Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
-,. CYMRU A R RHYFEL.
News
Cite
Share
CYMRU A R RHYFEL. Mae Lieut. R. Charles Evans, mab Mr. W. R. Evans, cyfreithtiwr, Rhuthyn, wedi ei niweidio yn y frwydr yn Ffraiiic. Talodd y Brenini a'r Frenhines a'r Dywysog- es Mary ymweliad ag Ysbyty Cymreig Netley, ddydd Llun diweddaf. Yr oedd 280 o glwyf- edigion yno y dydld hwnnw. -+- Derbyniodd y Parch. D. Evans, Penybont- arogwr, y newydd fod ei fab, Lieut. D. L. Evans, wedi ei glwyfo yn Ffraiinc. Ychydig cyn ymuno graddiodd Lieut. Evans gydag an- rhydedd yn Aberystwyth. -+- 0 flaen dirprwyaeth ym Merthyr dywedai Mr. D. R. Llewelyn fod helaethrwydd o loi yn Rhigos a Glyn Nedd, a digünedd o dir heb ei drin yni Ypyshir, ddrigron i roi gwaith i ganinoedd lawer o ddynion. Ond pa le mae'r dynion! Am gredu fudt deddf cydwybod uwchlaw deddf y wlad, a. gweithredu ar hymny, cafodd Arthur Spurgeon Gage (24), Ysgrdfennydd Cymreig Undeb y Myfyrwyr, ei ddirwyo i bum' punt yng Nghaerdydd a.'i drosglwyddo drosodd i'r awdurdodau miQwrol. Ofer dweyd gair bella.ch ar beth fel hyn. -+- Fel hyn y can odd Dewi Wynn o Eifion er ys dros gan' mlynedd bellach i Lynges Prydain :— Y Dikldwl wyliedyddion—rhag ystryw A gwastraff gelynion, Di-adwyth hyd ystwyth donn r Gan frigawg nofio'r eigion. Yn Uengoeckl y gallyngant-eu bolltau I bellr y treiddiant; Llongau estron gwychion gant Yn 'sgyrion a wasgarant." -+- Bendith fyddai inni sylweddoli yn gliriach ddyled Prydain i'r Celt. Meddai Tom Ellis: Onid y teithi Celtaidd sy'n rhoi i Brydain y gallu a'r athrylith neilltuol, y ddawn arbennig honno a wahaniaetha Brydain oddiwrth yr Al- maen, ac a rydd iddi'r fiaeporiaeth Onid hyn a wna grefydd Prydain yn ddwysach, yn fwy duwiolfrydig a brwd na chrefydd yr Almaen, a wna areithyddiiaeth Prydain yrf fwy angherdd- ol, cyffrous, ac effeithiol, a wna iaith Prydain yn fwy grymus, ystwyth, gloew, a chyflym, ac a gynorthwyodd i wneuthur y rhan a gyfranodd Prydain i gyfoeth didranc y byd o fwy pwys na rhan yr Almaen n -+- Mae llawer o alw am i'r Llywodraeth atal y gwastraff sydd ar ddefnyddiau bwydydd i'r corff wrth wneud diodydd niweidiol. Ond onid yw y meddwl yn fwy na'r corff, ac oni ddylid galw arnynt i ata,l y mil a mwy o gyhoeddiadau di- ddim Sydd yn dod allan o'r wasg Seisnig. Diolch mai gwasg ISn sydd germym yng Nghymru,—nid oes un cyhoeddiad y rhaid cywilyddio o'i blegid. Ond blinder i ysbryd dyn yw gweled llawer o'r cyhoeddiadau a'r newyddiaduron chwaethus Cymreig wedi eu cwtogi oherwydd prinder papur, a stor o bapur yn helaeth yn cael ei ddefnyddiol i ddwyn allan lenyddiaeth ( .?') Seisnig isel, di-chwaeth ac af- iach. Ni raid ond edrych ar gownters y llyfr- werthwyr i sylwi ar beth fel hyn. ,-+- Mae cwyno mawr yn ardaloedd pellenig y wlad, a hynny gan bobl dduwiol a chydwybodol hefyd, oherwydd atal y trens ar y Sul, ac nid heb reswm. Eudadl ydyw, y dylid eu hatal ymhob man neu yn unlle, gan fod y lleoedd pellenig yn cael cam fel y mae. Un o'r Suliau diweddaf (ac y mae peth tebyg yn digwydd yn ami), daeth tri llanc ieuanc o filwyr o Leyn ar seibianti o'r 'trenches.' Cyrhaeddasant Bangor fore Sul. Nid oedd tren i'w chael ymhellach dan fore Llun. Gan mai" cartref" oedd cyrcEfan y llanciau, cychwynasant gerdded i Bwllheli, pellter o 30am milltir. Torrodd un i lawr ar y ffordd. Wedi i'r lleill gyrraedd Pwllheli, yr oedd ganddynt wedyn o 15 i 20 milltir o daith. Beth ddvwedir am beth fel hyn? ■4. .Gofyniodid Mr. Ellis Davies yn y Ty ddydd -Mercher ai nid oedd yn bosibl cael motor train er eu cyfleustra, Ateb Llywydd Bwrdd. Masnach oedd ei fod yn gwneud ymchwiliad ac mewn ymgynghoriad a'r Swyddfa Rhyfel. Cwestfynwr i bwrpas yw yr Aelod dros Eifion..
