Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. EMYN YMOSTYNGIAD. Ti, Lywiawdwr nef a daear, Dyrys yw Dy ffyrdd i ni; I gyfyngder, ing, a galar, Tyrd yn nes, a chlyw ein cri; Mae dialedd dan ei arfau, Yn: meddiannu tir a mor; Ac yn swn byddinoedd angau, Ti yw'n gobaith, Arglwydd lor. Cofia'n byd yn ei drueni, Yn ei ddagrau, yn ei waed; Mewn trugaredd a thosturi, Dyro bechod dan ei draed; Er anghofio'th gariad tirion, b A phellhau yn gyndyn ffol, Gad i chwerwedd Dy geryddon. Ein dychwelyd eto'n ol. Ymeanged egwyddorion Iachawdwriaeth dros y byd; A bydd heddwch fel yr afon Ar eu hoi yn ras i gyd; Dan gawodydd tan y rhyfel Sy'n difrodi daear las, Dwg y wlad i blygu'n isel, Yrt y llwch wrth orsedd gras. DYFED. --+- Yfwyd yr oil o gwrw Llanrwst yn gynnar ddydd Sadwrn. Ni ddigwyddodd dim byd arall o bwys y noson honno. Mae cwestdwn rhedeg y tram ar y Saboth wedi codi eto yni Llandudno. Atgpfir y treth- dalwyr y costia cadw'r Saboth ddwy geiniog yn y bunt o godiadyn y dreth. Dyna, ddadl ag y mae pawb yn ei deall. Gwnaed casgliad at Genhadaeth Dramor y M.C., yng nghapel y Tabernacl, Aberystwyth, y Sul cyn y diweddaf. Cyfrannodd Principal Prys xoop., Mr. Arthur Jones 2op., a Mr. Evan Evans 5p.. ■—— Un o arwyddion yr amseroedd yw gweld Canon Camber-Williams yn annog danfon dynion da i Gynhadledd yr Eglwys yng Nghaer- dydd. Mae'n amlwg fod yr Eglwyswyr yn sylweddoli fod Dadgysylltiad yn dyfod, ac am baratoi ar ei gyfer. Nid yw'r frwydr rhwng y ddwy blaid wedi ei phenderfynu yn derfynol yn Aberystwyth mwy nag mewn ami i Ie arall. Nid yw yr eg- lwysi wedi meddiannu bywyd cyhoeddus y dref fel y gallent ac y dylent wneud. Y galluoedd cryfaf ar y ddwy ochr, o'r golwg y maent, a'u henw yw goleuni a thywyllwch. 1— Da y gwna. Esgob Llanelwy yn galw cyn- hadledd ii drefinu gogyfer a dyfodiad i rym Fesur Dadgysylltiad. Y dydd' hwnnw daw popeth perthynol i'r Eglwys yn eiddo y Com- missioners, a bydd ant hwythau yn cyflwyno yn ol i-hai pethau i gynrychiolwyr yr Eglwys. Felly gwelir y bydd gwaith trefnu'r ty, a gore po gyntaf yr hwylir ati. Bwriedir hefyd cael cynhadledd o'r pedair Esgobaeth yng Nghaerdydd ym mis Hydref. -+-- Talodd y Parch. J. T. Rhys deyrnged bryd- ferth o barch i goffadwriaeth y Parch. D. Tyler Davies. Cyfeiria; at ddioddefgarwch a siriol- deb cyfaill ei faboed at ei sirioldeb, ei weith- garwch, ei gariad at lyfr da, ac at efrydu. Wedi eu cydfagu, gwahanwyd Mr. Rhys a Mr. Davies, ond yn Awst y flwyddyn ddiweddaf cawsant gyfarfod ar fynyddoedd Llanybyther, ac er gwaeled oedd Mr. Davies, siarad am waith a ph/axatoi ar ei gyfer yr oedd. Er gwaethaf pob trefniadau parhau i flodeuo y mae'r arfer o deithio i gyhoeddiad1 ymhlith y Methodistiadd Calfinaidd. Y Sul diweddaf yr oedd dau weinidog yrx croesi eu gilyddj ac yn talu rhyngddynt 25s. i'r tren. Talwyd iddynt 2p. 10s. yr un am ddwy bregeth. —— Hysbysir am farwolaeth Mrs. Hoi ins, Caer- dydd, y foneddiges haelionus roddodd Gerbyd yr iEfengyiydd yn anrheg i'r Parch. R. B. Jones, Ynyshir. Yng Nghaernarfon mae'r cerbyd ar hya o