Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMRU A R RHYFEL.

News
Cite
Share

CYMRU A R RHYFEL. Talodd Mr. Edgar Notmara, oedd yng t, Ngholeg Trefecca, pan yr ymunodd a'r R.A.M.C., ymweliad a. Thalgarth y Sul di- weddaf. Daeth y newydd o'r Swyddfa Rhyfel fod Capt. y Parch1. D. James Jones, M.A., oedd yn weinidog yn y Brynmawr, De Cymru, wedi ei dderbyn i Ysbyty yn Ffrakic ar y pumed o'r mis hwn, yn dioddef gan appendicitis.' Mae Capt. Orthin Hilton Jones, R.A.M.C., trydydd fab Dr. R. T. Jones, Harlech, wedi cael y groes filwrol am wrhydri neilltuol ar faes y gwaed wrth geisio cael clwyfedigion i'r cysgod. Bachgen gwrol, beiddgar, a phender- fynol yw Orthin, teilwng o'r carterf yn Har- lech. Mater chwerw i"w drin ydyw siwgr y dydd- iau hyn, fel y profodd i Mr. William Morris, Llanfaes, ger Aberhonddu. Gwrthododd roddi siwgr i gwsmer heb iddo brynu gwerth hanner coron o nwydd'au. Ei ddadl oedd y buasai raid i'w weision ddweyd anwiredd os na chymerai y Jffordd honno. Dirwywyd ef i bum' punt. Daeth y newydd fed Capt. R. N. Thomas, R.F.C., mab Brig.-General Syr Owen Thomas a Lady Thomas, wedi ei ladd yn yr Aifft ar y 23 o Orffennaf. Collodd Syr Owen fab ieu- enxrach yn Ffrainc yn nechreu 1916. Mae y mab sy'n aros yn Flight-Commander yn yr R.F.C. Bydd cydymdeimlad Cymru a'r Ca fridog yn ei ami brofedi'gaethau. Bydd yn hyfrydwch gan! lawer ddeall fod Miss Nancy Jones, Aberaeron, wedi cael yr an- rhydedd o'i galw i Queen's Parade, Aldersbot, i"r Investiture i dderbyn ar y 25ain y Decoration o'r RayalRed Cross, am wasanaeth wnaed ganddi yn y Military Hospital, Bristol. Bu Miss Jones am sawl blwyddyn cyn hynny yn District Nurse yn Pontardulais. Wedi misoedd o wasanaeth ar faes y frwydr yn Ffrainc, a chael: ei glwyfo yno, a dychwelyd; i Loegr a chael ei symud o'r naill fan a'r llall, mae Mr. Ellis Edgar Griffith, mab Mr. a Mrs. James Griffith, Factory, Pwllheli, yn awr wedi ei olhvng yn rhydd o'r fyddin. Hyderwn wedi dychwelyd yn ol a chael heddwch oddiwrtb y fyddin y bydd iddo gryfhau yn gyflym. Crefydd ymarferol ydoedd yr hyn wnaeth eglwys Saesneg (M.C.), Breeze Hill, Lerpwl, Sadwrn, Gorff. 21, sef gwahodd nifer o filwyr clwyfedig i dreulio y prynhawn yngngardd eu gweinidog, y Parch. H. Ridelagh Jones, M.A. Cafwyd amser difyr wrth y -wiedd yn yr ardd, a chyfarfod hefyd, pryd yr oedd yn bresennol Syr Edward a Lady Russell. Cydymdeimla pawb a Mr. a Mrs. E. M. Roberts, Metropolitan Bank, Llangefni, yn eu pryder am ddiogelwch eu mab ieuangaf, Lieut. Victor Roberts, sydd ar goll er y i9eg o Gor- ff ennaf. Pan welwyd ef ddiweddaf, cerddai at swyddog arall oedd wedi ei glwyfo, a phe na buasai ond yn meddwl am hunan-ddiogel- wch gallasai yn hawdd fod wedi cyrraedd i'r ffosydd Prydeinig. Da gweld rhywun yn canmol dewrder milwyr Cymru. Mae golygydd yr Englishman, un o newyddraduron yr India, yn gwneud hynny mewn ysgrif ar hanes ei ymweliad a, glannau y TigTM. Dywed nad oedd dim safai o flaen meibiorn Cymru. Rhuthrasant ar y gelyn a bu brwydr lawlaw, pryd y cymerasant dros 800 o garcharorion. Nid' oes gwell ymladdwr ymhob cylch na'r Cymro. Dieuog oedd y dyfamlad ym mrawdlys Morgannwg ddydd Mercher diweddaf yn achos Mr. W. H. Edwards, Y.H., a'i nai, ar gyhudd- iad o dorri rheolau dan y Defence of the Realm Regulations,' ynrdyn a'r irwaith dur ac alcan. Wrth ei amddiffyn cafodd Mr. Llewelyn Williams ganddo ddweyd, fod yr enillion am y flwyddyn yn 203,ooop., ac y caij ef 5o.ooop., a'r Llywodfaeth ar draws i53,ooop. ohonynt!

ER COF