Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PERSONOL.

News
Cite
Share

PERSONOL. Mae. Miss Williams a Miss Evans, y ddwy genhades, ar y ffordd adref o'r maes cenhadol yn Iiidia. <, -+- Penodwyd Mr. R. Leyshon Davies, Pontar- dulai's, yn ürganyddsefydlog yngnghapel M.C. y Goppa. Syr Herbert Roberts sydd i gynrychioli Cymru yn y P'wyllgor sycld yil delio a'r mater y 0 o ddiwygio'r Ty'r Arghyyddi1. Penodwyd. Miss Gwen E. Griffith, B.A., Caernarfon, yn athrawes mewn Cymraeg a Hanes yn Ysgol Sit Rh Liyn' Yr oedd y Parch. Bodfan Anwyl yn treulio rhyw gymaint o amser yn Lleyn yr wythnos ddiwddaf, a phregethai y Saboth yn Penygraig a Ty Mawr. Pregethai Dr. Hartwel Jones, rheithor Nut- field, yn Eghvys Llandudno fore Sul, a'r nos gwrandawai ar y Parch. T. Charles Williams, M.A., yng nghapel. Siloh. i Ymhlith y rhai1 sydd wedi cael y radd o B.A. ym Mhrifysgol Cymru, da gennyf weld enw merch y diweddat Barch. Robert Roberts, Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth. Taenodd rhywun y si ddiwedd yr wythnos o'r blaern fod y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B. D. I Bootle, yn Bristol gy(lar Fy,dc.i,iii,. Pan ymw-elwyd a'r lie ac y gwnaed ymchwiliad, caf- wyd nad y Parch.. O. Lloyd Jones ydoedd. -+- Cyflwynwyd tegell arian hairdd gan reolwyr y Warehousemen, Clerks, and Drapers' Schools I Mr. John Hinds, A.S., am ei lafur yn casglu at godi gv,'addö'liadall't' ysgol. Arglwydd Rosebery'oedd yn estyh yr anrheg i Mr. Hinds. -+- Llywyddion Cyfarfod Misol Dwyrain Dinbych am igis ydynt, Parch. W= Wyiin Davies, Rhos, a Mr. William Parry, Acrefadr. Ysgrif- ennydd am dair blynedd, Parch. Robt.> Morris, M.A., Cerni. Trysorydd am dair blynedd, Mr. Robert Jones, Mona Gardens, Rhos. Y pedwar enw am radd y B.A., gydag an- rhydedd yn y dosbarth cyntaf, yn rhestr gradd- au/r Brifysgol ydynt, Iola Price (Bangor), Daniel Davies, Bessie Hilda Rees, ac Eluned Prys (Aber.), yr olaf yn ferch i'r Prifathro Owen Prys, M.A., Aberystwyth. Caed cyfarfodydd llwyddiannus iawn, Gorff. 9, i sefydlu y Parch. Edward Williams, B.A., B.D., yn weinidog ar eglwys Oswald Road, CroesoSwallt. Pregethwyd yno y Sul gan y cyn-weinidog, y Parch. G. A. Edwards, yr hwn ddymunai lwyddiant ei olynydd yn Oswald Rd. -+- Hysbysir fod priodas wedi ei threfnu ac i gymryd lie'n fuan rhwng Esgob Llanelwy a Miss Armitstead, ail ferch y Parch. J. R. Armit- stead, ficer Sandbach, Sir Gaer. Mae ei ar- glwyddiaeth yn prysum at y ddegfed garreg filltir ar ol y trigain, ac wedi bod yn briod ddwywaith o'r blaen. Cyflwynodd eglwys Seion, Croesoswallt, yn ddiweddar rodd o 2op. i'w gweinidog,; y Parch. H. 'E. Griffith, M.A., fel arwydd o warogaeth yr: aelodau a'r mdlwyr ar gyfrif ei wasanaeth gwerthfawr iddynt yn ystod y rhyfel. Er pan sefydlwyd y wersyllfa. gerllaw Croesoswallt, bu Mr. Griffith yn ddiflino yn ei ymdrechion ar ran y milwyr Cymreig, ac ni fu ei ddiadell yn ol o amlygu eu gwerthfawrogiad o'i wasanaeth ardderchog. • Gwnaeth Coleg Aberhonddu yn dda yn Ar- holiadau'r Brdfysgol eleni. Aeth David Price, B.A., trwy arholiad mewn,, Hebraeg, ac Owen Griffiths, B.A., ei arholiad cyntaf am y B.D. Llwyddodd tri, o gyn-fyfyrwyr hefyd. Y Parch. by Gwilym Rees, B.A., Merthyr, ei radd o M.A., am draethawd ar Broffwydoliaeth," y Parch. 1 George Evans, B.A., Heolygerrig, ei B.D., a'r Parch. T. Llynfi Davies, Abertawe, ei ail ar- holiad am y B.D. J

>-------'---------------.------------,",........n_"...."''''"'''''"''',"""....",--,._-<.,..................",_..__.",---.---,"=-----,------=........-..-LLYTHYR…

'COSTAU-Y RHYFEL./

YR WYTH COMISIWN.