Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
----_---------MEIRION A'R…
News
Cite
Share
MEIRION A'R GLANNAU. Cyrhaeddodd y newydd prudd i U'dolgelliau ganol yr wythnos fed Pte. Owen Jonies, m,ab y diweddar Mr. Johu, Jones, Stayifittle, a Mirs,. Jones, yn awr o Ochryfoel, wedi siyrthio yn y Rhyfel. Ymunodd a'r Welsh Guards, tua blwyddym yn, ol, a phrofedigaeth chwerw iddo-oedd methu ea,el dyfod adref i gladdu ei dad. Bachgen. caredig naturio] oedd Owen-, yn, syml a. diirodres, a chofir am dano felly gan bawb a'i atlnabu. Yin ei gymyd,ogaeth, coffeir am dano yn Ysgol Sul PewyresgyrTfa, ac fel cymydog parod ei gymwiynas a diwenwyn. Hefyd, mae Mr. Abraham Jones, mab Mr. Cadwaladr Jones, Penbryntglias, Dol- gellau, wedi eii ladd, a Pte. W. H. Jones, mab Mr. a Mrs. Huigh Jones, Wnion Terrace, Dolgellau, wedi ecgl wyf o. Mae Staff Captain Llewelyn Griffith, mab hynaf Mr. J. Griffith, B.Se., Dolgellau, adref am. ychydig o Ffrainc, ac yn edrych yn dda. Mae nifer o gyfeallion o Feirion yn trefnu i gyf- lwyno anrheg briodasiol i Dr. Carey Evans, a Mrs. Evans. Idris. Wynn Lloyd, mab Dr. a Mrs. E. Lewys Lloyd, Towyn, oedd yr uchraf drwy'r air ar restr y rhai llwyddiannus am ysigolloriaeth yr ysgolion uwch el- fen, nol, a chafodd wobr arbennig L.E.A. o werth gini o lyfrau. To,nod,d y 'record' hefyd gyda 419 o farc- iau. Mr. Towyn Jones, B.Sc., yr Ysgol Sir, Blaenau Ffestiniog, gymerodd yr oedfa yn Salem nos Sul, yn absenoldeb y pregethwr. Caed ane-rchiad godidog ganddo ar "Yr Ysgol Sul."
NODION 0 LEYN
News
Cite
Share
NODION 0 LEYN Bu cyfeilldon Dobarth Pwllheli yn, trefnu gogyfer a Chymanfa Ysgolion 1918 nos Fawrth diweddaf. Dewis-wyd Mr. T. ,T. Powell, Pwllheli, yn arwein- ydd cerddorol, Mr. Jesse Roberts, Chwilog i holi y plant, a'r Parch. W. Jones, M.A., Fourcrosses, i holi v d o-b art h hynaf. Yn llyw}'ddio;n dewiswyd Mri. W. Hughes,, South Beach, D. Charles- Owen, Bryn- I bachau, a Hugh Pritchard, Salem. Trefnwyd drwy gynhadledd, un i gael agoriad, i'r maes llafur, a'r Hall i gael trafodaeth ar "Gyfrannu Addysg yn yr Ysgol Sul yn ol cynlluniiau diweddaraf yr ysgolion elfennol." Trefnwyd Mr. R. Lloyd Jones, Gosen (enillydd medalaur y Cyfundeb) i agor yn y naill a'r llall. Yr wythnos ddiweddaf gwelais un o drigolion Ynys Enlld (o dan ofal ei weinadog) ar ei ffordd i fyned dan archwiliad meddygol yr awdurdodau milwrol yn Wrecsam. Golygai y daith iddo bedwar diwmod, ond gwaeth na hynny yr oedd yn gloff ac yn analluog i gerdded heb gymorth bag! ('crutch') Eto yr oedd yn oifynol iddo fyned yr holl ffordd i Wrecsam er ar- gyhoeddi yr awdurdodau nad oedd defnydd milwr ynddo! Ymhlith rhestr enillwyr graddau ym Mhrifysgol Cymru, ceir enw Mr. David Richards, Caerdydd, yr hwn a enillodd ei radd o M.A. ar gyfrif ei waith mewn Athroniaeth. Bu Mr. Richards yn athro am beth