Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
GOHEBIAETHAU.
News
Cite
Share
GOHEBIAETHAU. (Nid ydyni yu ystyried em huuain yn gytritol. am syniadau yr ysgr;ieu wyr).
CYMDEITHASAU RHYDDFRYDOL CYMRU.
News
Cite
Share
CYMDEITHASAU RHYDDFRYDOL CYMRU. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Yn eich rhifyn am Mehefin 20, ymddangosodd Uythyr dan y pen- nawd uchod, wedi ei arwyddo gan E. Heb ddweyd dim y naill ffordd na'r llall mewn per- thynas iddo, gwelaf ei bod yn angenrheidiol i mi wneud yn hysbys mati nid oddiwrthyf fi y daeth y cyfryw, fel y gwyddoch. Wn i ddim paham y mae Thai cyfeillion yn barod i'w briodoli i mi-os nad ydyw y llythyren E. yn eu harwain i feddwl hynny, ac am fy mod yn y gorffennol wedi bod yn ddigon hyf i feirniadu yr Aelodau Cymreig. Er dechreu y rhyfel diffaeth ac echryslawn yr wyf wedi ceisdo hyd eithaf fy ngallu, er yn anodd ddigon ami, i barchu y political truce.' Eto, byddaf yn arfer rhoddi fy enw priodol wrth yr hyn yr ysgrifen- naf—o dro i dro. Wrth orffen y ncdyn hyn, caniatewch i mi bethbynnag i ddweyd fy mod wedi darllen gyda diddordeb neilltuol ysgrifau y Parch. Parry Hughes yn erbyn Cenedlaetholi y Fas- nach Feddwol. Gwerthfawrogaf hefyd ym- drechion brwd'frydig Mr. John Owens, Caer, yn yr un cyfeiriad. Credaf fed y Llywodraeth eisoes yn canfod fod y gwrthwynebiad yn rhy gryf i ddwyn cenedlaetholi a phrynu oddiamgylch. Yr eiddoch yn gywir, 6—8, King St., Liverpool, Gorffennaf 2iain. HUGH EDWARDS, H
EMYNAU A THONAU AR GYFER YR…
News
Cite
Share
EMYNAU A THONAU AR GYFER YR YSGOL SUL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,-Sylwais fod y Gymanfa yng Nghaergybi wedi pasio penderfyniad i ofyn i'r Pwyllgor Argraffu ychwaneg o'r Llyfr Emynau. Ai ni fyddai yn ddoethineb i ymbwyllo cyn argraffu ychwaneg o honynt? a chymryd y grib fawr yntau beth am y grib fan i gribo allan wyth o bob deg o'r Salm-donau na chenir gan un gynulleidfa o bob ugain yng Nghymru; a thynnu allan wyth o bob deg o gyfieithiadau clogyrnog anghanadwy Edmund Prys-eyfieith- iad o'r Seisnig ydynt. Pe buasai E.P. yn cyf- 0 y ieithu o'r gwreilddilol buasai ganddo well man- tais i gyflwyno meddwl y Salmydd yn Gymraeg, ond y mae efe yn cyfieithu o gyfiedthiad Seis- nig, a hwnnw yn un eiddil a gwan, a dweyd y goreu am dano; ac y mae geiriau yn ei Emyn- au cyfieithiedig yr un mor annealladwy a phe buasa,i yr hen frawd wedi geso-4 y geiriau Heb- reig yn eu lie. Hefyd y mae yn ein llyfr ar;themau hirion anhawdd, .nad oes dim un gynulleidfa o gant fedr eu canu. Gadawer y pethau a enwir uchod allan, a chriber ychydig a'r grib fan o'r Emynau sydd ar gyfer yr Ysgol Sul yn y llyfr, a gosoder Emynau a Thonau da a. chyfaddas i'r Ysgol yn eu lie, rhyw 70 o honynt, ac ar yr un pryd gwareder ni rhag yr ysbwriel Americanaidd a gyhoeddir yn bres- ennol i'n Hysgolion. Yna bydd yr Ysgol Sul yn cael gwasanaeth y llyfr, a'r llyfr yn cael gwared o lawer o bethau diddefnydd sydd ynddo, a'u lie yn cael ei lanw o Emynau a Thonau fydd yn help i ddwyn ddddordeb eto yn ein Hysgolion Sabothol. Hyn yn fyr yn lie llawer sydd eisiau ei ddweyd ar y testun dan sylw. HEN ARWEINYDD.
