Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

---."....."..,...,.--..-...…

News
Cite
Share

ADDYSG. ? Dydd Sadwrn rhoddodd Coleg Emmanuel, Caergrawnt, ysgoloriaeth 0 ,C,"50, am lafur ym- chwiliadol i'r gyfraith, i Mr. J. W. Jones, gynt o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae deugain namyn un o ymgeiswyr am y swydd o Brifathro Ysgol Sir, Aberaeron. Tynilr y nifer i lawr i bump cyn penodi yn derfynol. Ymddengys nad oes prinder ymgeiswyr, beth bynnag am brinder athrawon da. —.—^— Mae Pwyllgor Addysg Sir Drefaldwyn wedi* 0 pasio na chauir yr ysgolion ar ddyddiau cyfar- fodydd pregethu, cymanfaoedd canu, gwyliau Ysgolion Sul, a phethau o'r un natur. Ai cam ymlaen ynte yn ol yw hyn, tybed ? —» ■ ■ Diwrnod mawr fydd dydd y Gynhadledd Addysg Gymreig yn yr Albert Hall, Llandrin- dod, sef Awst 2 a 3. Bydd yno gynrychiolwyr o bob parth o Gymru, a disgwylir Dr. Fisher, Llywydd Bwrdd Addysg, i aimerch..Cynhygir penderfyniad o blaid cael Bwrdd Addysg i Gymru. *— Ynglyn a'r cwestiwn yna, yng Nghyfarfod Blynyddol Athrawon Sir Frycheiniog, yr wyth- nos ddiweddaf, tueddid i gredu nad ymarferol fyddai cael Bwrdd Addysg Cymreig. Dadleuai Mr. Roland Thomas, M.A., mai cael Ysgrifen- nydd Addysg i Gymru, fel sydd gan Ysgotland, fyddai oreu. ♦ Y ng nghwrdd blynyddol Llys y Brifysgol ym Mangor ddydd Mawrth, cyfeiriai yr Is-Gang- hellor, y Prifathro E. H. Griffith, at y bwriad o gael gradd newydd yn y Prifysgolion,. Tybid b t) mai Ph.D. fyddai, er fod Scotland yn erbyn honno gan fod ganddi radd gyffelyb. Y r arncan yw rhoddi cyfle i Ameri:canwyr gael y radd honno yn y wlad hon, yn lie myned i'r Almaen a Ffrainc. Nid yw y graddau eraill cyn uched yng ngolwg yr Americanwr a Ph.D. Ymgymerodd Pwyllgor Addysg Cyngor Sirol y Brifddinas yn ddiweddar a'r gwaith o ofyn barn rhai o bobl fwyaf blaenllaw cylchoedd masnachol Llundain ar yn addysg gyfrennir i'r plant yn yr Ysgolion Elfennol ac Uwchraddol yno, ac er syndod, os syndod hefyd, condemn- iwyd hi bron yn ddieithriad gan yr oil, a dywed- ant fod yna lu o'r plant nas gallent ysgrifennu, sillebu, na rhifyddu yn gywir. Oraid yw hyn yn wir hcfyd am ysgolion Cymru, ac uchel-eilw yr holl gyfundrefn am gael ei hadystyried. Ond y nid oes llawer o argoel y gwneir. —4 Pan mae eymaint o son am Addysg, buddiol yw yr amcangyfrif hwn o eiddo Mr. E. T. John, A. S., o gost cyfundrefn genedlaethol i Gymru: Ysgolion Elfennol: Nifer yr ysgolorion, 480, 000 cost pob ysgolor, 5p. cyfanswm, 2,400, ooop. Ysgolion Elfennol Uchaf ac Ysgolion Crefft; Nifer, 50,000; cost pob ysgolor, iop. cyfanswm, 500,ooop. Ysgolion Canolraddol a Chelfyddydol: Nifer, 40,000; cost pob ysgolor, 15P.; cyfanswm, 6öo"ooop. Colegau'r Brif- ysgol: Nifer, 5,000; cost, pob ysgolor, 5op. t, cyfanswm, 2So,ooop.-Cyfanswm, 3,750,ooop. Ni chaed fawr o'r hwyl golegawl arferol yn seremoni'r graddio ym Mangor ddydd Mercher. Pump o rhai a anrhydeddwyd a ddaeth yno,—y Parch. Thomas Shankland, hanesydd; Mr. David Cledwyn Evans, daearegwr; Syr Robert Jones," meddyg esgyfn; Parch. John Williams, pregethwr; a Syr J. Hills Johnes, milwr. Y milwr oedd arwr y cynhulliad. ac efe yn unig v a roddodd frwdfrydedd yn y seremoni. Yr oedd ei ymddangosiad, ei hanes, a'i ddewrcler, yn cynhyrfu y lie. Methodd Mabon, Pedrog, Caidoz, a Goscombe John, a bod yn bresennol-, oherwydd afiechyd. I ■»,. Dadorchuddiwyd yng Ngholeg Goffadwriaeth- 01 Aberhonddu ddarluri rhagorol o'r Parch. D. A. Griffith, Troedrhlwdalar.—unoweinidogion parchusaf yr Annibynwyr, ac ysgrifennydd y Coleg am 4.0 mlynedd. Dangoswyd serch dwfn tuag at Mr. Griffith gan bawb o'r siaradwyr, ac y mae gwr allai draddodi yr anerchiad a gafwyd ganddo mewn atebiad yn wr sy'n haeddu y cyf an a rhagor.

-'-"""-""-"-"-"'"-''''''.-.",-_r,¥"",...,.......,...,....._...…

.." PRESBYTERIAN COLLEGE

'--",.,....,-._..-_-......L..M.1__'1!'i'''.,,:t"'b…

LLANILAR