-"'...-NODION DIRWESTOL.
News
Cite
Share
NODION DIRWESTOL. Cynhwysai y "London Opinion" am yr wyth- nos o'r bilaen 'Cartoon' rhagorol o'r Priifweini- dog- wedi ei wisgo fel mamaeth yn estyn potel yn cynnwys cwrw i'r baban sydd ar y bwrdd o'i flJaen yn dwyn yr enw "Aflonyddwch Gweithfaol." Uwohben y darlun ceir "An- other Little Drink, ate o dano y g'eiriau "There! there! Is 'oo thirsty then?" Y mae y Cynghorydd John Beckett, Ac- crington, wedi yrnddiiswyddo fel ysgrifennydd pwyllgor lleol y 'Food Control, I fel protest yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn caniatau gwneuthurlad 850,0000 alwyni yn ychwaneg- ol o Igwrw. Dywedai tra yr oedd yn ami yn gorfod cwtogi cyflenwad siwgr ei gwsmer- iaid i ddwy owns yr un, nid oedd yn teimlo. ar oil yr ymddygiiad diweddaf hwn o waith y Llywodraeth, y gallai yn gydw-yibodol fod a wnelo ef a'r ymgyrch i gynhilo yr ymborth. Yng nghynhadledd y Wesieaid gynhaliwyd yn Llundain yr wytihnos ddiweddaf, dywed- odd y Parch. Simpson Johnson, y llywydd "Tra y mae Prydain yn sefyll yn y llecyn mwyaf difrifol ynglyn a'i dyfodol, yr ydym yn troli yn gwrw ddefnyddiau ddyiid droi yn fara. Yr ydym wedi gwahardd meiusion y plant yn lie gwahiardd cwrw eu rhieni. Yr ydym wedi cael tair Gwdnydldi:aeth .gref er dechtreu y rhyf- el ond mae y fasnaoh feddwol wedi profi yn gryfachi na'r tair." Yn ei ysgrif am General Pershing, y Cad- fridog sydd yn arwain milwyr yr Unol Daleith- iau yn Ffrainc, dywed Mr. W. 0. McGreehan yn y 'New York Tribune"Myn y Cadfrid- og,y gall y milwr Amerieianaidd wneud gwell t, 9 gwaith heb y: ddiod na chyda hi, a cihiyfeiria at ei ymgyrch ym Mexico1 fel prawf o hynny. Deil Pershing fod iechiyd a moesoldeb ei fydd- in ym Mexico wedi gwella yn ddirfawr mewn icanlyniad i'r ffaith iddoi ef rwystro i Ddiod Feddwol gael ei rhoddi i'r milwyr. Cafodd Plersihing y clod o wneud rhan helae:th o New Mexico yn syohi (mewn ystyr ddirwestol) am dymor, er gwaethaf bopeth. Aeth yr archeb allan fod poib tafarndy i; fod yn gauedig tra y byddai y fyddin yno. Er i sylw gael ei alw at y ffaith nad oedd y Llywodraeth wedii caniatau 'archeb OI'r fatlh, eto ceuid y tai, rhag ofn y Ibyddai i Persbinig a'i fyddin eu gorfodi i'w cau, a difetha yr ystoc. Yr oedd llawer dyn oedd yn cyehwyn i Mexico, yn soty-n meddw yn dychwelyd oddiyno yn ddyn cryf a chadarn, ac yr oedd yr adtroddiadau iechydol ar yr ymgyrch yn brawf o hvyddi-ant yr