Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

--------------_._-CENEDLAETHOLI…

News
Cite
Share

CENEDLAETHOLI Y FASNIACH FEDDWOL ( A CHYDWYBOD Y CYHOEDD. GAN Y PARCH. G. PARRY HUGHES, MORFA NEFYN. IX. Y MAE y cwestiwn hwn yn cyffwrdd ym bur agos a'r hyn a fu dan sylw yn yr ail ysgrif, ond cynhwysa un nieu ddau o bethau nas gellid yn hawdd eu dwyn i mewn yn honno. Ni fuaswn yn cyfeirio atynt o gwbl oni bae fod cryn ddefn- ydd yn cael ei wneuthur o honyil.t,i'r am can o geisio dangos anghysondeb dirwestwyr. a hynny yn anheg, ac mewnffordd sydd yn temtio rhai i gredu hynny. Un gwrthwynebiad gan ddirwestwyr i'r syniiad o brynu y fasnach ydyw ei fod yn gwneuthur tafarnwyr ohonom, ac felly yn ein dwyn dan yr un cyfrifoldeb ag a ddygir yn awr gan, y bragwyr a'r tafarnwyr, &c. Gelwir hon yn ddeddf foesol, neu yn ddadl odidirwrth gydwybod. A gwneir .l.yn ysgafn ohoni gan ein gwrthwynebwyr. Ond nid ydyw anhawster y dirwestwr yn myned ddim yn llai am fod cyfrwysder y Cenedlaetholwr yn mynd yn fwy. Pan ddywedl dirwestwr fod ganddo wrthwynebiad cydwybod A gael ei wneuthur yn gyfrannog o'r budd ariannol sydd yn deilliraw oddiwrth y fasnach feddwol, atebir ef gan Mr. T. P. Whitaker ei fod yn derbyn budd1 oddiwrthij eisoes; dywed fod yr elw blynyddol oddiwrth y fasmach yn ddeg a thri- gain neu bedwar ugain miliwn; ac fod y cyhcoedd ar hyd y blynydiioedd yn derbyn tua. haniner cant neu drigain miliwn o'r swm yna yn flynyddol; ac fod dirwestwyr ymhli'th eraill yii eu derbyn yn dddrwgnach. Oddiwrth hyn ymresyma Mr. Whitaker fod yn iawn i'r wlad- wriaeth dderbyn, yr ugain milwn arall. Gan ein bod eisoes yn derbyn rhan.o elw y fasnach, yna y mae yn iawn, i ni dderbyn y cwbl! Rhyfed'd debyg i'r gwir y mae y gau yn ami yn y iv Mangos. Yr wyf yn oofio, hen frawd o'r enw Sivn William, oedd wedi dysgu dweyd celwydd yn y fath fodd nes y bydd'aj y mwyafrif ym. credu ei fod yn dweyd y \v:r. Y mae yr yinresymiad sydd yn awr dan sylw yn tueddu i arwain meddwl vdiniwed ar gyfeiliorn. (1) Y mae dweyd ei bod yn iawn i ni dderbyn yr oil o elw y fasnach am ein bod eisoes yn derbyn rhan o hono yn ddull anheg, a thwyll- odrus o ymresymu. Dyldd profi fod rhan gyntaf yr elw yn gyfiawm, cyn tymnu casgliad fod y rhan olaf yn deg. Hyn ni wnaeth Mi-. Whit- aker, na neb o'i ddisgyblion sydd yn ei ail- adrodd mor gyffredlin. Nid ydyw fod dyn wedi arfer yfed nes bod yn honco ddim yn profi ei fod yn iawn iddo fyned ymlaen i yfed nes methu ,a symud, ond y mae llawn cymaimt o syranwyr mewn ymresymiad fel yna ag sydd yn yr un dan sylw. Y mae d'ibrisio gwifionedd yn y dull hwn, er mwyn dilogelu Castell Bacchus, yn dddystyrwcb ar synnwyr cyffredin y cyhoedd'. (2) Dywed ein cyfeillion yn mhellach ei bod yn iawn derbyn yr elw i gyd, am fod dirwest- wyr yn derbyn y rhan bresennol o hsno yn ddi- rwgnach. A clianiatau fod dirwestwyr yn derbyn yr elw presennol yii d'diirwgn!ach,,y mae yn eathaf posihl y gallai hynny o dan ryw amgylchiadau eu profi hwy yn anghyson, ond ni buasai yn profi fod elw'r fasnach yn elw cyfi'awn. Temtiir ni, i feddwl fod cydwybod dirwestwyr mewn