaeth y cymod oblegid hyniny rhaid i ni fyned a'r ysbryd yma i bob man,—i derfynu ymrafaelion rhwng unigol- ion a'i gilydd, rhwng dosbarthiadau mewn cym- deithas a'i gilydd, a rhwng teyrnasoedd a'i gilydd. Y trydydd pen oedd pwynt pennaf y bregeth, a chyda llawer o ddeheurwydd dygodd Mr. Morgan i mewn egwyddorion ac amcanion Cym- deithas Heddwch. 'Er na soniai am d'anii, eto yr oedd yn ddigon eglur ei fod wedi cotrdeddu y cyfan yn chwaethus a medrus, a phrin y credaf y gallasai neb sydd yn credu yn y Testament Newydd godi unrhyw wrthwynebiad pwysig i'w sylwadau. Terfynodd y gwasanaeth yn bryd- Ion a gweddus, a sylwais fod pawb wrth fyned allan yn canmol. -—' Nos Fawrth edrychai pethau yn ystormus o'r cychwyn. Ar lawnt y chwarae galwyd sylw at y cyfarfod, ac yr oedd ynamlwg fod paratoad- au yn ddistaw gymryd ffurf. Ychydig oeddl o amgylch capel y Bedyddwyr am wyth o'r gloch, a thybiais ar y dechreu na byddai yno gynull- eidfa. O'nd yn fuan daeth boned'dwr o Sais yno, a. dechreuodd holi a chroesholi un 0> swydd- ogion y capel ynghylch natiir ac amcan, y cyfar- fod. Wedi hynny cafodd! o hydl i'r Parch'. D. Wyre Lewis, Rhos. Sicrhaodd Mr. Lewi's y brawd mai cyfarfod crefyddol oedd y cyfarfod i fod, ond nid oedd yr holwr yn foddlawn. Siar- adai yn bur blaen fod cynnwrf iw ddisgwvl os na chedwid yn ofalus at y mater fel yr oedd ar yr hysbysleni,—" The Church and the World after the War." Erbyn ychydig funudau wedi wyth yr oedd llawr yr addoldy yn llawni. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan Proffesor J. Morgan Jones, M.A., Bangor, ac niid oeddi dim yn y gwas.anaeth yn argoeli ystorm, nac yn yr emyn- au a ganwyd,—■" Jesus, lover of my soul," &c., a Guide me, Oh! Thou great Jehovah," &c., ond aflonyddwyd cryn lawer ar dawelwch y rhan yma o'r cyfarfod gan y dorf o ymwelwyr ddaeth i mewn yri hwyr. Yr oedd math o orymdaith wedi ei cychwyn yug nghymydogaeth Lans- downe a Bryn Awel, ac aed heibib y Metropole, ac erbyn cyrraedd y capel yr oedd yn orymdaith gref o'r dynion graenus y cyfeiriais atynt. Cymerodd y nifer lluosocaf o'r newydd-dclyfod- iaiid eu lie ar ffrynt y galeri, ac aeth y gweddi 11 yma ac acw i blith y gynulleidfa. .—(-♦j—i Gwelodd y Parch. D. Wyre Lewis, y Rhos, yr ystorm yn cryiihoi, a dywedodd air am natur grefyddol y cyfarfod. Rhoddodd grynhodeb o bregeth Mr. Herbert Morgan:, a sicrhaodd y byddai1 y cyfarfod hwn yn cael ei gario ymlaen yn. yr un ysbryd rhagorol. Hysbvsodd hefyd fod Mr. G. L. Davies, wyr i John Jones, Taly- sarn,—un o'r gwrthwynebwyr cydwybodbl mwy- af adnabyddus, i annerch y cyfarfod, a'r Parch. J. Puleston Jones, M.A. 1+t., ■! Mr. John Davies, Miner's Age-nt, Dowlais, oedd y cadeirydid. Diau ma,i,gwr;rhagOTOI yw Mr. Davies yn ei le ei hun. Ond ni welais gadeirydd erioed yn fwy amddifaid o syniad am natur y cyfarfod yr oedd ii lywyddu ynddo. Aeth ar ei union i ganol materiofn dadleugar. Cymerodd dri pheni,-yr achos o'r rhyfel, y rheswm paham y mae yn cael ei,gari(Y ymlaen, a sut i'w derfynu. Cafodd bob tawelwcb i ddweyd ychydig ar y pen cyntaf,-a siaradodd yn Gymraeg. Priodolai y cyfan i drachwant masnachol. Pan ddaeth at yr ail ben o'i araith, trodd1 Pr Saesneg. pywedodid mewn geiriau plaen iawn mai yr elw anferth oedd perchenog- ion gweithydd gid a