am-ser yn YSlgoI Ganokaddol Pwllheli, ac oddi- yno aeth i Gaerdydd fel athraw yn Clark's. College. Mae Mr. Richards yn baregethwr hynod o boblogaidd gyda'r Annibynwyr, a phan ystyrir nad yw ond 23,ain oed, teimlir yn lied sicr fod dyfo-dol IIwydddannus iddo. Pan yn rhoddi dedfryd mewn achos bachgen gyf- laddefai ei fod wedi mynd i mewn i siop a ILadrata 19s. 6c. o'r "till," dywedodd ynadon Pwllheli eu bod yn teimlo fod y darlruniau ddangosir yn y Neuadd Drefol (dan reolaeth y Cyngor Dinesig) yn gwbl an- foddhaol, ac na fyddai yn ddrwg ganddynt weled gwneud i ffwrdd a hwynt. Dealhvn nad yw pethau yn foddhaol iawn ym myd addivsg ym Mhwllheli. Ymddengys fod Cyfarwydd- wyr yr YsgoJ. Ganolraddol wedi derbyn £300 yn flyn- yddol oddiwrth y Bwrdd Addysg er gwella addysg— yn, nei'lltuol drwy godi cyflogau athrawon. Mewn ca,n,lyniad penderfynwyd codi ^25 yng nghyflog y prifathraw a £ io yr un i'r athrawon. eraill. Dych- prl welodd. yr athrawon eu 'cheques' an y teimlent nad oedd hynny yn ddigon pan oeddid yn rhoddi £ 25 i'r prifathiraw. Blin fydd gan ei gyfeillidn, ddeall fod yr Henadur W. Eifl Jones wedi ei gaethiwo i'w wely unwaith eto. Ilyderwn y caiff wellhad buan. Cynhaliwyd Gwasanaeth Canu yng nghapel Sand Street nos Sul diweddaf dan lywyddiaeth Mr. G. Aberkih Jones. Gwas-anaethwyd gan Miss, Mary Jones, Mri. Josiah Williams, a J. E. Pritchard.
O'R YSTWYTH I'R DDYFI.
News
Cite
Share
O'R YSTWYTH I'R DDYFI. Y GENHADAETH DRAMOIR.-Nos, Saboth gwnaed casigliad a drodd allan yn hynod Iwyddian- nus yn eglwys y Tabernacl tuag at leiihau dyled y Genhadtaeth Dramor. Rhoddwyd can punt gan y Prifathro Prys a symiau anrhydeddus gan frodyr eraill. Yr un noson yn Salem, traddodwyd pregeth rymus ar yr un mater gan y Parsh. J. H. Williams, 'Porthmadog, yn Salem, pregeth a sain argyhoeddiad cadam yn rhedeg drwyddi o'r testyn i'r Amen. Dyma ymweliad cyntaf y gwr da hwn, ond hyderir mai nid y diweddaf o lawer. Yn yr addfoldy Saesneg pregethodd y Prifathro Owen Prys., M.A., i gynull- eidfa fawr. Y TYMOR.—Hyd yma nid yw mifer yr ynrwelwyr wedi bod yn foddhaol o safbwynt y dref ac nid yw hynmy i ryfeddu ato ag ystyried ansawdd y wlad yn yr argyfwng hwn ar ei hanes,, drudaniaeth ymborth ac anaicrwydd y dyfodol. Disgwylir nifer mawr i ddod i direuldo Gwyl y Bane Awst, ond cligon digalon fydd y rhagolwg am y gaeaf dyfodol i lawer yn ddiau. DYCHWELIAD MILWR.—Yr wythnos hon dych- welodd Mr. Edward Waikinsi, Stanley Road, adref wedi ei adferyd ar ol colli aelod yn Ffrainc. Cyn y rhyfel yr oedd Mr. WatKins yn gwyddog yn y Llyfrfa Genedlaethol, ond ymunodd. a'r fyddin yn. gynnar ar ol y toriad ar heddweh y byd, a bu drwy amryw o frwydrau gwaedlyd. Llawen gan ei gyfeillion ei groesawu yn ol er wedi ei anafu ya dost. CODI CYFLOGAU.