bryd, clan ofa-I Mr. Griff Hughes. Yr oedd Mrs. Holins yn gefnogydd aiddgar i Gyl-khadleiddl Llandrindod, a phob achos da arall. -4, Mae trethdalwyr Pwllheli yn rhedeg d'arlunfa eu hunain yn neuadd y dref er mwyn elw a chau pobl ddieithr allan. Barn yr ynadon yw fod y pethau hyn yn tueddu i yru plant ar gyfeiliorn. Ond er hynny myned ymlaen y mae ffaiir darluniau. Un peth yw barn ynad ar gwestiwn o foesdldeb, peth aralli yw tynnu ceiniog neu ddwy i lawr yn y dreth. ♦ —— Cwynir yn lied gyffredin ar ymddygiad y bechgyn a"r merched sy'n mynd yn ol a blaen bob dydd i ysgolion sir y wlad. Nid oes eisiau ond mynd gyda'r tren fore a hwyr A weled pa- mor anfoesgar a chwrs yw llawer o'r bechgyn a'r merched. Ac mae'r don o benrhyddid sy'n goresgyn y wlad yn effeithio er drwg ar y plant. Mae lledneisrwydd yn cyflym ddiflannu o'r wlad. ♦ Ni bydd pabell yn Llandrindod( ,eleni. ar gyfer y Gynhadledd, ond mae pob arwyddion y bydd yn llwyddiant. Deil yr Albert Hall tua mil o bobl, a cheir capel arall os bydd angen. Mae'r rhaglen yn ysgafnach. Ni bydd cwrdd ar ol, Darlleniad o'r Beibl yn y bore, ac ni oddefir yn awr frecwest i'ir gweinidogion)" fel y byddai arfer. Hyderir y ceir gwledd ysbryd Iol heb brinder beth bynnag. Dywed y Prifweinlidog yn y Strand am y mis hwn mai ei hoff donau ydynt Jabez,' 'Dorcas,' Brynhyfryd,' Dymuniad1,' a Dyfrdwy.' Anhawdd yw dewis o'r hen don- au, ond' gorchfygodd Mr. Lloyd George yr an- hawster hwn eto. Dyry hefyd gyfieithiad rhydd i'r Saesneg o'r emyn a' gâr: ar y don Jabez," sef "Os dof fi drwy'r anialwch," &c. Ynglyn a hyn cynhygia'r Western Mail' wobr i awdwr y cyfieithiad mydryddol goreu o'r emyn i'r Saesneg, a dderbyniant cyn Awst 28. Bydd bardd Cymreig sydd yn awdurdod ar gyfieith- iadau yn beirrniadu. Yn- ddiidadl un o'r aredthiau grymusaf a mwyaf argyhoeddiadol glywyd yn Sasiwn Mer- thyr ydoedd eiddo y Parch. Arthur Hughes, B.A., Caerfyrddin, fu yn Gaplan yn Ffrakic gyda'i Gatrawd Gymrelg. Siarad yr ydoedd ar benderfyniad anfonwyd i'r Gymdeithasfa o Gyfarfod Misol Dwyraiai Morgannwg ar y pwysigrwydd i"r eglwysi baratoi awyrgylch ysbrydol cynnes erbyn y deuai ein bechgyn glew adref o'.r" ffosydd. Dywedai Mr. Hughes oddiar brofiad maith gyda'r bechgyn, y byddai ein milwyr pan ddeuant adref ar ol bod wyneb yn wyneb a sylweddau mawr, yn disgwyl mwy to 1 reaility' yn ein proffes a'n iiordinhadau crefyddol. Byddant wedi diflasu am byth ar yr arwynebol, a hawliant, fel y dywed Dr. Orchard yn ei lyfr enwog diweddar, The Out- look for Religion' THE DEMAND FOR REALITY. Ni hidiant fawr' beth fydd credo nieu athraw- iiaeth y dyn, ond' rhoddant bwyslajs mawr ar < yr hyn ydyw. Rhaid i'r pregethau fod yn fwy ymarferol nag eribed, a disgwylir i'r Eg- lwys ddatga-n ei Uais yn groew ar broblemau mawr cymdeithasol wedi yr el y Rhyfel heibio. ( Camgymeriad oedd dweyd nad yw Cymru yn cael ei chynrychioli ar y pwyllgor sy'n edrych i mewn i bryniad y Fasnach Feddv/ol. Mae Syr Thomas Hughes, cadedrydd y Ddirprwyaeth Yswirio, yn aelod o hono. » A ydyw y Methodistiaid Calfinaidd