Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYTHYR 0 DY'R CYFJFREDIN.

News
Cite
Share

LLYTHYR 0 DY'R CYFJFREDIN. Prisiau Bara a Chig. Mae Arglwydd Rhondda. wrthi yn brysur yn trefnu rheoleiddiad pris y Cig yn ogystal a'r bara. Mae"n amlwg y canfydda ei bod yn an- hawddach tynnu il lawr bris y oig na phris y bara. Mae ei gynlluniiau i dynnu y dorth i ZP lawr i riaw ceiniog yn syml ddigon. Os y gwneir colled oherwydd pris y gweniith-a sicr yw y bydd y golled hon yn cyrraedd y swm o filiynau lawer—bydd yn rhaid L'r trethdahvr wneud y diffyg i fyny drwy gynnydd yn y trethi. Ond rhaid delio a phroblem y cig ar linellau gwahanol. Gosodir uchafbris am anifeiliaid tewioni, yn dechreu gyda 74s. y cant ym Medi ac yn gostwng i 60s. yn lonawr, ac ar yr un pryd gorfodir gostyngiad cyfatebol yn y pris gwerthiantol,—yr ennill erbyn Rhagfyr yn cael ei amcangyfrif yn 6c. y pwys. Mae y raddfa ostyngpl o ucbafbris wedi ei drefnu i alluogi y ffermwyr sydd wedi prynu da byw am brisiau uchel i werthu eu hanifeiliaid heb ddioddef colledion trymion. Ond eisoes mae'r ffermwyr i fyny mewn gwrthryfel. Cyn- helir cyfarfodydd ar hyd a lied y wlad, a dy- wedir fod pri-siau uchel y defnyddiau bwyd yn rhwystr i'r posibilrwydd i' gynhyrchu anifeiliaid tewion am y prisiau y mae Arglwydd1 Rhondda wedi eu penodi. Mae aelodlau dros ranbarthau amaethyddol eisoes yn galw sylw y Ty at yr ochr hon i'r cwestiwn. Rhagwelir prinder biff erbyn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf. Ychydig; o fantads fydd i'r bwytawr wybod fod Gweinydcl- iaeth y Bwydydd' wedi gostwng y pris i 6c. y pwys, os na bydd cig ar gael i'w brynu.

..-+-Prinder Siwgrr.

J-+@-+ Wedi eu Hail-ethol.

+-@-+ Ymweliad Mr. Henderson…

.-+--+-Y Gwario.

Advertising

-----_.---------,__---__--PERSONOL.