JOHN ELLIS, Y CERDDOR, 0 LANRWST.…
News
Cite
Share
JOHN ELLIS, Y CERDDOR, 0 LANRWST. DYDDIAD EI ENEDIGAETH. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Ai tybed y medr rhyw- un o ddarllenwyr y CYMRO ddweyd i sicrwydd pa flwyddyn y ganwyd y gwr hynod uchod, ac os yn bosibl, brofi cywirdeb y dyddiad trwy gyfrwng certificate of birth," neu rhyw foddion arall? Teimlwn yn dra diolchgar i bwy bynnag a all ein goleuo yn hyn o beth, neu roddr' inni gyfarwyddyd gyda golwg ar y ffordd debycaf i sicrhau y wybodaeth. Yn y llyfrau canlynol, sef, Dictlionary of Ejninent Welshmen (Asaph), Enwogion Cymru (Foulkes), Geiriadur Cenedlaet-hol Cymru" (Owen Jones), a'r "Gwyddoniadur Cymreig," hysbysir fod John Ellis wedi ei eni ym mhlwyf Llangwm yn y flwyddyn 1750, a'1 y fod wedi marw yn Liverpool yn 1834, yn 84 miwydd ced. Ond, ar ol ymholiad, cawsom air oddiwrth y Parch. O. J. Owen, M.A., Rockferry, yn dweyd ei fod wedi dod ar draws y nodiad can- lynol yn nyddlyfr (private) y diweddar Samuel Jones, Pall Mall,—" 1839. Ionawr 31 bu farw o Bedford Street, John Ellis, y cantwr (o Lan- rwst gynt)." Hefyd daw Mr. Owen a phrawf arall i brofi fod J.E. yn fyw ar ol y flwyddyn 1834. Yn ddiweddarach derbyniasom lythyr oddi- wrth Mr. W. Lawson Boyes, ysgrdfennydd trustees Capel y Wesleyaid Seisnig yn Stan- hope Street, Liverpool, ynglyn a'r mater. Dyma ddifyniad o hono —" In answer to your letter, I have gone through the records and found the .entry you refer to—John Ellis, Saddler, of Greenland Street, died January 31, 1839, buried on February 4th,'—but his age is given, as 75, so, that would suggest either 60 that the entry of age 'is a wrong one, or the year of birth must have been 1764 instead of, as you put it, 1750." Wedi-derbyn yr uchod, ysgrifenascm at y Parch. J. Bevan Jones, ficer Llangwm, i ofyn am ddyddiad genedigaeth neu fedyddiad J.E., ond hyd yn hyn, er manwl chwilio, y mae wedi methu cael gafael ar y dyddiad; ond yn un o'i lythyrau dywed fel hyn, Y mae y certitficate a gawsoch o Lerpwl yn ymddangos yn agosach i'w lie na'r quotations a roddasoch yn flaen- orol i mi, wrth eu cyferbynnu ag oed William Ellis, ei frawd, yr hwn a anwyd yn 1768, ac a gladdwyd yn 1850, yn 82 mlwydd oed." Bydd yn llawenydd o'r mwyaf gennym gael sicrwydd pendant ynghylch dyddiad ei enedig- aeth, gan y teifl hynny oleuni ar ddyddiau di- gwyddiadau eraill yn hanes y cerddor gwych, ynghylch pa rai y bodola gradd o amheuaeth o barth i'w cywirdeb. Yr eiddoch yn bur,. Plas Llecheiddior, WM. WILLIAMS, Llanrwst.
GWRTHWYNEBYDD OHERWYDD CYD-WYBOD.