sefyllfa iachach na, phen y neb sydd yn ymresymu fel hyn. (3) Ond nid ydyw dirwestwyr ddim yn anghyson wrth dderbyn yr hyn y cyhuddir ,hwy fel hyn ohono. Nid oes gainddynt help eu bod yn derbyn yr hyn a wnant yn awr, oddiwrth y fasnach. Gorfodaeth (Conscription) y Senedd ar gydwybod Gristionogpl y wlad ydyw. Heblaw hyn, nid ydyw yn gywir dweyd fod dir- westwyr yn derbyn yr elw hwn yn ddiirwgnach. Ond y mae eu safle ar yr boll gwestiwni yn brotest yn erbyn y; fasnach yn yr oil ohoni. Am hynny, nid ydynt yn derbyn o'i helw nac at addysg na dim arall. o'u bodd. A phe gall- ent hwy fe'i bwriant hi a'i helw budr yn gwbl allan o'r tir. (4) Y mae sylw craff Mr. H.. G. Chancellor, A.S., yn werth ei ddwyn ar gof yn y fcin yma, sef rn,a,i, nid fel elw i'r cyhoecld yr edrycha cyfraith y wlad ar yr arian yma, ond fel dirwy (fine) ar berchenogiom y busnes. Trie y. cyf- rwys er mwyn hyrwyddb y prynu ydyw son am dano, fet elw. Wrth ateb dadl cwyhQd, syna rhai at waith y > -y, dirwestwyr yn cymeradwyo prynu'r caethionl yn America, tra, ar yr un pryd y condemniant brynu y fasnach feddwol. Ond nid yr un eg- wyddor sydd yn llywodraethu yn y ddau achos. (I) Symudiad i ddwyn dynion i ryddid oedd prynu y caethioni; and symudiad i ddwyn dynion i gaethiwed ydyw prynu'r fasnach feddwol. (2) Darfyddodd masnach y caeth- don gyda,'r pryniant. Rhodder i ddirwestwyr sicrwydd y derfydd y fasnach feddwol o'r wlad ar ddiwrnod ei phryniant, ac y mae yn bosibl y newidia hynny eu hagwedd at y cwestiwn. Y mae y ddadl oddiwrth gydwybod yn dal. A rhyfedd mor egwan ydyw yr ymgais i wncud i ffwrdd a hi. Cymdeithasfa. Caergybi.-Er. fod adroddiad- au wedi ymddangos ei'soes o weithrediadau y Gymdeithasfa uchod, etc hwyrach y caniateir i mi wneuid .'ychydig sylwadau air y safle a gymerodd ynglyn a'r mater hwn. Gan maa gyda safle nacaol y Gymdeithasfa y dechreu- ais gyda'r ysgrifau hyn, y mae yn ddyledswydd arnaf gydnabod yr hyn a wnaecl yng; Nghaer- gybi. A gallaf ychwanegu fod y gorchwyl hwn yn un hyfryd: o'i gymha.ru a'r un: blaenorol. 4 Cyflwynodd y Parch. James Jones, Ysgrif- ennydd PwyllgG'a* Dirwestol y Gymdeithasfa, adroddiad! y cyd-bwyllgor a gyfarfyddasai yng Nghaer ychydig wythnosau yn; flaeniorol, yn cynnwys y peiiderryi iad a weliir uchoid. Cefn- ogwyd hyn gan Mr. T. Owens, Y.H., Ca sr. 9 b Y Cynhygiodd Mr. J.E. Powell, Y.H., Wrec- sam, welliant i'r perwyl fod y J-dywodraeth yn prynu y fasnach gyd'a dealltw'iiaeth fod Dewis- id LleoI yn cael ei gysylltu â hynny. Cefn- ogwyd y gwtiUiani. gan y Parch. 0. T. Da vies, Llanfyllin. Siaradwyd ymhellach o blaid y gwelliant gan Syr Henry Lewis, Y..H, Bangor, a'r Parch. Ellis James Jones, M.A., Rhyl. Dros gynhygiad y Pwyllgor gan Ysgrifennydd y sylwadau hyn, y Parchn. J. Hughes, M.A., I.erpwl, ac1 Owen Owens, Llywydd y Pwyllgor. Pleidieisindd pump dres y gwelliant. Gydag ychwanegiad o eiddo y Parch. J. Hughes* M.A., at rif i, cadarnhaodd y cyfarfod gyn-. hygiad y pwyllgor fel datganiad y Gymdeith- asfa: ar y cwestiwn.. Fel hyn pleidieisiodd y Gymdeithasfa yn gryf anghyffredin yn erbyn prynu y fasnach hyd yn oed er i Ddewisiad Lleol gael ei gysylltu 0 a hynny. Wedi hyn t, rhoddwyd caniatad i m'il i ychwanegu at ben- derfyniadau y Pwyllgor gynhygiad yn' pwys- Ileisio sa,fle Cymru ar y mater.. Dodir hwy i lawr yma er mwyn i"r d.arileiiyi Id eu gweled Vll eu perthynas a'u g,ilydd: 0 i.