—Yr wythnos ddiweddaf bu i'r Cyngor Dosbarth Gwledig godi safon cyflog ei gweithwyr i 24s. yr wythnos. Os llwydda penteulu i fyw a thalu ei ffordd ar y SiWIIl hwnnw yn y cyfnod presennol, buasai yn dda i'r llywodraeth sicrhau ei wasianaeth i drin y toreth anan a werir ganddi mor afrad. Cyndyn ryfeddol ydyw cyrff cyhoeddus i godi saifon cyflog y gweithwyr cyffredin, er gwaethaf ei gyni a "drudaniaeth yn dirdynu." LLAFUR ME.NYWAIDD.—Hysbyswyd Pwyllgor Amaethyddol y sir fod y merched a sefydlwyd i weithioar y tir yn rhoddi graddau helaeth o fodd- lonrwydd i'w cyflogwyr, er fod 11awer ohonynt heb feddlu gradd o brofiad o'r gwaith yn flaenorol, eg- wyddor cyfadda^iaeth mewn gweithrediad ymarferol. ADID,YS,GAWI,P,arhau i ddilyn camrau eu tad gal,itio,g mae plant yr Athro Young Evans, M.A., Caradog Rd., ei fab J. B. Young Evans, wedi cipio wobr "Geoffrey Williams" yng ngholeg Llandovery, a Miss Sibyl Young Evans wedi bod yn llwyddiannus yn y "Senior Schools Examination," cyfwerth a Matriculation Prifysgol LlUndain, gydag anrhydedd mewtn Lladin a Ffrancaeg llafaredig NEWYDD DA.—Y Saboth daeth lilythyr o Bencad- lys y Groes Goch yn hysbysu fod Mr. John Arthur Hughes, mab Mr. a Mrs. Hugh Hughes, Reliance House, yr hwn sydd wedi bod am wythnosau ymysg y rhaii ar goll yn Ffrainc yn fyw er yn garcharor yn yr Almaen. Parodd y newydd lawenydd mawr i'r teulu a'r cylch helaeth o gyfeillion, gan fod y dis- tawrwydd wedi psri i bawb ofni y gwaethaf am ei dynged. Ychydig cyn hyn bu gartref ar ol ysbaid mewn hospital ar ol cael clwyfau trymion, a dych- welodd yn ol ar ei adferiad. Pan y dae,th y newydd i law yr oedd y tad ar ymweliad a'i gyfaill y Prif- gwnstabl Richard Jones yn nhref y CYMRO, ond caf- wyd ffordd i'w hysbysu yn ddiymdroi. Gyda byddin Awstralia y bu y milwr ieuanc yn gwasanaethu.
-____.--_OV---MANTEISION TYBIEDIG…
News
Cite
Share
dafarn yn gymaint o allu yn ein herbyn, beth a wnawn ni pan ddaw y dafarn newydd i'n plith? Bydd cymaint o bob pleserau a ym- ddangosant yn, ddiniwed wedi eu cysylltu a'r ty, fel y bydd un yn myned yno i weld y darlun- iau, y llall i ddarllen, ac arall, i'r cyngerdd; a phwy a all eu gwrtbddywedyd ? Os gwneir y fasnach feddwol yn eiddo i'r cyhoedd, bydd anhawsterau yr aelwydydd a'r eglwysi yn fwy nac erioed. Ac os ydynt hwy heddyw am gefnogi y cynllun sydd yn dwyn y dafarn newydd i mewn, pwy a all rybuddio ieuenctid ac eraill yn ei herbyn. Byddwn oil wedi rhwymo ein hunailn faich a pharabl, fel nas gall pregethwr, na b la en or1,, nac atbraw, na rhiant, wneuthur dim i wrthsefyll yr hudol- iaeth newydd a'i pheryglon. Bydd ein cefnog- aeth heddyw, erbyn y diwrnod hwnnw, wedi ei gwneuthur mor barchus ac angenrheidiol a, chynulliadau yr eglwys, neu ryw gymdeithas ddyrchafol arall. Ac yr wyf wedi sylwi fed rhai ieuenctid eisoes yn gwylio pa safle a gymer y pulpud a'r set fawr ar y cwestiwn, fel y byddo