yn myned i ostwng safon addysg y weinidogaeth ? Mae rhai pethau yn dangos fod tuedd yn y cyfeiriiad yna. Bu delfryd y Methodistiaid yn uchel. I'w greu a'i godi y bu Dr. Lewis Edwards a Principal Edwards byw. Ond mae llawer cenhedlaeth wedi mynd a dod er yr adeg honno. Canmolir gweinidogaeth dynion diddysg, ac atgofir mai cyrn hyrddod a dynodd gaerau Jericho i lawr. Mae eisiau rhyw apostol eto i gario ymlaen wadth y gwyr enwog a enwyd. —— Cyfarfyddodd Pwyllgor Gweithiol Undeb Eglwysi Rhydd y Canolbarth yn Builth Wells dydd Llun. Swn trefnu gwaith oedd yno trwy gynnal Cenhadaeth Undebol drwy'r wlad. An- fonodd Dr. Meyer atynt i ddweyd nad oedd y Cyngor yn barnu ei bod yn amser i drefnu cyn- hadledd ynglyn a heddwch, ond na fyddai yr Undeb yn ol pan y deuai'r amser priodol. Pas- iwyd hefyd benderfyniad cryf-cryfach nag un .Llandniihdod!—ar fater y driniaeth greulon i wrthwynebwyr cydwybodol. Daeth Bwrdd Gwarcheidwaid Treffynnon i mewn am feirniadaeth eger gan y Barnwr Moss yn y Llys Sirol. Cafcdd hen wraig iawn- dal mewn canlyniad i farwolaeth ei merch, ac yr oedd i'w dalu yn ol punt y mis. Pan glyw- odd y gwarcheidwaid hyn ataliwyd ei thâlo 5s. yr wythnos o'r plwyf. Wrth ganiatau y cais i godi taliad yr iawndal i £ 2 y mis, dywedodd y Barnwr fod ymddygiad y gwarcheidwaid yn iselwael ac yn ffieiddbeth, Ac fe haeddent y gair cas hefyd. Vr wythnos ddiweddaf rhoddodd yr Awdur- dodau Milwrol rybudd y byddant yn gofyn am foreman Swyddfa'r CYMRO; rhoddodd y National Service rybudd yn galw am y prif beiriannydd sy'n gofaiu am y Linotype Machines sy'n cysodi'r CYMRO, a rhybudd yn galw am y paoiwr sydd wedi bod gyda'r gwaith hwnnw er ys deugain mlynedd—efe i fyned i Hudders- field i gymysgu lliwiau! Hefyd rhoddodd y Paper Commission, rhybudd na chedr ond llai na hanner y papur sydd eisiau i argraffu'r CYMRO. Beth nesaf os gwehvch yn dda? .+-- Boneddwr dymunol a milwr dewr yn ddiau yw General Cuthbertson sy'n awr yn gofalu am flodau Cymru yn Kinmel Park. Ysbeiliwyd Cymru o wasanaeth y Cymro rhagorol—Syr Owen Thomas, a rhoed dieithrddyn yn ei le. Rhaid fod rhyw ddiffyg difrifol yn y gyfun- drefn sy'n rhoi, Cymro yn Brifweinidog yr Ym- erodraeth, ac Ysgotiad yn lie Cymro yn Kinmel Park. Nis gelliir diisgwyIi i'r Ysgotiad, pa I z;1 ragored bynnag y bo, ddeall Cymru, a daeth y syndad gwreiddiol i feddwl rhywun mai da fyddai ei help i ddeall pethau drwy ei gyflwyno d Gyfarfod Misol Mon! Mae'r syniad o fyned a. chadfridog i Gyfarfod Misol yn un newydd a chwithig. Gobeithio y caed hwyl dda. Ond onid gwell fuasai ihoi syniad am bethau goreu Cymru drwy yr Ysgol Sul, y Band of Hope, y Cyfarfod Darllen, a'r Seiad Dyna'r dylan- wadau mwyaf ar fywyd bechgyn Kinmel Park. Y tebyg yw na chlyw odd un o bob mil o'r • bechgyn am Gyfarfod Misol Mon. Ac os dymunai cyfeillion yr Ynys ddangos y sefydliad- au hyn yn eu gogoniarit i General Cuthbert- son, dyma gyfle ardderchog i'r gwyr blaenaf ymdaflu i'r .gwaith yn Kinmel Park, a gweithio ymhlith ybechgynJ fel y gallont ddweyd wrth y Cad'fridog,—Dyma Gymru.