News
Cite
Share
GWRTHWYNEBYDD OHERWYDD CYD- WYBOD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—A fedrwch chwi fforddio ychydig o'ch gofod prin i air ar y paragraff a ganlyn, a ymddangosodd ym mhapurau Caer- dydd heddyw-Gorff. 237 Dyma'r ff aith i ddechreu: — Arthur S. Gage (24), Welsh Secretary of the Students Movement, was charged at Cardiff to-day with being an absentee under the. Military Service Act. Defendant claimed that the law of conscience was above the law of the land, and that was absolutely contrary to the life and teaching of Christ. Defendant was fined ^5, and ordered to be handed over to the military." Ni raid dywedyd dim am werth a phwysig- rwydd gwaith Cymdeithas Gristionogol y Myfyr- wyr wrth neb a wyr rywbeth am fywyd colegau Cymru. Y mae miloedd o ddynion a merched ieuainc trwy'r deyrnas yn fwy dyledus iddi hi nag i unrhyw sect nac enwad am y tipyn gol- euni ysbrydol sydd ganddynt yn nyddiau'r caddug ofnadwy sydd wedi dyfod ar y byd, ac nid bychan ydyw nifer y bechgyn a'r genethod a nerthwyd trwyddi i orchfygu temtasiynau hudolus bywyd coleg ac i ymroddi i fywyd o ddefnyddioldeb a gwasanaeth., A phrif orchwyl ei hysgrifennydd ZD ydyw symbylu cymdeithas pob coleg trwy Gymru i ymroddiad ac egni mwy i gyrraedd ei hamcan, ac i ddwyn cym- deithasau lleol i berthynas agos a byw a'r symudiad i gyd trwy'r wlad a'r byd. Ond y mae'n amlwg fod y gwiath, er ei bwys- iced, yn ddibwys ddigon yn,g ngolwg ein haw- duro'dau milwrol, ac i bob golwg, y maent o'r farn v bydd egwyl o orffwys yn awyrgylch iach- usol 'Wormwood Scrubbs neu Dartmoor neu Garch-ar Caernarfon yn llawer mwy o wasan- aeth i'r wladwriaeth ar ran Mr. Gage na chyn- orthwyo -i Grdstioneiddio Colegau Cymru, a gwasanaethu'r Gymdeithas sy'n dipyn o swcwr i'r bechgyn a'r genethod di brofi ad sy'n heidio o gysgod a, gofal cartrefi i wynebu bywyd coleg a ,i beryglon -diri'. r- A gaf fi, felly (a dyma fy neges) apelio at bob un o'ch darlenwyr sy'n teimlo'n rhwym- edig oblegid y gorffennol i Gymdeithas y Myfyrwyr, yn fab neu'n ferch, i anfon at Aelod Seneddol ei ranbarth i alw ei sylw at yr achos difrifol hwn? Gwn fod ymhlith fy nghyd- weinidogion ieuainc uaeiriau sydd wedi derbyn ysbrydiaeth ar gyfer gwaith eu bywyd trwy'r Gymdeithas, ac nid gweddus ynom a fyddai ei anghofio hi yn awr ei chyfyngder. Dylai sylw pob Aelod Seneddol Cymreig gael ei alw at yr achos, ac ond odid trwy hynny na lwyddid i ddyrysu cynllwyn yr awdurdcdau milwrol sydd yn ceisio llesteirio gwaith un o'r ychydig gymdeithasau yn y byd heddyw sy'n gwneud gwaitli gwir Gristionogol. Yr eiddoch, &c., Y Barri, 23 viii. '17. LLEW. G. WILLIAMS,
YR YMOSTYNGIAD.