archeb ymhob ystyr. Cynhwysa y Sunday Companion am yr wytnosau diweddaf ysgrifau gan y Parch. Joseph Hocking ar "A ydym yn gymwys i heddwch," ac yn yr ysgrif am yr wythnos ddi- weddaf deifnyddia eiriau lied gryfiom wrth drafod perthynas v wlad a'r ddiod feddwol. Desgrifia ymgom gafodd a rhai o filwyr New Zealand oedd wedi dod 16,000 o filltiroedd i giynorthwyo y fam-wlad. Dtywedent wrtho na chaniatoid i unrhyw ferch gad diod yn un- rhyw dafarn yno, ac yr oedd rheolau ynglyi1 a'r ddiod mor gaeth yn Awstralia fel yr oedd medd wdod yn beth dieithr. Yn a* aiiiff Mr.. Hockimg ymlaen i gyfeirio fel yr oedd y Ddiod wedi parlysu ein Ibrei'dhiau, lluddias ein cyn- nydd, ac yn em hysbeilio 0' fuddugoliaeth; ac meddai, "Os nad yw y genedl yn barod i wa- haridd defnyddioi y gelyn penaf yr oedd gan ein dynion i'w wynebu, nid yw y genedl yn gymwys i heddwch." Yr oedd y rhialtwch a'r igloddesta fu ar ryddhad Mafeking yn fawr, ond ni bydd y miri hwnnw er cymaint oedd ond cysgtod egwan o'r,lllawenydd ac 01 ganlyn-' iad y rhialtwch ddilynai cyhoeddiad heddwch ar derfyn y rhyfel hwn. Gwyr pawb yr yfed a'r meddwi fu yr adeg honna, beth fydd y tro hwn ? Dyma ei eiriau yn desgrifio> diwrnod Maf eking—"Drink, revelry and then hell let loose. What should have been an occasion of joy and pride, became a byword and a shame, and drink lay at the heart of our disgrace." Gallesid tybiied y buasai y wers ddysgwyd yr adeg honno wedi aros ond y mae y trachwant a'r blys, yn. rhy gryf, a buan yr anghofir.
;';;".------";;';:-;:;:...----HYN…
News
Cite
Share
HYN A'R LLALL. Pulpud City Temple. Hysbysir fod Dr. Fort Newton i gael cyn- horthwy ym mhulpud Cdty Temple gan Miss Maude Roydeni. Aelod yn Eglwys Loegr yw y foneddiges hon, a'r noson o'r blaen siaradai1 mewn cyfarfod pwysig o Eglwyswyr. Mae Miss Royden yn awyddu am ryddid, ac i aros nes y daw mae yn ei gymryd.
-+-@-+-Yr Eglwyswyr a Mr.…
News
Cite
Share
-+-@-+- Yr Eglwyswyr a Mr. Lloyd George. Mewn cyfarfod mawr a gynhaliwyd yn Llundain, dan lywyddiaeth y Parch. William Temple, mab y diweddar Archesgob Temple, dywedodd un o gaplaniaid y Llynges ein bod yn canmol chwilclroad yn Rwsia ac Iwerddon, ond nid oddimewn i'r Eglwys. Parod oedd efe ii fyned at ddyn fel Mr. Lloyd George a gofyn iddo am lydd'id i'r Eglwys,—heb Ddadgysyllt- iad os yn bosibl, ond os mai Dadgysylltiadi ydyw pris rhyddid, boddlon oeddynt i'w dalu.
-+--+-Y Cristion ali Elynion.