ganddynt amddiffyniad pricdol, pan ddaw galw am hynny. Nid yr eglwys a'r aelwyd yn unig IT gaaff deimlo oddiwrth fodolaeth a dylanwad y dafarn newydd, ond i'r mesur y llwyddi.r i'w gwneuthur hi yn ganolbwynt i fywyd y gymydogaeth a'r genedl daw yn wrthymgeisydd.i bob sefydliad dyrchafol yn em gwiad. Caiff y Prifysgolion deimlo oddiwrthi. Cawsant brofiad chwerw oddiwrth y rhen-dafarn lawer gwaith. Profodd ei hudoliaeth yn drech na dylanwad eu hath- rawon dysgediig gannoedd o weithiau. Ond pa faint mwy fydd ei dylanwad wedi cysylltu a hi yr holl hudoliaethau eraill, y rhai a was- anaethant fel cynifer o byrth d bresenoldeb y dinistrydd. A ddisgwylia. rywun i'r ysgolion I y canoiraddcl ac elfennol ddianc rhag ei dylan- wad? Ganolbwynt ydyw hi i fod. Ei hudol- iaethau ddyry iddi y safle hon. Hwyrach na lwydcla i ddenu yr holl ysgolheigion, ond rhaid oofio fod clefyd fel hyn yn un heintus. I'r mesur yr enilla eu biyd fe ladd yr efrydydd ynddynt; fe ladd y crefftwr; fe ladd y pethau hynny sydd mor anhebgorol mewn to ieuanc i gryfhau gwladwriaeth. Y mae y syniad o wlad- wriaeth yn gosod i fyny ganolbwynt mawr cenedlaethol o chwareuon a phleserau, ac i dalu miliynau o bunnau i swyddogion y chwareu ynddo ei hunan yn wrthun, hyd yn oed pe na buasai tafarn ynglyn ag ef. Buasai' yn sym- .,bylu moethusrwydd, segurdod:, a diogi; ac yn cynhyrchu cenhedlaeth ysgafn a di-asgwrn cefn. Y mae y wlad hun eisoes wedi rhedeg gormcd ar 01 chwareuoni a phleserau yn y I gorffennol. Tybid y pryd hwnnw nad oedd ond yr eglwysil yn dioddef o'r herwydd. A di- ystyrid- eu rhybuddion hwy. Ond wedi i'r rhyfel mawr yma dori allan, gwelwyd fad nid Eglwys Dduw yn unig, ond addysg, gwyddoxv iaeth, a chelfydd'yd hefyd yn dioddef oddi- wrth bla y chwareu. Ac os oedd y chwareu yn gymakit o bla fel yr oedd gynt, pa faibt dyfnach fydd ei afael pan fydd wedi ei osod i fyny gan y wladwriaeth yn ganolbwynt bywyd ymhob pentref, a dim cost yn cael ei harbed i wneuthur y cyfryw yn effeithiol i! dynu. Yn wir y mae y sefydli,ad newydd yn un perygius i ddyfodol ein gwlad, pe yr edrychid arno1 ond yn unig o safle y chwarae. Gwir y mae rhyw gymaint o chwarae yn naturiol ac angenrheidiol i fywyd ieuanc. Ond pan y mae y wladwriaethi yn myned i'w osod i fyny fel sefydliad pwysig yng nghymydogaethau y wlad, yna y mae yn myned Q'i le, am ei fod yn arwyddo ffurfio cywair i fywyd y bobl. P'e buasai y symudiad newydd yn ddim ond symudiad i chwarae, heb dafa'rn ynglyn ag ef, buasai yn un truenus o wael; yn enwedig pan yr edrychir arno fel rhan o ddel- fiyd gwladweinwyr 00 wladwriiaeth. Os ydyw rhieni am dipyn o chwarae i'r plant, prin y daeth i'w meddwl erioed anfon dynion i'r SeniecTd i dynnu allan raglen y chwarae. Y mae y pethau sydd yn gwneud Senedd gwlad yn angenrheidiol yn bethau dyfnach na phethau chwarae. Eithr nid- er