News
Cite
Share
YR YMOSTYNGIAD. AT OLYGYDD Y CÝMRO. Araiwyl Mr. Evans,—Y mae gan Eglwys Loegr ei hesgobion swyddogol yn dwyn yr enw esgobion. Y mae gan yr eglwysi a ymgyfen- wa yn Eglwysi Rhyddibn eu hesgobion an- swyddogol, ac heb ddwyn yr enw esgobion. Ni cheisiwn eu cymharu. Ni cheisiwn brofi pa rai yw'r goreu. Nti fydd a wnelom yn yr ysgrif hon ond a'r dydd o ymostyngiad a geisir ei drefnu gan yr awdurdodau esgobol. Clyw- som gryn lawer o son am ymostwng yn ystod y tair blynedd diweddaf. Ac yn ol pob argoel, bu cryn lawer mwy o son am ymostwng nag o ymostwng gwirioneddol. Hyd y gwelwn bu mwy o swn nag o sylwedd. Y mae'n bosibl ymostwng o ran ffurf corff a geiriau i frenin, a,rcliesgpb, esgob, ac awdurdod wladol ac eg- lwysig, heb ymostwng i Dduw. Ac yn wyneb hyn, gofynnwn y cwestiwn,—A roddir cyfar- wyddid iawn a llawn i'r wlad am beth y d'ýlid edifarhau ac ymostwng, a pha fodd i wneuthur? Dywed rhai, mati buddiol fai i gyfundebau crefyddol anfon at y P'rifweinidog i ofyn iddo anfon at yr eglwysi a'r wlad i ymostwng. Beth b yw hyn? A yw'n golygu mai cyfundebau crefyddol, mai'r eglwys .sy'n gyfrifol am y Ill) feH A chaniatau ?u bed i raddau'n, gyfrifol am dani, credwn mai llawer mwy priodol fuasai fod yr eglwys yn y wlad yn anfon at y Prifweinidog i ofyn iddo ef a'r rhai sydd yn gwneud i fvnv yr hyn a alwn yn Llywodraeth ymostwng. Oherwydd os nad yw'r Prifwein- idog a Seneddwyr y deyrnas yn gyfrifol, fel Prif Weinidogion a Seneddwyr gwledydd eraill, y maent yn esgidiau y rhai fu'n gyfrifol am y rhyfel fawr hon, yn y wlad hon. Ymostwng! Nid oes neb a wad nad oes eisiau i ni fel gwlad fynd i lawr i'r llwch mewn z3 edifeirwch "am ein pechodau, ein pechodau ein hunadn, y b-obl fel deiliaid y deymas. Ond ni fuasai hyn yn ei berthynas a'r rhyfel yn ddim amgen na cheisio twyllo Duw. Buasem yn cuddio mwy o'r gwirionedd am danom nag a fuasem yn ei gyfaddef. Os mai ymostyngdad parthed y rhyfel sydd i fod, gadewch i ni wynebu pethau'n llawn, a mynd at Dduw yn onest a diragrith. Ymostwng, nid fel deiliaid y deyrnas yn unig, ond fel Seneddwyr, fel awduron deddfau a chytundebau hefyd. Nod- wn rai pethau y dylem eu hwynebu, a nodwn hwy yng ngeiriau un o ddynion craff ein gwlad, a ysgrifennodd yn y flwyddyn 1912, ac a broffwydodd yn llythrennol gywir am y rhyfel hon. Temtir dyn i ofyn weithi'au ali cysgu y mae Cyfiawnder Dwyfol? Nid amlach na duach oedd pechodau Sodom a Gomorra. na phechodau Llundain, Paris, Berlin, Vienna, a Buda-Pesth." Dyma ddigon i brofi fod genr nym rywbeth fel deilaid y deyrnas i edifarhau o'i herwydd. Gwrandawn eto: d Beth sydd' o'i le ? Popeth'. Dywedaf yn ddibetrus mai Moloch a. Mamon yw eilun«dduwiau y byd gwareiddiedig heddyw, nid y Duw Cyfiawn. Trachwant, rhaib, a thwyll yw sylfaen, congl- faen, a phigfaen yr Ymerodraeth Brydeinig, nid cariad, iawnder, a hunanaberth. 0 ryfel y Crimea hyd yr ymgyrch warthus ac anwrol (nid arwrol) yn erbyn y Boeriaid, gwelsom yr Eglwysi yn bwrw eu coelbren. o blaid trawster a chelanedd, ac ni chodasant gri am heddwch nes tedmlo bod y rhyfeloedd yn myned yn ormod o dreth ar adnoddau Prydain Fawr, ac yn dechreu ymyryd â i masnach." Trown ein goIwg tua"r Senedd, &c. Ym misoedd Awst a Medii, 1911, yr oeddym fel defaid gwirion yn pofi ar lechweddau llosgfynydd, heb wybod fod nerthoedd dinlstniol yn dygyfor odditanom. Ond fe aeth y perygl hwn heibio. O'i hanfodd, cytunodd yr Almaen i Ffrainc reibio Morocco,