- Ein bod yn pwyso ar y Llywodraeth i Iwyr wahardd. y Fasnach Ddiod dros dymor y khyfe! a thros dymor y dad-arfiogiad fyddo.'n dilyn, a hymniy gydag ad-daliad a fo cyfiawn. 2.—Fod Deddf Balfour, 1904, yn cael ei di- ■wygio yn y fath fodd fel. ag y bo. gwerth- y trwydd- edau a ddiddymiir yn cael ei roi i orffwys ar seiliau tecach, ac y bo ni,fer y tafarnau ya y gwabanol gylchoedd yn cael ei ddwyn i lawr i.-r-Ilyn, a nodir yn adroddiad Axglwydd Peel. 0 3—Fod yr etholwvr ymihofo Rhanbarth i ga,el hawl i bleidleisio dro.s.. lei had pellach yn ndfer y tafarnau, nieu ynte dros Iwyr waharddiad yn y Rhanbarthau hynny. 4.—Fod Deddf Cau y Taftarnau ar y Saboth yn cael ed hestyn i Ivlocgr. s.-Fad y cwtogiad presieninol ar oriau, yfed i barhau mewn grym ar ol y rhyfe], a'i fod i'w gym- h wyso at yr oil o Lioegr a Chymru. 6.—Fod yr awdurdotlau lleol yn cael bawl i agor ystafelloedd refresihinent. (heb ddiodydd meddwol) mewn ardaloedd, y byddo darpariaeth o'r fath yn. anigonol.. 7.-F,o,d diodydd meddwol yn cael eu gwa- harddl i fechgyn a ge.nfethod dan 16 oed, S. -Yo-d Trwyddedau Grocer i gael eu hatal. 9.-Fod lleihad sylweddol' i gymryd lie yn swill y ddodydd meddwol a wmeiir. io.-Flodi copi o'r- uchod i'w anion i'r Prif Wednidog a Syr J. Herbert Roberts, A.S. Y penderfyniad ar Lleol: Tra yn oymhel'l y llywodraeth yn barchus i ys- tyri.ed y gwelliantau hyn ar y gyfraith fel y mae, ac mewn perthynas a',r holil deyrnas, eto ein bod ar yr un pryd yn ddifrifol yn galw ei sylw at y gwahandaeth mawr sydd rhwng Lioegr a Chymru ar h oil gwestiwn y fasniach feddwol.. Yr ydym gan hyn.ny yn apelio at y llywodraeth i ddeddfu ar y cwestiwn hwn. i Gymru ai- walian oddiwrth ..iLoegr, trwy roddi i ni ddeddf Uewisdad Lleol 'i'r hyn yr ydlym fel ceniedl yn gwbl addfed. Cefnogwyd y penderfyniad: olaf hwtn^gan, Mr. J. E. Powell, Y.H., a pbasiwyd ef yn unfryd- ol. Erbyn rhoddil y cwbl at eu*gilydd, gwelir fod llais y Gymdeithasfa yn gryf yn) erbyn "prynu," ac ym unfryd o blaid "Dewlsiad Lleol." Gwnaeth Llywydd ac Ysgrifennydd y Pwyll- gor yn dda galw y pwyllgor ynghyd y tro hwn, ac ruid yn ami y gwnaeth pwyllgor well gwaith. Dylem deimlo yn rhwymedig hefyd i Mr. J. Owens, Y.H., am allu gweled yn y penderfyn- iad,1 au a ddygodd i sylw y pwyllgor gyfle trwy yr hwn y gellid mewn fforddesmwyth wybod llaiis y Gymdeithasfa ar gwestiwn pwysig iawn ,i ddyfodol ein cenedl. Dyma galondid mawr i'r rhai a. fu, ac y sydd yn parhau i weithio gyda dirwest ar hyd a lied, y wlad. Y mae y Gym- deithasfa tu eefn i'w hymdrechlon. Dewisiad Tdeol i Gymi-u ydyw ei safle hi beddyw. Ac i'r deyrnas oil. cymeradwyir cyfyngu ar y fasnach, heb ei phrynu. Ein dyledswydd yn awr ydyw ail godlii cri Dewisiad Lljeol i Gymru, a'i garioi trwy holl gylchoedd gwaha:n>- ol cymdeitbas yn ein gwlad.

MR. JOHN DA VIES, HERMON,…