mwyn! y chwarae y bydd y sefydliad mawr a phwysig hwn yn bod wedi'r cwbl, ond er mwyn y ddiod yn y dafarn fydd yn ganolbwynt y chwarae i gyd. Buasai crowdio pob math o chwareuon fel hyn/o amgylch y deml yn tueddu i anghymwyso y chwareuwyr i add oil: ond y mae cysylltu am-rywiiaetb o chwareuoni a phle-serau o gylch y dafarn yn fantais i'w gwasanaeth hi. Os ydyw y sefydjiac fel sefydliad chwarae ynl unig yn un peryglus, pa faiiit mwy y perygl pan nad ydyw y pethau hyn all ond cynifer o gynorthwyon i gario ym- laen fusnes yr yfed, sydd yn dinistrio cymaint o fywydau gwerthfawr yn barhaus. Ond synned y byd, dyma DDIWYGIAD Y DAFARN! The Reform of the Public House 1 Fel y sylwyd eisoes, nid cynllun i wneud i ffwrdd a'r fasnach ydyw hwn, ond cynllun i newid dwylaw, a dwyn y fasnach dan reolaeth trwy ei diwygio. A'i diwygiad ydyw cysylltu yr holl atdyniadau hyn a hi. Beth a feddylia rhieni, gweihidog, blaenoriaid, ac athrawon, o ddiwygiad fel hwn wedi dyfod i'r gymydog- acth ? A ydynt yn chwenychu yn fawr i'r bobl ieuaiiic gael eu trwytho yn nhrwyth Diwygiad y Dafar1111 Dywedir wrthym y bydd yn lie cyfleus i riend a'u plant i gyrchu idd'o i dreulio dech- reunos, ac yn fan dymunol i fechgyn a genethod ieuainc dynnu iddo am ddifyrwch. Beth bynnag ydyw diffygion aelwydydd Cymru, peth dieithribl i mi fyddai gweled rhieni a'u plant yn tynnu tua'r dafarn i dreulio gyda'r nos. A pha beth bynnag ydyw diffygion bech- gyn a genethod Cymru, nis gwelir hwy yn myned yn gyplau i'r dafam i geisio difyrwch. Ac ni byddaii ychwanegu y drwg hwn, yn help i wella unrhyw ddrygau eraill. Dymunaf ar ddiwedd yr ysgrif hon wasgu at ystyriaeth y darllenydd y ddau gwestiwn fu clan sylw yn hon a'r ysgrif flaenorol. A ydyw Cenedlaetholi y fasnach feddwol yn symud yi vested :interest I a,c yn dirWygjio y dafarn? Beth mewn difrif a feddyliwch chwi o'r dafam newydd yn y gymydogaeth wedi cysylltu a hi yr holl hudoliaethau hyn? Beth fydd ei effaith ar yr yfed-peni llai yhte mwy o yfed a wna? Beth feddyliech chwi o bwyllgor y dafarn newydd yn y gymydogaeth, yn cael ei wneud i fyny o flaenoriaid yr eglwysi, athrawon yr ysgol, a'r gweinidog hwyrach, yn cyd-eistedd a'r hen yfwyr adnabyddus a charedigion y busnes, a'r oil yn cael cyflog o gant neu ddau o bunnau yn y flwyddyn am eu gwasanaeth, gydia, Hog o bedair punt y cant ar arian wedi eu rhoddi ar y busnes, a blwydd-dal i orffen eu dyddiau. Os llwyddir ii gario y cynllun hwn i weithrediad, bydd y felltith fwyaf ofnadwy a welwyd yng nghymydogaethau ein gwlad erioed. Eto, dyma yr hyn a gynhygir i nil fel y Dafam Newydd Ddiwygedijg! 19 O. F.—Yr oedd yr ysgrif hon o ran ei chynnwys a'i therfynau wedi ei chwblhau cyn Cym- deithasfa Gaergybi. Rhennir yr ysgrif nesaf cydrhwng gair ar wrthwynebiad cyd- wybod a safle Cymdeitliasfa Caergybi ar y mater.—G.P.H.