llongau yn gael oedd yr unig reswm dros barhau y rhyfel. Ac aeth ymlaen i brofi fod y glowyr y dosbarth mwyaf teyrngarol yn y wlad. Pe buasai yn y gadair o bwrpas i godi. cynnwrf nis gallasai wneud yn well. —^—, Agorodd y dorau ar unwaith. Gofynodd rhywun i'r Llywydd paham na buasai yn cadw at fater y cyfarfod. Ond am foment ni chymer- odd Mr. Davies sylw o'r cwestiwn, ac aeth ymlaen i ddweyd fel yr oedd perchenogion llongau yn budr-elwa. Yna torrOdd y cenllif, ac ni chafodd y cadeiTydd druan ddweyd gair. Y foment nesaf yr oedd pedwar neu bump yn y pulpud, ac yr oedd Mr. Daviesi i lawr yn y set fawr. Yn y galeri ac ar lawr yr oedd amryw o'r cynhyrfwyr yn siarad ar draws ei gilydd, a'r cyfarfod wedi ei daftu i annhrefn difrifol. ——, Tarawodd rhywuni Rule Britannia,' a chan- wyd y gydigan ddwywaith drosodd. Ceisiodd y Parch. James Jones, B.Sc., cyn-weinidog yr eglwys, wastatau pethau, a gwnaeth ryw fath o ymddiheurad am annoethineb y llywydd. Gwrandawyd amo ynr ddistaw a pharchus. Wedi iddo orffen, dywedodd un o'r ymwelwyr oedd yn y galeri ei fod ef yn rhoddi ei air dros ei gyfeillion na, aflonyddid dim ar y cyfarfod1 os byddai iddo gael ei gario ymlaen yn gyfarfod crefyddol yn ol yr hysbyslen. Yr Eglwys wedi y rhyfel oedd y pwnc ar y rhaglen, ond yr oedd y cadeirydd wedi myned ar ei ben i' ganol cwest- iynau dadleugar. O'nd yr oedd y tan, wedi ei gynneu erbyn hyn, ac yr oedd yn ddigon hawdd g; we led' fod yn, amhosibl cael; llun o gyfarfod, I Ychwanegwyd at yr excitement gan waith tri o flaenoriaid eglwys y Bedydd^wyr,—Mr. W. J. Jones, Middleton' Street; W. Harper, Manor Hotel, ac Edward Evans, Duffryn Street,—yn myned i fyny i'r pulpud, ac un o honynt yn gwaeddi allani We have been had." Ceis- iodd Mr. James Jones, dawelu pethau yno, a thra yr oedd efe yn ceisio ymresymu a brawd ar un ochr, yr oedd brawd arall: yn gwaeddi fod y blaenoriaid wedi cael eu camarwain am natur y cyfarfod:. Dadleuai Mr. James Jones nad oedd sail i'r hyn a ddywedai y blaenoriaid, a hawdd gweld fod ymraniaid yn y pulpud yn gystal ag ar lawr. Yng nghanol yr anaihrefn canwyd "Duw gadwo'r Brenin,gyda llawer o frwdfrydedd, a thra yr oedd hynny yn myned ymlaen, yr oedd amryw gymydogion yma ac acw yn dadleu a/i gilydd yn frwd. Gadawodd un brawd bychan o gorffolaeth ei sedd ac aeth at frawd cryf, dwy lath o daldra, a dechreuodd ddadleu yn frwd- frydig ac yn L.iddgar. Ond yr oedd y gwr tal yn ddigon tawel a, diystyr o bono, ac yn parhau i waeddi Put Dr. Pulestoni Jones up; put Dr. Puleston Jones up." Llwyddodd y brawd i wneud ei lais yn glywadwy, a galwyd ar Mr. Puleston Jones i fyny i'r pulpud. Ond cyn iddo yn brin gyrraedd1 y ris uchaf, yr oedd y cynnwrf wedi ail dorril allan, ac yn edrych yn beryglus. i ♦ i— Dygwyd pethau iben yn sydyn drwy i un o ddiaconiaid yr eglwys waeddi allan fod y blaen- orilaid oeddl yn gyfrifol am yr adeil'ad wedi pen- derfynu atal y cyfarfod. Yna canwyd "God save the King" yn. llawn brwdifrydedd. Ceis- iodd Mr. John Davies gael dweyd gair, ond gwrthododd y gynulleidfa; wrando. Cynhyg- iodd y teyfysgwyr wneud casgliad i dalu am fenthyg y capel, ondi atebodd un o'r diaconiiaid nad oedd eisiau hynny. Ond mynnai y terfysg- wyr wneud: casgliad at rywbeth, ac enwyd trysor- fa'r milwyr fel amcan rhagorol.