News
Cite
Share
-+--+- Y Cristion ali Elynion. Pa fodd y gelli'r ymladd a'r Germaniiaid a chai-u ei,n gelynion yr un pryd. Tybia rhai, maii drwy anfon ein bechgyn i roi eu gwaed i lawr drosom a ninnau ar yr uni pryd-ä adael i Germaniaidi fwyta wrth ein bwrdd. Eraill a ddywedant ein' bod yn ymladd yn erbyn y Kaisar, ac nad oes dim gelyniaeth rhyngom a'r Germaniaid. Pan y dadleudr cwestiynau academaidd fel hyn gartref, tystia pawb fod mwy o chwerwedd nag a fu er dechreu'r rhyfel rhwng y byddiinoedd1 ar y Cyfandir. Y pwnc yn awr ydyw difa! Gwell yw i ni addef fod rhyfel yn sylfaenol groes i Gristionogaeth; ac (js ydym am garu ein gelynion y rhaid i ni ail- gychwyn.
-+-@-+-Bywyd a Rhyddid.
News
Cite
Share
-+-@-+- Bywyd a Rhyddid. Ar adeg pan y mae'r Eglwys yng Nghymru yn ainewyllysgar a grwgnachlyd yn symud ym- laen i baratoi ar gyfer Dadgysylltiad, mae adran gref o'r Eglwys yn Lloegr yn dweyd eu bod yn barod d dderbyn Dadgysylltiad cyffred1- inol os bydd hynny yn angenrheidiol er mwyn iclidi enniill ei rhyddid. Dan arweiniad y "Church Times," mae'r adran luosog o'r Eglwys yn dyheu am ryddid ac yn; gweithio er ei gyrraedd. Yng Nghymru clywir mwy o sorf am yr ariain nag am ryddid a llwyddiant yr Eglwys. Y cleiigwyr sy'n cwyno ynghylch yr arian yng Nghymru. 'Mae aelodau cyffredin yn llawn o'r ysbryd sy'n deffro yr Eglwys yn Lloegr.
-+-@:+-Yr Ieuaiuc a'r Hen.
News
Cite
Share
-+-@:+- Yr Ieuaiuc a'r Hen. Codwyd dau gwestiwn o ddkfdordeb yng Nghynhadledid y Wesleyaid yn Llundadn ddiwedd yr wythnos. Y cyntaf oedd, A ddylid anfon ymgeiswyr ar, brawf yn gaplaniaid i'r Fyddin. Tystiolaeth y Parch. Owen S. Watkins, caplan hynaf y Wesleyaid, ydbedd fod ymgeiswyr ar brawf ymhlith y caplanraid rhagoraf, a,, gwrthododd y Gynhadledd basio petKierfyniad yn anghymeradwyo eu penodi. C'o'dodd Dr. Workman y priodoldeb o basia. peixlerfyniad1 yn erbyn arddodiad dwylaw yng ngwasanaeth' ordeiniad i'r Weinidogaeth. Dywedwyd nad oedd hyn yn arferiad yn yr enwad am o 30 i 40 mlynedd -wedi marw Wesley, a dadleuai Dr. Maldwyn! Hughes na ddylid glynnu wrth ffurf pa mor hen bynnag y bo.
-+-@-+-Diwygio'r Salrnau.'
News
Cite
Share
-+-@-+- Diwygio'r Salrnau. Mae gwaith Confocasiwn Caergaint yn galw .9, am ai'l-olygu Idyfr y Saimau wedii codi cyn- nwrf dir fawr yn Eglwys Loegr. Mae"r ddadl wedi troi o amgylch Salm Iviii. CyhOeddwyd llythyrau yn y Times oddiwrth amryw o wyr blaenaf yr Eglwys, amrywoi honynt yn protestio yn erbyn gorfodi1 darllen yr ymaidrod,dioh, melltithiol sydd yn y Sal'm bob Saboth yng nghlywedigaeth pobl sydd yn meddwl am neb ond y Kaisar pan yn gwrando'r darlleniad. Mae'r Sais yn rhy faterol i ddeall Llyfr y Saimau. Nid yw wedi adnabod y gelynion y mae'r Salmydd yn pentyru ei ddialcdd arnynt. Materol a chnawdol yw ei elynion, ac am nas gall feddwl am neb ond y Kaisar wrth eu darllen, rhaid adolygu y casgliad. Dywedir fod tua hanner cant o adnodau yn Llyfr y Saimau na ddylent. fod, ac y mae cynifer a hynny 0 wyr doethion y Confocasdwn am eu gadael allan! <