Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

...- ------------__-'---'----NODION…

News
Cite
Share

NODION 0 LERPWL. Cynhaliwyd seiat i ffarwelio a'r Parch, John Hughes, M.A., nos lau, Gorff. ufredr. Cymerwyd y gadair gan un o swyddogion yr eiglwys, Mr. Robert Roberts^, Y.H. Cyn y seiat cyfarfyddodd y swydd- ogion a Mr. Hughes, uwch cwpanaid o de, a bara- towyd trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. John Evans. Denman Drive, a threuliwyd orig ddifyr yn son am dymor gweinidogaeth Mr. Hughes. Daeth cynulliad liuosog ynghyd i'r seiat. Mynegwyd gan amryw frodyr y chwithdod o ymadawiad Mr. Hughes. Er wedi ymneilltuo o ofalaeth yr eglwys er dT09 ddwy flynedd, nid oeddynt wedi teimlo ei golili mewn gwir- ionedd hyd yn awry gan y byddai yn gyson yng nghyfarfiodydd yr eglwys. Yr oedd ganddynt atgof- ion melus am ei weinddogaeth. Pa mor dda bytinag .y pregethai Mr, Hughes" oddicartref, yr eglwys gar- tref fyddai yn cael ei oreu. Teimlwyd agosrwydd y nefoedd mewn llawer i seiat dan ei arweiniad. Dy- wedodd y gweinidog presennol, y Parch. G. Roberts Jones, B.A., B.D., y gofidiai yn fawr golli Mr. Hughes. Gwnai ei oreu i'w gynorthwyo yn ei waith. Yr oedd bob amser yn siriol, garedig-, ac yn gym- wynasgar. Byddai lie gwag ar ei ol. Dymunai yr eglwys o galon nawnddydd tawel i'w hen weinidog. Gofidiai Mr. Hughes adael Fitzclarence St. Yr oedd wedi bod yn hapus iawn yno am dymor maith. Yr oedd yn dda ganddo fyned i Gymru. Yr oedd y wlad yn' tynnu. Ond gorchwyl caled oedd ffarwelio a'i hen eglwys, lie y cafodd gj-maint o garedigrwydd. Nis gwyddai am eglwys well i'w gweinidog. Dy- munai allu ei chario gydag ef i Gymru. Gweddiai am lwydddant lawer i'r eglwys yn y dyfodol. Bu y Parch. J. Hughes, M.A., yn bugeilio eglwys Fitz- clarence St. am 25 mlynedd, ac yn gwasanaethu ym mhulpudau y cylch gyda chymeradwyaeth, a beildith amlwg ar ei weinidogaeth, a theimlir yn ddwys ei golli o'r cyloh. Deallwni fod Mr. Hughes wedi gadael Lerpwl er dydd Sadwrn diweddaf, am Ben y Bont, Morgannwg, i'w hen fro., a dymunir iPdo bob cysur a llawer o flynyddoedd eto i wasanaethu ei wlad, a gallwn o galon ddweyd am iddo dalu ymw«liad ami a ni.

CYMDEITHASFA MERTHYR,